Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

DYDD0 WEDDI. [

Tabernacl, Trealaw.

Family Notices

Y W E I N I D 0 G A E T H…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gogledd, yn gynryefeiolwyr cyn belled ag y mae, dyweder, Undeb yr Annibynwyr Cymreig neu Gyfarfod Chwarterol Anni-! bynwyr Meirion yn cynrychioli'r sir--dau sefydliad y gwyddom fod Mr. Huws yn aelod ffyddlon ohonynt. A chyda phob dyledus barch gofynnwn, A yw Gynhadl- edd Cymanfa Ddirwestol Gwynedd, dy- weder, yn gynrychioliadol mewn unrliyw ystyr pellach na hyn ? Y mae sylw ensyn- iadol Mr. Huws fod y boneddigion a wnai i fyny'r Gynhadledd yn Uandrindod yno ar bwys rhyw drysorfa, ac felly yn frad- wyr i'w hegwyddorion er mwyn y pleser o gael treulio diwrnod yn Llandrindod, yn rhy ddirmygus o annheilwng i hawlio sylw; ac yn ensyniad na fuaswn byth yn ei ddisgwyl oddiwrth fonheddwr sydd mor gryf ei bwyslais arferol ar urddas ac anrhydedd dyn a Air. Pari Huws. Ffei fy hen gyfaill. Ai teg a boneddigaidd eich nsyniad ? Ond yr hyn sydd yn amlwg yn peri'r gofid mwyaf i'm cyfaill ynglyn a'r holl fusnes ydyw'r rhan a gymer ei frodyr yn y weinidogaeth ynglyn a'r cwestiwn ac, i'm barn i, dyma'r darn mwyaf annheg a dianrhydeddus yn yr holl nodiadau. Par- odd darllen y paragraff hwn i mi syndod dibendraw, ac y mae i mi bron yn anhy- goel fod y brawd a'r bonheddwr Mr. Pari Huws, o bawb, wedi ei ysgrifennu. Ai ciwed di-egwyddor fel y'u disgrifir ganddo ydyw'r rhai y mae ein cyfaill wedi eu cyf- arfod yn y weinidogaeth yng Nghymru ? Sylwer ar ei eiriau 4 Teimlwn yn siom- edig weled cynifer o weinidogion mor amlwg yn y cyfarfod, ac yn barod i ymrestru i'r ymgyrch o blaid y Prynu, yn arbennig felly gan i ni ddeall fod- argyhoeddiad dyfnaf rhai ohonynt o blaid Gwaharddiad.' Beth mewn difrif ydyw ystyr geiriau fel hyn ? A ydym i- deall fod Mr. Huws yn cyhuddo ei frodyr o fyned i'r Gynhadledd i frad- ychu rhyw egwyddor oedd yn gysegredig ganddynt o'r blaen ? A ydyw'n golygu fod eu gwaith yn pleidio Prynu yn golygu eu bod yn erbyn Gwaharddiad, pe y gellid ei gael ? Ond nid yw hyn, er difrifoled ydyw, ond rhan o'r cyhuddiadau deifiol sydd gan Mr. Huws yn erbyn ei frodyr. Dyfynna sylw o anerchiad Mr. Bernard Snell I believe John Morley was right when he said, The pulpit is the belt that has slipped off the driving-wheel of the world." Ac ar y dybiaeth fod yr haeriad difrifol yn wir, a Mr. Pari Huws ymlaen i'ddweyd, Nid rhyfedd fod yr Eglwys a'r weinidogaeth yn colli eu gafael ar y wlad.' Ac a ymlaen ymhellach i roddi homili i'w frodyr ar y pwys i'r Eglwys beidio a chym- ryd safle wleidyddol o edrych ar bethau, ac i beidio cyfaddawdu ar faterion han- fodol foesol,' gan awgrymu fod gweinid- ogion Cymru wedi myned ben a chyfan i wasanaeth y Wladwriaeth, a sathru pob egwyddor dan draed. Awgryma ein pervgl o fyned i gellwair a/n hargyhoeddiadau dyfnaf, a myned yn 1 wehynwyr dwfr i'r Wladwriaeth ar bob pwynt.' Meddai ymhellach: Mor wir ag y bu i'r weinid- ogaeth yng Nghymru wanhau llawer ar fraich ei dylanwad trwy fynd i'r llwyfan- nau i annog ein bechgyn ymrestru yn y Fyddin, bydd iddi wanhau mwy eto arni os a i'r llwyfan o blaid prynu'r Fasnach Feddwol, yn neilltuol felly i'w chario ymlaen.' Y mae gennyf yn bersonol eto i gael fy argyhoeddi o wirionedd y gair cyntaf yn y gosodiad hwn, sef ei fod yn wir fody weinidogaeth yng Nghymru wedi gwan- hau ei dylanwad trwy fyned i'r llwyfan i annog ein bechgyn i ymrestru yn y Fyddin ac nid yw fod Mr. Pari Huws yn ei ddweyd mor bendant yn newid dim ar fy marn arno. A sylwer ar amwysedd bwriadol y frawddeg olaf Bydd iddi wanhau mwy eto arni ei hun os a i'r llwyfan o blaid prynu'r Fasnach Feddwol, yn neilltuol felly i'w chario ymlaen.' Pwy o'r ugeiniau gweinidogion yng Nghymru heddyw sydd yn bleidiol i bryniant y Fasnach, sydd yn golygu hynny i'r amcan o'i chario ymlaen ? A all Mr. Huws enwi un ? Ai gormod gofyn iddo ef roddi yr un credit am onestrwydd a chywirdeb amcanion i'w frodyr ag y mae yn hawlio iddo ei hun ? Nis gallaf roddi fy ysgrifbin o'm llaw heb brotestio unwaith eto yn erbyn ensyniadau disail nodiadau Mr. Huws a therfynaf fy llythyr, sydd wedi rhedeg yn feithach nag y bwriadwn, trwy ddyfvnnu brawddeg o eiddo Mr. Huws Dadleuer y cwestiwn ar ei deilyngdod ei hun.'