Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

r; SUL YN LLANBEDROG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

r; SUL YN LLANBEDROG. GAN BODRAN. Ar y 2gaiii o Orffennaf diweddaf yr oedd fy nghyhoeddiad yn Llanbedrog a Mynytho, ond ni chefais g-yfle hyd yn hyn i adrodd yr hanes. Ceisiaf wneuthur hyiixv mor gryno ag y gallaf, gan adael i ddychymyg y darllenydd addurno'r ffeithiau moel. Cyrhaeddais i'r pentref yn brydlon ar bryn- hawn Sadwrn, yn gynt nag y disgwyliwn, gan i yriedydd niodilt roddi lifft i mi yr holl ffordd o Fotwnog yno. Dychwelyd o Aberdaron i Benygroes yr oedd, a dywedai ei bod yn annifyr teithio ar ei ben ei hun. Buasai yn teithio yr holl ffordd o Merthyr Vale i Gaernarfon, ac yn cyflawni llawer o'r daith gefn nos. John oedd enw fy nghydymaith difyr a chymwynasgar; I ond nid yw yn debyg y gwel y eyfeiriad hwn, gan nad yw leuenctyd Cymru yn darllen nemor Gymraeg a dichon hefyd ei fod yn y fyddin ¡ bellach. Edrychai yn Ai. Yr oeddy Parch. R. M. Edmunds wedi amlygu ei ddymnniad am gael ymgom nos Sadwrn, ae felly euthum i'w dy ar fy union, wedi cyfarch fy lletywr, ond yr oedd ef newydd gychwyn i Lithfaen gyda'i fachgen. Derbyniwyd fi yn groesawus gan Mrs. Edmunds, a chefais weled cadeiriau a choronau ei hannwyl briod. Bu fy rnken yn y coronau heiyd, ond y mae het gyff- redin lawn mor gysurus. Yr oedd yn dda gennyf ddeall nad am gyfansoddi pryddestau hirwyntog yr enillodd eu perchen y rhai hyn. Yn y Ty Capel y lletywn, gyda Mr. a Mrs. Hugh Hughes, ac ni allwn fod yn fwy cysurus yn unlie. Ar ol tamaid o fwyd, euthum am dro ar fy mhen fy hun, ac euthum ar fy union tua Phen Cilan. Ni buaswn yno erioed o'r blaen, er y buaswn yn Abersoch, lie nad oes gennyf lawer o flas 11a gwynt ato. Y mae yng ngwlad Liyn, fodd bynnag, ac y uaac pob man yn y wlad honno yn gysegredig o'u cymharu ag unlle o'r tu allan iddi. Ond nid oes dim o lwgr Aber- soch ar Ben Cilan, er fod ymwelwyr i'w cael am sbel o'r daith. Y wlad loni ddiaddurn, gyda'i ffyrdd culion geirwon, a'i ;wyn cyfrin ac anoreh- fygol a geir yno. Yr oedd yr haul wrthi hefyd, yn paentio tir a mor ac wybren a chymylau a lliwiau hud a hiraeth, nes peri llesmeirio calon qlyn o'i fewn. Ar fy ffordd yn ol i Abersoch, gwelwn yiiys Enlli o gyfeiriad newydd acinewn gwedd arall. ben Uwch y Mynydd ni welir ond ei thalcen ereigiog dros y swnt, ond gwelwn hi y tro yma yn ei hyd, fel y gwelir hi ar y mapiau, a'r goleudy yn ei chwr isaf. Wrth gwrs, o bell iawn y gwelwn hi, ond adroddwn yn fy nghalon linellau Meilyr Brydydd :— Ynys Fair firain, Ynys Glan y Glaiu Creawdr a'm crewys a'm cynnwys ymhlith Hwyf gwirin gwerin Bnlli! Wedyn deuthum ar draw8 y llinellau hyn iddi yn niwedd cywydd a gyfansoddwyd gan Rys Llwyd ap Rhys ap Riccart yn 1460 :—■ Ni cheir myncd dan cliwarae I Enlli -imvy'n y lie mae Doed hithau, da ;y tuthir, Ynys deg, yn nes i dir Yn Abersoch, ar fy ffordd yn ol, gwelais fath o estrvs mewn cae ar fin y ffordd, a lyncai bob dim a roddid iddi: Rhoddodd ymwelydd ddiinai iddo, ac ni bu dro heb ddiflannu. It will swallow any coin,' ebe wrthyf. Atebai i'w lIe i'r dim. Yr oedd llawer o hysbysebu English Services tuag Abersoch. O'm rhaji fy hun, methaf a deall paham na all ymwelwyr imiaith fyned i'r Eglwys Wladol am y tro. Cristion sal yw hwnnw na all addoli gyda'i Srodyr o enwad arall am dro. Ac os na cheir gwasanaeth Saesneg yn y Llan, gellir dilyn yn hawdd gyda chymorth Llyfr Gweddi. Y mae gennyf eto yn fy medd- iant ddalen yn hysbysu y byddai'r Parch. R. J. Campbell yn gwasanaethu yn Abersoch naill ai ar y Sul, Awst 5ed, neu ar y nos Fawrth gan- lynol, neu'r ddau, gan fod Saesneg yr hysbysiad yn dywyll ac amwys i mi. Seats all free All seats free a dciywEdaswii i, ond yr 1Ul yw'r gwirionedd, pa fiordd bynnag y geirir ef. Clywais ganmol i Mr. Campbell yng nghyfarfod y gweinidogion ym MhwllheM. Trodd y cyfarfod yn gyfarfod gweddi, ae yntau yn cydweddlo a'i frodyr. Buaswn yng Nghricieth yn rhoddi tro cyii hynny, a gwelswn yr hysbysiadau amdano yno. Ymddengys i mi ei fod yn trardio ei wyliau yii dra chrefyddol tybed eu bod yn salach iddo oblegid hynny ? Y mae brodyr na ddywedant air o'u pennau yn gyhoeddus pan ar eu gwyliau. Pregethais ym Mynytho bore Sul. Y mae'r capel mewn man dymunol o'r neilltu oddiar y ffordd fawr. Cefais fy mhlesio yn fawr iawn yno. Dywedodd un brawd eu bod Y11 synuu fy nghael yr un siarad a hwythau. Llawenliawn innau eu cael yr un siarad a minnau—ie, yr un feddsvl a'r un galon. Ni buaswn ym Mynytho o'r blaen, ond teinilwn yn gartrefol yno yn y fan, am ein bod o'r un iaith ac o'r un ysbryd. Ni choelia'r darllenydd y fath wahaniaeth a wna i'm tipyn clyw gael pobl hollol gyfiaith. Wrth ymddiddan a rhai felly anghofiaf fy myddardod yn 11wyr am y tro. Gofynnwyd i mi a welswn yr Hen Gapel Newydd erioed. Ni welswn inohono, ac yr oeddwn yn wyllt am ei weled, a phregethu ynddo hefyd, pe cawn. Eithr yr oedd gorchymyn i mi ddyfod i'r Ysgol Syl i Lanbedrog, ac er y teimlwllna byddwn i o ddim daioni yno, barnwn inai doethach fyddai i ddyn dieithr fel myfi ufuddhau. Ond cefais weled yr hen gapel, serch hynny. Daeth rhai o'r brodyr i'w ddangos i mi, a dywedasant hefyd y buaswn yn sicr o lond capel o gynulleidfa pe cawswn fy llghy- hoeddi 1 bregethu yno. Y mae'r hen gysegr hwn mewn man na buaswn i byth Yn breitdd- wydio am gael capel ynddo, ond mil o'r mannau addasaf i addoli ynddo, serch hynny. Yn anffodus, nid oes gennyf ddim o'i hanes wrth law, ond dywcd y Year Book mai yn 1767 y sefydlwyd yr eglwys. Y mae wrth y capel hen fynwent, ond ni wiw i mi ddywedyd llawer am gyflwr honno, rhag brifo teimladau pobl fu mor garedig wrthyf. Ac y mae digon o fynwentydd diymgeledd yn Llyn. Am y capel ei hun, y mae ynhen ffasiwn y tu hwnt i ddim a welais erioed, gyda llawr pridd a mwswgl glas drosto, a tho agored wedi ei wyngalchu. Y mae'r pulpud yn ei hyd, gyda dau ddrws obobtu iddo, a rhed elrwy ganol y capel lwybr llydan, digon i drol a inul ymron. Ar gyfer y pulpud, a'r oclir draw i'r llwybr, ceir corau mawr ysgwar, ac eraill culach yn en hymyl, lle'r eisteddai boneddigion Nanhoron yn yr hen ftmser gynt. Dywedir fod bedd. un ohonynt dan y llawr. Paent llwyd defosiynol sydcl ar y gwaith coed, a chroga ser canhwyllau heirdd a gweddus o'r to. Y mae rhyw naw^ ac urddas annisgrifiadwy yn perthyn i'r fangre, a da gennyf ddywedyd fod y brodyr mor selog a minnau^am i mi gael cyfle i bregethu yno y tro nesaf.' Da gennyf ddywedyd i mi gyrraedd yn bryd- lon i'r Ysgol Sul, lie dieithr lawn i mi bellach. Gofynnwyd i mi ddechreu, a gwneuthum. Yna gofynnwyd i mi ddyfod i ddosbarth, ac euthum. Gofynnwyd i mi holi ychydig o gwestiynau, a gwneuthum hynny hefyd, a rhywfodd, drwy garedigrwydd diball y doctoriaid y cefais fy anfon atynt, cafwyd prynhawn difyr iawn. Ymhen sbel, cefais ar ddeall nad oedd yno yr un athro felly dichon fy mod yn esgus o ddysgu dosbarth yn yr Ysgol Sul—yn y cyflwr yma Fel y gwyr y cyfarwydd, yn Nhremvan, Llan- bedrog, y preswylia Dr. Gwenogvryn Evans. Yn awr, ei hwsmon yw Mr. Hughes, lie lletywn i. Wedi oedfa'r nos aetliom gyda'11 gilydd i weled y fferm a'r anifeiliaid yn gyntai, ac yna i weled eu perchen llafurus a diwyd. Er nad yw Gwenogvryn yn canlyn gyda ni,' daethai i oedfa'r nos i'm gwrando, o barch, yn ddiau, i'm diweddar frawd Edward. Y mae Tremvan y tie gogoneddusaf o'i fath a welais erioed. Y mae natur a clielfyddyd wedi ymuno i'w wneuthur yn lie heb ei hafal am brydferthwch a hyfrydwch. Gwelir holl Fae Aberteifi yn ymestyn ar gylch o'i flaen, a dywedwn wrth y Doctor mai dyna'r man goreu ynLlanbedrog. Dywedodd yntau i gyfaill ei hysbysu nad oedd Bae Naples i'w gymharu i'r olygfa a ymledai o'n blaen. Ond eisiau gwybod rhywbeth am ei waith oedd arnaf fi. Fel y gwyddys, y mae yn copio ae yn argraffu hen lawysgrifau fel y maent -a dyna'r gamp Y mae ei argraffiad o Lyfr Du Caerfyrddin yn orchest 11ftw 11 argraffu, a dywedodd wrthyf na cheid yr un swyddfa argraffu a ai i'r drafferth. Wele frawddeg o'i ragymadrodd ei hun a rydd syniad am aruthredd y gwaith These capitate are of all sizes, involv- ing the use of fourteen distinct founts on differ- ent sized bodies.' Gwelais gan y Doctor un llyfr na welodd y darllenydd inohono eto, sef ei argraffiad o'r farddoniaeth yn Llyfr Coch Her- gest. Ni chyhoeddir ef oblegid y rhyfel, gan fod ar y golygydd eisiau cael papur i argraffu ei ragarweiniad hefyd. Cefais y fraint fawr o weled adyjtgrifiad gwreiddiol y Doctor 0 amryw o'i lyfrau. Y mae'r adysgrifiadau hyn yn gyf- rolau heirdd, wedi eu rhwymo mewn croen llo, a chydag ymylon aur. Y mae'r testyn yn ddar- lun cyflun o'r gwreiddiol, ac y mae'r ysgrifen mor eglur a destlus nes synnu dyn fod y fath beth yn bosibl yn yr oes hon. Cofied y darllenydd nad copio geiriau yn unig a wneir, ond coplo eu cyflead a phob un dim y gellir ei arddangos mewn copi, fel, pe dinistriesid y gwreiddiol, y gallai dyn wybod i'r dim sut yr oedcl, linell am linell, air am air, a llythyren am lythyren. Ni welwn 61 cywiro ar y copiau hyn, ac yr oeddynt mor lan nes peri i ddyii ameu a fuont yn llaw yr argraffydd o gwbl. Ond medd Mr. George Jones, y cysodydd, rinweddau na fedd pob argraffydd mohonynt, ac ni raid iddo ef weddio yn llythrennol, beth bynnag), Dilea 61 ein bysedd duoii oddiar y gvsraith.' Yr oedd un arwydd ar -y copi, fodd bynnag, a ddanghosai mai copi ar gyfer argraffydd ydoedd, sef y rhifau, o un livd chwech, a ddanghosai ba faint o ofod oedd i fod rhwng y geiriau. Mewn argraffu cyffredin amrywia'r rhai hyn yn ol tyndra neu lacrwydd y llinell. Rhaid i'r ddwy ymyl fod yn wastad, ac i siarhau hyn rhaid cyfiawnhau y llinellau oreu gellir eithr nid argraffu cyff- redin a wneir dan gyfarwyddyd Dr. Gwenogvryn Evans. Anturiais ofyn un cwestiwn iddo Pe buasai yn copio ei lyfr cyntaf yn awr, gyda'r holl brofiad a fedd, pa faint yn rhwyddach y cyflawnai'r gwaith ? Tebygai mai ei wneud yn salach a wnai, oblegid nid yw dyn yn gwella wrth fynd yn hyn, ineddai et. Dywedodd v/rthyf sut yr oedd gweld ol llythyren ar lawysgrif wedi i'r inc ddiflannu, a rhyw fanylion fel yna oedd yn dra diddorol i mi. Yr wyf fimiau ar waith sydd yn gofyn y cywirdele caethaf, ond hyd yn hyn methu ei gyrraedd yr wyf. A thybed nad yw dyn yn gwella wrth heneiddio ?

Advertising

I Cynorthwywyr Merthyr Tydfil.