Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Y I SUB -VARINE.'
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y I SUB -VARINE.' (CYD-FUDDUGOL. ) ANFAD lofrudd eigionfor;—ar wyrddli Try harddlong yn elor Hauwr iDg ym mro'r angor Yn tanio ruellt yn y mor. Amharu llwybrau'r moroedd-yw ei nôd, Yn nydd dig rhyfeloedd; Dyohryn cad yw ei chorn coedd Aiigeu IS ein llyngesoedd. RHWD. (buddugol.) UN a fwria gyfaredd-ydyw rhwd Ar eirf y drin hagrwedd; Ymhob pau ar arfau hedd Ei wrid sydd heb anrhydedd. Bedhnog. R Ingram.
Y PREN AFALAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y PREN AFALAU. RHOWN folawd i'r pren 'falau— Hidlog gerdd fo'n odlog wau Cynhyrchiol yw'r breiniol bren Rydd i Haws rodd lawen Mai eilw ar ymweliad, A rhwymir e' a mawrhad: 0 mor dlws yr ymdrwsia Yn lliwiau teg dillad ha'. Ond ef yn hydref fyn adrodd Hanes i fyd mewn hynaws fodd 0 gwel ei wedd fawreddog Dan ei lwyth yn dwyn ei log I'n budd o hyd gwna'n boddhau A'i felus ber afalau 0 haelioni RhagJuniaeth Cyfiawa lor, ein eofio wnaeth. Be' ydyw nwyf ein byd ni ODd dylanwad haelioni ? ATIIA.
EMYN
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EMYN Cyrttwys i'w ganu ar ddechreu gwasanaeth cyhoeddus. Iyrec, Ysbryd y Gwirionedd, Cymer 'nawr o eiddo Crist, A mynega heddyw'n eglur O?ud gras i galon drist. 0 datguddia Ddyfnwn bethau'r arfaeth fawr. Agor heddyw ddrwa ymadrodd I Dy weision draethu'n hy Bethau rnawrion cariad Iesu- Bethau hael y nefoedd fry. 0 datguddia Werth yr iaohawdwriaeth rad. Agor ddrws y weledigaeth I bechadur sydd ar lawr Weled gwerth maddeuant lesu, Gyda'i hawl i'r nefoedd fawr. 0 datguddia Wir ogoniant Iesu da. Ternisyn.
ER COF. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
ER COF. Rhyw adlais brudd a glywais Yng nghoj yr awel wan, A chrynai'r helyg trymion Ym min y distaw lan; Cwynfannai bronfraith unig Gerllaw i lan y lli, A chwynfan dan y gollen draw Wnai meinir yn ei du. Mewn breuddwyd gwelais feddrod, Nid beddrod yn y lJan, Ond bedd rhy gynnar dorrwyd draw Mewn pell estronol fan. Nid oedd ond croesbren arno, Ond ynddo, Duw a wyr, 'Roedd rbywun gariodd groes y byd- Un ga'dd foreol hwyr. Daeth Rhyddid heibio'r beddrod Yng ngwisgoedd genethdlos, A phlannodd anfarwoldeb Ar fron y bedd fin nos. Penlinio wnaeth Dynoliaetb, A'i chalon gurai'n drwm, Wrth syllu drwy ei dagrau gwaed Ar unig feddrod hwn. Gorffwysed yno'n dawel, A byth nid aiff ei loes Yn angof gan y byd a'i blant, Tra pery blwyddi oes. Ei gariad gymaint ydoedd Nes iddo roi ei hun, Er mwyn i arall fedru byw, Ac er dyrchafu dyn. AMICUS. I
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Gwelweh drosoeh eich hunan sut y gwna Sanatogen leshau eich Giau. Arbrofion ar Wrthrychau Dynol gan Feddyg o Harley-street a, Phroffeswr yn Rhydychain mewn Anianeg. Prawf Gwvddonoi fod defnyddio Sanatogen am Chwech Wythn-os yn cynhyddu Giau Feithriniad trwy 63 y cant, a Meith iniad I Cyffredinoi y Corff trwy 48 y cant. I < TYBIWCH eich bod yn cymryd I 20 gronyn o Sanatogen bob dydd am chwech wythnos, ac yn caniatau dau hyddysgwr i roddi prawf o'i weithrediad ar eich corff trwy'r arbrofion mwyaf manwl fyddai'n wybydds iddynt Yn gyntaf, gallent brofi i chwi fod Sanatogen wedi ychwanegu yn fawr y llosnur, o'r hwn y mae ynni gieuol yn tarddu, yn eich cyfansoddiad; a byddai i hyn egluro'r teimlad o ynni a bywiog- rwydd a rydd Sanatogen. Yna gallent fesur ychwanegiad cyd- redol yn eich cymhathiad bloreiol (nitro- gen-assimilation), a phrofi fod eich holl gorff yn cael ei feithrin yn well, ac felly yn iachach a chryfach, heb ychwanegu dim at eich ymborth arferol. Yn ddiweddaf, gallent ddangos i chwi, trwy chwyddwydr nerthol, sut y mae Sanatogen yn ail-adeiladu'r gwaed llwm a chelloedd y giau, heb gynhyrfiad, gwrth- weithiad, neu unrhyw ddrygnawsedd. Nid arbrofion dychmygol yw y rhai hyn y maent wedi eu gwneud yn ystod y blynyddoedd diweddaf, a cywirdeb a'r trwyadledd mwyaf, gan awdurdodau amhartïol o'r radd uchaf; felly gellir cymryd y canlyniadau fel ffeithiau gwvddonoi. Yn y ddau arbrawf cyntaf a wnaed gan feddyg ellwog o Lundain, y rhai a amlygwyd ganddo i'r Cynghrair Meddygol Rhvngwladwriaethol, ychwanegwyd y cymhathiad llosnuraidd trwy 63 y cant .(gweler y darlun), a chymhathiad bloreiol trwy 49 y cant. Pel yr ysgrifenna P/offeswr Frazer Harris Rhaid i ynni gieuol ddod o gymhathiad llos- nuraidd yn ol hyn, nid yw gallu egniol Sana- togen yn llai amlwg na'i weithrediad i feithrin ac adeiladu'r corff. Giau o dan y Chwyddwydr. Gwnaed yr arbrofion dilynol, y rhai a gy- hoeddwyd yn y Lancet, ar wrthrychau dvnol ac amfeilaidd yn ogystal, gan Sais-Americanwr o Wyddonydd (diweddar Broffeswr Cyiiorthwyol meWn Anianeg ym Mhrifysgol Rhvdycheu), yr hwn a eglurwyd yn llawn mewn mvnegiad blaenorol. Cyhoeddwn yma ddarluniau yn dangos sut y mae celloedd a llinion llesg yn gwella eu hunam trwy ysgogiad anianegol naturiol, ac felly yn cael eu hadfcr i'w heffeithiolrwydd arferol. Profwch hyn drosoch eich hunan Heb Sanatogen Llosnur yw tarddle mawr ynni gieuol, a gellir yn gywir fesur ei bresenoldeb yn y corff trwy yr hyn a elwir arbrofion trawsnewidiol.' (A) a ddengys swm y llosnur yn y corff cyn defnyddio Sana- togen; (B) a ddengys y swm ar 01 defnyddio Sanatogen am chwech wythnos-cynnydd 0 63 y cant, ynghyda chynnydd cyfartal mewn ynno gieuol. ix abed. It y y A (a) (b) a (c) a ddangosant gelloedd giau anifeil- eidd cyn ymborthi ar Sanatogen; (d) sydd dair awr ar ol ymborthi ar Sanatogen, (e) ac (f) 12 awr; (g) 24 awr, a (h) 68 awr C- (A) a ddengys Union gieuol iachus; (B) dau ddiwrnod ar of i un pen gael ei ddinystrio; (C) dinystr mewn gradd mwy; (D) dechreu gwella tr giau; amryw o'r llinion wedi egino o'r pen ymledol. Prynwch diniad o Sanatogen gan eieh ffer- yllydd heddyw (01/9 i 9/6), ond byddwch yn ofalus i gael y gwir Sanatogen, yr hwn yn unig all gynhyrchu'r canlyniadau terfynol a sicr hyn —canlyniadau a dal yn llawn am yr vchydig geiniogan y dydd a gyst. Ceisiwch y gwreiddiol wir Sanatogen. Gwneuthuredig yn Penzance, ac yn cael ei berchenogi'n gyfan gan Genatosan I..tcl. (Pryn- wyr Prydeinig y Sanatogen Co.), 12 Clienies- street, London, W.C. 1. Cadeirydd Lady infackwortl-i. Sylwch-Bydd i Sanatogen ymhen aniser gael ei ail-enwi Genatosan—gwir Sana- togcn-er mnyn ei wahauiaethu oddiwrth efel- ychiadau israddol..