Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

,..DIOI/CHGARWCH. I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DIOI/CHGARWCH. I At Olygydd y Tyst. I SYR,—A fyddwch chwi mor garedig a rhoddi i mi gongl fechan o'r TYST i gyfleu fy niolch- garwch o ddyfnder calon i'r lliaws cyfeillion a ysgrifenasant lythyrau o gydymdeimlad a mi yn fy ngalar a'm colled ? Derbyniais lawer o lythyrau oddiwrth gyfeillion, ac amryw oddi- wrth eglwysi a chyfundebau ac yr wyf, trwy gryn ymdrech, wedi eu hateb bob yn un ac un. Ond yn anffodus cawn fod rhai o'r mails wedi myned i waelod Mor y Caaoldir felly, os oes rhywrai heb dderbyn gair o ddiolchgarwch oddi- wrthyf, dyna'r esboniad. Hefyd, os darfu rhyw- rai ysgrifennu ataf tua diwedd Mai neu ddechreu Mehefin, da chwi, gyfeillion, ysgrifennwcli eto, gan fod y llythyrau hynny hefyd wedi myned yn aberth i raib yr EUmyn. Ydwyf, yn ddiolchgar iawn, Ambohimandroso, T. ROWLANDS. Betsileo, Madagascar, Gorff. 2ofed, 1917.

EGLWYS WAG.I

PRYNU'R FASNACH.I

CODI PRIS 'Y TYST.'

, RHAGOL YGON CRFFYDD.' I

' CYFLOGAU GWEINIDOGION ANNI-,…

DARIvLENIADAU BEIBLAIDD.

PRYNU'R FASNACH.I