Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN I FRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. Ni edy John I- Henry Newman ni er yn gynnar I yng NgorfEennaf diwoddaf. Mae Un cam, a boddlon wy' dau beth prin arLeill ffordd i gymdeithasu ag ef fel 'y carem, sef amser a gallu, Yr un pryd gwyddolU yn burion na chawn lonydd ganddo hyd lies dweyd gair bach am dano. Y ddwy ainod fwyaf i gymdeithasu. a dyn yw gwybod- aeth a cliydymdeimlad, a inwy ei phwys yw'r olaf na'r flaeuaf. Bid sicr, mae'r pellter gwybod- aeth sydd rhyngom ni ein dau yn fawt, ond 'does dim yn bechadurus yn hynny ychwaith. Mwy yw pellter ein cydymdeimlad na'n gwyb- odaeth. Yn ol pob tebyg yr oedd J. H. Newman yn un o ddynion mwyaf ei ddydd ym myd crefydd ac addoli, eto rhwyma ei eiriau ef ei hun i ni gredu ei fod yn un o'r rhai lleiaf hefyd., Ac am hynny saif o'n blaen y mwyaf a'r lleiaf ei gyfnod yn ei grefydd. Arferem feddwl mai anwybodaeth, ac nid gwybodaeth, a fagai gulni, a rhoi pwys ar bethau bach amgylchiadol ac arwynebol, a hynny mewn athrylith a chrefydd fel mewn gwisg ac arferion cymdeithasol. Dyn- io.u anwybodus, fel rheol, a farchoga gefiylau pren.' Ond ceir yn Newman sampl y geill dyn- ion gwybodus a mawr fod yn dotio ar deganau a jijiod. Ymddengys mai tegan mawr Newman er ei blentyndod a phan y cydchwareuai a phlant ydoedd y Pab a'i Eglwys. Hyfryd yw meddwl am dano mai byd crefydd ydoedd ei fyd ef erioed; ac mor rhyfedd a hynny yw mai ei grefydd bersonol a gawsai ei sylw erioed. Un o ddadleuon y Tadau Anghydffurfiol dros adael EgIwys Loegr ydoedd fpd eu rhyddid ynddi yn brin i bregethu i eraill; ond gadawai New- man hi am Eglwys Rhufain er mwyn ei iach- awdwriaeth bersonol ei hun. Gwelai mai ei golledigaeth oedd yn y naill, a bod ei gadwedig- aeth yn y Hall. Efe ei hun sydd yn dweyd hyn. Sonia yn ei emyn rhyfedd, Oleuni mwyn y nef,' am un cam a dywed, Boddlon wyf,' a thrachefn,' Ni cheisiaf weled trwy i ben y daith.' Y fath ostyngeiddrwydd meddir. Ni amheuwn hyn ac eto ymholwR, ai nid un i weled trwy ydoedd efe bellach, ac nid un yr un cam ? Etyb uu cam, a hwnnw'n fyr- gam, siglgam, collgam, i blentyn ond gallasai Newman y pryd hwn ddweyd, Mi a euthum yn wr.' Diau y gellir tynnu casgliad prydferth oddi- wrth un cam Newman, sef i ochelyd bod yn eithafol yn ein gweddfau. Ac mae llawer o'r orwanc hon yn bod. Oni sonnir o hyd—nid cymaint ag a fu, o bosibl-am glory at a jump ? Ceir digon yn bylog ac yn chwannog i orffen eu gwaith crefyddol ar unwaith. Hyn a fu'n achlysur i filoedd yn 1904. gamu dros y dibynnoedd, 11a welwyd mohonynt eilwaith. Tybed mai gweld oedd Newman mai'r cam bach byr yw'r cam bach diogel ? A bod cam bach tuagat Dduw, ac un cam ar y tro, yn gam niawr, gaii gofio mor fach yw'r camwr ? Rhodder hynny o gredyd iddo fel dyn yn bersonol, ond ni3 gellir rhoddi'r credyd hwn iddo wrth ei ddarllen yn ei hanes. Onid gweld ei hun ydoedd ar y naill ymyl i'r ffordd, a Rhufain ar yr ymyl arall, ac mai rhyw un cam bach oedd o Eglwys Loegr i Eglwys Rhufain ? Aiff y tystiolaethau amgylchiadol yn bell i brofi mai hyn oedd yn ei feddwl. Iddo ef ar y pryd yr oedd Eglwys Rhufail1 yn fwy o nefoedd na'r nefoedd ei hun. Dywedai y Dr. Newman un tro Heaven is not like this world. I will say what it is much more like-a chifych. Kid i a italeiddiodd y gair like—a L, Nid ni a italeiddiodd y gair eglwys.' Y mae eidalwch y gair yn gosod allan neilltuolrwydd a rhagoriaeth yr JSglwys i feddwl y gwr a'i dywedodd ar y pryd. Nid ydym heb sail, i gasglu ei fod yn gweddio mwy ac yn ddwysach ar ei waith yn mynd o Eglwys Loegr i Eglwys Rhufain nag y gweddiai pryd yr aeth o'r byd i Eglwys Loegr. Meddai: Bu amser 11a weddiwn am Dy wawr i'm harwain i balch oedd fy mryd.' Ond yn awr yn ei encil gweddïa 'n daer ynghanol nos am nerth i fynd trwy'r noson ddu,' nid er mwyn bod o fwy gwasanaeth i gymdeithas, ond er bod yn fwy esmwyth ei hun. Mae'n wir ei fod ar adeg ei un cam yn achwyn tipyn ar ddiofalwch y bobl y Cydweithiai a hwy tuagat bethau ysbrydol, ac ar lacrwydd eu disgyblaeth, a chredai mai da fuasai i'r farn bersonol blygu mwy i'r farn swyddogol. U11 o'i eiriau mawr ef ydoedd ufudd-dod,' a hwnnw yn ddioed, pendant a gweithredol. Ymhellach, cwynai ar ryw amryw- iaeth golygiadau a welai yn Eglwys Loegr, a hynny ar faterion a ymddangosai iddo ef yn ddigyfnewid yn eu hymddangosiadau fel yn eu hanfodion. Parai hyn iddo i ddyheu am Eglwys Anffaeledig. Meddai Os ydyw Duw am gadw gwybodaeth ohono Ei Hun yn y byd, na ryf- edded neb os clyw am allu a chanddo'r rhagor- fraint o anffaeledigaeth.' Hyn a welodd yn Eglwys Rhufain. Hyn ni welai yn Ymneilltu- aeth. O'r braidd yr agorai ei lygad i gydnabod Ymneilltuaeth. A hyn a gawsai yn annigonol yn Eglwys lyoegr. Tri gair mawr Dr. Newman neu'r Cardinal Newman wedyn, oedd anffaeled- igaeth, honiad sanctaidd i anffaeledigaeth, ac ufudd-dod i anffaeledigaeth. Ei wirionedd pennaf ef felly ydoedd, nid ymgnawdoliad nac adened- igaeth, ond EGLWYS ANFFABU5DIG. Clywsom ddweyd fod John Henry Newman wedi cymryd i'w ben mai efe ydoedd anfonedig Duw i greu cyfnod newydd yn yr Eglwys Wladol, ond iddo deimlo a gweld nad oedd croeso iddo i wneud ei waith. Amheuwn degwch y fath ddarlleniad o Newman. Nid ydym yn cael y diwygiwr ynddo o gwbl. Nid rhoi ei hun ar y blaen, a chael ei ddilyn, a bod yn fath o ymer- awdwr eglwysig ydoedd ei brifgais ef. Gwir y carai sancteiddio pobl yr Eglwys a'u dyrchafu, ond nid ydym yn cael ynddo ffroen na fflach yr arweinydd na'r diwygiwr. Dyn gwylaidd ydoedd J. H. Newman, a digon priodol yw ei alw yn onest. Yr oedd rhyw gymaint o werin- iaeth yn ei natur. Nid Eglwys geidwadol a geisiai, ond L, glwys anffaeledig. Ni cheisiai honno ychwaith o blith yr holl eglwysi. Ceid ei Eglwys ef yn yr un gorlan. A dywedai nad oedd Eglwys Loegr a rhan na chyfran yn hwnnw. Yn Rhufain y cawsai'r Eglwys hon. Honno ar ei hyd ydoedd ei Eglwys anffaeledig ef. Nid dyn anffaeledig a ehwiliai allan. Nid son am anffaeledigrwydd y Pab a wnaethai ef yn gymaint ag anffaeledig- aeth yr Eglwys. Parchai ei Esgob cyn ei fod yn parchu'r Pab. I Dywedai un tr-o Yr ydwyf erioed yn caru bod yng ngwydd fy Esgob fel pe bawn o flaen fy Nuw, ac ufuddhau iddo yr un modd. Nid wyf yn hidio rhyw lawer am Fwrdd neu Gyngor neu Synod o Esgobion. Yr hyn sydd o bwys i mi yw fy Esgob fy hun. Fy Esgob oedd Bab i mi cyn i mi fynd at y Pab i Rufain.'LMor groyw, yn wir, y sieryd am ei Bab A ddywed yn well am ei Dduw, tybed ? Nid rhyfedd iddo i ganu, Uil cam, a boddlon wyf.' Y peth sy'n od yw fod Cymru werinol ac Ymneilltugar yn canu cymaint ar hyn. Nid oes fagl o gwbl oddiwrth y fath beth i awen Cymru, oblegid gwrthrych digon di-awen yw Cardinal,' ffordd bynnag y mae am New- man.' Ond mae ynddo ei wenwyn mewn mel i grefydd Cymru a'r foment y gedy Cymru ei Hymneilltuaeth a'i Phrotestaniaeth y caiff ei hun gyda'r Pab neu gyda'r Diafol. Ai bodd- lon ym ninnau ar un cam New-man ? Y11 wir, fe ddywedid, Y lllae'n dda gennyni ei fod wedi myned drosodd, canys yr oedd wedi bod ar ei eithaf yn Rhufaineiddio ei gyfeilliou.' Pabydd bach erioed ydoedd ef. Pan yn blentyn yn llaw ei dad yn gwrando canu, y peth pwys- icaf a welai ef yn y cynhulliad a'r gan ydoedd hogyn yn dwyn arogldarth mewn llestr. A phan ydoedd tua'i ddeng mlwydd, gwnaethai groesau ar lechau a phapur, a chroesai a'i fys dros ei fron cyn mynd i dywyllwch. A phan yn ei 15 mlwydd oed soniai fel hen ddiwinydd am ei formed convictions ac am ei gredo a'i ddogma. A dotai ar sylw a ddarllenai, sef nad oedd yr Ysgrythyr ddim wedi ei bwriadu ohoni ei hun i ddysgu athrawiaeth, ond i fod a fynno hi a chyd-gynhorthwy catecismau a chredoau a thraddodiadau. Dyma'r dyn a ddywedai I do despair of the Church of England, and am so drawn to the Church of Rome.' Erys Newman o hyd yn Lloegr, ac mae yng Nghymru yn siarad Cymraeg ar y Saboth. Ac yr ydym yn ei emyn fel pe ar bleser-fad ar y Tywi yn mynd o'r Felinweii heibio i Bias yr Esgob i for Ivlanstephan. Pwy arall yn ei ddydd fel Newman am ddylanwad ar eraill ? Darllener llyfr y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Robert Montague, a gwelir fod Gladstone, ac hyd yn oed Disraeli o dan gyfaredd sanctaidd y dYll hwn. Loyw afon, a hael yfaf j 0 modd yn wir, meddwi a wnaf.' Ac mae rhai ohonynt heb sobri hyd heddyw. Yr oedd cyfaredd yn ei berson, ac ym mhriod- ddull ei lenyddiaeth, ac yn nefoldeb ei wedd, ac yng ngraslonedd dawns ei eiriau, ac yn niniweidrwydd arddangosiadol ei gam.' Am hynny, bid sicr, siaredir yn annwyl am dano, ac yn y fath gynhesrwydd blagura ei had yn gyflym. Y mae ei debyg wedi dod o'n blaen yn y mis- oedd a'r blynyddoedd diweddaf hyn, Yr oedd ganddo ef ddau gam i'w rhoi, ac mae wedi