Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
- -.- - '-__h i -----*-GAlWADAU.i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
'h GAlWADAU. EGLWYS NEBO, GLYNCORRWG.—Pleser gennym bysbysu fod Mr D Ewart Peregrine, 0 GoJeg Oaei fyrddin, wedi atebyn gadatnhaol yr alwad o'r Ho uchod: Oymer yr u?ddiad Ie dydd Mawrth, Hydref 9fed, a dechreoa y gweinidog ienanc ei weinidogaefch y Sul canlynol.
:HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR. GAN EYNON. Lie braf yw glau y mor ar dywydd teg ond os bydd ffenestri'r nefoedd yn agor led y pen bob dydd, a dyfroedd lawer Y11 dyliidlo'n ddi- stop o foliau'r cymylau mawr,' ys dywed Dafydd Ionawr, dyna fater arall. Dyna hanes y tywydd yng Nghricieth yr wythnos hon, ac feliv--yn absenoldeb gwenan'r hanl-rhaid, gyda help mackintosh neu ambarelo, i ni wneud y goreu o'r gwaethaf. Un ffordd bleserus iawn i ladd amser yw dal pen rheswm a'r brodoriou. Pwnc y gyfeillach, fel rheol, fydd lyloyd George. Afreidiol dweyd fod pawb yn falch o'u dinesydd byd-ellwog. Y dydd o'r blaen cefais sgwrs felys gyda hen frawd doniol dros ben, yr hwn oedd yn IJglwyswr selog ac egwyddorol. Nis gwn ai Tori ydoedd fond Tori neu beidio, yr oedd yn barod i dyngu llw o ffyddlondeb didranc i'r Prifweinidog. Felly ymhob man, er fod ambell i hen Radical o waed coch cyfan yn inethu dygymod yn iawn a'r Coalition Government yma. Y mae ganddynt wythïen o anghrediniaeth iachus yn rhedeg drwy eu natnr, ac nis gallant weled fod cydweithrediad yn bosibl rhwng Tori a Radical yn fwy nag y mae undeb yn bosibl rhwng dwr a than, neu rhwng tywyllwch a gol- euni. Teimlaf awydd tynnu fy het bob amser i hen Irovsid.es politicaidd fel y rhain. Rhy brin o lawer yw cewri o'r fath mewn oes fel hon sydd braidd yn flabby ar faterion niawrion crefydd a gwleidiadaeth. Mewn ardaloedd tawel fel a geir yn sir Arfon megir ambell i flunkey, yr hwn, ar 01 llwyddo tipyn yn y byd, fydd yn gadael y gorlan ysbrydol y magesid ef ynddi, ac yn hwylio a'i Common Prayer yn ei law ar fore Sul i'r gorlan Sefydledig. Cofier, y mae gennyf barch calon i'r hwn fyddo'n dilyn argyhoeddiadau cyd- wybod mewn materion crefyddol ond am y creadur shallow sy'n troi ei got er mwyn cael gwen gan y squire, neu yfed te pump o'r gloch yn y Rectory- ~wel, am y cyfryw, y mae gennyf ganwaith fwy o barch i hen garreg filltir respect- able. Maddeuer i mi am grwydro. Yr hyn arwein- iodd fy meadwl i'r cyfeiriad hwn yw'r ffaith fod teulu ein Prifweinidog heb blygu glin i Baal mewn ffordd yn y byd. Y mis hwn-—Awst— y mae Mrs. Lloyd George yn treulio'r mis yn Brynawelon,' a deellais yn ol brawd o flaenor Methodist ei bod yn gadael rhwysg lyliijuiaiii bob mis Awst, ac yn hwylio tua Chricieth am mai hi yn Awst sydd yn cadw'r mis yn y capel. Fydd hi byth yn colli, na byth yn anghofio anfon ei chyfamod eglwysig. I rywun sydd yn deall rhywfaint am fywyd I/lundeinig, yn en wedig yn y cylchoedd urddasolaf, y mae hwylio i Gymru yn ol i gadw mis yn brawf fod gwreiddyn y mater yn eiddo'r gweithredydd. Gynifer sydd wedi meddwi—ac yn meddwi beunydd—ar y ganfed ran o'r mawl a'r bri ag sydd wedi disgyn i ran y Gymraes ardderchcg hon Parch calon iddi. Mae ei henw yn berarogl drwy'r holl wlad. Os ei phriod enwog ydyw prif ddyn Prydain lieddyw, un peth sydd sicr ddigon yw ei bod hithau yn wir deilwng gymhares bywyd iddo. Onid un doniol iawn ydyw'r Sais ar ei holi- day ? Y mae yma bob math ohonynt. Lliaws mawr o rai awenwog, ac ambell un enwog. Mae yr awdures adnabyddus Marie Corelli yn un ohonom, yn byw mewn bungalow bychan ar y ffordd i Borthmadog. Ar fore teg gwelir hi ar fin y don, a thwr o addolwyr o'i hamgylch a chware teg iddi, y mae yn mwyiihau'i addoli cystal a neb. Parch. R. J. Campbell newydd ymadael, wedi bod yma am fis yn preg- ethu yn yr eglwys blwyfol. Yr oedd cywrein- rwydd yn tynnu llawer o Ymneilltuwyr i'w wrando. Heblaw hynny, yr oedd ei gyfeillion newydd, yr Eglwyswyr, yn canfasio'n bur ddiwyd ar hyd yr wythnos er mwyn sicrhau seti llawn- ion ar y Sul. Yr oedd Cricieth yn barnu fod awdur y Ddiwinyddiaeth Newydd yn Uchel Fglwysig dros ben, am ei fod yn awr ac yn y man yn troi ei gefn ar y gynulleidfa. Clywais iddo alw cwrdd gweinidogion o ryw fath ym Mhwllheli. Beth oedd pwnc y seiat, a pha hivyl gafwyd, nis gwn. Barn y Piwritaniaid ffordd yma yw mai Rhufain, hwyr neu hwyrach, fydd pen y daith.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr un pryd, yn y rhagolwg ar waith a lie yr Eglwys yn y dyfodol, nid yw yn annhebyg nad o'r cyfeiriad hwn y cyfyd ei pherygl mwyaf. Dyna, beth bynnag, yw un o wersi'r llyfr godidog sydd newydd ei gyhoeddi gan Dr. Forsyth, The Church and the Sacirameitts,- a dylai gael ei ddar- llen yn ddifrifol a'i fyfyrio'n ddwys gan boll arweinwyr crefydd yn ein gwlad yn y dyddiau pryderus hyn. Deil y Doctor mai un o beryglon yr Eglwys er dyddiau blodeuog Victoria yw mynd yn glwb neu cult neu fagwrfa teimladaeth garedig a duwiol, sefydliad i feithrin natur dda a gwneud cymwynasati ar y dyb nad yw o fawr pwys beth fo'r gred na'r gwirionedd na'r egwyddor sylfaenol, os bydd yr ym- ddygiad a'r bywyd yn un ffein a Christ- nogol.' Rhyw fath o ddiwylliant moes- egol seiliedig ar y Bregeth ar y Mynydd yw y nod yn hytrach na chreu dyn o newydd trwy'r nerth bywydol sy'n deill- iaw o aberth y groes. Y mae'r trosol i godi'r byd wedi ei osod i orffwys yn fwy ar Bethlehem nag ar Galafria. lesu hanes yn batrwm i fywyd yw'r hyn a ddysgir, ac nid Crist Croeslioeliedig yn lawn dros bechod ac yn grewr bywyd newydd. A gall hyd yn oed gweithgarwch dyngarol yr eglwysi yn adeg y rhyfel eu gyrru ymhell- ach i'r un cyfeiriad, a'u cadarnhau yn y syniad mai cymdeithasau moesegol, llawn o gydymdeimlad a natur da, ddylent fod, yn hytrach na chanolfannau creadigol i gynhyrchu bywyd newydd yng Nghrist, ac i frwydro'n ddiymod ac anghymodlawn a phechod a Satan ymhob ffurf arnynt. Mae'r rhyfel wedi rhwygo'r rhithwisg oedd Germani a'i culture wedi wau am Satan ac uffern, ac wedi dod a'r byd wyneb yn wyneb a'r ffaith ofnadwy fod y ddau mor gryf a rhonc a rhwysgfawr ag y buont erioed. A dylai'r Hghvys ganfod bellach nad a menyg melfedaidd am ei dwylo y mae i fwrw allan Satan a'i gethern uffernol o fywyd y byd. Dyga hyn Dr. Forsyth at y cwestiynau mawr o wir natur yr Eglwys, ei gwlr un- dod, gwir sail ei gweinidogaeth a'i hor- deiniadau, a'i gwir ddiben a gwaith yn y byd. Fel rheol, ysgrifennydd tywyll ac anodd ei ddilyn yw Dr. Forsyth, ac mae rhai o'i gynhyrchion gallocaf wedi eu hamharu'n fawr gan ei arddull anffor- tunus. Ond nid oes ddim o hynny yma mae mor glir a'r grisial, a charia gydsyn- iad ac argyhoeddiad gydag ef ar bron bob tudalen. Dywed bethau iach ryfeddol ar yr holl bynciau uchod, ond nis gallwn gyf- eirio at fwy nag un neu ddau ohonynt. Mae cyfiuniaeth a threfn yr Eglwys, er enghraiiIt, rhwng y gwahanol enwadau, wedi cyrraedd ei fail uchaf, er nad i fawr pwrpas. Yn wir, mae ein organisations wedi bron rhedeg yn wyllt, Yr ydy" m wedi pwyllgoreiddio i berffeithrwydd, ond i fawr diben. Paham ? Ai am fod trefnu a darparu yn ddiflyg t fawr, ond am ein bod wedi bod yn polishio'r peir- lant a darparu pob math o patents newydd arno, heb ofalu dim am yr ager, na tbynnu ymaith y lludw sy'n mygu tan y boiler. Nid oes dim yn erbyn perffelthlo r peir- lant, end iiiae anghofio'r glo --iitlig ffyn- honnell yr ynni a'r power sydd i'w weithio yn farwol. Nid yw siarad am yr ysbryd yn ein gwneud yn ysbrydol, ac nid all eglwys byth greu cariad brawdol heb y raw material o gariad Duw Ei Hun. Ac ar Galfaria yn unig y ceir hwnnw. We are the victims of the religion of the Spirit instead of subjects of regeneration by the Holy Ghost. It is a religion too pathetic and sympathetic, of personality rather than redemption—the religion of unsec- tarian, undenominational belief the religion of undogmatic, unconscious Christianity which means a Christianity without conviction and without power, only too self-conscious and too little Christian.' 'A Church is not made by Christian sympathies or affinities. Rather are these made by the Church. A Church is made by the Christian Gospel, j its creative Word of the Cross, its Holy Spirit The greatest product of the Church is not brotherly love, but divine Worship. And we shall never worship right nor serve right till we are more engrossed with our God than even with our worship, with His reality than our piety, with His Cross than our service.' The great product of a Church is that which makes God God it is holy Love. The first business of a Church is to wor- ship that, then through this confession in worship to acquire and to confess it in character and work, to reproduce it in person and conduct.' Ac ni cheir dynol-! iaeth byth i addoli fel hyn hyd nes creir hi o newydd wrth y Groes. Felly yr ad- drefniad sydd eisiau ydyw dod a dynion at y Groes—i sylweddoli'r ffaith fod. dyn- oliaeth wedi ei phrynu unwaith ac am byth, ac mai'r hyn sy'n aros yw cael dyn- ion i berchenogi eu prynedigaeth bersonol. Felly Efengyl y Groes sy'n gwneud Eglwys. Os am gwrdd a phroblemau y dyfodol, nid oes ond Un fedr ein helpu—y Crist Croes- hceliedig. A gwneud hwnnw yn fwy real ydyw gwaith yr Eglwys. A hyn hefyd sydd i wneud un Eglwys fawr o'r holl eglwysi. Nid yw undod ffurf- iol yn bosibl, end mae uniad ymarferol nid yn unig yn bosibl end yn hanfodol os am wneud Duw yn Dduw, a Christ vn real i'r byd. RhaicÍ wrth undeb ysbryd ac amcan mewnol, ac wrth federation allanol o'r holl eglwysi, os am wneud yr Eglwys Gristionogol y gallu creadigol ddylai fod. Parhant i fodoli yn fwy effeithiol nag erioed, fel yr elfennau a r odd ant fod ac a sylweddolattt eu hunain yn yr un a'r wir Eglwys. Colegau Cymru sy'n gwneud y Brifysgol, ac eto mae honno ar wahan i'r colegau, ac ynddi y sylweddolir ac y cor- onir eu prif waith. (Dychwelwn at hyn eto.) Dyna ddigon i roi awydd yn ein dar- llenwyr am y wledd sy'n eu haros yn llyfr Dr. Forsyth. Mae pennod ynddo gan Dr. Andrews ar Paul a'r Sacramentau a bair i anadl Ymneilltuwr redeg yn fyr ond rhaid wynebu'r gwir, a chaswir pwysig yw'r esgeulustra cvnhyddol o'r sacra- mentau yn ein mysg fel Ymneilltuwyr. Hon yw un o'r cyfrolau mwyaf meddyl- j gar, ymarferol a chalonogol a ddarllen- asom ers llawer dydd, ac mae mor gyff- rous o fyw weithiau ras peri i ni symiu a gwenu a diolch.