Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Gyda'r Y.M.C.A. ym Maes y…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gyda'r Y.M.C.A. ym Maes y Rhyfel.  GAN Y PARCH. BMI.VX MACDONAI?D, GU,FACH GOCH. Gwyr y rhan fwyf ohonom rhywbeth am y gwaith a wneir gall y Y.M.C.A. (Cymdeithas Gristionogol y Dynion Ieuainc). Mae'r Gym- deithas wedi ac yn gwiieud gwaith anfesuradwy ym maes y rhyfel-gwaith a gynorthwya ein bechgyn dewr i orchfygu'r gelynion—gelyiiion o bob math. Ac er fed yna lawer wedi ei ysgrif- ennn eisoes o hanes yr hyn a wneir gan y Y.M.' hwyrach mai nid hollol anniddorQl i ddarllen- wyr y TYST (rhifyn o'r hwn a d^&w i law yma bob wythnos) fydd adrodd ychydig o hanes y gwaith a wneir ganddi, fel y daw o dan ein sylw ni. Ein hunig amcan wrth geisio gwneud hyn ydyw dwyn rhieni ein gwlad i weld rhyw g  ina i iit o'r liyii a e i gymaint o'r hyn a wneir yn Ffrainc er sirioli, cysuro a chynorthwyo eu bechgyn. Hwyrach Bad ydyw pob gweinidog fu, ac sydd eto, yn gwasanaethu'r milwyr yn Ffrainc o dan y Y.M.' wedi bod mor ffodus a ni yn y cylehoedd y buont yn gweithio ynddynt. Prof- iad rhai ydyw fod yna ormod o amser yn mynd i wasanaethu byrddau—gofalu am angenrheid- iau corfforol y milwyr, a rhy fychan o le yn cael i roi i ochr grefyddol ac ysbrydol y gwaith. Ond beth bynnag fu ac yw profiad eraill, y cyfan a wnawn ni ydyw cyfeirio'n fyr ac yn frysiog at ran o'r gwaith gyflawnir yn y babell ag y cawn ni y fraint o wasanaethu ynddi. Mae'r lie y gwasanaethwn ynddo o bedair i bum milltir oddiwrth y llinell. Cyn y rhyfel ceid yma bentref tawel, a gwlad brydferth a ffrwythlon o gwmpas ymhob cyfeiriad. Erbyn heddyw beth yw'r hanes ? Beth welir ? Nis gallwn adrodd y cyfan. Dywedwn hyn: mae bron bob ty yn y pentref yn was tad gyda'r llawr, a'r caeau o gwmpas yn frith o hen fiosydd a shell-holes. Gwelir milwyr ymhob cyfeiriad— rhai ohonynt ar en ffordd i'r ffosydd, rhai ar eu ffordd yn ol, ac erall sydd yn fwy sefydlog yma yn llawn gwaith er sicrhau buddugoliaeth. Mae yna lawer o'r bechgyn hyn allan ers dros ddwy fly lie dd, ac eraill yn newydd-ddyfodiaid. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yn hanes y naill a'r llall ydyw cadw o'u blaen yr hen arferion da a'r delfrydau uchel. Dyna ran o waith y Y.M.' Arwyddion y Y.M.C.A., fel y gwyr llawer, ydyw y triongl coch. Saif tair ochr y triongl am dair ochr bywyd dYll-Y corff, y meddwl a'r enaid. Ac fel enghraifft o'r hyn a wna'r Gymdeithas i gwrdd ag anghenion uchaf y milwyr, wele gopi o rhaglen y babell hon, yn cynnwys y trefn- iadau am un wythnos (Medi 23ain hyd Medi 29ain) ac y niae'r trefniadau bob wythnos yn debyg i'r rhaglen ganlynol Sul—Gwasanaeth am 6.30 Linn—Cyfarfod gwedcli am 7.30 Mawrth--I--)osbai.-th Beiblaidd am 7 Mercher- Gwasanaeth am 7 Iau-Cyfarfod cystadleuol am 6.30 Gwen er--Dosbartli i drin pynciau amserol (Discussion Class) am 7; Sadwrn— Cyngerdd am 6.30. A beth yw hanes y cyfar- fodydd hy-n--eyfarfodydd a gynhelir yn agos i'r llinell, yn swn y gynnau, ac yn fynych cyfar- fodydd a gynhelir pan y ceir awyrlongau y gelyn yn hedfan uwchben y babell- Ie, beth yw hanes y cyfarfodydd hyn ? Ceisiwn ddis- grifio rhai ohonynt. CYFARFOD NOS SUL. Cyn dechreu r oedia yn ffurhol cenir (ar ein heistedd) nifer o hot! emynau'r bechgyn. Gwa- hoddir y bechgyn i ddewis yr emynau eu hunain, a cheir pob parodrwydd i wneud hynny. Rhai o hoff emynau'r milwyr ydy-nt, Lead, kindly Light,' Jesui, Lover of my soul,' Sun of my soul, Thou Saviour dear,' 'Abide with me,' ac 'Holy Father, in Thy mercy.' Hwyrach mai'r olaf yw'r emyn a hoffir fwyaf ac a genir amlaf, ac o bosibl nad amhriodol fydd rhoi rhai o'r penillion yma. Gwelir oddiwrthynt lie mac meddyliau'r bechgyn, ac fod yna weddlo dros yr anwyliaid gartref. Cofier hyn yn yr Hen Wlad ac yn ein heglwysi, ar nos Sul yn enwedig. Dyma'r ddau bennill cyntaf— Holy Father, in Thy mercy, Hear our anxious prayer Keep our loved ones, now far absent, 'Neath Thy care. Jesus, Saviour, let Thy presence 5 Be their light and guide; ■ Keep, 0 keep them, in their weakness, At Thy side.' Dylaswn ddweyd mai dwy o'r tonau mwyaf poblogaidd yma ydynt Hyfrydol '(ac Aber. ystwyth.' Wedi cael pethau i drefn, declireuir y gwasanaeth yn ffurfiol. 0 ran ffurf mae'r gwasanaeth yn debyg i'r hyn ydyw gartref. Ceir canu gwresog, gwrandawiad astud (os bydd gan y pregethwr genadwri fyw). Mewn un ystyr, gwaith hawdd ydyw pregethu yma. Un peth a'n tery yn fawr ydyw'r distawrwydd a'r defos- iivii yn ystod y gwasanaeth, yn enwedig felly pan ar weddi. Ar ddiwedd y gwasanaeth a gyn- haliwyd Sul, Medi 23ain, daeth dau filwr atom i'ii private room i ddweyd eu hanes personol wrthym, ac i ofyn am air o gyngor pcl'aeh. Cawsom y fraint a'r cyfrifoldeb o geisio en cynorthwyo i gyfeiriad y goleuni a'r bywyd. DOSBARTH BEIBLAIDD. Cynhelir hwn bob nos Fawrth, o saith hyd wyth o'r gloch. Y maes a astudir ydyw, Cymer- iad y Gwaredwr ac i'n cynorthwyo gyda'r maes cyfoethog hwii cymerwn, fel math o arweiniad, lyfr bychan Dr. Harry Emerson Fosdick ar The Manhood of the AI aster." Ceir tuag ugain yn bresennol ymhob cyfarfod, ac y mae'n amlwg fod amryw o'r rhain wedi hen arfer a thrin pynciau Beiblaidd a diwinyddol. Cerrir gwaith y dosbarth ymlaen ar yr hen gynllun Cymreig o holi ac ateb. Yn ol yr hyn a glywir a'r hyn a welir, credwn fod gwaith y dosbarth o dan fendith y Meistr Mawr. Wrth gwrs, un anfantais gyda'r gwaith hwn ydyw fod yna tua- harmer y dosbarth yn ansefydlog. Bech- gyn ar en ffordd i'r neu o'r ffosydd ydynt, ac yn aro-, yn y cylch hwn am ychydig o ddyddiau. Ond y mae'r hanner arall o'r dosbarth yn weddol o sefydlog. CYFARFOD CYSTADIvEUOX,. Deallwn mai rhywbeth hollol newydd yn y cylch hwn ydy\'t cyfarfod o'r natur yma. Er mwyn ceisio sicrhau amrywiaeth a diddordeb newydd, meiltrasoin drefnu cyfarfod cystadleuol bychan. Dyma'r rhaglen :i. Challenge solo (own choice) 2. Challenge recitation (own choice). 3. Best humourous story. 4. Short essay 011 The Y.M.C.A. in France.' Cawsom gyfarfod diddorol a llwyddiannus, ac y mae'n debyg y trefnir rhywbeth• cyffelyb yn fuan eto. j • DISCUSSION CI,ASS. Dyma, hwyrach, y cyfarfod goreu geir yma. j Ceir o 20 i 30 yn bresennol. A ganlyn yw'r rhag- en am y mis (rhoddir rhyddid i'r bechgyn i awgrymu testynau) Has Christianity failed?' Is it worth while being a Christian ? Fatal- ism,' Sectarianism Ceir siarad sylweddol a phvrrpasol ymhob cyfarfod. Dyna'r hanes yr wythnos ddiweddaf pan yn trin y pwnc o I Fatalism.' Gofynnwyd y cwestiwn, 'A yw dyn yn fod cyfrifol ? Agorodd y cwestiwn hwn faes eang ac amserol, ac fe gawsom amser wrth ein bodd. Do, yn wir Pan ofynnwyd ar ddiwedd y cyfarfod, 'A awn ni ynilaeii yn y cyfarfod nesaf at y testyn geir ar y rhaglen, neu ynte rhoi sylw pellach i'r mater a fu o daii,ylw he!,io penderfymvyd yn unfrydol i wyntyllu ymhellach yr hen gwestiwn. Ar ddiwedd y cyfarfod daeth milwr ieuanc atom, wyneb yr hwn a awgrymai intelligence a niagwriaeth dda ac nieddai Wel, syr, mwynlieais y cyfarfod heno yn fawr gwna i mi feddwl am yr hen gartref a'r Gymdeithas Lenyddol. Teinilaf ei bod yn iechyd i ddyn i dreulio aivi- mewn awyrgylch fel hwn. Un o'n peryglon ni fel milwyr ydyw anghofio'c pethaii mawr. Carwn fod gyda chwi nos Weuer nesaf, ond ofnaf fod hynny allan o'r cwestiwn deallaf y bydd ein bataliwn ni yn rnynd i'r line yfory. Ond,' nieddai, gan ysgwycl fy llaw yn gynnes, byddaf yn meddwl am danocli chwi a'r cwest- iwn fydd .0 dan >ylw, ac, os caf gyflc, anfonaf y-chydig o nodiadau i chwi ar y mater.' Ni chlywsom ddim oddiwrtho liyd yn hyn. Beth yw ei hanes, tybed ? Gwyddom fod yna frwydro caled wedi ac yn cymryd lie yn y rhan o'r llinell yr aeth ei adran ef iddi. Hwyrach ei fod ef, fel llawer o fechgyn da eraill, yn meddwl am bethau mawr bywyd mewn gwlad LIe mae'r awel fyth yn dyner, LIe mae'r wvbren fyth yn glir.' Cawn, fe gawii amser da yn y dosbarth hwn, ac nid yw hynny yn rhyfedd o gwbl. Pain ? Oni cheir rhai o fechgyn goreu ein gwlad yn y fyddin heddyw—bechgyn darllengar a meddyl- gar-bechgyn o gymeriad a diwylliant ? Ceir, siwr, a diolch i'r nefoedd am danynt. Profant yn gynhorthwy mawr i fechgyn gwannach o'u cwmpas. Ac i bwy yr ym yn ddyledus am y type yma o fechgyn-bechgyn sydd yn nertÍi moesol i'r fyddin ? Ouid i rieni duwiol a da ? Onid i athrawon ffyddlon yr Ysgol Sul, diacon- iaid a gweinidogion byw ac ymdrechgar, ac eglwysi gweddxgar a Christionogol ? 0 na, ffyddloniaid Seion, ni fu eich llafur yn ofer. Ceir prawfion o hynny heddyw ym maes y rhyfel. Ond rliaid ymatal gwelwn fod ein llith yn rhy faith eisoes, yn enwedig pan y cofiwn fod papur mor brin. Cyn sychu'r pin dymunaf ddatgan yma fy niolchgarwch i swydd- ogion ac aelodau eglwys Bryn Seion, Gilfach Goeh, am fy rhyddhau -i ddod allan, ac am eu caredigrwydd tuagataf a'u cynhorthwy imi yn y gwaith. Cofiaf aii-i fy mhedwar mis ym maes y rhyfel tra byddaf byw.

HELION HULIWR.