Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

0 FRYN I FRYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

0 FRYN I FRYN. PAN yn meddwl am hWll, meddyliwn yr un I Y Pwyllgor Swyddogol.' pryd am eiriau Job: 'A aeth heibio o flaeii fy wyneb ac a wnaeth i flew fy uglmawd sefyll. life a iafodd, ac nid. adwaenwn el agwedd ei drychlolaeth oedd o flaen fy llygaid, bu distawrwydd, a mi a glywais lef yn dywedyd, A fydd dyn marwol yn gyfiawn- ach tia Duw ?' Y mae'r Pwyllgor Swyddogol wedi bod yn eistedd yn ddiweddar ar bwnc mawr ail-eni Ewrop a gwelodd, bid sicr, y ddaear yn afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder. A chyhoeddodd ei adran Saesneg yn groyw—' The Church has failed,' a chlywid yr eco o'r adtan Gymreig—' Mae'r Eglwys wedi methu.' Nid mor hoyw a chryf- donnog ydoedd yr eco a'r llais. Ceid rhyw fath o yswildod yn yr adlais, a chollai dipyn wedyn mewn pendautrwydd. Dywedai un fod yr Uglwys wedi methu am mai nid ohoni hi y caed yr ateb i'r rhyfelgri presennol, ond o'r reddf sydd o blaid iawnder yn y werin neu'r bobl. Sieryd rhywrai am yr Eglwys fel pe na buasai gwerin a phobl o'i mewn, ac fel pe buasai'r aelodau yn amddifad o gynheddfau naturiol. Gellir rhannu'r siaradwyr hyn i bedwar dosbarth, sef i feosialwyrfa edrych ar bob cwestiwn o safle eu dosbarth a'u seciwlariaeth hwy; i ddyn- ion anniddig a siomedig yn yr eglwysi; i wyr mawr sydd yn y byd ac yn or-falch i ymostwng i reolau eglwys a chyd-eistedd mewn addoliad a gwerin semi, ac i wyr gweithgar a blaensymudol o nodwedd grefyddol boblogaidd, ac o afiaeth bod ar y blaen a blaenori. Y mae un o'r dos- barth olaf hwn a --aif ger ein bron yn awr yn dwrdio yn ddiarbed yr Eglwys am ei bod wedi colli ei chyfle i wneud ei gwaith ynglyn a'r rhyfel hwn. Y rhyfel yw ei weledigaeth fawr ef, a gesyd y rhyfel yn safon i'r Eglwys, heb gymaint a meddwl, ni a dybiwn, v dylasai y rhyfel roir flaenoriaeth i'r Eglwys. With y g<.ur Eglwys y dealla ef ar hyd ei ysgrif yr hglwys Wladol. Nid yw yn son am yr Eglwysi Rhydd- ton. Dichon ei fod yn eu cynnwys ymhlitli y rhai a ddywed eu bod 311 disgwyl wrth yr Eglwys Genedlaethol. Eilwaith dywedwn mai bai yr Eglwys hon yn ei olwg yw iddi fod yn ddifater o alwad y rhyfel. Nid oes ganddo ddeffiniad o'r alward hoti, ond dywed mai yr achlysur yw fod y glerigiaeth ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn ymwneud yn gelfyddydol a'i gwaith, a bod ei gwasanaeth yn fenywaidd iawn mewn pregethu 3â1 a dwl ac uudonog, a thrwy fferetu a hercian gyda phethau plentynaidd lies new- ynnu eneidiau a hesbio yn llwvr bob calon a phersonoliaeth. Wedi darllen y sylw hwn o'i eiddo y deallasom ei fod yntau yn un o'r Eglwys hon, oblegid hesp iawn ydyw ei ysgrif yntau o'r didwyll laeth. Mor bell ag y deallwn, mae'r y ,grif hon am EGLWYS WHGR yn anwiredd i gyd ac mae'll rhaid fod rhannau ohoni yn anwiredd bwriadol, neu naw wfft i anwybodaeth yr ysgrifennydd. Ymhle byiinag y mae'r Eglwys hon ar ol, nid ydyw ar ol yn ei ffyddlondeb i'r rhyfel hwn. Wythnos yn ddiweddarach wele Gadeirydd Undeb Lloegr a Chymru, o bulpud y City Temple, yn dweyd: Y mae'r eglwysi wedi colli eu cy- fiyrddiad a sylweddau bywyd, ac a'r werin a'r miloedd a chyda hynny dyfyuna air Arglwydd Morley, sef The pulpit is a belt which hath slipped off the driving-wheel of the world.' Ryw- sut, nis gallwn ymryddhau o'r gred fod yr Eglwys ers blynyddoedd bellach yn dioddef mwy oddi- wrth anwiredd ac annoethineb a hyfdra dywed- ladau ac ymddygiadau rhai o'i harweinwyr (?) nag oddiwrth Satan ei hun. Fel rheol, mae y thai hyn yn wyr papur a phwyllgor, ac maent yn caru arddangos eu hunain, a dod i sylw ac awdurdod swyddogol a'u ffordd. i argymell eu teilyngdod yw i son ar bob cyfle a gant am fethiant yr Eglwys. Purion o beth ydoedd sylw y Cadeirydd y dylasai fod gwell brawdgarwch rhwng yr enwadau fel rhwng yr aelodau a'i gilydd. Pe buasai'r Cadeirydd yn golygu wrth yr enwadau flaenoriaid yr enwadau, rhoddem bwys pellach ar ei osodiad oblegid pellach oddi- wrth ei gilydd ydyw blaenoriaid yr enwadau na r aelodau. Ac eto dynxa'r gwyr a ymbwyll- gora ynghylch yr Un Eglwys Unedig. Ceir prawf o hyn eleni yn nathliad dau- can mlwydd Pantycelyn. Mae'n wir y ceir rhai cyfarfodydd cymysg, ond lluosocach yw'r rhai enwadol; a'r arweinwyr, ac nid y bobl, sydd yn gyfrifol am hyn. Y mae'r enwadau yn yr eglwysi yn nes i'w gilydd na'r enwadau yn y blaenoriaid. Ni phetrusem y-grifeunu ar ddalen y iief mai'r achlysur pennaf i ymbellhau'r enwadau oddi- wrth ei gilydd ydyw arweinwyr yr enwadau. Y gymwynas oreu a allasai'r arweinwyr wneud a'r eglwysi ar hyn o bryd yw dod i gyd-ddeall- twriaeth a'i gilydd, a gadael llonydd i'r eglwysi. Os gallant hwy fod o ryw les i'w gilydcl ac i gymdeithas yn a thrwy eu cynadleddu," Duw yn rhwydd iddjait ond llonydd a geisia'r eglwysi --Iloiiydd i feddwl yn bersonol ac yn gynulleid- faol--llonydd i weithio yn apostolaidd. Dywedodd un o'r papurau Saesneg yr wyth- nos o'r blaen fod Gweinyddiaeth Cynulleidfaol- iaetli yn myiid trwy dan, gan fod pawb yn anfoddhaus, a neb a chanddo ei nod yn glir. Ond gwelai'r ysgrifennydd wawr yn torri yn y ffdith holl-bwysig fod y Weinyddiaeth Enwadol wedi penodi ar bwyllgor i droi allan ddau lyfr, sef un ar Ddefosiwn a'r llall yn Llyfr Gweddi. Gallem feddwl mai Elyfr Gweddi anghyffredin, ac nid Llyfr Gweddi cyffredin a olygid, a'i fod yn Llyfr Gweddi i bwyllgor ac nid i'r bobl. Nid oes ei angen ar grefyddwyr, ond geill fod ei angen ar bwyllgorwyr. Cydnabyddid fod paratoi y fath ddeu-lyfr yn waith anodd i Bwyllgor Swyddogol' (' This kind of thing is delicate and difficult for all Official Committee '). Ble mae'r anhawdd-dra, tybed ? Ai yn y Pwyll- gor lieu ynte yn y Pwyllgor Swyddogol ? Beth ? Ai Pwyllgor Swyddogol a roddodd i'r byd Lyfr y Salmau, ac Epistolau loan, ac Emynau Pantycelyn a Morgan Rhys ac Ann Griffiths ? 0 mor fendigedig yw rhyddid !rhyddid i'r brain i gymdeithasu heb eu tarfu gan gomiti, ac i'r ehedydd i ganu uwchlaw pwyllgor, ac i'r lefiathan i chware heb fod yn rhwyin wrth standing order.' Tosturiwn wrth rai SosialNv-rr a rhai o arwein- wyr Plaid Llafur a ddywed fod yr eglwysi yn fethiant—yr hyn a wneir, bid sicr, i awgrymu fod Cristionogaeth a Chrefydd addoliad yn ddi- dda ac yn eudeb ond pan welwn ddynion o'r eglwysi yn eco hyn, meddyliwn am y rhai sydd yn ceisio Duw a mamon, ac am Judasiaeth ymhlith y deuddeg. Y mae llawer iawn o gyf- eiliorni pobl gyhoeddus yn codi o ddiffyg yn y deall yn fwy nag yn y galon a'r gydwybod. Bid sicr, nid yw fod y pen yn mynd o'i le yn un help i'r galon a'r gydwybod i gadw yn eu lie. Coll deall yw coll pennaf yr oes hon, a deall geiriau hefyd. Dealla egwyddorion yn well na geiriau, a dioddefa egwyddorion a ffeith- iau oddiwrth hyn. Meddylier am y geiriau hyn, sef Eglwys, Ysbryd yr Oes, Gweriniaeth, Gwlad- garwch, Arwriaeth, Cysegfedigaeth, a'u cyffelyb Mor wahanol ydyw yr eglurhad. arnynt A geir dau i weld yr un peth ynddyijt ? Y mae pob un yn tynnu allan o bob un ohonynt yn 01 y peth sydd gryfaf ynddo ei hun, a rhydd ei ddeall ei Amen i hynny. Y mae gan Ezeciel adnod dds., a ddylid ei chadw ar gof yn y dydd- iau hyn, sef Dyma gyfraith y ty Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y ty,' sef, Wele y cysegr sancteiddiolaf neu y deml ar ben y mynydd, yn sancteiddiolaf ei hun, ac o amgylch ogylch. Yr oedd y deml ar nweh tir i'r ddinas a thua dwy filltir o'r, ddinas, ac yr oedd y ddinas i edrych i fynv at y deml, ac yr oedd y deml i roi ei bendith ar y ddinas. Dyna a alwai y tadau yn wahan- iaeth rhwng yr s a'r byd. Yr oedd i'r ddinas a'r deml en gwaitli priodol eu hunain, ac yr oedd y naill a'r Hall i fod yn flyddlon i'w waith ei hun a thrwy hynny yr oedd y ddau waith i fod yn gvdwaith er hwylustod ac effeithioldeb ei gilydd. Rhydd hyn gvile i ddweyd mai call yr Eglwys yn y gorffennol yw, nid ei bod wedi gwneud rhy fach o waith y ddinas, ond ei bod wedi gwneud gormod yn y ddinas, a thrwy hynnv y mae wedi esgeuluso yn fawr ei gwaith ei hun, ac nid oes rhyw lawer o'i graen ar waith y ddinas. Dywedodd y Deon luge clro yn ol I think the habit of mixing religion with politics has almost ruined the spiri- tual influence of Nonconformists in the present generation.' Bu cryn daro yn ol oherwydd v geiriau hyn, ond eto ceir djaiion ardderchog yng Nhgymru yn credn vn eu gwir. Ni raid petruso eilwaith i ddweyd mai gwendid yr Eglwys hyd yn hyn yw ei bod wedi bod yn rhyw fath" o wneud cymaint a gwaith y ddinas lies ei bod wedi esgeuluso yn fawr waith y deml ac eto mai clweyd ei bod yn fethiant yn bradychu anwybodaeth, os nad teimladau drwg. Nid ydyw'r Eglwys i gyfathu ei hun a sefydliadau ac a symudiadau ac a dosbarthiadau a fo o'r tuallan iddi heb lawer o ofal a phwyll a doeth- ineb, ond yn ei hunigolion. Y mae ei bod yn gwneud hyn yn eglwysig yn dinistrio ynddi yr hyn a elwir yn Eglwys, ac yn ei hudo oddiar brif lwybr ei liymddiriedaeth, ac yn y diwedd yn ei gwneud yn fiigysbren ddiffrwyth. Y man agosaf i fethiant mae'r Eglwys wedi mynd yw ei bod wedi treulio gormod o'i hamser yn y ddinas, gan adael ei chysegr sancteiddiolaf ar ben y illynydcl a'r diwygiad mwyaf y saif hi mewii angen am dano yw i aros 111WY ar y uiynydd gyda'i gwaith ysbrydol ei hun. Medd- yliWll yn gyson am sefydliad a neges yr Eglwys pan yn hyderu y bydd iddi, o hyn ymlaen, nid 1 geisio cyfarfod ag ysbryd yr oes, a boddio y plaid hon a'r pwyllgor hwn, ond y bydd iddi i fod fel petai yn ddiofal ynghylch y rhai hyn oherwydd ei hymgysegru lhvyr i ewyllys ei Phen Os gwna hyn, hi a ymgyflwyna yn well nag y gwna ar hyn o bryd i bedwar peth, sef Diwin- yddiaeth, Sacramentaeth, Ysbrydoliaetli a Chen- hadaetli. Dioddefa y pedwar peth hyn Y11 ei llaw-am ei bod yn gwrando gormod, ac yn rhoi gormod o'i hamser i foddio crefyddwyr beirn- iadol a rydd bwys ar yinwybyddiaeth ar draul diystyru DiwinyTddiaeth, ac yn gwrando ar edliw bydolwyr beilcli a lionnant nad oes dim mewn Bedydd a Chymundeb, a'u bod hwy hebddynt cystal a gwell na'r sawl sydd yn ffyddlon iddynt, ac yn gwrando ar Resymolwyr o ryw fath a gradd o ddawn a dysg yn ffylio ffydd, ac yn cydraddoli'r Beibl a rhyw" lyfr arall o nod. Heb yn wybod iddi, dioddefa'r Eglwys heddyw yn y pedwar peth a nodasom yn herwydd yr ystyr- laethau hyn. Amhosibl ydyw i'r Hglwys ddal ei gafael ynddynt heb ei liargydioeddiad a'i throedigaeth. Y porth, a'r unig borth, i Grist- ionogaeth ydyw ail-enedigaeth. Ni wnaeth yr Arglwydd lesu ddim yn fwy plaen 11a hyn yn Ei ddysgeidiaeth. Digon arwynebol ydyw y goreu yn yr Hglwys mewn argyhoeddiad a throedigaeth, N-li enwedig pan edrychwn arnynt yn eu hysbrydolrwydd. Ac ysywaeth fod rhai ganddi heb eu meddu o gwbl. Am hynny. syrthia piwinyddiaetli a Chymundebiaeth ac Ysbrydol- iaeth a Chenhadaeth wrth ei thraed, ac ambell dro maent dan ei thraed. Gofynnir, Beth wna'r Eglwysi ar ol y rhyfel ? Gwneled y pedwar peth hyn yn well, a gwrandawed fwy ar Dduw, a llai ar ddynion.