Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

;Salem, Caernarfon.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

;Salem, Caernarfon. I Priodas.—Yn y capol uchod, dydd Mercher, Medi'r 5ed, unwyd mewn glan briodas Miss Enid Stanley-Jones, B.A, (merch hynaf y Parch. a Mrs Stanley Jones) gyda'r Parch. D J. Davies, B.A., Capal Als, Llanelli Gwas- anaethwyd gan y Parch. D. Stanley Jones, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. J. Nicholson, Porthmadog. Rhoddwyd y briod- ferch ymaith gan ei hewythr, Mr. Arthur J. Williams, cyfreithiwr, Porth, ac yn gweini arni vr oedd ei chwaer, Miss May Stanley Jones. Yn gweini as y priolfab yr oedd ei gefoder, y Parch. J. Brenni Davies, B.A., B.D., Gowerton. Golygfa hardd oedd gweled capel helaeth Salem yn orlawn o edmygwyr, tra'r oedd mwy na hynny wedi casglu tuallan yn methu cael mynediad i mewn. Yn ystod y gwasanaeth chwareuwyd amryw ddarnau pwrpasol gan organydd Salem, Mr Pritchard, a chanwyd dau emyn dan arweiniad Mr. Hugh Owen. Ymhlith y gwahoddedigion i'r boreufwyd yr oedd y rhai caulynol: -Mr. A. J. Williams, Porth; Mr. J. Bowen, H.M.I., a Miss Bowen, Casnewydd; y Parchn. W. J. Nicholson; J. Brenni Davies; ac E. C. Davies, Bynea, Llanelli; Mr. a Mrs. O. N. Roberts a Miss Menai Roberts, Abertileri; Mrs. Clarence Ellis; Miss Margaret Williams Miss G. Charles Jones, Caernarfon; Miss May Edwards, Manceinion; Mr. H. Owen a Mr. R Pritehard, Caernarfon. Mae'r amryw roddion a dderbyniwyd o ball ac agos gan y dieuddyn ieuanc yn arwydd gywir o'r lie dwfn sydd iddynt yng nghalon eu cyfeiUion. Treulia'r Parch. a Mrs. Davies eu mis mel yug Ngholwyn Bay.

Advertising

CYFUNDEB DWYREINIOL CAERFYRDDIN.

ILlantrisant.

0 FRYN I FRYN.