Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
COLEG ABERHONDDU. ("1YNHELIR Pwyllgor y Coleg ddydd J Mercher, y I9eg cyfisol, am 11 .30 o'r gloch. T. LEWIS. CYFUNDEB DWYREINIOL DINBYCH A FFLINT. QYNHELIR Oyfarfod Chwarterol nesaf y Oyfundeb uchod ym Methel, Gwersyllt, ar y dyddiau Mawrth a Meroher, Tachwedd 6ed a'r 7fed. Y Qynhadledd am 2 0:' glooh yr ail ddydd. Y Parch. J. Howell, Ponoiau, a Mr. John Roberts, Bethlehem, Rhos, i agor trafodaeth ar I Werth Personoliaeth Dda i Gymdeith&s,' Y Parch. J. W. Rowlands, Nant, i bregethu ar y pwne, a'r Parch* George Jones, Rhos. Ooedpoeth. T. E. THOMAS. r
AT EIN GOHEBWYR.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. T.E.T.-Cafodd arall y blaen arnoch, ond ymddengys y gweddill yn ein nesaf. Mewn Llaw,—Rhydlewis, Henllan Llall- deilo a'r Cylch.
---I NODION.I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION. Y GOlyYGYDD. YMDDENGYS fod yr Eisteddfod yn Birken- I Yr Eisteddfod. head wedi troi allan yn llwyddiant cymedrol o ran poblogrwydd ac allanolion, ond yn llwyddiant hollol yn yr ystyr lenyddol a goreu. Dan yr am- gylchiadau, beth rhagorach ellid ddisgwyl ? Bu'r Pwyllgor yn ddoeth mewn arbed costau afreidiol, a hyderwn na byddant ar eu colled yn ariannol. Daeth y Prifweinidog i lawr erbyn dydd, y;cadeirio, yn ol ei arfer bellach, a dal- iodd Cyngor y ddinas ar y cyfle i'w wneud yn un o'i rhydd-ddineswyr. Rhyfedd fel y mae'r byd yn newid nid oes fawr atriser er pan y buasent yn ei foddi yn eu doc yn llawer cynt na rhoi id do en dinas- fraint. Pan ddaw egwyl wedi'r elo y rhyfel heibio, diddorol fyddai cael gair o brofiad y Prifweinidog ynglyn a'r cliwyl- droadau o bob rhyw sydd wedi dod i'w ranjFer 1914. Nid yw efe heb weni llawer a synnu mwy uwchben llawer o 'bobl a phethau.' Traddododd ddwy araith rag- orol ar yr aclilysur-un yn yr Eisteddfod ar ei hoff bwnc, sef gwasanaeth cenhedl- oedd bychain i'r byd a'i wareiddiad, a'r Hall i'r Gorfforaeth ar hynt bresennol y rliyfel. Parodd y gyntaf i'r Eisteddfod- wyr, fel arfer, i ymgolli mewn hunan- toddhad, a'r olaf i'r holl wlad anadlu yn rhydd, am ennyd, gan mor onest a gobeith- iol ydoedd. Addefodd yn glir fod Rwsia wedi dyrysu cynlluniau'r cadfridogion ac wedi gohirio terfyniad y rhyfel, ond yr oedd mor sicr ag erioed mai'r Unolwyr yw'r meistri eisoes, ac mai iw rhan hwy y daw'r fuddugoliaeth yn y diwedd-pryd bynnag y bydd hynny. Nid oes fawr argoel o'i ddyfodiad buan, nac ychwaith ein bod yn feistri yn awr—i'r dyn yn y stryd, a dweyd y lleiaf—ond medda'r Prifweinidog gyfleusterau i wybod a barnu na fedd y cyffredin mohonynt, a dyledswydd pawb ohonom yw dal ei freichiau i fyny yn ei bryder a'i waith, a gweddio drosto yn barhaus, am nerth a doethineb iddo. A siarad yn blaen, efe yw Moses yr Unolwyr heddyw, a hyderwn y bydd Duw Moses gydag ef yn ei holl waith. Rhedodd i ffwrdd ar gwestiwn y ddiod, fel y gwnaeth Moses ar gwestiwn arall; ond daw yn ol fel Moses eto, a'i Dduw gydag ef. TYNER a phruddaidd dros ben oedd sere- moni'r gadair, gan fod y Y Gadair Ddu. buddugwr ieuanc, H e d d Wyn, o Drawsfynydd, wedi colli ei fywyd fel milwr ar taes y gad cyn dod ohono 1 w gadair genedl- aethol. Efe, mae'n debyg, oedd yr ail ar y gadair yn Aberystwyth y llynedd ac er ei fod oddiar hynny ynghanol helyntion a pheryglon y gwersylloedd a'r ff osydd, daliodd ei awen i ganu, ac i ganu mor effeithiol nes ennill prif gamp barddas Cymru o fysg pymtheg o ymgeiswyr. Addefwn ..nad ydym wedi gweled fawr o gynhyrchion y bardd, ond rhaid ei fod yn berchen athrylith ddisglair cyn y gall- asai gyflawni'r fath orchest dan y fath anfanteision. Dro yn ol collodd Lieut. D. O. Evans-mab Dr. Evans, a brawd y Capten Dr. Evans, mab-yng-nghyfraith y Prifweinidog, os cywir y clywsom ei fywyd ar feysydd Ffrainc, ac fel hyn y canodd Hedd Wyn englyn coffa iddo- 'Ei aberth nid a heibio—a'i wyneb Annwyl nid a'n ango, Er i'r Almaen ystaenio Ei dwrn dur yn ei waed o.' Mor briodol yw'r englyn erbyn hyn i'r Prifardd ei hun 1 Os dan y tyweirch glas y gorweddai gweddillion drylliedig y bardd ar ddydd ei gadeirio, tybed nad oedd ei ysbryd yno a'i Hedd yn wyn fel y wawr, ac i bara felly byth ? YMDDENGYS fod rhan y llew o wobrwyon Buddugwyr Eraill. Hen wedi disgyn elem 1 Annibynia, a daliwn ar y cyfle hwn i longyfarch y bud dug w y r un ac oil. Rhestr odidog ydyw. Crwys aeth a'r wobr am eiriau'r gan wladgarol, er nad oedd y miwsig arni yn deilwng. Wil Ifan aeth a'r goron, ac ymddengys mai efe a'i piau pan y mynno. Alfa gipiodd y gamp am englyn ar Lygad y Dydd er i yn agos i ddeucant ymgiprys am dani. Eurof enillodd ar draethawd ar 'Stephen Hughes,' a Peiiar ar draethawd ar Gruffydd Jones, Llanddowror.' Mardy Rees gariodd y dydd ar draethawd ar 'Arabedd mewn Llenyddiaeth Gymraeg,' a sibrydir mai efe oedd yn tynnu'r dorch a'r Parch. D. Davies, Penarth, am y prif draethawd ar Fywyd a Nodweddion Cymru yn Nyddiau Elizabeth.' Nid oedd yr un o'r ddau i fyny a'r safon, a dyfarn- odd y beirniaid Eio yr un i'r ddau i'w calonogi i gwblhau eu gwaith. Dywedwn eto y dylai unrhyw enwad fod yn falch o restr fel hon, ac wrth lawenhau nid ydym yn gwneud dim yn amgen na'r hyn a wnai pob enwad arall pe llwyddasai yn gyffelyb. Yr un pryd, mae enwadaeth allan o gylch yr Eisteddfod—neu dylai fod-ac estynnwn i'r holl fuddugwyr o bob enwad yr un cyfarchion calonnog o galon bur yn helaeth. MAE y Parch. J. M. Edwards, Sarnau, n Iylanymynech, Maldwyn, y Ffidleriaid.' wedi cyheithu llyiryn;|Mr. Arthur Mee, The Fiddlers, i'r Gymraeg, ac mae trwy hynny nid yn nnig wedi gwneud gwasan- aeth i sobrwydd, ond hefyd i'r wlad i gyd yn ei hargyfwng eithaf. Mr. Mee oedd ysgrifennydd The Strength of Britain Move- ment, ac mae'r ffeithiau difrifol mae wedi gasglu yn ffurfio'r cyhuddiad mwyaf ofn- adwy a liniwyd yn erbyn Llywodraeth erioed. Dan amgylchiadau cyffredin buasent yn ddigon i ysgubo'r Llywodr- aeth bresennol, er galluoced ydyw, i ddi- fancoll bythol a haeddiannol, os gwyr y ffeithiau. Ac os nad yw yn eu gwybod, mae ei bai a'i gwarth yn erchyll. Prun bynnag wyr ai peidio, mae'r ffeithiau geir yn y llyfryn hwn yn cyfreithloni ei deitl i'r earn. Fel Nero gynt, mae'r Llywodr- aeth yn canu ffidil tra mae'r Ymerodraeth oil yn llosgi'n ulw. Cymerwn ddymaid o'r ffeithiau hyll, heb wneud sylw pellach nag fod y bennod.a'r adnod yn cael ei rhoi am bob un ohonynt. Meddai bachgen i filwr mewn llythyr at ei dad ar y ffrynt: Mae mam yn feddw am bythefnos ac yn sobr am wythnos ers misoedd. Yr wyf wedi goddef am saith mis, ond nis gallaf ddal yn hwy.' Cyhuddwyd milwr o'r Scots Engineers, 17eg oed, o ladd bachgen i6eg oed yn ei gatrawd. "Ai nid oedd yno rywun gydag awdurdod yn y canteen i ddweyd pa faint o ddiod ddylasid ganiatau ? meddai'r Barnwr, ac atebodd y swyddog nad oedd.' t Eisteddai hen wr yn y cerbyd mewn tristwch mawr. Yr oedd wedi colli ei fab yn y rhyfel. Ni phrofodd erioed ddiod cyn ymrestru ond pan ddaeth adref am dro yr oedd yn feddw bob nos, a dyna ei gyflwr pan aeth yn ol, ac ymhen tridiau bu farw. Yr olwg olaf gawsom arno oedd yn gadael cartref yn feddw.'
University College of South…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
University College of South Wales and Monmouthshire. (Coleg Prifathrofaol Deheudir Cymrit a Mynwy.) LECTURES ON MIDWIFERY. Compulsory in the Theoretical Training of Midwives. A COURSE of Instruction for the Theoretical A Training of Midwives under the Midwives Act, 1902, will be held at the College Buildings, Newport-road, Cardiff, in the October Term of Session 1917-18. The Courses include twenty-four lectures, twelve tutorial demonstrations, and a class of examination for certificates. The first lecture in the Michaelmas Term will be held on Friday, October 12th, 1917, at 3.15 p.m. The Fee for the Course will be £2 2s., but in the case of students contributing from Coun- ties of Glamorgan and Cardiff, a reduction of 10/6 will be made in the fees. The Education Committee of the Glamorgan County Council grant twenty-one free student- ships each year (seven each term), and pay the fees of twenty-four students each year (eight each term). The Cardiff City Council Education Com- mittee grant twelve free studentships (four each term). The railway fares of the Glamorgan Free Students are paid by the County Council. Further particulars of the Glamorgan Free Studentships may be obtained from the Clerk to the Glamorgan County Council, County Hall, Cardiff and further particulars of the Cardiff Free Studentships may be obtained from the Director of Education, City Hall, Cardiff. D. J. A. BROWN, Registrar.