Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ER COFFADWRIABTH ANNWYL I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ER COFFADWRIABTH ANNWYL Am Robert Mandry, Florosilach. yr hwn fu yn flaenor ffyddlon a diwyd yn eglwys Cadle am 38 0 flynyddoedd, ac yn gyhoeddwr am amryw flynyddoedd. Hunodd yn yr Iesu Mai 2.^>ain, I9IJ. DYN a'r nefoedd yn ci wyneb Ydoedd Robert Mandry ffyddlon, Fyth a'i enaid mawr mewn undeb A'r tragwyddol, dwyfol Berson Tynnai fendith i gyfarfod Pan wrth orsedd gras yn eiriol- Bendith fyw fel inaethlawli gawod I deimladau pawb presennol. Byw i grefydd—dyma'i wynfyd; Pechod ofnai'n fwy nag ajigea; Gwasgar goleu Gair y Bywyd Byddai beunydd ar ei oreu Ffydd a gobaith fel angylion Roddent iddo ddatguddiadau,— Yntau'n dysgu ei gyd-ddynion Y ffordd oreu i ddwyn en aroesax. Os ei oilef oedd yn llQddfol, Nerthol iawn ei ddoethion eiriau Er i'w galon fod yn ysol, Byddai'i ddeall yn y goleu Cerddai lwybrau'r addewidion Gyda'i bwys ar fraich yr Iesu, A dangosai erddi ffrwyfhlon Grawnwin Duw i'r dynol deulu. Gwelais ef inewa llawer oedfa Fel yn cydio'm mhren y bywyd, Gan ei ysgwyd ger y dyrfa Nes y byddai'i ffrwythau hyfryd Yn doreithiog iawn yn syrthio I g61 serch ei gydfforddolion, Y rhai wleddent arnynt yno Gyda bias a llonder calon. Awr o'i gwmni, 0 nior felys I rai drylliog dan eu loesau Balm i galon y traffertliu3 Ydoedd cynnwys fi'rwythau'i eiriau Cael y byd i fywyd iachach Oedd hyfrytaf waith ei fywyd, A gwneud dyilioxi Duw yn lanach Ar eu ffordd i'r trsgwyddol-fyd. Cofio wyf pan oeddwn blentyn Am ei gynnes ocheneidiau, Cofiaf hefyd am y deigryn Gloyw, byw, a fwydai'i ruddiau; Ond pwy ddirnad faint y teimlad Oedd yn fywyd y rhai hynny ? Anawdd iawn yw gwybod cariad Dynion da fel Robert Mandry. Ty ei Dad oedd ei breswylfa—• Yma byddai'i oleu'll llosgi Gwledd i'w enaid oedd cael fcyrfa I glodfori'r Arglwydd Iesu Gwerth y gwaed a'r marw Iawaol Fyddai tannau goreu'i delya, Ac arhosa'r cordiau swynol Gawsom ganddo lawer blwyddyn. Ond mae ef yn awr yn eisiau,- Syrthio wnaeth o rengau'r lluoedd, ?to aros mae'i rinweddau Gyda'r gwaith o wella'r miloedd; Fel y Ceidwad, mae ei enw Ddydd a nog yn perarogli, A braidd tybiwn fod ei farw Yn nerth newydd i ddaioni. Cysged bellach yn ei wely, Gwnaeth ei ddydd o waith yn ouest Pan ddaw'r aimer i gyfodi, Yn ei law bydd baner concwest: Angeu wedi'i lwyr orchfygu Ganddo ef a phawb o'r seintiau, Bywyd perffaith yn eu cylchu Yn y nef am oes yr oesau. Ftorestfach. D. T. EVANS.

Advertising