Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
Llyfr Newydd Amserol, yn awr yn barod, PRIS 1/ trwy'r Post, 1/1, Myfyrion a Ghaneuon Maes y Tan. [Ysgrifennwyd ar Faes y Frwydr yn Ffrainc.] Gan DYFNALLT. 7 Copi, 6/ 14 Copi, 12/ < Cyhoeddedig gan W. M. EVANS A'l FAB, Swyddfa Seren Cymru, Caerfyrddin. Machan Mawr II COMEDI MEWN TAIR ACT, Gan DYFNALLT. PRIS SWLLT. ——— ODDIWRTH Y CYHOEDDWYR- JOSEPH WILLIAMS & SONS, (MERTHYR), LTD., SWYDDFA'R 'XYST.'
AT EIN GOHEBWYR. -1
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR. -1 Mown Llaw-Y Golofn Farddonol- Gilead, Coity- Birmingham—Siloh, Penybano-Treffynnon-Bethel, Aberdar—Carmel, Penrhiwceibr-Tabernacl, Pont- ycymer-Groesoswallt a'r Cylch-Mynydd Carmel, Rhymni-Gapel SuI, Cydweli-Jiwbili Eglwys Borth- ygest-Min y Ffordd-Rhydaman-Cymanfa Ddir- westol Dehaudir Cymru-Llechryd, ger Rhymni- Undeb Ysgolion Sul Gogledd Penfro-Llanddeusant, sir Gaerfyrddin-Castellnedd a'r Cylch—Cyfarfodydd Chwarterol Cyfundeb Dwyrain Dinbych a Fflint, Cyf- undeb Gorllewinol Caerfyrddin, a Chyfundeb Dwyrain Morgannwg-Llythyr Llundain-Angladd Mrs. J. M. Williams, Penygroes, Arfon-William Williams,tPant- ycelyn, IT.-Ellis Jones-Diaconiaid Ddoe s Heddyw -J. T. Rhys—Jiwbili Dr. Davies, Castellnewydd Bmlyn.
Y W E I N I D 0 G A E T H…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y W E I N I D 0 G A E T H A'R FASNACH FEDDWOL. GAN Y PARCH. 0. L. ROBERTS. I YN rhifyn Tachwedd o'r Dysgedydd ceir nodiadau iled helaeth gan un o'i olyg- wyr, sef y Parch. W. Pari Huws, B.D., ar y cwestiwn pwysig o'r ffordd oreu i ddelio'n effeithiol a'r fasnach mewn diod- ydd meddwol—gan roi sylw arbennig, wrtb gwrs, i'r ddau gynllun sydd heddyw gerbron y wlad, sef Gwaharddiad a Phryn- iant. Nid wyf yn synnu dim fod fy pen gyfaill yn galw sylw fel golygydd at y cwestiwn,. a hynny yn Nodiadau Misol yr hen gyhoeddiad. Y mae'r Dysgedydd wedi arfer bod yn fyw i gwestiynau'r dydd, ac y mae Mr. Huws yn cael ei adnabod ar hyd ei oes fel dirwestwr selog a brwd- frydig. Ar y cwestiwn o lwyrymwrthod a'r ddiod, ac hefyd y pwysigrwydd o wneud popeth er diddymiad y Fasnach yn y pen draw, yr wyf fi a Mr. Huws yn gwbl gytuno. Yn bersonol, ni roddaf i fyny hyd yn oed iddo ef yn fy sel ddir- westol; ac yn fy ffordd fy hun hawliaf fy mod wedi cymryd fy lie, ac wedi dal ar bob cyfleustra a ddaeth i'm rhan—yn y pulpud, yn y wasg ac ar y llwyfan, ac ymhob modd arall-i bleidio dirwest a sobrwydd. Modd bynnag, wedi dweyd cymaint a hyn, y mae'n ddrwg gennyf ychwanegu fy mod yn teimlo'n ofidus ac yn drist fod fy hen gyfaill wedi cymryd mantais hollol annheg ar ei safle fel gol- ygydd i ysgrifennu nodiadau brwnt ac eithafol ar dylwyth ei dy ei hull,' y rhai a ddigwydd wahaniaethu oddiwrtho yn y mater hwn—nid mewn un modd ar yr egwyddor, ond yn unig ar y modd i gario'r egwyddor honno allan. Dechreua Mr. Huws ei nodiadau gyda'r sylw priodol a ganlyn Beth i'w wneud a'r gelyn hwn ? A chan nad ydym yn unfarn ar y ffordd oreu i atal ei gamre dinistriol, nid rhyfedd fod y mater yn cael y fath sylw yn y wasg ac ar lwyfan- nau cyhoeddus. Ac nid oes dadl na bydd cyfnewid syniadau ar y cwestiwn yn sicr o brofi'n fantais i sobrwydd^yn gyffred- inol, ac yn ffordd effeithiol hefyd i ddwyn y wlad yn unfarn ar y cynllun goreu i wynebu'r gelyn. Ac un ffordd i gyrraedd hynny yw cadw'r drafodaeth rhag mynd yn ymgiprys rhwng personau, ac yn ym- ryson rhwng pleidiau,' &c. Wedi darllen yr uchod teimlwn yn sicr fod Mr. Huws yn myned i drafod y cwest- iwn pa un ai Gwaharddiad ynte Pryniant yw'r cynllun goreu i sicrhau'r amcan mewn golwg. Ond o hyn i ddiwedd y nodiadau nid oes gair mewn ffordd o egluro'r ddau gynllun—dim ond ymosod- iad annheg ac hollol ddibwynt ar gynllun y Pryniant, a difriaeth wawdlyd ar bawb, yn enwedig gweinidogion a ddigwydd fod yn gefnog i'r cynllun. Dan y pennawd, Y Llywodraeth a'r Fasnach,' ceir nifer o osodiadau hollol benrhydd, ac yn gwrth- ddweyd ei gilydd. Mewn un frawddeg dywed Mr. Huws fod y syniad cyntaf am y cynllun hwn wedi dod oddiwrth gefnog- wyr y Fasnach, oblegid fod y rhvfel wedi peri i hyd yn oed Bacchus grynu peth ar ei orsedd gadarn. Dyna'n ddiau a barodd i'w ddeiliaid mwyaf blaenllaw awgrymu i'r Llywodraeth y priodoldeb o brynu eu masnach.' Ond yn y frawddeg nesaf dywed Mr. Huws' fod y Llywodraeth wedi amlygu tuedd i wneuthur hynny fel y ffordd oreu yn eu barn i ddarostwng y gelyn.' Fel mater o ffaith, y mae profi mai o'r Fasnach ei hun y cyfododd y syniad o Bryniant yn fwy nag y medr Mr. Huws ei wneud—yn wir, y mae yn cael ei wadu'n bendant gan gefnogwyr y Fasnach yn eu holl benderfyniadau cy- hoeddus ar y cwestiwn. Ond, meddai Mr. Huws, mabwysiadodd y Llywodraeth y cynllun hwn fel y ffordd oreu yn ol eu barn i ddarostwng y gelyn.' Gwelsom cyn hyn lawer ffordd ddoniol i fychanu'r Llywodraeth ond yn ol beirniadaeth Mr. Pari Huws, dyma'r Llywodraeth eiddilaf, fwyaf di-egwyddor fu yn hanes y byd erioed. Sylwer beth a ddywed Mr. Huws am dani Sylweddolodd yn fuan yn hanes y rhyfel fod y Fasnach Feddwol yn elyn y rhaid delio ag ef. Yr un pryd, teimlai cefnogwyr y Fasnach eu hunain fod pethau mor ddifrifol fel yr hoffent gael gwared ohoni, ac felly awgryment i'r Llywodr- aeth ei phrynu. Neidiodd y Llywodraeth at y cynygiad, ond gyda'r amcan o ddar- ostwng y gelyn. Gwelsant nad oedd y wlad yn ffafriol i'r syniad, ac addawodd Ddewisiad Lleol ynglyn a'r Pryniant fel ffordd i ennill cydsyniad y wlad a'r fargen.' Druan o'r Llywodraeth, yn ol tystiolaeth Mr. Huws, ant i fewn am y Pryniant. fel y ffordd oreu i ddarostwng y gelyn.' Ond ni fynnai'r wlad, mae'n debyg, ddaros- twng y gelyn yn y ffordd honno, ac felly addawodd y f llywodraeth Ddewisiad Lleol fel ffordd i ennill cydsyniad y wlad a'r fargen.' A ydyw Mr. Huws trwy hyn yn awgrymu mai ail beth yngolwg y Llyw- odraeth oedd darostwng y gelyn, ac mai'r peth cyntaf oedd taro'r fargen ? Ond os felly, i ba amcan ? Awgryma Mr. Huws mai'r tebygrwydd yw, pe buasai'n sicr fod y wlad yn gefnogol i brynu, y buasai ers misoedd wedi cymryd o dri i bum can miliwn o bunnau allan o'i phwrs, a tharo'r fargen,, Buasai hynny'n hollol ddianrhyd- eddus, meddai, a phobl sydd eisoes wedi eu gorfodi i wario cynifer o'u plant a chy- maint o'u harian ynglyn a'r rhyfel—yn neilltuol felly gan nad oes sicrwydd y llwyddid drwy hynny i orchfygu'r gelyn/ Ond a ddarfu ein cyfaill feddwl y frawddeg hon cyn ei hysgrifennu ? Dywed wrthym mai yr unig beth a gadwodd y Llywodraeth rhag prynu oedd na chaf- odd gydsyniad y wlad pe wedi ei gael, buasai'r pryniant wedi cymryd lie. A fuasai hynny'n annheg ? Ai nid yw cyd- syniad y wlad i unrhyw ddeddfwriaeth yn cvfreithloni'r ddeddfwriaeth honno, yn ol ein harfer ni fel gwlad o weithredu ? Ai nid ar yr egwyddor yma y mae Mr. Pari Huws ei hun yn annog ei bobl i weithredu, a clianiatau ei fod yn ymddar- ostwng i bethau o'r fath ? Ond yn y cysylltiad hwn buasai hynny, yn ol Mr. Huws, yn gwbl ddianrhydeddus at bobl sydd eisoes wedi eu gorfodi i wario eu plant a chymaint o'u harian ynglyn a'r rhyfel—yn neilltuol felly gan nad oes sicrwydd y llwyddid trwy hynny i orch- fygu'r gelyn.' A ydyw Mr. Huws am i ni ddeall mai yr unig beth a gyfreithlona ein gwaith yn myned i'r rhyfel hon ydyw sicrwydd am orchfygu'r gelyn ? Credaf fi gyda miliynau eraill fod y delfrydau yr ydys yn ymladd drostynt yn y' rhyfel presennol yn cyfreithloni ein gwaith- gorchfygu neu beidio. Ond ar wahan i hynny, nid yw dwyn y rhyfel a'i helbul i fewn i'r drafodaeth hon ond ceisio cyn- hyrfu'r dwr a thywyllu cyngor. Y mae sylwadau Mr. Huws ar yr hyn a eilw yn ( coiiscription of opinion' y peth mwyat chwerthinllyd y gallwn feddwl am dano. Gofynna mewn digllonedd, Paham y rhaid gwthio'r prynu yn enw Mr. George o hyd ? Pwy sydd yn gwneud hynny ? Dadleuer y cwestiwn ar ei deilyngdod ei hun,' meddai, ac 'Amen meddwn innau ac hawliwn ein bod ein hunain yn gwneud hynny mor gywir ag y mae Mr. Huws a'i gyfeillion y mae'n ymddangos yn eu cyn- rychioli. Dan y pennawd Cynhadledd Llan- I drindod' y mae ein brawd yn myned yn fwy chwyrn fyth. Cydnebydd y gwneid y Gynhadledd i fyny o rai o wyr blaenaf a galluocaf ein cenedl/ ond gwada hawl y cyfarfod i gael ei gydnabod fel yn cyn- rychioli barn Cymru, am nad oedd y rhai oedd yn bresennol wedi eu hanfon yno gan eglwysi neu gymanfaoedd neu gyng- horau sirol. Nid ydym yn deall fod neb oedd yno wedi hawlio dim o'r fath, ond yn sicr yr oeddynt, fel rhai oedd yn perthyn i wahanol rannau y wlad, De a