Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB MALDWYN.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB MALDWYN. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Llanbrynrnair, ar y dyddiau Mercher a lau, Hydref y 3ydd a'r 4ydd. Nos Fercher pregethwyd gan y Parchii, W. Thomas, Llan- faircaereiuiou, a T. Well Jones, Croesoswallt. Bore lau, am II o'r gloch, cynhaliwyd y Gyu-, hadledd, o dan lywyddiaeth y Parch. R. C. Evans, Sammah. Dechreuwyd trwy ddarlleu agweddio gan Mr. D. Thomas (Llwydiarth Mon). lylanfair. Yr oedd yn bresennol, heblaw y brodyr a ennwyd, y Parclm. S. Roberts, Llanbrynrnair W. Thomas, Aberhosan E. Wnion Evans, Der- wenlas; H. Williams, B.A., Machynlleth; D. Morgan, Trallwm W. Evans, Llanidloes J. D. Evans, Sardis ynghyda Mri. Joseph Jones, Drefnewydd; Simon Jones a John Breeze, Carno J. Jones (Gwladwr), Machynlleth R. Jervis (Gwynonwy), Birmingham; R. Williams, Hendre J. Davies, Dolgoch E. M. Jones, C.S., Cwmpenllydan G. H. Peate, Glanllyn W. A. Peate, Hugh Francis, J. Davies ac E. Evans, Llanbrynnrair. Wedi darllen cofnodion y cyfar- fod blaenorol, a'u cadarnhau, pasiwyd :— 1. Fod y cyfarfod nesaf. i'w gynnal yn Nebo, Cemaes Road, Ionawr y 3oain a'r 3iain, 1917, ac fod y Parch. G. Griffith, Drefnewydd, i breg- ethu ar Grefydd Deuluaidd (pwnc yr eglwys), a'r Parch. D. Morgan, Trallwm, i bregethu ar 'Aberth heddyw yng ngoleuni Aberth Crist (pwnc y Gynhadledd). 2. Cafwyd yr ystadegaeth gan Mr. R. Williams, Hendre. Rhif 'yr eglwysi, 46 ysgoldai, 17 aelodau, 3,542 diaconiaid, 223. Rhif ar lyfrau yr Ysgol Sul, 2,872 athrawon, 348. Ymunodd a'r fyddin yn ystod y flwyddyn, 336. Derbyn- iadau, £ 3,449 10s. oc. Talwyd o'r ddyled, £ 214 6s. lie, Dyled yr eglwysi, £ 789 us. 2c.-lleihad o £ l93 xos. oc. ar y flwyddyn flaenorol. Yr oedd y cyfrif yn galonogol iawn, a diolchwyd i Mr. Williams am y gwaith rhagcrol a wnaeth. 3. Rhoddodd y Parch. S. Roberts adroddiad y Pwyllgor ynglyn a chodi pregethwyr yn y Cyfundeb. Cymeradwywyd y cyfarwyddiadau, ac fod copi ohonynt i'w ddanfon i bob eglwys cyn eu cadarnhau yng Nghynhadledd Gyffred- inol y Gymanfa. 4. Ynglyn a Phwyllgor yr Ysgol Sul, ethol- wyd Mr. Llynfi Davies, Llanfyllin, yn ysgrifen- nydd, a'i fod i ddanfon at ysgrifenyddion cylch- oedd Cymanfaoedd Ysgoliou yn y Cyfundeb i wasgu ar y cylchoedd hynny i nodi dau frawd i'w cynrycliioli ar y Pwyllgor, ac fod emvati y cyfryw i'w danfon ganddo i Ysgrifennydd y Cyfundeb er eu cael ar lyfr y cofnodion. 5. Gwasgwyd ar gynrychiolwyr ac ysgrifeii- yddion yr eglwysi i ddanfon pob cyfnewidiad ynglyn a'r eglwysi i Ysgrifennydd y Cyfundeb, fel y gall yntau ddanfon y cyfryw i olygydd y Blwyddiadur er ei gael.mor gywir ag sydd bosibl ynglýn a'r Cyfundeb. 6. Rhoddodd Mr. J. Jones (Gwladwr) adrodd- iad ynglyn a chasgliad rhanbarth Machyitlleth. tuagat y Drysorfa Ganolog, a dangosodd fod yr addewidion yn ogystal a'r taliadau yn fiafriol iawn. 7. Pasiwyd fod yr Ysgrifennydd i ddanfon llythyrau o gydymdeimlad a theuluoedd mewn trallod, a dangosodd y Gynhadledd yr un teimlad tuagat eraill sydd wedi eu trallodi oherwydd y rhyfel. 8. Cafwyd adroddiad yr Achosion Gweiniaid gan Mr. Joseph Jones, y trysorydd, yr hwn oedd yn dra ffafriol. 9. Cafwyd adroddiad o Bwyllgor Cenhadol Gogledd Cymru a gynhaliwyd yng Nghaer gan y Parch. T. Well Jones, a gwasgwyd ar yr eglwysi i gario allan yr awgrymiadau ynglyn a chyfarfod gweddi y Llun cyntaf o bob mis. 10. Ar gynygiad y Parch. W. Thomas, Llan- fair, a chefnogiad y Parch. D. Morgan, Trallwm, pasiwyd y penderfyniad canlynol That this Conference, representing the Welsh Congrega- tional Churches of Montgomeryshire, desires to re-affirm its emphatic opposition to State Pur- chase, and especially to the efforts now made to bring the same before the public in Wales and that the only attitude to the Drink Question compatible with our position as representatives of the churches is Prohibition in some form or other.' Am 2 o'r gloch pregethwyd gan yr Ysgrifen- nydd ar bwnc y Gynhadledd, sef Rhyfel yng ngoleuiii'r Beibl,' a chan y Parch. H. Williams, B.A., Machynlleth. Am 6 o'r gloch pregethwyd gan y Parchn. J. D. Evans, Sardis, a W. Evans, T,Iailidloes-yr olaf ar bWllC yr eglwys, sef- Parchedigaeth Grefvddol.' Cymerwyd rhan yn y gwaSanaetli arweiniol gan y Parchn. W. Thomas, Aberhosan; D. Morgan, Trallwm a H. W. Parry, RhoSymedre. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol. o'r dechreu i'r diwedd, a chynulliadau lluosog er i'r tywydd fod yn anftafriol, a phregethai'r brodyr mewn nerth ac effeithiolrwydd. Diolchwyd ar y diwedd i eglwys barchus Llanbrynrnair am y derbyniad croesawgar a roddodd i'r Cyfarfod Chwar ro ac am y darpariadau helaeth a wnaeth. Da gan bawb oedd gweled golwg mor lewyrchus ar yr achos o dan weiuidogaeth rymus y gwein- idog, y Parch. S. Roberts. Arhosed y gogon- iant dwvfol yn hir ar v lie. E- WNION EVANS, Y-sg.

CYFUNDEB DE MORGANNWG.

GALWADAU.

[No title]

-------I Gwnewch ef yn Gyhoeddus.