Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Rhymni.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Rhymni. Marwolaeth.—Blin gennvni orfod. cofnodi mar- wolaeth y chwaer Mrs. Hannah Jane Perkins, aanwyl briod Mr. Gwilym Perkins, yr hyn gy- merodd le yn ei phreswylfod, 23 Ramsden-st., Rhymni, fore Gwener, Awst 3ydd, wedi hir nychtod. Merch ydoedd Mrs. Perkins i'r diw- eddar Mr. a Mrs. Samuel Jones. Cyfarfyddodd ei thad a damwain angheuol yng ngwaith haearn Rhymni flynyddoedd lawer yn ol, ond nid oes llawn dwy flynedd er pan gladdwyd ei mam ac erbyn hyn wele hithau wedi croesi i'r wlad y tuhwnt i'r lien. Yr oedd y chwaer ymadawedig, fel ei rhieni o'i blaen, yn aelod ffyddlon yn eglwys Gosen, Rhymni. Bu hefyd yn athrawes ffyddlon ac egiiiol yn yr Ysgol Sul cyhyd ag y daliodd ei lierth a'i hiechyd. Teimlir ei lie yn wag yng Ngosen, ond hyderwn y cyfyd Duw eraill i lanw lie y ffyddloniaid sydd yn cael eu galw adref. Enillodd iddi ei hun enw da ymysg aelodau Gosen a'r cylch ar gyfrif ei sel a'i ffyddlondeb crefyddol. 'Claddwyd hi prynhawn Mawrth, y 7fed o Awst; yng Nghladdfa Gyhoeddus Rhymni. Daeth tyrfa luosog ynghyd i dalu'r gymwynas olaf i un a berchid yn fawr ganddynt. Gwa3 anaethwyd yn y ty cyn cychwyn ac ar lan y bedd gan y Parch. Rhys D. Jenkins, ei gwein- idog, yn cael ei gynorthvvyo gan y Parchn. R. E. Peregrine, B.D., Rhymni, a J. R. Salmon a J.Morgan Jones, Pontlotyn. Pregethwyd pregeth angladdol yng Ngosen nos Sul, Awst igeg, gan ei gweinidog, oddiar y. geiriau hynny—' Am hynny, byddwch chwithau barod canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.' Y mae ein cydymdeimlad llwyref gyda'r priod, Mr. Perkins, a chyda'i brawd, Mr. Abel Isaac Jones, a'r perthynasau eraill. Duw pob gras a phob diddauweh fyddo'11 gysur ac yn ddiddauwch iddynt yn eu galar a'u tristwch. CVFAILL

! I &Y WERS SABOTHOL. }$ 6

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

:HYN A'R LLALL 0 BABILON FAWR.