Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CYFUNDEB SELSNIG PENFRO A…

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

CYFUNDEB SELSNIG PENFRO A CHEREDIGION. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod nos Fawrth a dydd Mercher, Hydref yr 2il a'r 3ydd, 1917, yn Tier's Cross, gerllaw Hwl- ffordd. Yr oedd yn breseunol gynrychiolaeth luosog o holl eglwysi'r Cyfundeb. Cynhaliwyd y Gynhadledd bore dydd Mercher, o dan lywyddiaeth y Parch. R. Bond Thomas, Meyrick-street, Pembroke Dock, a dechrenwyd drwv weddi gan y Parch. Rhys Price, St. Ismael. Wedi cadarnhau cofnodion y cwrdd. diweddaf, awd ymlaen a'r rhaglen ganlynol 1. Pasiwyd pleidlais unfrydol yn erbyn yr arferiad wael o werthu papnrall ar ddydd yr Arglwydd. 2. Trefnwyd taith i gynrychiolvdd y Gym- deithas Genhadol drwy'r Cyfundeb. 3. Pasiwyd i wnend apel at yr eglwysi i ychwanegu hanner coron o leiaf at y tanysgrif- iad blynyddol, i gwrdd a'r treuliau ychwanegol oblegid y rhyfel. 4. Pasiwyd i dderbyn y brodyr y Parchn. D. E. Richards, Little Haven, a J. P. Martin o Neyland, yn aelodau o'r Cyfundeb yn y Cwrdd Chwarterol nesaf. 5. Penderfynwyd cynnal y Cwrdd Chwarterol nesaf yn y Tabernacl, Narberth. 6. Ethoiwyd y swyddogion am y flwyddyn ddilynol :-Cad.eir-dd-ilfr. William Canton, Nolton Haven YsgTifellllydd-Parch. John Williams, Saundersfoot; Trysorydd—Parch. J. E. Griffiths, Albion-square, Pembroke Dock Ystadegydd—Mr. W. N. Grieve, Pembroke Dock Ysgrifennydd Cellhadol-Parch. Howell Powell, Pembroke Ysgrifennydd Gohebol- Parch. Samuel Jones, Zion's Hill. Gollyngwyd y Gvnhadledd drwy weddi gan y Cadeirydd. Pregethwyd y noson gyntaf gan y Parchn. J. H. Phillips, Longstone, a J. Bennett, Goodwick —yr olaf ar y Genhadaetli. t Prynhawn dydd Mercher dechreuwyd yr oedfa gan y Parch. Saiiiuc-I Jones, Zion's Hill, a phreg- ethwyd gan y Parch T. Lloyd Williams, B.A., Tenby. Nos Fereher dechreuwyd. yr oedfa gan Mr. J. C. James, Keyston, Nolton Haven, a phreg ethwyd gan y Parch. J. Lloyd, Wolfsdale. Rhoddodd y frawdoliaeth yn Tier's Cross dderbyniad calonnog i'r brodyr darparwyd yn helaeth ar y byrddau gan y chwiorydd a hyfryd oedd gweld mor freLiol y trigai'r Parch. Lewis Williams ymhlith ei bobl. SAMUEL JONES, Ysg. Gohebol. I

-_._.-..-.._-_..-I CYFUNDEB…

..- .:,.,-.-Achos ym Merthyr…

Diaconiaid Ddoe a Heddyw.