Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Hermon, Plasmarl.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Hermon, Plasmarl. I Cyrddau Blynyddol.-Cynhaliwyd y rhai hyn eleni Medi'r Isfed a'r i6eg, pryd y pregethwyd gan y Parchn. H. Seiriol Williams, Pontardawe, a H. M. Hughes, B.A., Caerdydd. Cawsom hin ddymunol, cynulliadau llusoog, a'r Efengyl yn cael ei phregethu gyda bias a dylanwad mawr. Yr oedd yn dda gennym weld a chlywed Mr. Hughes wedi gwella mor rhagorol ar ol ei afiechyd blin. Mae'r ddau ddyn da uchod yn fawr eu parch gan y saint yn Hermon. Anrhegu Ysgrifennydd yr Eglwys.-Amgylch- iad diddorol a gwerth ei groniclo oedd anrhegu ein hoff ysgrifennydd, sef Mr. W. Roger Thomas, brawd annwyl ac ysgrifennydd ffyddlon a gofalus -un sydd yn cymryd poen a thrafferth gyda chyfrifon yr eglwys, ac yn gwneud hynny yn ddidwrw ar hyd y blynyddoedd. I ddangos ein hedmygedd a'n parch iddo, cafodd ei anrhegu ag oriawr aur ardderchog. Cyflwymvyd yr anrheg iddo gan Mr. W. Williams, diacon hynaf yr eglwys, a siaradwyd ychydig eiriau ymhellach gan y diaconiaid Thomas Williams a Joseph Rees, a chan ein gweinidog annwyl, y Parch. J. P. Gough. Dymunwn iddo hir oes i wasan- aethu'r eglwys fel ysgrifennydd a diacon. ggj BARAN.

\ Y WERS SABOTHOL. \ i y WERSBOTHOL.…

Family Notices

DARIvLENIADAU BEIBLAIDD.