Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Llyfr Newldd Amserol, yn awr yn barod, PRIS 1/ trwy'r Post, 1/1, Myfyrion a Chaneuon Maes y Tan. [Ysgrifeanwyd ar Faes y Frwydr yn. Ffrainc.] Gan DYFNALLT. 7 Copi, 0/ 14 Copi, 12/ Cyhoeddedig gan W. M. EVANS A'l FAB, Swyddfa Seren Cymru, Caerfyrddin. PWYLLGOR Y GRONFA. CYNHBWR y Pwyllgor nesaf yng nghapel yr Annibynwyr, Llandrindod, am 2.30, dydd Marcher, Tachwedd qeg. Anfoner pob gohebiaeth yn ddioed i'r Ysgrifenyddion. H. M. HUGHES, W. G. OWEN, J g 11. Athrofa Aberystwyth. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru.) Prifathraw-T. F. ROBERTS, M.A.. LL.D. DECHREUA'R 47ain Tymor ar Ddydd Mawrth, Hydref laf, 1918. Paratoir yr efrydwyr ar gyfer Arholiadau Prifysgol Cymru. Cynygir amryw o Ysgoloriaethau (rhai ohonynt yn gyfyngedig i Gymry) y flwyddyn hon. Cymer yr Arholiad le yn Aberystwyth ar yr 17eg 0 fis Medi, 1918. Am fanylion pellach ymofyuller a— J. H. DAVIES, M.A., Cofrestrydd. MYNYDD CARMEL, RHYMNI. I CYNHELIR cyfres o gyfarfodydd arbennig ynglyn a. Sefydliad y Parch. D. Overton, Bethania, Dinas, fel gweinidog ar yr eglwys uchod Sul, Llun, Mawrth, Marcher a lau, Hydref 28ain hyd Tachwedd laf, Disgwylir i wasanaethu yn y cyfarfodydd uchod y Parchn. Rhys D. Jenkins, Gosen; R. E. Peregrine, B.D., Rhymni; D. G. Evans, Penygraig; T. Tudor, Ebbw Vale; J. Cradoc Owen, A.T.S., EbbwVale; Owen Williams, Brynmawr; F. Surman, Tredegar; Gwilym Rees, M.A., Merthyr T. E. Williams (B.). Rhymni; a J. R. Salmon, Pontlotyn. Bydd y cyfar- fod not Lun am 6 o'r gloch yn Gyfarfod Sefydliad. Llywyddir gan Mr. Joseph Price, Rhymni. Estynna yr eglwya wahoddiad cynnes i weinidogion a lleygwyr y cylch, ac eraill fedrant fod yn bresennol. CYFAILL.
Jiwbili y Parch W. C. Jenkins,…
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
Jiwbili y Parch W. C. Jenkins, Cydweli. £ s. c. TUALLAN I'R EGLWYS. Lady Howard, Cilmaenllwyd 1 0 0 J. Thomas, Ysw., Felindre 2 2 0 Capten Harries 0 10 0 D. C. Edwards, Ysw., Pembre 1 1 0 J. Howells, Ysw., M.D., Abertawe 1 1 0 L. Williams, Ysw., M.D., Ferryside 1 1 0 W. J. Williams, Ysw., fferyllydd, Cwmgorse 0 5 0 Parch. D. J. Davies, B.A., Capel Als, Llanelli 0 5 0 Parch. D. E. Walters, M.A., B.D., Abertawe 0 3 0 Bydded cyfeillion Mr. Jenkins fod mor garedig ag anfon mor fuan ag sydd bosibl, am fod yr amser yn agoshau. GEORGE JONES, Boro Stores, Trys. I W. H. WILLIAMS, Penygaer, Ysg.
AT EIN GOHEBWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. -Mewn Llaw.-Dyfo(lol A(IdNl,.ig Cymru-!<ebo. Glyncorrwg-Nodion o Le-,rii-O Pethel, Arfon, i Fethel, Aberdar-Tabernac1, Trealaw-Marsh Lane, Bootle-Eglwysi Rhyddion Gogledd Cyinru-Elim, Caerfyrdclin--Cymru a'r Fasnach Feddwol—Diaconiaid Ddoe a Heddyw—Cym- anfa Bregethu Annibynwy r Lerpwl a'r Cylch— Cyfarfod Chwarterol Cyfundeb Mon—-Cana, Mon —-At Eglwysi Rhyddion Cymru a Mynwy— Undeb Eglwysi Aiiiiibylinol Lerpwl, Manchester, a'r Cylehoedd-Merthyr Tydfil—Marwolaethau -Cyfarfodydd, &c.
GWYBODAETH El EWYLLYS EF.*
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
GWYBODAETH El EWYLLYS EF.* GAN YR ATHRO D. MIALL EDWARDS, M.A. Nid ydym yn peidio a gweddio drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a dealt ysbrydol.' -COL i. 9. DYMA'R agoriad i weddi Paul ar ran y Colossiaid. Efallai ein bod yn synnu fod Paul ya agor ei weddi gyda'r fath bwys- lais-pwyslais triphlyg-ar wedd ddeallol y bywyd ysbrydol. Deisyf eich -4byflawni chwi a gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doethineb a deall ysbrydol.' Gwybod- aeth,' doethineb,' deall.' Nid mewn cyfarfod gweddi na seiat, fel rheol, y byddwn ni yn gosod pwyslais arbennig ar yr elfen hon mewn crefydd, ond mewn Ysgol Sul a chynhadledd. Ond mae'n ddigon pwysig yn syniad Paul i'w gosod yn forefront ei weddi. Bum yn petruso ai tybed fod mater fel hwn yn un cyfaddas iawn i'w drafod mewn cyfeillach grefyddol fel hon, ac a ellid disgwyl llawer o wlith ac eneiniad wrth siarad arno. Ond os yw'n ddigon pwysig i hawlio lIe mor amlwg yng ngweddi Paul, rhaid ei bod yn deilwng o ystyriaeth mewn cyfeillach hefyd. (1) Y mae yna wedd ddeallol i'r bywyd ysbrydol. Ni ddywedaf mai dyna'r wedd bwysicaf, ond beth bynnag arall a gyn- hwysir yn y bywyd hwnnw, mae ynddo elfen o 'wybodaeth,' o ddoethineb,' ac o ddeall ysbrydol/ Nid sentiment gwag, anelwig, yw crefydd nid yw'n gwbl gyf- ystyr a moesoldeb, hyd yn oed ac nid cymysgedd ydyw o foesoldeb a theimlad a dim rhagor, fel yr awgrymai Matthew Arnold pan soniai am grefydd fel (morality touched with emotion.' Cynhwysa, ymhlith pethau eraill, radd o wybodaeth ac amgy- ffrediad o wirionedd, onide fe ddirywia yn ofergoeledd dall a bloesg. Nid yw'n wir mai anwybodaeth yw mam defosiwn. Mae gwir ddefosiwn yn cynnwys elfen o ddealltwriaeth, a syniadau mwy neu lai clir a goleuedig. Ni allwn addoli'r hyn yr ydym yn gwbl anwybodus ohono. Ni allwn addoli Duw nid adwaenir' yr Atheniaid gynt, na Veiled Being' H. G. Wells, mwy nag y gallwn addoli'r gwagle mud a byddar sydd tuhwnt i'r bydoedd pell. Ni allwn addoli na dal cymundeb a. Bod Dwyfol heb ei fod yn meddu ar briodoleddau pendant y gwyddom ryw- beth am danynt, er inni fethu eu ham- gyffred yn drwyadl. Ac am hynny, mewn trefn i'r bywyd ysbrydol ynom gyrraedd ei lawn dyfiant, rhaid ein cyflawni a gwybodaeth Ei ewyllys Ef ymhob doeth- ineb a deall ysbrydol.' Mae Cristionog- aeth yn cynnwys ffeithiau i'w gwybod, ac egwvddorion i'w deall, a rhydd inni ddoeth- ineb i reoli'n bywyd yn unol a'r ffeithiau a'r egwyddorion hynny. Mi at ymhellach, *Anerchiad a draddodwyd yng Nghyfeillach GyfEreditiol Cymanfa Annibynwyr Lerpwl a'r Cylch, nos Sadwrn, Hydref 13eg, 1917. a dywedaf nad yw dyn, beth bynnag a fo ei gyraeddiadau, ddim yn wir wybodus na doeth na deallus, oni wyr rywbeth am ffeithiau a gwirioneddau'r byd ysbrydol, ac onid yw'n gwybod Ei ewyllys Ef ae yn meddu'r ddoethineb sydd oddiuchod.' Nid digon yw gwybod am symudiadau'r ser uwchben a deddfau'r llwch o dan ein traed, a deall rheolan rhif a mesur yn berffaith. Nid yw'r rhain a'u cyffelyb ond ymylon byd gwirionedd t 1. phlisgya gwybodaeth, o'u cymharu ag 'ardderchow- grwydd gwybodaeth Crist lesu ein Har- glwydd.' Y dyn gwir ddysgedig yw'r hwn sy'n gwybod Ei ewyllys Ef ymhob doeth- ineb a deall ysbrydol.' fiJ (2) A oes modd gwybod Ei ewyllys Ef' ? A yw gwybodaeth o Dduw yn bosibl i ddyn ? Nac ydyw, medd yr agnos- tic. Ydyw, o fewn terfynau, y mae'n bosibl, meddwn ni. Mae gan ddyn ffenestr yn ei enaid yn agor tua thragwyddoldeb. Mae ganddo ddawn a chynneddf i am- gyffred pethau ysbrydol. Gwir fod yna elfen ddofn o anwybodaeth yn gydbleth- edig a'n gwybodaeth-anwybodaeth yn codi o fawredd anchwiliadwy'r Person Dwyfol a dirgelwch dihysbydd Ei hanfod. Mor anchwiliadwy yw Ei farnau Ef, a'i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt! Y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy nag y medr ein deall meidrol ni ei am- gyffred. A da yw hynny, oblegid y mae'r ymdeimlad o ddirgelwch Ei Berson a'i lywodraeth yn gymorth inni agoshau ato gyda gwylder a pharchedig ofn.' Er hyn i gyd, nid yw dyn wedi ei dynghedu i anwybodaeth llwyr a digymysg ynglyn a. Duw a'r byd ysbrydol. Er mor drwchus ein hanwybodaeth, mae yna drawstiau o oleuni'n saethu drwy ganol y tywyllwch sydd yn ein hamgylchu. Mae'n wir nad yw dyn yn gallu gwybod y dirgelion oil/ a da yw hynny, er mwyn ei gadw'n wyl- aidd, ac er mwyn ei symbylu i chwilio'n ddyfal am ragor o oleuni. Ond fe all wybod digon yn awr i allu caru Duw a'i addoli a'i wasanaethu, yr hyn yw ein rhesymol wasanaeth ni. (3) Ond nid yn ei oleuni ei hun y daw dyn i wybod a deall pethau ysbrydol. 'Yn Dy oleuni y gwelwn oleuni,' medd y Salinydd. Mae gwybodaeth o Dduw yn rhagdybio dau beth (a) Datguddiad o du Dduw, a (b) Cydnawsedd ysbryd i dder- byn y datguddiad o du dyn. Mae fod dyn yn gallu gwybod Ei ewyllys Ef yn tybio fod Duw yn datguddio Ei ewyllys. Ni all goleuadau dynion oleuo ymhell tuag i fyny, heb i'r goleuni dwyfol ddod i lawr i'w cyfarfod. Nid yw'r gannwyll o un help i'r seryddwr. Nid yw lamp lwyd yr heol o un gwerth i ddangos inni ryfedd- odau'r llwybr llaethog. Yn eu goleuni eu hunain y gwelwn ni'r haul a'r ser. Ac yng ngoleuni datguddiad dwyfol y deuwn ni i amgyffred pethau ysbrydol. Yn Dy oleuni y gwelwn oleuni.' Ey holl ffyn- honnau sydd ynot Ti.' Mae i'r wybod- aeth hon felly ei hamod ysbrydol. A'r amod ydyw, meddu ar feddwl a fo'n gyd- naws a natur ysbrydol y datguddiad. Ymhob doethineb a deall ysbrydol.' Nid yn ddibwrpas yr ychwanegodd yr Apostol y gair ysbrydol' at y gair deall.' Nid trwy gwrs o ymresymiad neu ymchwiliad- aeth resymegol yn bennaf y deuir o hyd i'r wybodaeth hon, ond trwy ddatguddiad o du Duw a phrofiad o du dyn. Nid gwybodaeth wyddonol neulathronydclol