Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
2 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
2 erthygl ar y dudalen hon
Cyngor Cenedlaethol Eglwysi…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru. Cyfarfu Pwyllgor Gweithiol y Cyngor hwn yn Llandrindod ddydd Gwener, Medi 14eg, dan lywyddiaeth Syr Beddoe Rees. Yr oedd yn bresennol heblaw y Llywydd :—Parchn. Thomas Hughes, Felinheli; H. M. Hughes, B.A., Caer- dydd (Is-lywyddion) Mr. P. Wilson Jones, F.A.I., Drenewydd (Trysorydd) Parch. John Roberts, M.A., Caerdydd (Ysg.) Parchn. D. H. Williams, M.A., a J. Lewis Evans, Barry B. T. Evans, Llanilltyd Pawr W. D. Rowlands ac E- Ungoed Thomas, Caerfyrddin; James Jones, B.Sc., Llandrindod; O. L. Roberts a David Powell, Lerpwl Prifathro W. Edwards, D.D., Caerdydd Gwilym Davies, M.A., Y Fenni; Gwilym Rees, M.A., Merthyr T. H. Williams, Casnewydd Owen Owens, Llanelwy; Jacob Jones, Merthyr Evan Isaac, Treharris David Davies, Penarth yr Athrawon Joseph Jones, M.A., B.D., a D. Miall Edwards, M.A., Aber- honddu R. Aethwy Jones, M.A., Lerpwl; E. W. Davies, Ton G. Penar Griffiths, Abertawe Henry Abraham, Casnewydd A. C. Pearce, Ty Cerryg; y Cynghorwyr Richard Jones, Y.H., Caersws, ac Evan Owen, Y.H., Caerdydd yr Athro T. A. Levi, M.A., Aberystwytlf; Mrs. Lloyd, Castellnewydd Emlyn Mri. J. E. Powell, Y.H., Gwrecsam Robert Evans, Barry H. D. Phillips, Llandrindod, a William George, Cricieth. i. Darllenwyd llythyrau yn datgan eu hanallu i fod yn bresennol oddiwrth y Parchn. P. B. Meyer, B.A., D.D. H. Cernyw Williams, D.D., Corwen D. Tecwyn Evans, B.A., Birkenhead D. Gwynfryn Jones, Pflint Charles Davies, Caer- dydd O. D. Campbell, M.A., Hwlffordd; Mrs. Herbert Lewis a Mr. John Owens, Y.H., Caer. 2. Pasiwyd penderfyniad o gydymdeimlad dwys a'r Parch. J. H. Parry, Llansamlet, yn ei brofedigaeth chwerw o golli dau fab yn y rhyfel, a llongyfarchwyd Syr Garrod Thomas ar ei etholiad i'r Senedd. 3. Rhoddwyd croesaw cynnes i'r. Parch. Evan Isaac ar ei ddyfodiad i'n plith am y waith gyntaf fel Llywydd Cymanfa'r Wesleaid Cymreig, a chyflwynodd y Llywydd ddymuniadau goreu'r Cyngor i'r Parch. James Jones, Llandrindod, ar ei ymadawiad i Loegr. 4. I lenwi'r tri bwlch oedd ar y Pwyllgor Gweithiol, dewiswyd y brodyr canlynol Parchn. J. Hugh Edwards, A.S. David Oliver, D.D., Treffynnon, ac M. H. Jones, B.A., Ton. 5. Adroddiad yr Ysgrifennydd.—Darllenwyd llythyrau dderbyniwyd oddiwrth yr Aelodau Seneddol Cymreig, mewn atebiad i'r llythyr anfonwyd atynt gan yr Ysgrifennydd ynghylch penderfyniad y Cyngor ar Ddatgysylltiad, a'r awgrymiadau sydd wedi ymddangos yn y wasg ynghylch eu safle hwy ar y cwestiwu a phas- iwyd y penderfyniad canlynol, ar gynygiad y Parch. David Davies, yn cael ei eilio gan y Parch. O. L. Roberts Fod Pwyllgor Gweithiol Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru yn datgan ei ymlyniad diymod wrth Ddeddf Datgysylltiad yn ei holl adrannau fel eu ceir ar Ddeddflyfrau'r wlad ei fod hefyd yn datgan ei lwyr foddlonrwydd ar atebion y mwyafrif o'r Aelodau Seneddol sydd eisoes wedi rhoddi ateb- ion llawn a boddhaol i'r' cwestiynau ofynwyd iddynt ar ran y Cyngor ynghylch eu safle ar hyn o bryd viiglyn a'r mater ond gan fod saith o'r Aelodau heb anfon hyd yma unrhyw ateb- iad, ein bod yn gofyn i'r Ysgrifennydd i anfon eilwaith at y saith hyn, a cheisio ganddynt ateb- iad pendant i'n hymofyniad.' 6. Cyflog Milwyr.—Mewn atebiad i genadwri dderbyniwyd oddiwrth Cyngor Aberafon, pas- iwyd y penderfyniad canlynol ar y mater hwn, ar gynygiad y Prifathro W. Edwards, yn cael ei eilio gan y Parch. H. M. Hughes Tra nad yw'r Cyngor hwn yn ystyried fod penderfynu cwestiynau cyffredinol sy'n codi rhwng Cyfalaf a Llafur yn rhan o'i waith arbennig, eto dymuna alw sylw at y safle hollol anfoddhaol y gosodir ein milwyr ynddi drwy'r cyflogau isel ac anni- gonol delir iddynt, ac yn gobeithio y bydd i'r Llywodraeth, ar dir cyfiawnder, yn ddioed symud ymlaen i wella'u safle.' 7. Dathliad Daucanmlwyddiant Williams, Pantycelyn.—Derbyniwyd penderfyniad oddi- wrth Bwyllgor Cyfarwyddol Undeb yr Annibyn- wyr Cymreig yn cefnogi yn galonnog y mudiad hwn, ac yn annog Cyngor Cenedlaethol Eglwysi Rhyddion Cymru i gymryd y mater i fyny, a gwneud y trefniadau angenrheidiol i sicrhau dathliad teilwng. Cydsyniwyd a hyn ar gynyg- iad y Parch. O. L. Roberts, yn cael ei eilio gan y Parch. G. Penar Griffiths, ac ymddiriedwyd. i'r Ysgrifennydd ddwyn hyn oddiamgylch drwy sicrhau. cydweithrediad rhwng y Cynghorau Lleol ag unrhyw gorff arall sydd, eisoes yn gwneud trefniadau ar gyfer hyn. ? 8. Gwrthwynebwyr Cydwybodol.— -Derbyniwyd cenadwri ar hyn oddiwrth Cymdeithas y Cymod, a phasiwyd y penderfyniad canlynol, ar gynyg- iad y Parch. Jacob Jones, yn cael ei eilio gan y Parch. Gwilym Davies Ein bod yn gofidio yn fawr oherwydd y dull y trinir llawer o Wrth- wynebwyr Cydwybodol, ac yn galw yn daer am ei newid; ein bod hefyd yn apelio at y Llyw- odraeth i wneud ymchwiliad diymdroi i wein- yddiad Deddfau Gwasanaeth Milwrol yn eu perthynas a'r Gwrthwynebwyr Cydwybodol.' 9. Adroddiad yr Is-bwyllgor Ariannol e ChytJ- redinol.—Cadarnhawyd penderfyniad yr Is- bwyllgor hwn yn trefnu fod dirprwyaeth fechan yn cael ei gwneud i fyny o'r Llywydd, y ddau Ysgrifennydd, a'r Cynghorwr Evan Owen, i weled Canghellor y Trysorlys a cheisio sicrhau fod cyngherddau a chyfarfodydd o'r fath gyn- helir yn ein heglwysi yn cael eu rhyddhau oddi- wrth yr Entertainments Tax. 10. Adroddiad Is-bwyllgor Cwestiynau Cym- deithasol a Reconstruction.—Cyflwynodd yr Is- bwyllgor yr adroddiad canlynol:— (a) Fod Mr. William George i fod yn gadeirydd, a'r Parch. Gwilym Davies yn is-gadeirydd arno. (b) Polisi Dirwestol i Gymr-u.-—(1) I sicrhau ein ffyniant cenedlaethol a diogelu buddiannau moesol a thymhorol y bobl, y dylid gwahardd gwneuthuriad a gwerthiant diodydd meddwol yn ystod y rhyfel a thymor diarfogiad- (2) Y dylai Cymru, yn holl fesurau gweinyddol a Deddf- wriaeth Drwyddedol y dyfodol, gael ei chyd- nabod a'i thrin fel rhanbarth ar ei phen ei hun. (3) Hyd oni cheir Deddfwriaeth Ddirwestol ychwanegol, y dylai'r holl atalfeydd osodwyd ar y Fasnach gan y Central Control Board barhau mewn grym a chael eu cryfhau. (4) Pod pobl Cymru i gael hawl i reoli adnewyddiad a chan- iatad trwyddedau, ac, os dymunir hynny gan fwyafrif etholwyr unrhyw ranbarth, i atal y cyfryw ar daliad iawn teg o Drysorfa'r Wlad- wriaeth. (c) Cyflwyrnodd y Parch. Gwilym Davies ei adroddiad ef a'r Parch. G. Penar Griffiths o'u hymchwiliad i gynnydd troseddau ymysg plant yng Nghymru, a chymeradwywyd yr adroddiad i'w argraffu a'i ddosbarthu. Cymeradwywyd y cwbl a mabwysiadwyd (b) fel Polisi Dirwestol y Cyngor. 11. Adroddiad Is-bwyllgor Egwyddorion yr Eglwysi Rhyddion.-—-Cadarnhawyd yr adroddiad canlynol: Focl y Prifathro Edwards yn gad- eirydd, a'r Athro D. M. Edwards yn Is-gad- eirydd.' (Carwn pe byddai'r Golygydd fwyned a chaniatau colofn i mi yr wythnos nesaf eto, i egluro'n fyr y gwaith mawr a phwysig sydd o flaen y ddau Is-bwyllgor yma, a'r dull y maent yn gymryd i'w gyflawni.) 12. Ar gynygiad y Parch. David Davies, yn cael ei gefnogi gan y Parch. Thomas Hughes, pasiwyd y penderfyniad canlynol Fod Pwyll- gor Gweithiol Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru, tra yn datgan ei awydd dwfn am adferiad heddwch rhwng y cenhedloedd ac yn apelio'n daer ar Lywodraeth Ei Fawrhydi i acliub y cyfle manteisiol cyntaf i wneuthur cymod, ar yr un pryd yn annog fod hyn i gael ei wneud, ar delerau a fyddo'n gyson a'r amcanion oedd gennym mewn golwg pan aethom i ryfel, yn sicrhau cyfiawnder a rhyddid i Ffrainc, Belgium, Poland, Serbia a Rwmania, a chenhedloedd gorthrymedig eraill yn dwyn i mewn heddwch teg, cyfiawn a pharhaol, ac yn trefnu mesurau effeithiol ar linellau Nodyn yr Arlywydd Wilson i ddiogelu ac amddiffyn hyd byth yr heddwch hwn.' 13. Coffadwriaeth John Penry.—Cyflwynodd yr Athro T. A. Levi gais am gymeradwyaeth y Cyngor i'r mudiad newydd sydd ar droed i sicrhau coffadwriaeth yr arwr hwn. Caniata- wyd hyn yn galonnog, a phenodwyd y Llywydd a'r Trysorydd i gynrychioli'r Cyngor ar Bwyll- gor y Mudiad. 14. Y Gynhadledd Flynyddol.-Pasiwyd y penderfyniad canlynol ar gynygiad y Parch. D. Davies, yn cael ei eilio gan y Cynghorwr Evan Owen Fod y Cyfansoddiad, can belled ag y gorchymyn gyunal Cynhadledd unwaith o leiaf bob blwyddyn, oherwydd yr aingylchiadau eithr- iadol ac anawsterau teithio, am y flwyddyn hon vn cael ei suspendio.' John RORERTS, Cyd-ysgrifennydd.
Llythyr Liundaink
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llythyr Liundaink Lieut. James Thomas Jones.-Syrthiodd y milwr gwrol uchod yn y frwydr gerllaw St.Julien, dydd Gwener, Awst 24ain. Mab oedd i Mr. a Mrs. D. R. Jones, 13 Amersham Grove, New Cross, S.E. Ganwyd ef yn 26 Aberfeldy-street, Poplar, E., Hydref 28ain, 1896. Derbyniodd addysg ragorol, ac yr oedd yn weithiwr caeld. 0 Ysgol Ramadegol St. Olaf enillodd ysgolor- iaeth yn Rhydychen. Oddiyno ymunodd a'r fyddin, Hydref, 1915. Derbyniodd ei gomisiwn Gorffennaf, 1916. Aeth allan i Ffrainc gyda'r 20th London Regiment. Bu'n brwydro o wyth- nos i wythnos. Profodd ei hunan yn ddewr, medrus, a gofalus am ei filwyr. Aethai allan o'i ffordd, gan osod ei hunan i lawer o anhunedd ac anghysur personol mewn trefn i gael cymaint ag oedd yn bosibl o gysur i'w filwyr. Hoffid ef yn ddirfawr gan ei gyd-swyddogion a'r milwyr dan eu gofal. Daeth adref am ddeg niwrnod ddiwedd Mai. Cyrhaeddodd addoldy y Boro' erbyn y canu ar ddiwedd yr oedfa nos y Sul- gwyn. Y don Trewen genid ar y pryd. Cy- ffyrddodd y canu a llinynau tyneraf ei ysbryd caredig. Yn y festri ar y diwedd dywedai wrth ei weinidog Mae ymdeimlad ynwyf na ddeuaf adref byth eto o'r line. Chwi fyddwch, mi wn, yn ol eich arfer pan syrthia un o'r bechgyn, yn cynnal gwasanaeth coffadwriaethol. Cenwch ynddo y don Trewen mae hyder am adgyfod- iad yr emyn yn ein grymusu i roi'n hunain yn ebyrth yn y brwydrau. Yn y canu heno ymaflodd sicrwydd adgyfodiad bywyd ynwyf. Gallaf ddweyd, Mi wn fod fy Mhrynwr yn fyw Aeth yn ei ol Mehefin 6ed. Bu yn y brwydrau o bryd i bryd. Yr oedd ei frawd, John D. Jones, yn ymladd wrth ei ochr. Anfonai at ei rieni i beidio pryderu am John, yr edrychai efe amei ddiogelwch. Dydd Gwener, Awst 24am, disgyn- nodd shell rhyngddynt. Anafwyd John yn dost, a chariwyd ef i rwymo ei archollion. Gwelodd ei frawd clwyfedig yn cael ei gario i gael ei archollion yntau wedi eu trin. Ni adfeddiannodd ei frawd ymwybyddiaeth, a bu farw yn fuan wedi ei osod yn yr ambulance. Cysur i'r teulu yw deall na ddioddefodd loesion dirdynnol. Claddwyd ef yn weddus mewn mynwent hardd tua deg milltir tu ol i'r line. Gosododd un o'i gyd-swyddogion a'i gyfaill hoff, Mr. Trevor Evans, 82 Archway-road, Highgate, N., groes hardd ar ei fedd. Diau mai mewn hiraeth dwys ac adgofion byw am oriau dedwydd dreuliasent ynghyd yn y Boro' yr ymadawsai Mr. Trevor Evans a bedd ei gyfaill syrtheidig yn y fynwent bell. Dyn ieuanc hardd oedd Lieut. Jones. Safai ychydig dros chwe troedfedd o daldra. Meddai ar alluoedd cryfion (lisgybledig. Ei athrawon a ddywedant, pe y cawsai fyw, y deuai yn un o ysgolheigion galluocaf y genedl. Yr oedd yn wr ieuanc o deimladau crefyddol hefyd. Aelod oedd yn y Boro', lie y mae ei rieni a'r teulu oil yn aelodau. Dilynai yn ffydd- Ion y cyfarfodydd a'r Ysgol Sul. Y mae pedwar o'i ddosbarth eisoes wedi syrthio yn y rhyfel. 0 y miloedd dynion leddir yn y rhyfel pres- ennol Pwy all ymsynio am y swm o ddioddef- aint drwyddo a'r difrod Unig gysgod ein ffydd yn yr ystorm yw fod dioddefiadau Crist yn gor- lifo dros Ei greadigaeth oil, a bod dynion da yn eu cystuddiau yn cyflawni'r hyn sydd yn ol o gystuddiau Crist yn eu cyrff er mwyn yr Eglwys nid y dioddefiadau oeddent yn bodd- loni deddf tragwyddol gyfiawnder yng Nghrist, eithr y cystuddiau sydd yn adeiladu'r bywyd ysbrydol. Cynhydda y bywyd ysbrydol yn y byd drwy gystuddiau dynion da. Cyfyd i safle uwch. Gwanwyn a haf bywyd uwch sydd ar dorri dros y llawr. Huned gweddillion James Thomas Jones yn esmwyth yn ei fedd yn Ewrop; a boed cysgod yr Hollalluog i'w rieni, ei chwaer a'i frodyr, a'i berthynasau oil. Cofir am dano yn hir yn y Boro' ac ymysg ei gyfeillion yn yr ysgolion a'r fyddin. Mae ei frawd, Mr. John D. Jones, yn y clafdy yn Sheffield. My. Griffith jelikiits.-Bore Llun, Medi iofed, hunodd y brawd uchod yn ei breswyl, 29 Guern- sey Grove, Herne Hill, S.E., wedi pum ml'ynedd o gystudd drwy'r parlys. Mab oedd i Mr. a Mrs. Jenkins, Llech-yr-odyn, Cross Hands, sir Gaer— fyrddin. Ganwyd ef yno Hydref 2lain, 1854- Derbyniwyd ef yn aelod ym Methania gan y Parch. R. L. Thomas. Dysgodd gelfyddyd saer coed yn ei gartref. Aeth i weithio i Abertawe, lIe yr oedd yn aelod yn Soar gyda'r Parch. Frederick Samuel. Aeth oddiyno i Nottingham, yna i Lundain, lle yr ymaelododd yn y Boro'. Unodd mewn priodas, Chwefror 23ain, 1884, & Miss Mary Roberts. Aethant i fasnach laeth yn 53 Chryssell-road, Brixton, S.W. Bu iddynt