Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
I AT EIN GOHEBWYR..
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR.. Mewn Llaw,—Uanbedr Pontstephan-Un o'r De—Y Tabernacl, IIanelli.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
University College of South Wales and Monmouthshire. (Coteg Prijathrojaol Deheudir Cymru a Mynwy.) (A Constituent College of the University of Wales. ) T'HE College includes Faculties of Arts, Science, and Medicine, Departments of Applied Science and Technology, Public Health, and Music, and Elementary Training and Secondary Training Departments. Courses of Study in the various Faculties and Departments qualify for the Degrees of the University of Wales. The College grants Diplomas in Engineering, Metalliferous Mining, Metallurgy, Music, Economics and Allied. Sub- jects, and the language, Literature and History of Wales. A Joint Diploma in Coal Mining is granted by the College and the South Wales and Monmouthshire School of Mines. Courses of Instruction in Law, and Short Courses in Agriculture and Dairying Science are provided. Annual Composition Fees Arts, £12; Science, £ 16 Applied Science, £ 16 for Students from Associated Counties and £ 24 for Students from Non-Associated Counties. In the Faculty of Medicine the fees vary from £ 20 to f,28, In addition to these composition fees an annual registration fee of £ x is. is payable. Informa- tion regarding other fees may be obtained from the Registrar. There is a Hall of Residence for Women Students under the supervision of Miss Kate Hurlbatt (Principal). For prospectuses and all information in regard to Scholarships, Craddock Wells' Exhibitions and Free Studentships, application should be made to the undersigned. D. J. A. BROWN, University College, Kj, | Registrar. Cathays Park, Cardiff. Y Drysorfa Gynorthwyol. Taer erfynnlr ar eglwysi a phersonau u nigol i wneud pob ymdrech i dalu EU CYFRANIAD BLYNYDDOL at y symudiad uchod o hyn i DDIWEDD MIS AWST. Gellir gwneud hynny trwy Drysorydd Cyfundebol y symudiad, neu yn uniongyrchol i'r Trysorydd Cyffredinol- Mr. T. DAVIES, 56, St. Quintin Avenue, London, W. 10. AT SWYDDOGION EGLWYSIG. Llythyrau Cymeraowyaeth TTTEDI en hargraffu Ag enw yr Eglwys it arnynt, ac wedi eu rhwymo yn gryf. Prisoedd am Flaendal-3s. 6c., 5s., a 6s. 6c. Cludiad yn rhad, Cynhwysa y fclythyr Dair Rhan, set Un Ran i'w rhoddi i'r Trosglwyddedig Un Ran i'w hanfon i Weinidog neu Swyddogion yr Eglwys i ba un y tros- glwyddir yr Aelod, yn eu hysbysu o hynny a chedwir y Rhan araU gan yr Eglwys el hun. I'w gael gan JOSEPH WIWJAMS & SONS (Merthyr), Titd., Swyddfa'r TVST. Mertbyir CAPEI* COFFA, PORTHMADOG. QTNHELIR Oyfarfod i Sefydlu y Parch. J. Mostyn (gynt o Abersoch) yn weinidog ar yr eglwys ochod am 2 o'r glochddydd Meroher, Medi 12fed, 1917. Llywydd, y Parch. W. J. Nicholson. Pregethir yr hwyr gan y Parohn, D. Stanley Jones, Caernarfon, a T. E. Thomas, OOAdpoeth. H. HUGHES, Ysg. CYPUNDEB DWYREINIOL DINBYCH A FFUNT. QYNHELIR Oyfarfod Ohwarterol nesaf y Oyfandeb uchod ym Methel, Gwersyllt, ar y dyddiau Mawrth a Meroher, Tachwedd 6ed a'r 7fed. Y Gynhadledd am 2 o'r gloch yr ail ddydd. Y Parch, J. Howell, Ponciau, a Mr. John Boberts, Bethlehem, Rhos, i agor trafodaeth ar I Werth Personoliaeth Dda i Gymdeithas.' Y Paroh. J. W. Bowlands, Nant, i bregethu ar y pwnc, a'r Parch. George Jones, Rhos. Ooedpoeth. airi T. E. THOMAS.
I WILSON A'R PAB.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
WILSON A'R PAB. 0 ATEB y Pab o gwbl, ateb Wilson ydyw'r cryfaf, cliriaf, a mwyaf argyhoeddiadol posibl, yn ein tyb ni. Gwell, efallai, fuasai peidio ei ateb, gan ei bod yn bur eglur bellach mai er budd y gelyn bron yn hollol y gwnaeth y Pab ei gynnyg am heddwch, pa un bynnag a wnaeth ef ar ei gais union- gyrchol ai peidio. Hen slaf y Pab yw Awstria, a thra yr oedd honno a'i chyf- eillion yn llwyddo ni chlywid siw na miw o'r Fatican, er i Babyddion Belgium a Ffrainc gael eu sarnu a'u baeddu a'u hall- tudio a'u cigyddio'n anifeilaidd ganddynt. Hyderwn mai gwir y si nad yw Pryclain: na Ffrainc yn mynd i ateb o gwbl. Am yr Eidal, cartref Pabyddiaeth, mae hi yn nabod y real article yn rhy dda, ac wedi penderfynu na wnaiff sylw o'i gynnyg. Ac mae'n syn meddwl mai Prydain Bro- testanaidd yn unig o'r Unolwyr mawrion oil a fedd lys-gennad ym mhalas y Pab. Nid oes gan hyd yn oed Ffrainc na'r Eielal --lien gynefin y Ba baeth -gynrychiolydd yn ei llys o gwbl, ac yr oedd yn rhaid i America gael help Prydain i gyflwyno'i! hateb i'r Pab. Ac yn hollol lechwraidd, yn wrthgefn i'r wlad a'r Senedd, y trefn- odd Prydain i anfon cynrychiolydd i lys y Pab am y tro cyntaf er cyn y Diwygiad Protestanaidd—dan esgus y rhyfel, bid siwr ond gwyr y call mai pluen yng nghap y cynllwynwyr Pabyddol ym Mhrydain yw'r holl fudrwaith. Eithr ofer yw pro- testio-mae protestaniaid o bob math at a discount ym Mhrydain heddyw. Ond penderfynodd Wilson ateb, a gwnaeth hynny yn odidog. Yn wir, cyf- eiria ei ateb at lawer o bobl a gwledydd heblaw'r Pab. Delia a'r Pab ei hun yn effeithiol a diseremoni trwy ddangos nad yw ei gais yn ddim ond ymdrech at fynd yn ol yn hollol i'r sefyllfa beryglus a fod- olai cyn y rhyfel, pan yr oedd y byd i gyd yn crynu dan ysgyclwad cledd y Caiser a'i lu. Trais milwrol a setlai bopeth y pryd hwnnw, ac nid oedd le i ryddid na thegwch anadlu. Nid yw hyn i fod eto, medd Wilson, ac ni orffennir y rhyfel heb sicrhau'r rhyddid hwn a gwneud y byd yn lie diogel-i weriniaeth i fyw ylldelo. Yna try at y Caiser a'i blaid o filitar- wyr gwaedlyd a gormesol, a dywed yn blaen wrthynt nas gall y byd mwy dder- byn eu gair hwy, ac felly fod gwneud heddwch a Llywodraetli Germani yn ei ffurf bresennol yn amhosibl. Mae wedi fforffedio ymddiriedaeth pawb, ac wedi sarnu holl ddeddfau Duw a dyn dan ei thraed. Ni byddai unrhyw gytundeb a'r giwed hyn ond scrap o bapur, i'w dorri i fyny y foment y gwelent eu cyfle i ladd ac ysbeilio eto. Rhaid fell} wrth rhywrai yn Germani heblpw'r beilchion llofruddiog hyn i warantu heddwcli Ewrob a'r byd yn y dyfodol. Pan ddeuir i drafod heddwch rhaid iddo fod yn rhywbeth amgenach na chyfle pellach i Germani ymbaratoi ar gyfer cyflafan waeth eto yn y dyfodol. Ond pwy, gan hynny, sydd i wneud heddwch dros Germani ? Etyb Wilson mai'r bobl, a neb arall. Nid oes gweryl rhwng America a phobl Germani, ac nid yw'n disgwyl troedfedd o'u tir na dimai o u harian ond mae America a'r byd eisoes wedi dioddef gormod gan draha creulon uchelwyr Germani i ganiatau cyfle mwy i'w huchelgais anghyfiawn i ddarnio gwareiddiad a'i daflu i'r pedwar gwynt. Rhaid felly i werin Germani roi ei gormes- wyr yn eu lie, a ffrwyn yn eu pennau, ac i'r awennau fod yn llaw'r bobl eu hunain cyn byth y gellir dod i gymod llawn a byw yn heddychlon a hwy. Heblaw hyn, beth ddaw o Rwsia, druan, sydd newydd ddod allan o'i chaethiwed oesol, ac heb eto ddysgu'r ffordd i lyw- odraethu ei hun, os gadewir hi at dru- garedd y Caiser a'i filitarwyr anystyriol ? Y peth cyntaf a wnant, os llwyddant i heddychu ar lwybr y Pab, fydd ei gwneud byth yn amhosibl iddi ddod yn wlad wer- inol a chyn hir, trwy ei dichell a'i thrais, byeld wedi dadwneud yr holl chwyldroad diweddar, a gosod y Tsar, neu rywun tebyg iddo, yn ol ar yr orsedd. Y11 y pen draw rhyfel rhwng gwerinoliaeth ac un- bennaeth, rhwng rhyddid a gormes, yw hon, a gwyr William yn dda fod bodol- aeth ei orsedd'ef ei hun, fel y mae heddvw, yn y glorian. Felly ni saif ar ddim, mewn daear nag uffern, i ddiogelu unbennaeth yn Rwsia fel yn ei wlad ei hun, ac i'w gwthio ar bawb arall, os gall. Yr ar- brawf ar bob cynnyg am heddwch, felly, yw hyn,' medd Wilson, 'A ydyw wedi ei seilio ar ymddiriedaeth a gonestrwydd yr holl bobl y trafodir yn eu henw ? Ai gair Ivlywodraetli uchelgeisiol a dichellddrwg yn unig sydd dano, ai ynte gair cyfuniad o bobl ryddion ac unplyg ? Dyma arbrawf a ai lawr at wraidd yr holl fater, a dyma yr arbrawf y bydd raid ei gymhwyso.' A diwedda yn yr ymadroddion digam- syniol canlynol:—' Nis gallwn dderbyn gair llywodraethwyr presennol Germani fel gwarantiad o ddim sydd i sefyll, os nad ategir ef gan dystiolaeth mor bendant o ewyllys ac amcan pobl Germani eu hunain fel y gall pobl eraill y byd yn uniawn a chyfreithlon ei dderbyn. Heb warantau o'r fath, nis gall dyn na chenedl ddibynnu ar gyfamodau heddwch, na chytundebau i ddiarfogi, na chynlluniau i gyflafareddu, na threfniadau ynglyn a thiriogaethau ac i ail-gyfleu a diogelu'r cenhedloedd bych ain, os wedi eu gwneud a Iylywodraeth bresennol Germani yn unig. Rhaid felly i ni aros hyd nes cawn ryw amlygrwydd