Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

f Y Diweddar Lieut. W. Li.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

f Y Diweddar Lieut. W. Li. Davies, R.W.F. Wrth ddarllen am wrhydri'r milwyr Cymreig yn eu hymdrechion llwyddiannus Y11 Flanders tua dechreu Awst, daeth gofid a blinder i lawer bron yn herwydd y nifer fawr o'n bechgyn a aethant yn ebyrth dros gyfiawnder ac yn eu pi th wele enw ein cyfaill tirion, diymhongar a chrefyddol, W. Lloyd Davie;, Mab hynaf Mr. a Mrs. J. G. Davies, Cwmparc, Peniel, Caer- fyrddin, ydoedd, a brawd i Lieut. D. Vaughan Davies, 14th R W F., sydd adref wedi ei daro gan y nwy. Dyfal iawn oedd yr ymadawedig ymhob petli. Mynnai gwblhau yr hyn gymerai mewn llaw. Dyna oedd cyfrinach ei lwyddiant yn yr ysgol, y coleg a'r fyddin. Pa,iodd ei London Matricu- lation tra yn Ysgol Ramadegol Caerfyrddin, ac aeth i St. George's College, Lulndain, lie y llwyddodd mewn arholiad o dan y Civil Service. Pan allasai wasanaethu ei wlad mewn modd pwysig arall, penderfynodd ymuno a'r fyddin, 1 ymladd dros Dduw, dynoliaeth, a'n cartrefi annwyl,' fel y dywedai ef. Cafodd dde.byniad i'r Artist's Rifles O.T.C, ac ar ddiwedd ei gwrs, rhoddwyd iddo gomisiwn yn y 13th R.W.F. Gadawodd am Ffrainc ym mis Awst, 1916, a chafodd seibiant adeg y Nadolig diweddaf. Bu yn ddyfaFgyda'i orchwylion—mor ddyfal, nes gwneud ei hun yn annwyl gan ei swyddogion a'r milwyr. Yr oedd yn company commander. Dengys y llythyrau tyner o Ffrainc inai felly yr oedd hyd Gorffennaf 31ain, pan y syrthiodd wrth arwain ei wyr, yn ddyn ieuanc 23ain oed. Mewn llythyr ffarwelio i'w fam anwylaf,' dy- wedai nad oedd yn ofni mynd dros y top o gwbl. 'Yn wir, bydd yn fib gellnyf golli'r cyfle. Ymdrechaf wneud fy nyledswydd fel swyddog Prydeinig.' Yr oedd yn wr bonheddig ymhob ystyr. Carai y goreu yn wastad. Gellid dweyd am Lloyd Davies ei fod yn lief aril eto.' Nid oedd yn hoff gancldo ryfel.' Aeth allan mewn atebiad i alwad dyled;wydd. Nid Beth a wnaf ? ond Beth ddylwn wneud ?' oedd y cwestiwn iddo ef. Atebodd drwy aberthu popeth, hyd yn oed ei fywyd glan, dirodres. Ac O y fath hiraeth sydd arnom ar ei ol Felly y teimla'r cylch eang hwnnw o'i gyd- nabod a ffrindiau lluosog ei deulu parchus. Felly y teimlodd ei fam-eglwy* ym Mheniel, a theixnlwyd y gofid dwys yn y gwasanaeth cofiadwriaethol ar, Awst igeg, pryd y daeth tyrfa fawr ynghyd i gofio am fywyd dilychwin ein cyfaill ieuanc. Pregethodd ei barchus wein- idog, y Parch. J. T. Gregory, bregeth effeithiol iawn oddiar 2 Tim. i. 12. Canwyd emynau pwrpasol, a chwareuwyd y Dead March gan Miss M. M. Jones, Penllain. Fieht the good fight with all thy might.' -0- cYlfAÏLL IDDO.

AT BWYLLGOR Y MEYSYDD LLAFUR.

Y WEINIDOGAETH A'R WAR BONUS.

I TEMPERANCE POLICY FOR WALES.…

Rhiwmatic ac Anhwylder y Kidney.…