Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
I Y WERS SABOTHOL. 4 ! YWERSSABOTHOL.i
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
I Y WERS SABOTHOL. 4 Y WERS SABOTHOL. i | Y WERS RYNGWLADWRIAETHOL. t Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, I < M.A., B.D., Abertawe. t MEDI 30am.—Daioni a Thoster Duw.—Daniel ix. 3-19 (Adolygiad Gwersi'r Chwarter). Y TESTYN EURAIDD. Trugarog a graslawn yw yr Arglwydd hwyrfrydig i lid, a mawr o drugarowgrwydd.'—Salm ciii. 8. TESFYNAU YMDDIDDAN. i. Y goleuni deflir ar y Testy n Euraidd ucliod gan yr hanes fu dan sylw. 2. Proffwydi'r cyfnod a'u gwaith. 3. Perthynas dirywiad crefydd a moesau a dinistr cenedl. 4. Achosion diwygiadau Josiah. 5. Gwlad fechan rhwng dwy ymerodraeth fawr. Judah rhwng Assyria a'r Aifft. Cymharer Bel- gium heddyw.
CYMANFA DDIRWESTOL DEHEUDIR…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CYMANFA DDIRWESTOL DEHEUDIR CYMRU A MYNWY. At Olygydd y Tyst. SVR,-C-aiiiatewch i mi wahodd y Cyrddau Misol a Chwarterol, a'r Cymanfaoedd, i benodi cynrychiolwyr i gyrddau blynyddol y Gymanfa ucliod, y rhai a gynhelir ym Mhenygraig a Thre- william, ddydd Iau, Hydref y i8fed, 1917, ac anfon yr enwau a'r cyfeiriadau i mi yn juan. Yr eiddoch, MORRIS MORGAN, Ysg. Irvonia,' 73 King Edward's-road, Swansea.
DIOLCHGARWCH. I
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DIOLCHGARWCH. At Olygydd y Tyst. SYR,-Caniatewch i ni ddiolch yn gynnes iawn i bawb anfonasant i holi hanes ein mab Eben, ac hefyd i gydymdeimlo a ni ac a'i briod ieuanc yn wyneb yr amgylchiadau. Hysbysodd yr Awdurdodau ei fod ar goll oddiar y Isfed o Fedi y flwyddyn ddiweddaf, ond clywsom o ffynhonnell arall ei fod yn ddiogel bedwar diwr- nod ar ol hynny, ac felly gobeithiem y goreu am dano o hyd. Erbyn hyn ofnwji y rhaid i ni gredu iddo golli ei fywyd yn y frwydr gyntaf y bu a rhan ynddi. Mae brodyr inni aeth ymla'n Drwy ddyfnach dwr a phoethach tan/ ond gwerthfawr iawn gennym ni fel hwythau yw pob arwydd o gydymdeimlad. Dros y teulu a'r perthynasau oil, Bryn Hawen, DAN EVANS. Medi 15fed, 1917-
AT OLYGYDD Y 'TYST.' "II
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT OLYGYDD Y 'TYST.' SYR,—Da y gwna Mr. Pari Huws alw sylw eich darllenwyr at beryglon prynu'r fasnach feddwol. Ni ddylem anturio ar ffordd newydd heb ystyried hyd y gallwn beth a olyga hynny. Nid oes gennym ddewis ond rhwng dau gwrs peryglus-gadael pethau fel y maent, neu gefnogi awgrym y Llywodraeth i brynu'r Fasnach, a thrwy Ddewisiad Lleol, yn araf fel y daw barn y wlad yn addfed, ei hatal. Swm a sylwedd llith Mr. Pari Huws ar y mater yw-anobaith. Cred na defnyddiai'r wlad y Dewisiad Lleol i atal y Fasnach ar ol ei gael. Os cywir hynny, hollol ofer, ac anghyfiawn hefyd, fyddai gofyn i'r Llywodraeth lwyr atal y Fasnach: oblegid ni ddylai Llywodraeth mewn gwlad werinol fynd lawer o flaen y farn gyhoedd; a phe yr aethai, dilynai adweithiad peryglus fel a ddaeth yn amser Siarl II. ar ol y Piwritaniaid. Credaf fod Mr. Pari Huws yn gywir yn ei dyb nad yw'r wlad yn gyffredinol yn barod i lwyr atal y fas- nach feddwol; ond o'r tu arall credaf fod rhai o'r ardaloedd yn addfed, a phe cymerid allan y budd a'r elw personol sydd y tu ol i'r Pasnach yn awr, na fyddai'n anodd cael llawer ardal i gau ei thafarndai. Ni cldylem golli golwg ar ffaith bwysicaf yr holl fater na fedr dim a wna'r Llywodraeth sobri gwlad. Gwaith cref- yddol a moesol i Eglwys Crist yw hynny. Yn y pen draw rhaid ei wneud trwy berswadio dyn- lon, a thrwy alluoedd ysbrydol crefydd. Y cwbl a all y Llywodraeth wneud yw symud y rhwystrau a osododd hi ei hunan ar ffordd yr Eglwys. Credaf fi yn gryf y byddai prynu'r Fasnach gan y Wladwriaeth, a rhoddi Dewisiad Lleol i'w dileu, yn rhoddi chware teg a rhwydd- ineb i'r Eglwys berswadio'r wlad, oarclal i ardal, ac o dref i dref, ac o Gymru i Loegr, i sobri ei holl derfynau o'r diwedd. Ac erbyn hyn mae llawer o weinidogion Cymru yn dod i'r un farn. Gwir a ddywed Mr. Pari Huws nad oedd enwau llawer o weinidogion yn y rhestr o gefnogwyr y Prynu a'r Dewis Lleol a gyhoeddwyd dde- chreu'r haf ond y mae ger fy mron yn awr restri o enwau cefnogwyr y mudiad yn cynnwys yn agos i dri chant o weinidogion y gwahanol enwadau, a gwn am lawer o gefnogwyr nad ydynt wedi ysgrifennu. Hyd y gwelaf fl, nid oes ffordd arall i symud ymlaen. Yr eiddoch, &c., Bangor, T. REES, Medi i^fed, 1917.
VEGLWYSI ANNIBYNNOL HEB WEINIDOGION…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
VEGLWYSI ANNIBYNNOL HEB WEINID- OGION ARNYNT.' At Olygydd y Tyst. SYR,—Cytimwn a'n cyfaill Arthen ar lawer ystyr er hynny, tybed nad yw'r prinder yn awgrymti gochelgarwch ar y llaw arall ? Yn ddiau bydd y cyflenwad yn lleihau am gryn amser, yn arbennig ymgeiswyr am y weinidog- aeth on Colegau, canys mae'r sefydliadau hynny yn alarus o wag, ac yn debyg o fod am gyfnod eto. Felly, i lanw lie y cyfryw a ymddeolant ac a ant at eu gwobr yn ystod y pump a'r wyth mlynedd nesaf, a dweyd y lleiaf, bydd bron yn gwbl fethiant. Gall gweinidog newid ei faes, ond bydd eglwys wag o'i ol. Llawenydd mawr i ni yw purdeb y weinidog- aeth ers blwyddi lawer er hynny gallai ragori mewn diwylliant mewn ami gwr o Gymru, yn wyneb y bri roddir ar golegau a chyfryngau addysg gan ein cenedl, gyda'r asbri gymhella liaws o efrydwyr uchelgeisiol drwy fyned am gwrs i Rydychen, Caergrawnt, Glasgow, Edin- burgh, &c., wedi gorffen eu hefrycliau yng ngholegau Cymru. Ac onid y disglair ei allu- oedd, fel rheol, yw'r mwyaf brwd am ragori mewn cymhwyster ? Pwy leinw gadeiriau ein colegau yng Nghymru ond rhai wedi aberthu galwadau er mwyn ymberffeithio yn ol y de frydau urddasol a chysegredig y cynhyrfir hwy ganddynt ? Ysir hwy gan syniad o arucheledd porthi praidd Duw, ac ofn sanctaidd rhag i'r goleuni sydd ynddynt fod yn dywyllwch, ac o ganlyniad gamarwain y defaid neu feithrin gweiniaid yn y wybodaeth am Grist. Oni abertha ugeiniau o rieni gysuron lawer mewn trefn i addysgu eu meibion ar gyfer y gwaith holl-bwysig o iawn hyfforddi'r rhaj. chwenychant ddilyn traed y Dihalog ? Pwy, roddodd yng nghalon hyrwyddwyr diwylliant i adeiladu sef- ydliadau addysgol a phenodi athrawon profedig, ond rhai aiddgar am ddiwallu amgyffredion dat- blygiadot dynoliaeth, a'u hysbryd yn llosgi gan sel dros y goreu i'r Hwn ddygodd fywyd ac anllygredigaeth i oleuni ? Clywsom ddywedyd nad yw coleg o werth heb ras. Amheuwn ras y mynegiad dir- mygus. Gwyddom am rai enghreifftiau gogon- eddus o rai enwogion heb groesi trothwy coleg, ond i roddi anerchiadau i fyfyrwyr, eto sydd wedi addurno'r weinidogaeth ag hufen yr Efengyl, a'u cenedl a llenyddiaeth goethedig, a'r nwyd i bregethu wedi eu coroni filwaith ar furiau Seion. A'n hamcan yn hyn, Mr. Gol., yw deffroi eglwysi i bwysigrwydd gwyliadwriaeth mewn gwahodd rhai i'w harwain yn yr argyfwng sydd ar ein gwarthaf, oblegid canfyddwn berygl i ddarostwng urddas y Pulpud wrth ruthro i geisio pregethwr a gweinidog yn ystod y blyn- yddoedd nesaf yn ffyniant y cyflenwad prin, Gwir mai Duw yw perchen y gwaith, eithr ymddirieda Ef mewn- dyn o oruch.wyl.iwr~-a daw dydd cyfrif. Pwysleisiwn yr uchod yn neilltuol yn wyneb y rhysedd ymgeisiol boenydia ambell eglwys wig yn ein Henwad. Gadawer i edmygedd yr eglwys fod vn brif cvmhellvdd gwahoddiad. Yr eiddoch, I PLKNTYN LIJURUK.
REGISTRATION AND PUBLICATION…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
REGISTRATION AND PUBLICATION OP NAMES OF DIRECTORS- To the Editor of the Tyst. SIR,—The Companies (Particulars as to Direc- tors) Act, 1917, which received the Royal Assent on the 2nd instant, is an important measure applying the principle of the Registration of Business Names Act to all Companies. In normal times the Bill would have encountered strenuous opposition, but owing to the pre- occupation of Parliament its passage through both Houses has been easy and expeditious, and it has largely escaped public attention. It may, therefore, be of service to your readers to have the principal provisions of the Act summarised. They are as follows The Annual List and Summary entered in the Register of Members and the Register of Directors, and the copies thereof filed with the Registrar of Companies, must now set out the following particulars concerning the Directors (a) The present Christian name or names and surname of every Director. (b) Any former Christian name or names or surname of every Director. (c) The nationality of every Director. (d) The nationality of origin (if other than the present nationality) of every Director. (e) The usual residence of every Director. (f) The other business occupation (if any) of everv Director. Companies registered since the 22nd Novem- ber, 1916 (and, therefore, under suspicion, seeing that the object of formation may have been to evade the provisions of the Business Names Act, which was then passing through Parliament, and became law a month later), are not permitted to wait until the next Annual Return or Copy Register of Directors is due, but must enter such particulars on a separate Form, and cause it to be filed not later than the 2nd September. They must also on and after the 3rd November set out in all trade catalogues, trade circulars, showcards, and business letters the names of the Directors and any former names by which they were known, and the nationality of any who are not British, or the former nationality where a change has at any time been effected. The expression Director is given a wider meaning with the object of bringing to light the man who pulls the strings,' and it now includes any person who occupies the position of a Director, and any person in accordance with whose directions or instructions the Directors of a Company are accustomed to act.' Yours faithfully, JORDAN & SONS, LIMITED. 116, Chancery Lane, London.
Pwyllgor y 'Caniedydd Cynulleidfaol'…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pwyllgor y 'Caniedydd Cynull- eidfaol' a Chaniedydd yr Ysgol Sul." At Olygydd y Tyst. SYR,—Dymunir eich hynawsedd i ddwyn gerbron yr eglwysi benderfyniad y Pwyllgor uchod, Medi'r iofed, i godi pris y copiau Sol-ffa o'r 'Detholiad' o bedair ceiniog y copi i chwecheiniog. Mae'r codiadau ym mhris papur a phob nwyddau rhwymo ac argraffu, a'r cyflogau, a'r cludiadau, &c., yn gwneud hyn yu orfodol. Felly, o hyn allan, 6c. fydd pris y copiau Sol-ffa. Erys y copi Hen Nodiant yn 1/- fel o'r blaen. Yr eiddoch dros y Pwyllgor, D. MORGAN DAVIES, Ysg. Y Llyfrfa, Abertawe, Medi iofed, 1917.
Tysteb y Parch. W. C. Jenkins,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Tysteb y Parch. W. C. Jenkins, Capel. Sul, Cydweli. Gwelais yn y TYST ryw wythnos yn ol air fod tysteb i'w chyflwyno gan eglwys Capel Sul i'r Hybaroh W. C Jenkins i ddathlu pen blwydd ei banner oanrif yn y lie fel gweinidog yr eglwys; ond er fy syndod, wedi chwilio am dano yr wythnos hon, y mae wedi dianc o oleu dydd. Gan fod pobl ei ofal mor garedig a pharchus o'r hen gyfaill sydd wedi llafario am ysbaid mor faith yn y winllan dros y Meistr, y mae teimlad o'r tuaUan i'r eglwys hefyd y dylasai hyn o beth gael sylw ein hunig bapnr wythnosol o hyn i amser oyflwyno y dysteb, gan fod yr amser mor fyr, a llu o gyfeillion a garant fel fy hnn daflu eu hatling i'r drysorfa. Byddai'n ofid i lawer i hyn o fraint fynd heibie heb yn wybod iddynt. CYFAILL.