Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Siloh, Aberdar.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Siloh, Aberdar. Amgylchiad Dymunol.-Tra y gweinyddid yr brdinhad o Swper yr Arglwydd yn yr eglwys uchud y Sol cyn y diweddaf, amlygodd dyn ieuane wrth an o'r diaconiaid a gymerai y bara o amgylch ei fod am gael ei dderbyn yn aelod rhag blaen yn yr oedfa hoono. Dygodd y diacon ei gais i'r gweinidog, yr hwn ar unwaith a daflodd y drws yn agored drwy ddweyd, os oedd yno rywun yn y gynulleidfa am gael ei dderbyn yn gyflawn aelod, am i'r eyfryw fod gystai a dyfod ymlaen; ac ar hyn wele un o'r enw Stephen Jones yn cerdded i lawr o'r oriel ac yn dod ymlaen yn benderfynol i'r set fawr yng ngwydd pawb; ac wedi ychydig eirian dwys a chalonogol gan y gweinidog yn gosod ger ei fron y Cyfamod Eglwysig, a derbyn ei gydsyniad yntau, rhoddodd y Parch. Sulgwyn Davies iddo ddeheulaw cymdeithas, a chanodd y gynnlleidfa yn frwdfrydig, I Diolch iddo,' &e Croesaw Oynnes.-Fe gafodd y frawdoliaeth yn Siloh hefyd yr an Saboth y fraint o groes- awu i gyd-addoli ac i gydgofio angea y groes Sergt. Major Peter Williams, yr hwn oedd wedi dychwelyd at ei denla bach annwyl am ychydig ddyddiau o seibiant o faes y frwydr Diolchem am ei gael i'n plith yn iach a dianaf, ac yntau newydd fod ohono yn y brwydro enbyd diweddar.
I GALWADAU._____
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I GALWADAU. NEBO, GLYNCORRWG—Y mae'r eglwys hon wedi anfon galwad unfrydol i Mr. D. E. Peregrine, Coleg Caerfyrddin. Brawd ieuanc 0 Salem, Llandeilo, ydyw Mr. Peregrine, ac yn bregethwr addawol iawn, a rhagolygon disglaer iddo.
Tysteb Genedlaethol Pedrog.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tysteb Genedlaethol Pedrog. Nos Wener, Awst 3ydd, cynhaliw^d cyfarfod yn ystafell y Gymdeithas Genedlaethol Gymreig, Lerpwl, i gyflwyno'r dysteb genedlaethol i'r Parch. J. O. Williams (Pedrog), dan lywydd- iaeth Mr. David Jones, llywydd y Gymdeithas a chadeirydd Pwyllgor y Dysteb. Daeth cyn- hulliad da ynghyd, er fod llawer o Gymry y ddinas a'r cylch ar eu gwyliau haf. Yn ei anerchiad agoriadol cynygiodd y Cad- eirydd bleidlais o lorgyfarchiad i'r Prifardd ar ei adferiad wedi bod yn hir yn gystuddiol ac wedi bod dan oruchwyliaeth law-feddygol ber- yglus. Eiliwyd mewn anerchiad campus gan y Parch. David Powell. Rhoddodd y Parch. O. L. Roberts, ysgrifen- nydd y Dysteb, hanes y mudiad. Talodd warog- aeth i ffyddlondeb y ddau drysorydd medrus, Mii. Robert Roberts, Y.H., ac R. H. Morgan, ac i fedr a ffyddlondeb ei gyd-ysgrifenny dd, Mr. R. Vaughan Jones, a'r Cadeirydd. Cvfeiriodd at y parodrwydd a ddangoswyd gan Gymry yn Ne a Gogledd a'r trefydd Seisnig i gcfnogi'r mudiad, yr hyn a brawf fod i'r gwr a arrhyd- eddid le annwyl iawn yng nghalon ei genedl, a hefyd barch mawr ymysg Saeson lawer yn y cylch y mae'n troi ynddo. Adnabyddid Pedrog nid yn unig fel dyn o dalent ac athrylith, ond fel bonheddwr a chyfaill i gyfiif arno bob aniser. Darllenodd Mr. Vaughan Jones yr anerchiad hardd a baratowyd gan yr Athro John Morris Jones, M.A., ar ran y Pwyllgor. Yn yr anerchiad hwn telid gwarogaeth uchel i Pedrog fel bardd, beirniad, lienor, newyddiadurwr a phregethwr enwog, yn ogystal ag fel dyn a bonheddwr. Ijongyfercliid ef ar waith Piifysgol Cymru yn ei anrhydeddu a'r gradd anrhydeddus o Feistr yn y Celfyddydau fel teyrnged i'w wasanaeth i farddoniaeth allenyddiaeth Gymraeg. Arwydd- wyd yr anerchiad, yr hwn sydd yn nodedig o hardd mewn book form, gan swyddogion y Pwyll- gor. Yna estynnwyd yr anerchiad i'r Prifardd gan y Cadeirydd. Wedi hynny cododd y trysorydd, Mr. Robert Roberts, ar ei draed i gyflwyno i Mr. Williams y swill o £ 500, gyda dymuniadau goreu'r tan- ysgrifwvr. Sylwodd Mr. Roberts ei fod yn adnabod Pedrog ers llawer iawn o fiynyddoedd, a phob amser wedi ei gael yn fonheddwr di- yniffrost, gwylaidd, a llawn gweithgarwch ymhob achos da. Teimlai yn anrhydedd cael bod yn drysorydd y fath fudiad. Gofidiai oblegid absen- oldeb anorfod ei gyd-drysorydd, Mr. Morgan, o'r cyfarfod. Derbyniodd Pedrog y rhoddion mewn teimlad dwys a chydag anerchiad llawn o natur dda a sylwadau byw. Llawenhai pawb ei weled wedi gwella cymaint, ac yn dwyn arwyddion mor amlwg ui fod ar y ffordd i ddyfod mor gryf ag erioed. Yn ystod y cyfarfod cafwyd anerchiadau gan y Parchn. T. Price Davies, D. Tecwyn EvanF, B.A., Peelr Hir, D. Wynne Griffiths, B.A., B.D., a'r Mri. J. H. Jones (golygydd y Brython) a Job Jones, ac anerchiadau barddonol gan Bar- lwydon, Gwilym Mathafarn a Gwilym Deudraeth. Buasai'n dda gennym allu rhoddi crynhodeb llawn o'r anerchiadau ond bydd hyn, efallai, dan yr amgylchiadau yn ddigon. Y mae'n dda gennym ychwanegu fod Pedrog yn awr yn treulio ychydig amser gyda'i ddwy ferch sydd wedi gwasanaethu mor ffyddlon arno yn ei gystudd, yn Llandudno, ac yn cryfhau bob dydd. Y mae'n ddrwg gennym ychwanegu fod ei fab ieuengaf, Mr. Llewelyn Williams, wedi ei glwyfo yn Ffrainc, ond da gennym ei fod wedi dianc cystal. Y mae'r ddau fab yn awr-Mri. Willie Williams a Llewelyn Williams—mewn y'hytai yn y wlad hon. Hyderwn y deuant yn fuan yn gwbl iach. Wedi ychydig wythnosau o orffwys bydd Pedrog yn ail-ymaflyd yn ei waith, a hyderwn fod iddo flynyddoedd lawer eto i wasanaethu ei oes a'i genedl yn yr amrywiol gylchoedd y mae ar hyd ei oes wedi bod mor ddefnyddiol ynddynt. Yn y cyfarfod hwn cymhellwyd ef yn daer gan bob 1111 o'r siaradwyr i ddwyn allan gyfrolau o'i weithiau barddonol a rhyddieithol. Da gennym allu ychwanegu fod un o'r cyfrolau hynny ar waith yn awr, ac y gellir ei disgwyl allan o'r wasg cyn bo hir—cyfrol yn ymwneud yn bennaf a'i brofiad yn ei gystudd, ac yn cael ei bwriadu i fod yn gysur i blant galar a chystudd. Proff- wydwn i'r gyfrol hon gylchrediad helaeth a gwas- auaeth mawr, a hyderwn na fydd ond ysgub blaenffrwvth cyfrolau lawer i'w dilyn. AT -.44.
NODION. - I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
fod mwy nag a wyr y cyhoedd dan yr helynt, ac anodd iawn yw dyfalu sut y gallai Henderson gymryd y llwybr a gy- merodd heb fod rhesymau anwybod i'r cyhoedd i gyfrif am dano. Ar y wyneb, bid siwr, lloriwyd ef yn lan gan y Prif- weinidog ond nid yw'r drafodaeth wedi hynny, na'r newyddion glywir o Rwsia, wedi cryfhau dim ar safle'r Llvwodraeth. Yn hytrach i'r gwrthwyneb, canys ym- ddengys Llafur yn fwy penderfynol fyth i sefyll wrth ei bwrpas gwreiddiol i anfon cenhadon i Stockholm. Ac mewn difrif, a ydyw'r gem o'u rhwystro yn werth y gannwyll, ys dywedir ? Brbyn hyn, mae'n berffaith glir na bydd gan y gynhadledd unrhyw awdurdod i rwymo dwylo'r un llywodraeth hyd yn oed un Rwsia, yr hon oedd unwaith yn ymddangos dan ei phawen. Ac o'r ochr arall, ai nid mantais fawr yn y pen draw fyddai i weithwyr Prydain a Ffrainc ddwyn adref i gyd- wybod a chalon gweithwyr Germani wir amcanion yr Unolwyr yn y rhyfel, a'u dwyn i weled fel y maent hwy yn cael eu dallu a'u hudo gan yr Iwnceriaid a'u Caiser ? Yr un pryd, gallant oleuo gweith- wyr Rwsia ar lawer pwnc y mae cynllwyn- wyr ac ysbiwyr Germani wedi eu twyllo a'u camarwain arnynt i anfantais a cholled anadferadwy yr Unolwyr. Ymhellach, ai doeth fydd gad ael i genhadon Rwsia drafod materion pwysig o'r fath gyda chenhadon Germani yn unig, yn enwedig os yw gwerin a gweithwyr Germani a'u cenhadon wedi eu twyllo a'u camarwain eu hunain ? Mynegir yn barhaus-a hynny gan ein Iylvwodraeth ni ein hunain, a'r Prifwein- idog yn arbennig—fod gwerin Germani dan ei dwylo yn hollol, a'n bod yn barod i drafod heddwch a phobl Germani wedi iddynt ddod i ddeall gwir sefyllfa pethau, a thaflu. ymaith iau eu gorthrymwyr o fewn eu gwlad eu hunain. Ac eto gwrth- odir eyfle braf i'w goleuo, ac ar yr un pryd caniateir i werin Rwsia gael ei cham- arwain ymhellach gan bobl na wyddant ddim am eu gwir safle eu hunain, ac yn sicr ddim am ein safle ni. Ymddengys i ui fod dweyd nad yw yn iawn i ddosbarth drafod heddwch pan mae yn fater i bob dosbarth yn ddim amgen na quibble lioeth, pan na wna'r gynhadledd ddim ond ym- gynghori yn unig. Pe cymerai arni ddeddfu* buasai grym yn y ddadl, ond nid oes ddim ynddi fel y mae. Ac esgusawd, yn apelio at ddim ond teimlad a nwyd afiach, yw dweyd nad yw yn deg i weithwyr siarad am heddwch a'r gelyn yn Stockholm tra mae eu brodyr yn ymladd ag ef yn y ffosydd. Chware i'r gallery yw peth fel hynf ac nid yw yn deilwng o weision y Goron. Rhaid i rywrai siarad am heddwch yn rhywie a rhywbryd, ac ofer yw aros am gadoediad ar y maes cyn dechreu son am heddwch. Yn wir, dysga hanes mai'r awydd a'r son am heddwch yw mam pob cadoediad erioed a derfynodd mewn tang- nefedd parhaol a theg. Tybed fod ar y Llywodraeth ofn Capten Tupper a'i dy- Iwyth safnrwth ? Mewn difrif, a oes ar y Llywodraeth ofn i'n cenhadon Llafur ni gael eu hud-ddenu a'u twyllo gan rai Ger- mani ? A yw'n bosibl fod arnynt ofn i arweinwyr Llatur Prydain fethu perswadio cenhadon Rwsia i wrthsefyll philosoffi a gwag dwyll' cenhadon Germani ? Tybed na allwn fentro i'n hachos gael ei osod yn deg gerbron gweithwyr Germani ac Aws- tria gan weithwyr Prydain ac America a Ffrainc ? Mae'r fath syniad yn wrthun ac yn anfri, a gall y golled fod yn ddinistr- iol ac anadferadwy. Mwy na hynny, a ydyw'r Iylywodraeth yn barod i ornest ar gwestiwn fel hyn a llafurwyr Prydain ? Gobeithio na ddaw pethau i hynny, ond nid yw'r argoelion yn ffafriol o gwbl. DYNA'R enw a rydd ein milwyr sy'n Blighty.' yml add yn Ffrainc ar Brydain. P a h a m nis gwyddom. Mae yn un o'r pethau cyfrm hynny ynglyn a r fyddin sydd tuhwnt i bob dychymyg nac esbon- iad. Ond mae pwyllgor o newyddiadur- wyr wedi mabwysiadu'r enw ar gylch- grawn doniol ar gyfer y milwyr, a rhaid dweyd fod Blighty yn un o'r papurau galluocaf a mwyaf byw yn ei ffordd ei hun a welsom erioed. Mae'r cylchrediad bron yn gyfangwbl ymysg y milwyr, a dos- berthir ef iddynt yn rhad ac am ddim. Mae y summer number ger ein bron yn llawn darluniau doniol ac ysgrifau o bob nodwedd—a'r cwbl wedi eu creu a'u cyf- ansoddi gan y milwyr a'r morwyr eu hun- ain. Y fath arlunwyr a llenorion sy'n ymladd drosom ar dir a mor ac yn yr awyr Mae diddordeb tyner ynglyn a rhai o'r darluniau a'r ysgrifau, canys ceir nodiad ar ol enw'r awdur ei fod erbyn hyn wedi rhoddi ei fywyd a'i dalent yn aberth dros ei wlad. Maent fel lleisiau a lluniau o'r tuhwnt i'r lien yn galw arnom oil i fod yn wrol a diymod yng ngwasan- aeth iawnder a rhyddid. Swllt yw pris y rhifyn hwn o Blighty, ac mae pob copi brynir yn golygu anfon copi yn ychwaneg i filwr neu forwr. Gellir ei gael gan bob llyfrwerthwr neu o'r Swyddfa, 40 Fleet- street, Llunclain. Pryner ef wrth y mil- oedd. Ar wahan i'r amcan mae'n llawn werth yr arian. A daw dydd pan fydd yn werthfawr iawn.