Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
GWEDDI. I
GWEDDI. I CVMOD a Duw mewn camwedd,—niiwdd gweddi Ddwg heddwch di-ddiwedd.; Hyder gwir am drugaredd, A gras i'r byd groesi'r bedd. I
, DECHREU OEDFA. I
DECHREU OEDFA. ARGLWYDD Iesu, o'th drugaredd, Gwena ar yr oedfa hon Una'n calon i'th glodfori Fel yr ydym ger Dy fron Gwir addoliad Gydio'll hoedfa wrth y nef. O bendithia Di ein hoedfa A Dy bresenoldeb glan Rho'ch cneilliad ar ein gweddi, Rho Dy Ysbryd ar ein can Llamv'n lienaid A thrysorau dwyfol ras. PENRITH.
EMYN. I
EMYN. CRAIG yr Oesoedd yw fy noddfa,— Yma'n dawel gwna fy nyth Ac ynghanol pob ystormydd, Dyma Graig ni syfi byth Haleliwia Dan ei chysgod byddaf byw. Os trwy stormy dd rwyf yn teithio, Trwy y garw wynt a'r gwlaw, Rhaid yw mynd trwy anawsterau Cyn mwynhau y Ganaan draw; Wedi'r ymdrech Caf y goron yn lle r groes. Treiech. W. J. MORGANS.
HEN DDYFFRYN Y CERI, CEREDIGION.…
HEN DDYFFRYN Y CERI, CEREDIGION. I DYFFRYN hareld fel gardd i gycl,Ull anuwyl Ivle ffyuna hedd gwynfyd Man am hoen o boen y byd, Neu le i ocliel gwael iechyd. I gorff lie braf i orffwys i feddwl Rhydd foddion Paradwys Rhin a dysg ga'r enaid dwys, Ac emyn gartre cymwys. Ei wyrdd feysydd sy'n ardd i iiwsig ;—mawl Sy'n myd ei goed talfrig Man diddan mwyn a diddig, 0 loes y dref-ineltis drig. Hen ddyffryn hawdd i ddeffro-rhyw braff- Wir broffwyd fO'11 huno, [aidd Neu'r awenydd gwan fyddo Yn y glyn a'i gan dall glo. Melys i'm calon yw iiioli-goll-id illyg helaetli ei dlystii; Hyd fy medd fe dyf i mi Hiraeth am ddyffryii Ceri. Aberdar. GWERNANTYDD. I
St. Clears.
St. Clears. -Allaywol(telk.-NTos lau, Medi'r 2ofed, hunodd y chwaer hyfwyn a charedig, Mrs. Ruth Thomas, Cross House, ar ol cystudd byr ond trwm o ryw bum wythnos. Gwnawd popeth a fedrai ei phriod (Mr. D. Edmund Thomas) a'i nith (Miss S. Jones), y meddyg a'r nurse, a llu o gyfeillion i'w chadw; ond daeth ei hawr,' a wynebodd hi yn dawel fel un yn myned i huno, ar ol mynegi ei dyniuniad i'w nith ofalu am ei hannwyl briod yn ei lesgedd. Claddwyd ei gweddillion y dydd Mawrth canlynol yng Nghladdfa Gy- hoeddus Aberdar, yn ol ei dymuniad. Daeth tyrfa luosog ynghyd am tua wyth o'r gloch y bore. Darllenwyd a gweddiwyd yn Cross House gan ei gweinidog, y Parch. D. Cadfwlch Davies, Capel Mair. Hebryngwyd hi i'r orsaf gan nifer o'i ffrindiau, ymhlith pa rai y gwelsom y Parchn D. G. Williams, St. Clears, a T. Davies (B.). Aeth yr Henaduf James Phillips; Mri. Charles Saer a Thomas Howells, diaconiaid Capel Mair, a'r gweinidog, ynghyda chyfeilles yr ymadaw- edig, Miss Thomas, Brynheulog, a'r undertaker, Mr. Ben Jones, i Aberdar. Y galarwyr oedd Mr. Owen Jones, Leicester (brawd) Mr. Owen Edwards, cyfreithiwr, Tonypandy (nai), a Miss Elizabeth Jones, Cross House (nith). Daeth Mrs. Edwards, Hafod (chwaer), i gyfarfod a'r angladd, ynghyda nifer o bethynasau a chyf- eillion eraill. Gweinyddwyd ar lan y bedd yng nghladdfa Aberdar gan y Parchn. J. Grawye Jones, Ebenezer, a D. Cadfwlch Davies, St. Clears. Gwelsom hefyd cyn ymadael y Parch. E- Wern Williams, Hirwaun. Yr oedd Mrs. Thomas yn un o'r gwragedd rhagoraf, ac yn gallu gwneud daioni yn ddidrwst a didwrw. Yr oedd yn enghraifft nodedig o'r geiriau hynny, .L a wyped dy law aswy pa beth a wna dy law ddeheu,' ac hefyd o eiriau'r Apostol Paul, 'Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn.' Mae llawer heddyw yn fyw a deimlasant gynhesrwydd ei rhoddion a chymorth ei gweddiau. Bu'n aelod byw a pharchus iawn yn eglwys Capel Maiir, St. Clears, am dros bedair blynedd ar hugain. Edmygai a charai'r da a'r duwiol, ac yr oedd yn gallu gwnead llawer heb siarad ond ychydig. Ganwyd hi yn Ynysmudw yn 1855, He yr oedd ei rhieni yn byw, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos goreu yn y lie. Bu ei thad, Mr. Owen Jones, yn un o'r prif offerynnau i gychwyn yr. achos ac i godi capel yr Annibynwyr yno. Der- byniwyd hi yn aelod crefyddol pan yn eneth i7eg oed, yn Nebo, Hirwaun, gan y diweddar Barch. W. Williams. Aeth i Aberdar yn brentis i siop draper, ac ymaelododd yn Siloa dan wein- idogaeth y diweddar Barch. D. Price. Bu yno am saith mlynedd, ac oddiyno aeth i Abertawe, lie yr ymaelododd yn Ebenezer dan weinidog- aeth y diweddar Dr. Rees, ac wedi hynny y Parch. W. James. Yn 1893 ymunodd mewn priodas a Mr. David Edmund Thomas, Cross House, St. Clears, yr liwn sydd yn aelod parchus o eglwys y Wesleaid yn St. Clears, a'i dy—fel y bu gyda'i rieni o'i flaen-yn lety fforddolion yr achos yn y lie. Ni fu croeso y brodyr Wesleaidd vn llai, na chynhesrwydd yr aelwyd i'w disgwyl yn oerach wedi ei dyfodiad hi i Cross House. Ymaelododd yng NghapelljMalr, yr hoil oedd dan weinidogaeth y diweddar Barch. Rhys Morgan. Yr oedd rhinweddau a rhagoriaethau Mrs. Thomas yn lluosog, ac yn hysbys iawn i'r rhai a'u hadwaenent hi. Bu'n ffyddlon i foddion gras, a gadawodd i'r Gwaredwr wneud defnydd ohoni. Yr oedd yn cario ymlaeii gyda hi barch a chariad i'r ffynonellau y derbyniodd hi ddaioni oddiwrthynt yn y gorffennol. Yr oedd ganddi feddwl mawr a theimlad cynnes iawn at y gwein- idogiou y bu hi o dan eu gweinidogaeth, ac nid oedd ei pharch a' i chariad at y rhai sydd yn aros yn llai oblegid hyn. Cydymdeimlwn yn ddwys a'r perthynasau yn eu galar, yn neilltuol a'i phriod, yr liwn sydd wedi cael ergyd trwm yn ei hymadawiad. Gellid dweyd am dani, Fod calon ei gwr yn ymddiried ynddi.' Arhosed Duw yn nodded iddo, ac i'w hunig frawd sydd yn aros, a'i chwiorydd a'u plant, ac i'w nith fu mor dyner ohoni. Huned hithau yn dawel yn ymyl bedd gwr Duw, y diweddar Barch. D. Price-gwr a anwylai yn fawr, a chan yr hwn y derbyniodd adlonlnt 1 w bywyd a goleuni i'w henaid pan yn ferch ieuanc dan ei weinidogaeth. Ie, huna'n dawel, chwaer annwyl, a dymuniadau dy galon yn Iesu Grist a gyflawiier.
Advertising
LIBANUS, CWMGWILI.—Sul. Medi 2Bain, cafodd yr eglwys uchod ei chyfarfod banner' blynyddol, pryd y pregethwyd gan y Parch, J. D. Richards, Trawsfynydd, Meirionydd.
Y MORWR. I
Y MORWR. I Y MORWR—dyma wron !—allan a I Mewn llawn hwyl i'r wendon A gwr a'i dasg ar y don, I Arwr hygar yr eigion. Tymawr, Aberangell. EMIvYN LEWIS.
' EFE A GOLLASID, AC A GAED.'…
EFE A GOLLASID, AC A GAED.' CRWYDRO bum yn nyrys anial LIwm bleserau'r estron wlad, Heb ond cibau gwael i'm cynnal Yn lie llawn der ty fy Nhad Diolch iddo, er im' grwydro, Rhoes im' uerth i droi yn 01. Bum ymliell yng ngliwmni'r aflan, Wawdiai rin, gofleidiai cliwant Pell oddiwrth fy Nuw Ei Hunan, Pell o feddu nodau'r sant Diolch iddo-gras sy'n llwyddo I fy ennill eto'n ol. Pan yuihell yng ngwlad yr estron, Collais wedd Ei wyneb lion— Collais wynfyd, hedd a choron Purdeb, roddwyd dan fy mron Diolch iddo, ennill iddo Goron well wuaf trwy y gwaed, I O fy enaid, mwy bydd lawen,— Collaist wendid, cefaist nertli Collaist felltith, gwae ac uffern-- Cefaist wynfyd mawr ei wertli Diolch iddo am fy nghofio, Er mor anhaeddiannol wyf. Collaf yn y man bob trallod Fu bron llethu f'enaid gwan: Collaf holl effeithiau pechod A'm hataliai ddod i'r lan Diolch iddo am sancteiddio Yr aflanaf un a gaed. Pennal. 0, DAVIES.
YR EIRA. I
YR EIRA. I FLAWD y ncfocdd ddelw purdeb Daethost ytiia yn gawod drom 0 dy gartre 'uuo tlysineb, I addurno'n daear lom Mae y cymoedd yn ymlonni Dan dy fantell siriol, wen Ar y bryniau yr ymoedi, Esmwyth cysgaut dan dy leu. Hoffi ddweyd ar fedd y lili Mai o'r tecaf liw 'roedd hi; Beilchion yw y cawraidd dderi, Wedi 'u trwsio genllyt ti Yn y fynwent oer, ddi-flodau, Gweddnewidi'r beddau trist,- Swynol awgrym am eneidiau Wedi gwisgo purdeb Crist. Dlenwi r wig a dwys dawelwch, Gwnei y bwth yn nef o gan, Gwnei y nos a'th wyn brydfertliwch Mur ar lun y wawrddydd lan; Doi a'r frongoch a'r cardotyn Am elusfin wrth fy nrws Uavv dosturi rof i'w derbyn,— GWllaf eu bycl yn wynfyd tlws. BIFAN.
Advertising
Coleg Caerfyrddin. Dymuna myfyrwyr y Coleg hwn ddiolch yn gynnes i'r holl eglwysi am eu caredigrwydd yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Agorodd y Coleg Hydref 2il, pan y derbyniwyd o'r newydd y tri eanlynol -Mri. Brynmor Thomas, Smyrna, j Llangain; T. Alban Davies, Abergwili; a Gwilym Williams, Coedpoeth. Hefyd, bydd dau o'r myfyrwyr yn gorffen eu cwrs ym mis Mehefin, ac felly yn agored i alwadau, sef Mri. R. Honddu Williams, Aberhonddu, a D. C. Jones, Pembte. Hyderwn y bydd i'r eglwysi gofio'r myfyrwyr eleni eto, fel arfer. GWELLHEWCH EICH ECSIMA. Iacha INOLAK holl Afiechyd y Cl.n. Bydd i Inolak dynnu allan yr holl amhur- eddau allan o'ch croen; bydd iddo ladd egin afiechyd, lliniaru ysfa, a symud plorynod, crofenau neu darddiantau. Gwnaeth Inolak lawer iachad rhyfeddol o'r math gwaethaf o afiechydon y croen. Miloedd o'r rhai oeddynt ddigalon oherwydd methiant darpariaethau eraill a glywsant yn drugarog am Inolak ac a wellhasant eu hunain. Na fydded i chwi gael Ecsima, Crachen y Clafr, Plorynod, Cornwydon, Tarddiantau, Tar- oden, Brech yr Eilliwr, nac uurhyw anhwylder perthol i'r croen. lachewch eich hun a Inolak. Mae'r gymeradwyaeth oddiwrth y rhai a well- hawyd wedi peri galwad mawr am dano. Ond os yw eich fferyllydd alan o stoc, anfonwch at y Perchenogion-66, Whiteladies-road, Bristol <1/3. 3/- a 5/- yn rhydd trwy'r post). INOLAK laetatf Anffaatedig INOLAK I'roiwn.