Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

AT EIN GOHEBWYR,\

TOWYN FEL LLAD MERYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

TOWYN FEL LLAD MERYDD. MAE Towyn Jones yn defuyddio ei seib- iant drud i oleuo rhannau gorllewinol y Deheubarth ar gwestiwn y rl-iyfel, yn arbennig ei dibenion heddyw. Nid yr un yn hollol yw ei holl ddibenion heddyw ag oeddynt yn 1914. Wrth gwrs, erys y dibenion mawr yr un o hyd, megis adfer Belgium a Serbia a Gogledd Ffrainc, a rhyddhau'r byd oddiwrth hunllef a mell- tith gormes a militariaeth Germani; ond mae rhai newydd wedi codi ar eu hoi, ac aingylchiadau newydd yn R w s i a ac America a Groeg wedi newid llawer ar yr hen rai, fel y mae angen mawr am fyneg- iad newydd parhaus o'r amcanion y ty- wylltwn ein gwaed yn afonydd er mwyn eu cyrraedd. Mwy na hynny, ofer yw catt llygaid i'r ffaith fod y werin yn dechreu blino ar y rhyfel, ac fod anes- mwythder mawr yn ffynnu ymysg gweith- wyr gonest, a ffyddlon i'r Iylywodraetlx. Wrth weled sylweddoliad eu gobaith am oruchafiaeth yn pellhau o flwyddyn i flwyddyn, ac angenrheidrwydd am wynebu gaeaf arall o frwydro, y siom yn Rwsia, y methiant yn Asia a'r Balkans, y difrod ar y mor, a'r arafwch a'r dinistr yn Ffrainc, y bragwr yn ben Prydain, a'r gwlawogydd yn difa ein cynhaeaf yn ogystal ag yn rhwystro ein hymosodiadau, nid hawdd yw i'r werin gadw ei gwroldeb i fyny a phara'n siriol. Nid am nad yw mor deyrn- garol ag erioed yr ysbryd yn ddiau sydd barod, ond y cnawd sydd wan.' Syniad hapus dros ben gan hynny oedd i Towyn fynnu siarad wyneb yn wyneb a'i gyd- wladwyr, a dweyd y gwir wrthynt am wir gyflwr pethau, a'n rhagolygon ar dir a mor. Nid ydym wedi gweled adroddiad o'i areithiau, ond mynegir yn glir eu nod- wedd a'u hamcan, a gwyddom am yr effaith daionus sydd eisoes wedi eu dilyn. Gall Towyn wneud gwyrthiau a thorf, ac ni bu erioed fwy o angen y wyrth na heddyw. Bendith fawr fo arno ni wnaeth well gwaith mewn pulpud erioed. Da iawn gennym liefyd ganfod y llwydd- iant diamheuol sydd ar wasanaeth Towvn fel Chwip Gymreig. Ofnai rhai nad oedd Towyn wedi ei doiri allan i waith o'r fath, ond gwydaem ni am ei fanylrwvdd a'i fenter mewn organeiddio yn gystal a'i. hyawdledd ar lwyfan, a gwelir heddyw pa mor gyfoethog a gwerthfawr yw'r dalent hon ynddo. Gall ddigio a dwrdio yn ofn- adwy, ond mae ganddo hefyd genius at gyfeillgarwch, ac ni bu dawn fvvy gwas- anaethgar a gwerthfawr na hon erioed i (ldelio a dynion—ac yn eu plith aelodau Seneddol. Mae gwaith mawr o fiaen. y Xlywodraeth, ond os bydd ei holl aelodau mor ddewr a ffyddlon a Towyn, daw trwydclo yn llwyddiannus.

YR EGLWYS A'R DYFODOL.*

[No title]