Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
- -......- -Bargeinion ar…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Bargeinion ar Lyfrau. I Y DDINAS Hltla YNDDI DEMI, (clud. lie.) o 3 CRIST A'R SAITH EGWYS (cludiad 2C.) 0 6 HANES HARM puw (cludiad ic.). 0 3 STRAEON Y CYFNOS (cludiad Itc.) o 3 ATHRONIAETH TREFN IACHAWDWRIAETH (cludiad 2c.) o 9 I&AWIRFYFR Y GYFRAITH (cludiad 2e.) o 9 COWANT Y PARCH. R. ROWLANDS, ABER- AMAN, gan D. Silyn Evans (clud. ztc.) I o MILWYR Y GRORS (WILLIAM LEWIS), gan Griffith Ellis (cludiad ztc.) o 6 BIHWYR Y GROES (JAMES GILMOUR) (CL. zic.) o 6 COFIANT Y PARCH. JOHN THOMAS, MItR- oJ THYR (cludiad 4C.) r 1 3 Y SEREN UNIG, gan Oliver Don (cl. lic.) 1 0 Y DOCTOR (cludiad ic.) o 6 HJtN EMYNAU (cludiad ztc.). 0 BRENIN YR AFON AUR (cludiad 21C.).. 10 CARTREF DEDWYDD, gan W. D. Davies, America (cludiad ztc.) o 8 HANES EGLWYS BETHESDA, MERTHYR (cludiad 2c. ) o 9 YR HANESYDD METHODISTAIDD (cl. 2C.) o 6 LLYFR TONAU C YNTJXLEIDFAOIY (cl. 5c.) 1 9 AWDURAETH LLYFRAU Y TESTAMENT NEWYDD (cludiad Itc.) o 9 Y TRYDEDD CYNNYG (cludiad ic.). o 9 BOB LEWIS (cludiadi tc.) o 6 TYWYSENNAU ADDFED (cludiad 4c.) I 3 Y DIWYGIAD YM MHENTRB ALUN, gan S. M. Saunders (cludiad 5c.) 1 o DDOE A HEDDYW (Drama), gan D. G. Williams, St. Clears (cludiad ItC.). o 6 KWYAR DXION (cludiad zc.) o 6 NOFEL GYMRAEG, gan Edward Gruffydd (cludiad ltc.) 0 6 DRYCH PROFFWYDOUAETH (clud. ztc.) I o CYMRO YN AFFRICA (cludiad ItC.). o 6 UNDOD PERSONOL Y DUW-DDYN, gan y Parch. R. S. Thomas (cludiad 5c.). 2 6 LLA WI. YFR YR ENWAD CYNULLEIDF AOL, gan H. Ivor Jones (cludiad IC.). 0 4t IFAN MEREDYDD (cludiad Ite.). a 6 SISIDONIA (cludiad 2c.) 0 9 AMERICA A GWELEDIGAETHAU BYWYD, gan W. D. Davies, America (cl. 5c.) 1 3 COFIANT Y PARCH. EDWARD JAMES (cl. ztc.) 1 o CYDYMAITH YR YSGRYTHYR (cludiad 4C.) 1 o DRYCH PROFFWYDOLIAETH, gan y Parch. John Hughes (cludiad 4c.) 1 9
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Y mae'r oil o'r Uyfrau uchod wedi eu gostwng I HANNER Y PRII. Anfoner y Tal gyda'r Archeb, gan gynnwys y Cludiad, i Swyddfa'r 'Tyst,' Merthyr Tydfil, JOSEPH WILLIAMS L SONS- Swyddfa'r 'Tyst,' Merthyr, Am bob math o AEGrRAFFWAITH. RHWYMIR LLYFRAU 0 BOB MATH A MAINTIOU AM BRISIAU RHESYMOIo AC O'R GWNEUTHURIAD GOREU, YN SWYDDFA'R 'TYST, MERTHYR. CTweddi a Mawl," GAN Y DIWEDDAiL ALAW BRYCHEINIOG. 18 Tudafon. Pris 2g. Gtilir ei chael 0 Swyddfa'r UtTYitP Merthyr
. AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. Mewn Llaw.-Y fdiweddar Barch. P. W. Hough, Coed-duon—Horeb, Cacllwchwr-Saroii, Maesteg-Cyfarfodydd, &c.
< RHAGOLYGON CREFYDD.*
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
< RHAGOLYGON CREFYDD.* MAE un peth yn amlwg iawn ynglyn a chrefydd heddyw, sef fod y prif arwein- wyr Cristionogol, yn ogystal a sylwedydd- ion ac awduron o'r tu allan, yn anesmwytho yn ddirfawr yn ei chylch, ac yn arllwys o'r wasg erthyglau a thraethodau a llyfrau diddiwedd yn ymdrin a'r broblem fawr yn ei gwahanol agweddau. Mae y rhyfel yn sicr wedi peri cryn chwyldroad a phryder ym myd y meddwl, a darogenir pob math ar gyfnewidiadau yn ddiymdroi. Ceisia H. G. Wells ein darbwyllo fod holl syniad Cristionogaeth am anfeidroledd Duw yn gyfeiliornus, ac fod y rhyfel yn profi hynny, ac mai Duw meidrol, yn dibynnu ar amodau allanol sydd yn fYllych yn gwneud ei ewyllysiadau yn ddirym, neu yn gohirio eu llawn sylweddoliad drachefn a tlirachein, ydyw yr unig wir Dduw— neu o'r hyn lleiaf yr unig un all gwyddon- wyr a nofelwyr ei addoli. Yna daw'r beirn- iad anffyddol, William Archer, i'r maes i haeru mai profi y mae y rhyfel nad oes Duw o fath yn y byd yn bodoli. Ac o'n rhan ni, nid oes fawr gwahaniaeth rhwng y ddau, canys ni byddai duw H. G. Wells o fawr gwerth i neb. Dyn annhraethol fawr yw'r duw hwn, a threchir ef yn bar- haus gan Satan. O'r ochr arall, gwelsom fod Dr. Forsyth yn ei lyfr galluog yn dadleu yu gryf fod y goncwest ar ddryg- ioni wedi cymryd lie ar Galfaria, ac nad oes eisiau i ddynoliaeth wneud dim amgen na pherchenogi ei hiachawdwriaeth trwy ffydd yn y Prynwr mawr. Y rheswm am y tlanastr presennol yw gwrthodiad. dynion i fyned i mewn i'w hetifeddiaeth, ac na orfodir hwy ychwaith gan Dduw sy'n parchu ei greadigaeth ei hun mewn dyn- ion ac lawn. Ond nid yw'r rhyfel i fod heb ei heffaith digamsyniol ar adyfodiad y byd at y Groes. Ac yn awr wele un o'r ysgrifenwyr gallu- ocaf a'r meddylwyr dewraf yn rhengoedd gweinidogion ieuengaf Ymneilltuaeth yn dod i'r maes i draethu ei len ar ragolygon Cristionogaeth a'r Eglwys wedi'r elo y rhyfel drosodd. Dr. Orchard, efallai, yw cynnyrch rhyfeddol y blynyddoedd diw- eddaf yn y gorlan Ymneilltuol. Mae yn gymysgedd o gatholig a phiwritan a rhes- ymolydd, sydd yn ei wneud yn Ismael enwadol o'r math mwyaf beiddgar. Anni- bynnwr yw yn awr mewn enw, Presbyter- iad fu am rai blynyddoedd, ond y nef yn unig wyr beth ydyw o ran ei liw enwadol gwirioneddol. 0 ran hynny, ni chytuna a'r un enwad, ac mae allan i newid pob un ohonynt a'u cael i gytuno ar rywbeth gwahanol i ddim geir yn awr, o'r Pab i'r The Outlook for Religion, by W. B. Orchard, D.D. (Cassell & Co. 6/- net.) Cwacer, ac o Gaergaint i Plymouth. Er hynny na tbybied neb mai breuddwydiwr niwliog anymarferol ydyw, na drylliwr dibris ychwaith. Yn y llyfr hwn efallai mai'r critig sydd amlycaf, ond fel pob gwir broffwyd rhaid iddo fod yn onest a thynnu cryn lawer i lawr er mwyn adeiladu rhywbeth gwell. A chredwn mai ei brif amcan yn y gyfrol hon yw clirio'r maes o'r hyn sydd yn rhwystr ac yn atalfa ar ffordd y gwir ddiwygiwr. Cenfydd bethau rhyfedd iawn yng nghyflwr ac ymddygiad yr Eglwys o bob enwad. Mae ynddi rhyw fath o ddych- weliad at uniongrededd ac awydd i gytuno ar hanfodion yr athrawiaeth, ond yn y pen draw nid oes arwydd o unrhyw ddych- weliad at Dduw yng Nghrist. Yn wir, mae i raddau pell wedi cau Crist allan o'r cyfrif, a chymryd y wladwriaeth a gwleid- iadaeth yn brif awdurdod ar bopeth ynglyn a'r rhyfel. Mae hyd yma wedi darganfod ffyrdd i gymeradwyo (sanction) pob peth ynglyn a'r rhyfel. Nid yw'r gwleidyddwr na'r milwr wedi bod yn brin o fendith yr Eglwys ynglyn a'i holl weithrediadau. Nid yw Dr. Orchard yn cytuno o gwbl a safbwynt y gwrthwynebydd cydwyb- odol, ac yn sicr dyna farn ac argyhoeddiad mwyafrif enfawr crefyddwyr Prydain Maent yn fradwyr i'w cyfrifoldeb dinesig yn ddiameu. Er hynny, nid yw yn deilwng o ddilynwyr Crist i oddef yn ddibrotest i'r cyfeiliornwyr hyn gael eu trin gyda chymaint barbareiddiwch a dim gyflawn odd y Prwsiaid. yn eu cynddaredd waethaf ar y trueiniaid ddaeth i'w palfau yn Bel- gium a mannau eraill. Dilornwn y gelyn am gau Crist allan o'r holl drafodaeth cyn ac wedi y rhyfel, ond a ydym ninnau lawer gwell ? When we have time to settle down again it will become clear that in this controversy Jesus Christ has been deprived of almost all significance and value for this world. His claim of all power and authority, and the apostolic faith in His historical and cosmical signi- ficance, have been implicitly abandoned. And what is left ? Why, just as much place as the German State Theologian is willing to give Him a mystic companion- ship, an inner shrine while externally life is organised and politics are conducted on entirely different principles.' A wad neb nad oes llawer o wir yn hyn ? Ac ai nid hyn yw un o'r rhesymau paham mae yr Eglwys mor ddiymadferth a digynnwrf, mor ddi-weddi a theneu ei chynulliadau yn y dyddiau hyn ? Ai nid ydym yn ymarferol wedi troi cefn arno ? Nid oes sel na brwdfrydedd, nid oes ymostyngiad na disgwyliad duwiol, i unrhyw raddau amlwg o fewn magwyrydd y ty, a bydd raid i ni ymofyn eto ag Ef cyn y tyr y wawr. O'r ffynhonnell hon gwel Dr. Orchard berygl newydd yn bygwth yr Eglwys. Onid yw gwladgarwch eisoes i ryw raddau yn disodli crefvdd ? Dyma'r delfryd a'r symbyliad welir ac a deimlir ar bob Haw. Yn wir, awgrymir yn weddol blaen mai hwn yw yr unig iawn sy'n ofynnol er cadwedigaeth. Marw'r milwr dros ei wlad ac nid marw mawr Calfaria yw'r drws i fywyd ar lafar crefyddwyr yn ogystal a gwleidyddwyr a chadfridogion heddyw. Na chamddealler ni. Nis gall neb yn ei synnwyr a'i bwyll ddibrisio aberth olaf a gogoneddus ein bechgyn annwyl, ac ni