Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

HYN A'R LLALL 0 BABILONI FA…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

HYN A'R LLALL 0 BABILON I FA W R. GAN EYNON. Mae Sant Stephaa. yn fyw ferw unwaith eto. Nos Fawrth ydoedd noson fawr ail-gychwyn y peiriant, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth vno yngryno, a'r Set Fawr yn llawn. Ni fuwyd yn rhyw hir iawn cyn fod yr hen ddoniau yn dod 1 r golwg. Er enghraifft, dyna'r hen gwest- lynwr croendew Joseph King a'i ofyniadau anorffen ar bob pwnc dan haul. Goreu oil gan y Seneddwr enwog os bydd y cwestiwn yn un cornelog ac yn gollwng rhyw gath o'r cwd.' Y mae ganddo athrylith anghyffredin yn y ffordd o ddarganfod cathod felly, ac i ofyn cwestiynau cas, a llusgo straeon-pen-hewl i oleum dydd y Senedd. Dyna un ffordd i ddod yn enwog—os enwogrwydd ydyw peth fel hyn. Addefaf yn rhwydd ac yn rhydd nad oes dim yn fwy angenrheidiol yn y Senedd na beirniad- aeth deg ond, os na ofelir, rhwydd iawn yw i ddyn golli dylanwad drwy rhyw dragwyddol ffraeo gyda phawb a phopeth. Dyna ffawd ein hen gyfaill Joseph King. Gresyn hyn hefyd. Un ø'n diadell ni fel Anni- bynwyr yw Joseph King. Aeth drwy'r Coleg a'i wyneb ar y weinidogaeth. Cyfaill mawr i Dr. Horton, a Radical o'r groth. Bum yn eis- tedd gydag ef ar Pwrdd y Liberation Society am flynyddoedd lawer, ac yr oedd yn Ymneilltuwr o'i wadn i'w goryn. Y mae felly eto, mi wn ond, rhwng un peth a'r llall, edryehir arno bellach fel crank. Fel y dywedodd Maclaren o Manchester ar bwnc arall, Nid yw pethau odd yn byw yn hir.' Gwir yw y gair hwna am ddyn- ion odd hefyd. Nid yw eu teyrnasiad yn hir- barhaol. Os yw r 2eiriau hyn yn ymylu ar fod yn angharedig, ellir dim help. Ar adeg ofnadwy fel hon onid dyledswydd pawb ohonom yw fel hon,^ r ffordd a hyrwyddo mynediad y cer- byd gwladol yn ei flaen ? Mae cwestiynau fel eiddo Mr. King ar hyn o bryd yn hollol ddi-les, ac yn gwneud gwaith y Llywodraeth yn an- hawidach; a'r nefoedd fawr wyr fod y baich eisoes yn ddigon trwin, fel nad oes eisiau ych- wanegu dim banner owns ato. » Er fod yr Iwerddon yn ferw o ysbryd gwrth- ryfel, a r Sintt beiners yn amlhau ar bob Haw, eto rywfodd ceir llawer Gwyddel craff yn credu fod gobaith am ddyddiau gwell i'r Ynys Werdd. Gwyddys fod yna Convention yn eistedd ar hyn o bryd ym mhrif ddinasoedd y Gwyddel, yn cynnwys dynion enwog o bob plaid, er mwvn gweled a yw hi ddun yn bosibl i'r Gwyddel" ei hun drefnu gwaredigaeth i'w bobl. Addefir yn unfrydol fod y Sais wedi methu Hywodraethu'r I werddon a phan yno y dydd o'r blaen, gwelais ar bob liliaw arwyddion digamsyniol fod yr hen elyniaeth mor chwerw ag erioed. Bydd pobl Ulster yn fflaiiiio pan sonuir am Home Rule Ar y llaw arall, ceir pobl y Gorllewin a'r De vu dawnsio gan gynddaredd pan fyddo rhyw Oranee- man yn dweyd y drefn. Gofynais i foneddiges oedd yn credu hyd y earn yn Carson a'i fyddin,' ai nid oedd y Prifweinidog Cymreig wedi dangos common sense anghyffredin pan yn dweyd wrth blant Mari am dreio eu dwylaw eu hunain  ???'. CyStal ? ?y? wrthynt—' Dyma ni, NV?ddelod annwyl, wedi methu eich boddloni chwi drwv'r canrJfoedd. Wei, bellach, ewch ati yn eich plith eich hunain i drefnu cynllun.' A ayna yw y Convention (beth yw'r Gymraeg am hwna ?)--seiat o Wyddelod enwog yn ceisio cyn- Uunio ffordd gwaredigaeth. Os llwyddant-ac Y lllae crYll obaith y gwnatit-i setlo'r dyrys- bwnc Gwyddelig, bydd y byd politicaidd yn barod i weiddi Hwre os nad Haleliwia ac fe ddywed yr holl fyd 'Amen.' Nid oes dyn na dewin fedr ddweyd beth fydd cwrs pethau ar ol y rhyfel. Un arwydd dda ydyw hon-fod dynion meddylgar pob plaid meWll cymdeithas yn ceisio bod yn barod gyda chynlluniaii a mesurau diwygiadol. Y mae byd Llafur mor brysur a'r un arall. Cyfalaf hefyd, wrth gwrs. Siaredir llawer o nonsense o bryd i'w gilydd gan wyr eithafol pob plaid ond, yn v pen draw, nid pobl eithafol fydd yn cario'r dydd. y mae gan y Blaid Lafur ar hyn o bryd rai o ddynion galluoca'r wlad ymhlith yr arweinwyr, a dim ond i bobl y rank and file gael digon o ras, heb son am synnwyr cyffredin, i wrando at y rhain, ac nid gwrando ar bob cheap jack tafodrydd, ni raid ofni'r canlyniadau. Un peth raid ei roddi i lawr a llaw gref yw yr ysbryd sydd yn torri bargen ar ol ei tharo. Cyfeirio yr wyf at y sectional strikes. Plentyn- aidd i'r pen ydynt. Fel mater o honour dylasai'r meistr a'r gweithiwr, y naill fel y llall, fod yn ddyn fyddo'n sefyll at ei air. Peth arall raid anelu ato ydyw hyn fod y mwyafrif bob amser l lywodraethu. Achwynir y dyddiau hyn-ac yr wyf newydd fod ym Morgannwg—mai rhyw Llond wagen o gryts' yn anil iawn fydd yn penderfynu pethau pwysig, am mai hwv fydd yn ffyddlon yn y Lodge. Y mae bai mawr ar y miloedd dynion synhwyrol geir ymhob ardal lotaol am eu difrawder, a rhaid cael rhyw check ar benchwibandod yr hobblg-de-hovs sydd yn taranu ac yn melltenu yn enw Llafur. Dywedaf eto, y mae gan y Blaid I/afur fechgyn ardderchog ymhlith yr arweinwyr, a'u busnes fydd dyfeisio ffordd i'r maLmiy vote lywodraethu, ac felly i achub Llafur rhag syrthio i ddwylaw glaslanciau dibronad, heb ganddynt deuluoedd na chyfrifol- deb arall o fath yn y byd i weithredu fel draq ar olwyn y cerbyd pan fyddo hwnnw'n bygwth rhedeg yn wyllt. Da fod dynion fel Henderson a Mabon a Brace a Richards a Thomas wrth v llyw. 0 hya allan rhaid i'r criw ufuddhau i'r capten; os amgen, fe a'r llong i'r graig. Frbyn llyn y mae'r libel ar y Prifweinidog wedi ei setlo. Y ddau brif bechadur, fel y cofir, oedd y Star a'r Westminster Gazette. Enwais y Daily News hefyd ond mae'n debyg na chyhoeddodd y News fod Mr. Voyd George wedi ffoi rhag y bombs, ond fe erlynnwycl cwmni y Daily News am mai hwy ydyjit berchenogion y Star. Ac felly, os na ddarfu iddynt labyddio y Prif- weinidog, yr oeddent—fel Saul o Tarsus--yfi rhyw ofalu am ddillad y rhai oedd yn cael bias ar en job. Wei, amcan y Prifweinidog oedd hoelio'r celwydd yn gyhoeddus wrth y counter. Hynny a wnaed y dydd Mercher diweddaf, pan ymddiheurodd y pechaduriaid oil, gan dalu arian sylweddol fel costau. Gwyddys bellach fod y Cymro enwog yn Pfraiuc ar y pryd. Ac eto mor felys gan ambell un—ambell Gymro yn enwedig -yw unrhyw stori fydd yn adlewj^rcliu'n an- ffafriol ar Dafydd Frenin. Clefyd cas yw'r clefyd melyn. Try bopeth arall yn felyn hefyd, drwy'r nef a'r llawr.

[No title]

Advertising