Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN I FRYN. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. TRAETHWN ar hyn ainbell dro yu ein liymdeith- I 'I gcyais gyiit, oiid lau dyfodol, a dechreuwn gyda r Parch. T. Morris, Dowlais (wedi i hynny Porth, Rhondda). Colled fawr a gadd enwad a chenedl ym marwoiaetn gynnar mr. morris, ivto Doslui na feddylid am dano yn ei ddydd ac ar ei derfyn yn ddyn enwad na chenedl, eto, yn ol ei oed a'i brofiad, yr ydoedd yn un o'r rhai mwyaf addawol i hyn. Nid rhagoriaeth llwyfan na phwyllgor ydoedd ei eiddo ef, er y meddai ar ddawn gynhyddol i'r ddeubeth hyn, a chymerai ddiddordeb yn y naill a'r Hall ohonynt. Yr un pryd, gwr i'r wasg a'i bulpud ydoedd ef. Y rhain ydoedd ei ddau arf pennaf ar bob argyfwng a dyledswydd. Yr ydoedd yn syl- wedydd manwl a dwfn, ac yn adolygydd a beirniad galluog a theg. Llanwai ei feirniad- aethau o Hanes a Rhesymeg a Dadansoddi. Yr ydoedd yn fwy o ddadansoddwr nag ydoedd gyda'i hanes ac i ymres37mu. Hoffai'r naill a'r llall o'r rhai hyn, a chyfarwydd ydoedd a'u cyf- riniaeth ond mwy cartrefol ydoedd i ddadan- soddi. Cerddai hNybrau athroneg yn bleserus, a defnyddiai ei hadnoddau yn ddeheig eto nid cystal ydoedd gyda hon ag ydoedd gyda dad- ansoddeg. Y c'adarnhaol a geid gryfaf yn ei feddwl. Medrai dynnu i lawr, a hynny heb wneud llawer o dwrw a chodi llwch ond adeiladu ydoedd ei hoff waith, a buasai ganddo bob amser ei sylfeini -cedyrii a'i adeiladwaith celfydd a diogel. Bob amser, chware teg, adeiladai ei dy ar y graig. Pwy na chona am ei bapur ym Methesda yn Undeb 1889, ar ol araith y Cad- eirydd, Dr. Da vies, Llanelli, ar Gynhyrnadau Diwinyddol a Gwyddonol yr Oes ? Hawyr bach dyma i chwi nefoedd a daear o destyn. Rhaid mai cadair fawr a chref yw Cadair yr Undeb. Peth od na buasai wedi mynd yn yffion ers btynyddoedd. Ond deil o hyd heb wichian na llacio yn ei chymalau. Ac 0 mae rhyw gyfaredd nefol ynddi, onid oes ? 0 ie, son oeddem am y Parch. T. Morris yn darllen papur, ar ol yr araith hon, ar destyn a gadd gan Bwyll- gor, sef Diwinyddiaeth fel Gwydclor.' Aethai at ei waith o flaen torf fawr ym Methesda, Arfon, gyda gwrid y wawr yn ei wyneb, a thipyn o sigl corff gwan yn ei lais. Er hynny credai yn ei destyn, ac ni anghredai ynddo ei hun a meddyliai'r byd o'i frodyr a'i gwrandawai, er ei fod wedi traethu ei farn yn go groyw am rai ohonynt yn y misoedd o'r blaen ac er na ddi- hangodd hyd yn oed yr Undeb heb ei ergydion union a thrwm, ac er fod gwrthddadleuon y ddwy ysgol, Caeth a Rhydd, mewn diwinydd- laeth yn ennill tir yn y wlad-er hynny i gyd, wele ddyn bach syml, a gwen ar ei wyneb, a'i bapur yn ei law, yn esgyn pulpud Bethesda, ac yn troi ei wyneb at dorf hydertis, gan draethu yn gadarn ar faterion y ceid rhai amlwg yn amharod iddynt, ac i edrych arnynt gyda rhyw- beth tebyg i amheuaeth, os nad oedd yn ddrwg- dybiaeth. Proffwyd ydoedd y darllexydd hwn. Nid brenin ydoedd ef. Meddyliai ef fwy am egwyddorion nag am orseddau. Un yn gweld ydoedd o hyd, a gweledydd meddyliau ydoedd ac nid gorseddfeinciau. Fe'i ganwyd ef yn broffwyd. Nid proffwyd yr awen i ddisgrifio ydoedd, ond proffwyd y gwirionedd i'w gy- hoeddi. Meddai ar nodweddion allanol y proff- wyd 3-11 ogystal a'i ysbrydolrwydd. Un o'r rheiny yw y ceir y gwir broffwyd ar adegau fel petai 3-11 clelyu diofal, os nad yn ddiog, ac yn wr heb ddim ganddo i'w wneud, ac yn dded- Wydd yn ei fyd diwaith. Soniai'r Parch. T. Morris lawer am ei frodyr.' Ni chlywsom neb yn ein dydd yn son cymaint ag ef am y brodyr.' Yr ydoedd yn eithriadol am ei hoffter o'i frodyr a'i ymddiriedaeth ynddynt. Ni buasai'n cytuno bob amser a phawb ohonynt, ond os buasai yn eu croesi, neu hwy yn ei croesi ef, brodyr oeddent yn ei olwg, ac ni chawsent gysgod bradwr na thwyllwr 3 uddo ef. Dau beth a'i boddiai yn fawr yn ei ddydd, sef llyfr da a chydymaith da. Ymwclai a'i gyfeillion a'i frodyr.' Gal- wai yn eu tai ar brydnawnau fel rlieol, a gallesid tybio oddiwrth ei bwyll a'i 1011yddwch a'i fodd- had nad oedd ganddo ddim i'w wneud, ac mai nid hawdd y ceid ganddo i godi o'i gadair a mynd i'w ffordd. Pan yn ei lyfrgell gellid ei gymryd yn ddim ond darllenwr a rhyw fath o ysgrifennwr ond pan ar ymweliad a ffrind, gellid casglu nad oedd yn hidio dim am lyfrau, a bod ei fryd ar yinweled ac eistedd ac ymgomio. Yn wir, buom yn rhyfeddu mwy nag unwaith sut oedd yn troi allan y fath waith, ac yn hepgor oriau o'i amser i dclal pen rheswm yma ac acw a'i frodyr.' Ond un felly ydoedd y Parch. Thomas Morris, heb wastraff amser na choll eiliad. Ond proffwyd ydoedd y dyn hwn, ac un ar gyfer y Wasg a'r Pulpud, ac yr oedd ynddo lawer o Joseph Mazzini. Ni buaseni yn rhyfeddu clywed dweyd ei fod yn fwy yn ei bregeth nag yn ei bulpud. Cyfansoddai yn dda, yn dda iawn hefyd, er dechreu ei weinidogaeth. Yr oedd ynddo lawer o ddawn parod Spurgeon fel cyfansoddwr. Cyfansoddai yn hawdd ac yn gyflym, a chawsai o hyd i'r gair goreu a'r frawddeg oreu ar unwaith. Yr oedd hyn Y11 ei ymgom fel yn ei ysgrif, sef parodrwydd, cywirdeb a glen did. Gellid tybio am eu breg- ethau eu bod yn or-draethodol i fod yn boblog- aidd i'w pregethu. Mae'n wir ei fod yn ysgrif- ennu ei bregethau yn fanwl, ac yn eu rhoi o'i flaen yn ei bulpud, ac yn eu dilyn o ddalen i ddalen eto gallesid meddwl ei fod yn hollol rydd, a phregethai yn gymeradwy, a chawsai odfeuon ambell dro o lawer o amenau a dagrau. Yr hyn a'i gesyd gerbron yn broffwyd ydyw ei fod yn ddyn i'w oes o hyd. Felly yr ydoedd yn ei bregethau ac yn ei ysgrifau. Cyhoeddodd liaws o ysgrifau a phamffledau yn ei ddydd ar wahanol destynau y dydd, a cheid addfedrwydd a neges ymhob un ohonynt. Conr yn hir am 'Morris, Dowlais,' yn hyn o beth. Cymerai i fyny bynciau Addysg, Gwleidyddiaeth, Enwad- aeth, Eglwysiaeth a Chrefydd, ac ysgrifennai neu traethai arnynt mor ymarferol ag o ddad- ansoddol. Ac ymhelaethu ar hyn fydd gennym o hyn i'r diwedd. Ar adeg ei farwolaeth rhoddodcl ei weddw alarus i ni bregeth o'i eiddo yn ei law-ysgrif ei hun, ac yr ydym yn ei chadw yn annwyl a diolchgar. Teitl y bregeth yw, SEI YI,], AI(1,AX, Ac 3-11 canlyn ceir dyfyniadau olioni. Awst 27, '93.—' Ac Hfe a aeth allan Aiigliylch yr unfed awr ar ddeg, ac a gafodd eraill yn sefyll yn segur,' &c. (Matt. xx. 6, 7. Yr ydym yn gweld fod y bobl hyn yn sefyll allan am nad oedd neb wedi eu cyiiogi. Yr oedd ganddynt y rheswm goreu yn y byd dros sefyll allan— methu cael dim i'w wneud, er hir ddisgwyl. Yr oedd eu segurdod nid yn unig yn esgusodol, ond yn fater o reidrwydd. Yr ydym ninnau ynghanol pobl yn sefyll allan yn y dyddian hyn, a phurion peth fyddai i ni i edrych i mewn i'r achos ohono i gael gweld i ba raddau mae'n gyfreithlon. Y mae un peth yn amlwg o'r cychwyn nid mater o angenrheidrwydd ydyw. Nid am nad oes gwaith mae'r bobl yn segur o'n eyIch, Nid ychwaith am nad oes neb wedi eu cyllcjgi. Y mae'r sefyll allan yn un gwirfoddol mor bell ag mae'r arweinwyr yn mynd. Ac ymhellach, y mae'n doriad amlwg ar gytundeb ac addefir hynny gan y gweithwyr eu hunain. Y pwnc wedyn yw, i ba raddau mae'n esgusodol ? Ac i ba raddau mae'n debyg o ateb diben da ? A sut i gael pethau i'r terfyn goreu ? Wn i ddim i ba raddau mae Cvmru yn addfed i weld ei Phulpud yn trin pynciau o'r fath. Yr hen syniad yw nad oes a fynno A phynciau o'r fath. Ond yn fy marn i, y mae'r fath syniad yn bwdr i'w wraidd. Y mae a fynno'r pulpud a phopeth a (Idyrehafa genedl, am fod y Beibl felly hefyd. Ar y tir uchel hwn, chwi a welwch fod a fynno'r Pulpud a helyntion y gweithwyr, ac y gall gwein- idogion ddod i mewn am lais yn eich amgylch- iadau heb gael eu cyfrif Y11 ymyrwyr. Ni ddis-' gwyliech ond y gwiiionedd noeth oddiwrth un a fyn gael ei gyfrif yn weinidog da i Iesu Grist. Nid wyf yn honni anffaeledigrwydd, ond honnaf fy mod yn gwybod digon i roi barn yn yr achos presennol. Cyfrifaf fy hun yn un ohonoch. Yr wyf o linach gweithwyr o ddyddiau Adda ac ymlaen, o ran dim a wn i yn wahanol. Yr ydwyf yn eich dosbarth. Y mae fy naioni i yn eich daioni chwi. Mor bell ag yr ydym fel gweinidogion wedi cael ein dwyn i mewn i'ch amgylchiadau, yr ydym wedi bod yn gynhorthwy i chwi; a phe caem ddod i mewn ymhellach i'ch aingylchiadau, gallem fod yn fwy eto o gyn- horthwy. Yn awr y cwestiwn yw, Sut i wneud y goreu o bethau fel y maent ? Yr ydych yn cael eich hunain yn sefyll allan yn groes hyd yn oed i'ch cytundeb eich hunain, ac heb ddim trefn na thrysorfa, ac heb undeb nac arweinydd nac un math o ragddarpariaeth. Eich ymdrech chwi yw'r fwyaf gwallgof yn hanes gweithwyr. Beth sydd wrth wraidd hvn oil ? Yr atebiad yw mai awydd o du y gweithiwr i gael ei dalu'n well am. ei waith. Cyfyd hyn ymholiad arall, sef, Pam na chawsai ei dalu'n well ? Y mae gweithwyr yn fynych drwy eu ffolineb yn gwneud gweithio gwaith yn beth mor gostus fel na thai i'w weithio. Wrth ddinistrio eiddo meistr dylai'r gweithiwr gofio mai o'u henillion hwy yn y diwedd y telir am y draul. Ond wedi caniatau cymaint a hynyna i'r meistr, y mae i'r pwnc ochr arall. Y mae yn 3- meistr ei duedd i wasgu i lawr y gweithiwr. Nid oes dim yn talu'11 well i feistr na bod yn generous at ei weithiwr. Bid sicr, yr ydych chwi weithwyr am gael eich talu'n well, ac am oriau llafur gwell. Yr ydym. yn cydweld ar hyn, ond yn anghydweld ar y modd. Y ffordd ferraf sydd gennych chwi, sef ffordd streic y ffordd fwyaf cwmpasog sydd gennym ninnau, sef y ffordd sydcl yn myncl yn 01 i dir eich cytundeb, i weithio hwnnw allan, fel y ffordd iawn a sicr i lwycldo yn eich cais pres- ennol. Peidiwch a diffygio yn eich amynedd. Mae'r meistri yn well meistri nag oeddynt, ac mae'r gweithwyr yn well gweithwyr, ac mae'r ddau ar y llwybr i ddod yn well.' Dyfynnu a lloffa ydym o faes y bregeth fanvr hon, a blin gennym am na feddwn ofod i'w rhoi i gyd. Yr ydym am i'r darllem-dd weld yn y 11oflioll hyn onestrwydd a beiddgarwch y preg- ethwr, a theimlo gwres ei gydymdeimlad a'i brofiad. Ceir yr un olygfa yn ei bregethan sydd yn ei gyfrol, sef Brwydr Hgwyddorion, Ysbryd- egiaeth y Beibl, Bwrw allan Gythreuliaid, &.c. Dywedai wrthym nad oedd vn hollol foddliaus yn yr adoH-giadau a wnaed ar ei gyfrol. A dweyd y lleiaf, cyfrol i aros ydyw ei gyfrol ef. Erys trefn, llyfnder a bywyd y pregethau hyn yn hoyw o hyd ac yr ydys, wrth eu darllen, fel pe'n eu gwrando. Coeliwn mai gweledigaeth bennaf ei fywyd ydoedd Dyn, a dichon na rodd- odd yr adolygwyr y pwyslais a ddisgwyliai ar wedd ddynol y llyfr. Do, fe welodd y Parch. T. Morris IJDYX yn ei anfarwoldeb 'a'i gwyinp a'i godiad, a'i wasanaeth a'i werth a'i Faru ac am hyn fe welir y frawddeg ofnadwy hon yn niwedd ei gyfrol: 0 bob gwely angeu, gwely angeu gweinidog sydd a'i ddwylaw yn gochion gan waed eneidiau yn myned i'r farn yw y mwyaf dif rif ol.'