Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
1, Y DIACON A'I SWYDD.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
1, Y DIACON A'I SWYDD.* GAN MR. DANIEI/JONES, YSGOl, Y CYNGOR, TALYBONT. Yn yr ycliydig sylwadau geisiwn wueud ar y tejtyn uchod, nid ydym am gyfyngu ein hunain yn hollol i waith ysbrydol y diacon, ond ceisiwn daflu cipdrem frysiog ar yr oil o'i ddyledswyddau. Mae'r llinell derfyn rhwng y tymhorol a'r ysbrydol mor deneu fel mai rhwydd iawn fuasai rhoddi cam o un i'r llall, a hynny megis yn ddiarwybod. 'All events are ultimately spiri- tual,' meddai un awdur galluog. Mae gan rai dynion syniadau cyfeiliornus am waith diacon. Credant mai ei unig waith yw eistedd yn y cor mawr ar y Sul, myned a'r elfennau 5 o amgylch ar y Cymundeb, a chasglu. A chyda llaw, oes yna ryw reswm droj i'r diaconiaid eistedd yn y cor mawr ? Onid gwell fuasai iddynt eistedd ymysg y gynulleidfa ? EI WAITH CYNTEPIG. Diameu mai i wasanaethu byrddau, i ofalu am y trefniadau allanol, yr elusenau—yn eu casgliad a'u dosbarthiad—yr etholwyd y diacon- iaid cyntaf. Eto nid oes sicrwydd fod y llinell derfyn rhwng y tymhorol a'r ysbrydol wedi cael ei chadw yn glir, neu fe dyfodd rhai, megis Stephan a Phylip, yn fwy na'u swydd. DEWISIAD Y DIACONIAID. Mewn eglwys fyddo o ddim o faint ulae gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, megis amaethwyr, masnachwyr, crefftwyr, &c., Y11 y gynulleidfa. Os yn bojibi, dylasai pob dosbarth gael ei gynrychioli yn y ddiaconiaeth er mwyn i'r swyddogion gatrl gwybod teimlad yr eglwys o hyd. Os bydd unrhyw fath o anhwyldeb ar berson, un o'r pethau cyntaf wna'r meddyg yw teimlo sut mae'r pulse yn curo. Pan fyddo'r arwydd lleiaf o oerfelgarwch a chlaiarineb yn dod i'r golwg ymysg rhyw ran o'r aelodau, gall y brodyr, drwy gael cynrychiolaeth fel yr awgrymwyd, gael gafael ar y drwg yn bur fnan, a thrwy hynny ei ladd yn yr eginyn. Mewn rhai eglwysi bydd cythraul y canu,' fel y gelwir ef, yn amlygu ei hun yn bur fynych. Os bydd cerddor ag fydd mewn cydymdeimlad a'r cantorion a'r cerddorion ymysg y diaconiaid, gall drwy fod yn wyliadwrus weled y cymylau duon yn ymgasglu; a thrwy ddoethineb, tact a gras, gall daflu olew ar y tonnau cynhyrfus, a thrwy hynny eu tawelu cyn i'r llestr gwannaf dderbyn un niwed. Mae'r Ysgol Sul yn un o brif feithrinfeydd yr Eglwys. Os bydd diacon yn arolygwr, ca gyfle ardderchog i adnabod y ffyddloniaid a'r anffyddloniaid, ac i hyfforddi'r ieuainc ymhen eu ffordd. Drwy gael cynrychiolaeth o'r fath a nodwyd ceir peth mae'r inspectors yn alw yn yr ysgolion
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Papur a ddarllenwyd yng Nghynhadledd Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Ceredigion yn Horeb. ¡;
1, Y DIACON A'I SWYDD.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
dyddiol yn correlation of work--eydbertllyiias rhwng holl waith yr Eglwys. Ar ol cael hyn, rhaid i'r diaconiaid gymryd cipdrem (survey) o'r holl waith—yr Ysgol Gan, yr Ysgol Sul, y Gyf- eillach Grefyddol, y Cwrdd Gweddi, Cwrdd Gweddi'r Bobl Ieuainc, y Band of Hope, &c., ac yna dosrannu'r gwaith fel byddo gan bob un ei adran gyfrifol ei hun, a'r holl beirianwaith o dan ddylanwad y gwynt nerthol yn gweithio'n hwylus, y gwlith nefol yn disgyn yn gawodydd maethlon ar y planhigion ieuainc, a gwres Hau y Cyfiawnder yn addfedu'r ffrwythau erbyn y cynhaeaf. Y DIACON rtT, CENHADWR. Rhaid i'r diaconiaid hefyd fod yn genhadon. Mae yn perthyn i'n hysgolion dyddiol attendance officers. Eu gwaith yw myned ar ol yr esgeulus- wyr. Rhaid i'r diaconiaid hefyd fod yn attend- aitce oiffceils, Rhaid Deffro!r diofal, Galw'r afradlon, Dweyd i'r crwydredig am Iesu a'i waed.' Rhaid gofalu am y claf a'r elwyfus, a thywallt olew i'w briwiau. Mae gennym y weddw a'r amddifad ag sydd yn gyson yn gofyn am ein sylw. Dyma'r dosbarth mwyaf diamddiffyn- y dosbarth ag sydd yn hawlio ein cydymdeimlad dyfnaf. Dysgwch wneuthur daioni; ceisiwch farn, gwnewch uniondeb i'r gorthrymedig; gwnewch farn i'r amddifad, dadleuwch dros y weddw.' Crefydd .bur, ddihalogedig, gerbron Duw a'r Tad yw hyn ymweled a'r amddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd.' Os yw'r cwpwrdd yn wag, y wisg yn garpiog, a'r aelwyd yn brin o dan, y gwawd pennaf fydd cymell y dosbarth hwn i foddion gras. Rhaid gcfalu am y gasgl i'r saint i gadw'r blaidd o'r drws. Rhaid codi'r tlawd o'r llwch, a dyrchafu yr anghenus o'r domen, i'w osod gyda phendef- igion ei bobl.' Dylasai'r diacon fod y village preacher yn y Deserted Village-- To relieve the wretched was his pride, And e'en his failings leaned to virtue's side In hi,3 duty, prompt at every call, He watched and wept, he prayed and felt for all.' Onid ar ol gwella'r claf y dywedodd ein Gwar- edwr, Maddeuwyd i ti dy bechodau ? CYDYMDEIMLAD A'R GWAN A'R SYRTHIEDIG. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro.' Od oes neb heb lithro ar air, gwr perffaith yw hwnnw, yn gallu- ftrwyno yr holl gorff hefyd.' Mae lie i ofni nad ydym fel swydd- ogion ac aelodau crefyddol mewn digon o gyd- ymdeimlad a'r gwan fyddo wedi syrthio. Os byddwn ni mewn rhyw gyfyngder neu galedi, at bwy byddwn ni debycai o fyned i ddweyd ein cwyn ac i geisio cael ymwared ? Onid at yr hwn a gydymdeimla fwyaf a ni ? Pwy, fel rheol, fydd hwnnw ? Onid y dyn o gymeriad da ? A chredaf po lanaf ei fuchedd a phuraf ei fywvd, mwyaf i gyd fydd ei awydd i godi'r hwn fyddo wedi syrthio, a'i osod ar ei draed fel y gallo fyned i'w ffordd yn llawen. Mae llawer o'r dos- barth yma yn wir edifeiriol am eu trosedd bron na ddywredant fel Cain, Mwy yw fy anwiredd nas gellir ei faddeu.' Pa faint o gariad ac ysbryd yr Hwn na thyr y gorsen ysig ac na ddiffydd lin yn mygu sydd yn ein meddiannu ? Pa mor barod ydym i roddi help llaw i'r cloff ? Oni fyddwn ni yn rhy barod i ddweyd GadewTch iddo arno ef oedd y bai,' gan anghofio'r cyngor—' Yr hwn sydd yn sefyll, edryched na syrthio.' Oherwydd diffyg cyd- ymdeimlad a gair o anogaeth ac o gymorth mewn amser priodol i ddod ar eu traed, sura llawer o'r bobl hyn yn eu teimladau tuagat grefydd a chrefyddwyr ant yn wrthgilwyr, a thramwyant dir pell. Bellach byddant yn rhai anodd iawn eu trin. Bydd bai ar bawb a phopeth. Bydd pob brycheuyn wedi myned yn drawst. Bydd y gweinidog wedi esgeuluso rhyw ran o'i ddy- ledswyddau, a phob swyddog yn ddu i gyd. Bron na ddywedaf mai dyma'r dosbarth mwyaf anodd eu trin. Byddwn yn ami yn callU- Dos a dwg y gwrthgiliedig At yr Iesu bendigedig,' ) ond pa faint o help a chydynideinilad fyddwn ni yn roddi iddynt ? Y brodyr, os goddi- weddir dyn ar ryw fai, chwychwi y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd add- fwynder, gan dy ystyried dy hun rhag dy demtio dithau.' YR ESGEUEUS A'R AFRADI.ON. Rhaid myned ar ol y bobl yma, bod yn garedig wrthynt, dangos iddynt ein bod yn caru eu lies, a thrwy ein diddordeb yn eu llwyddiant a'u dedwyddweh ennill eu serch a'u hymddiried- aeth nes eu denu at foddion gras. Taer fyddo'th weddi, Dwys fyddo'th gyngor, Dwys a difrifol bob awr fyddo'th oes Ennill trwy gariad, Delia yn dyner, Tyn bechaduriaid at Iesu a'i groes.' CYMERIAD Y DIACON. Ond pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ? Cyn y gellir eu gwneud, rhaid i'r diaconiaid fod yn seithwyr da eu gair, yn llawn gras a doethineb.' Gwelir ambell frawdllad oes amheu- aeth ynghylch ei dduwioldeb, yn hynod brin yn y gras o ddoethineb-dim tact 11a discretion ganddo o gwbl. Bydd mewn perygl o dynnu i lawr mewn puni munud, drwy ymddygiad ffol neu air angharedig, yr hyn gymerodd flwyddyn i'w adeiladu. Rhaid cael doethineb yn gymaint a gras fel dwy ganllaw i'r bont. Os bydd cymer- iad y diacon yn dda, bydd ei fywyd yn ddisglait