Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Llanystumdwy.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Llanystumdwy. Medi'r 13cg, ym Moriah (M.C-), Llanystum- chvy, unwyd mewn priodas yr Heddwas William Parry, Llanrwst, gyda Miss Edith Wynne Roberts, Talafon, Llanystumdwy. Gwasan- aethwyd gan y Parch. M. Price, yn cael ei gynorthwyo gan Mr. Rhys Prichard, cofrestrydd, Chwilog. Cyflaw-nwyd swyddogaeth y gwas gan Mr. Arthur Williams, J)anrwst, ac eiddo'r for- wyn gan Miss Katie Roberts, Llanystumdwy. Cyflwynwyd y briodferch gan ei thad, Mr. Samuel Roberts. Ar ol y gwasanaeth mwynhawyd y cysuron arferol yn y Neuadd Gyhoeddus, o dan arolyg- iaeth Mrs. S. Roberts a'r teulu, pryd yr oedd ynghyd lawer o gymdogion a ffrindiau. Hawdd deall fod i'r ddau a gysylltwyd gymeriad godidog a lie anmvyl iddynt ym meddyliau eu cydnabod, oblegid derbyniasant nifer mawr o anrhegion heirdd. Cafodd y briodferch lestri arian gan eglwys y Tabernacl, Llanystumdwy, am ei gwas- anaeth fel organyddes yno am flynyddoedd maith, a rhoed i'r priodfab depot arian gan Heddlu Llanrwst. Boed heulwen ar eu llwybr, llwydd yn eu cartref, a'r Nef yn eu tywys byth.

Mynyddbach, ger Abertawe.i

-J Pontlotyn. I

Advertising

I Llandeilo ar Cylch.

I Achos Soar, Pontygwaith.