Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

IHYN A'R LLALL 0 BABllON FAWR.…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I HYN A'R LLALL 0 BABllON FAWR. GAN EYNON. Wrth fyned heibio caniataer i mi blannu8 blodeuyn bychan coffadwriaethol ar fedd fy hen gyfaill Jacob Jones—' Jacob o'r Foel '-ym mynwent yr Hen Bethel, Cwmaman. Un Jacob Jones grewyd erioed. Yna, ar ol i'r Brenin Mawr greu hwnnw, torrwyd y mould. Gallaswn lanw rhifyn o'r TYST a hanesion hynod am Jacob Jones, ond dim un stori yn ei ddangos fel dyn shabby. Yr oedd yn unplyg, yn onest, yn dweyd ei fam heb ofni gwg nac ennill gwen yr un dyn byw. Nid bob amser yn ddengar—weithiau yn llyni dros ben—ond chlywais i neb erioed yn ameu ei onestrwydd a'i burdeb. Pan euthum fel myfyriwr ieuanc hollol ddibrofiad o'r Coleg yn Aberhonddu i'r weinidogaeth yn Cross Inn a Chwmaman, yn y cyfwng hwnnw Jacob Jones oedd y business man, ac yr oedd-chware teg iddo—yn llond yr enw. Bu yn hen gyfaill annwyl i mi hyd ei anadl olaf, a phe buaswn o fewn can milltir i'r Cwm ar ddydd yr angladd, awn iddi ar fy union i ddweyd gair neu ddau ar lan ei fedd—-bedd gwr Duw. Pel pob diwygiwr-a phob proffwyd o flaen ei oes—nid oedd Jacob yn boddloni pawb, nac yn ceisio boddloni pawb. Yr oedd pob tafarndy yn y lie yn edrych arno fel eu gelyn pennaf. Yr oedd nid yn unig yn ddirwestwr o'i fodd, ond yr oedd yn ei lawn arfogaeth bob amser. Cofiwyf am un tafarnwr eofn a rhyfygus dros ben fyddai yn arfer galw melltithion yn enw ei holl dduwiau ar ben Jacob yn nyddiau ei nerth ond pan oedd y tafarnwr hwnnw yn nesu at ochr y dwr rhaid oedd anfon am Jacob Jones i offrymu gair o weddi drosto wrth adael yr anial.' Y mae un ffaith fel hon yn dwevd mwv na cholofnau o sebon ar lan y bedd neu yng ngholofnau'r wasg. Heddwch i lwch yr hen ryfelwr dewr. Cafodd gyrraedd oedran teg, a bydd Cwmaman gryn lawer gwacach i lawer ohonom ar ol colli ohono bersonoliaeth gref fy hen gyfaill, Jacob o'r Foel. J| Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lan, oddeutu'r bwrdd.' Gwr enwog sydd yn tynnu cryn sylw yn y y dyddiait h-vil yw Y' Dr. pulpud Lltindeinig y dyddiau hyn yw y Dr. T. R. Glover o Gaergrawnt. Y mae efe yn un o'r dons yn y Brifysgol, ac o ran hynny yn un o'r ser disgleiriaf yn eu plith. Y mae wedi pregethu droion yng nghapel Westminster yn ddiweddar, ac y mae ei glod fel awdur y llyfr ardderchog, The Jesus of History,' yn sicrhau iddo gynulliadau lluosog a dylanwadol. Mab yw y Dr. Glover hwn i'r Dr. Richard Glover o Bryste, ac y mae'n sicr o fod yn gordial i ysbryd yr hen weinidog enwog hwnnw fod ei fab dysg- edig yn gwneud y fath waith ardderchog fel amddiffynnydd y ffydd. Nid yw Dr. Glover y mab yn bregethwr hyawdl. Y mae yn fwy o bregethwr sense na phregethwr swn, ac y mae pregethu felly yn fwy cymeradwy yn yr oes hon nag yn yr oes o'i blaen hi. Nid yw Dr. Jowett eto wedi gallu ymryddhau o'i rwymed- igacthau yn yr America, ac felly rhaid i West- minster fyw ar supplies am rai misoedd. Mae Mr. R. J. Campbell yn dod yn ei ol i'r Brifddinas cyn bo hir. Daw yn ol fel ficer Christ Church, Westniinster-rhyw, ddau neu dri ergyd carreg o gapel mawr Westminster. Felly bydd Mr. Campbell a Dr. Jowett yn gymdogion lied agos. Noddwr y fywoliaeth hon yw Canon Carnegie, yr hwn briododd weddw Mr. Joseph Chamberlain. Diau y bydd dyfodiad Mr. Campbell yn adgyfnerthiad i allu pregethwrol yr Ivglwys Sefydledig yn y Brifddinas. Nid oes yma neb ar hyn o bryd yn gwisgo mantell y diweddar Canon Liddon neu'r diweddar Deon Farrar. Mae'n amheus a yw Mr. Campbell wedi ei dorri allan i fod yn olynydd i'r enwogion preg- ethwrol hyn. Yn ei gylch newydd dymullwn iddo bob llwydd a bendith. Mae yma ddigon o le i Paul ac i Apollos ac i Cephas., hebfjfod angen i'r un sathru dim ar 'preserves y llall. Bydd Dr. Campbell Morgan yntau yn cychwyn yn Mildmay rhag blaen gyda'i Ysgol Feiblaidd. Bendith amo yntau hefyd. Telir cryn sylw gan y wasg Seisnig i'r Gyn- hadledd fawr Eglwysig gynhaliwyd yng Nghaer- dydd, lie y bu arweinwyr yr Eglwys yng Ahgymru yn cynlhmio i osod trefn ar eu ty cyn y danv Dat-v-ysylltiad yn ffaith. Mae'r ped- war esgob Cymreig wedi dangos doethmeb anghyffredin wrth alw am help gwyr o farii a thalent fel y Barnwr Sankey i dynnu allan gynllun a threfn yr Eglwys Newydd" Dim ond i'r Eglwys yng Nghymru weithredn yn ddoeth ac yn unol yn y cyfwng newydd hwn, gall wneud gwrhydri yn yr Hen Wlad. Ar y llaw arall, os na ddaw yr enwadau yn nes at ei gilydd, a chydweithio'n frawdol, lle y mae cydweithio yn bosibl, cyst i gannoedd o fan achosion gau y drws Da geimyf weled fod sicrhau cyflog byw i'r gweinidog yn cael rhyw ychydig bach o sylw yn y wasg, ac ambell i weinidog yn cael mymryn o war bonus ond am y mwyafrif mawr, dim ceiniog goch. Pwnc i'r set fawr yw hwn. A oes dim modd i wyr y set fawr alw cyn- hadledd ar bwnc addfed fel hwn ?

I CAERLLEON.

I CYFARFODYDD. i-

._._-_,_- I NODION.I