Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

-.q..o..o-.oo-.o.oO'.ooc-.o-<1"<>…

t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 17" class="col-xs-12 no-padding">
t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 17" class="col-xs-4 article-panel-category"> Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

.q..o..o-.oo-.o.oO'.ooc-.o-<1"<> t Y WERS SABOTHOL. 1 6 6 Y WERS RYNGWLADWRIAETHQL. | » A Gan y Parch. D. EUROF WALTERS, I t M.A., B.D., Abertawe. +oøoooooo+1 TACHWEDD 25am.—Salm o Ddiolchganvcli.— Salm ciii. Y TXVSTYN HURAIDD. Fy enaid, bendithia yr Arglwydd ac nac aiighofia Ei holl ddoniau Ef-'—Salm ciii. 2. GELWIR ni yn sydyn oddiwrth Llyfr Nehemiah at un o'r Salmau, ac ar yr olwg gyntaf edrycha'r drefn yn annaturiol. Oud pan gofir mai llyfr emynau yr Eglwys Iddewig ydyw Llyfr y Salmau, gwelir peth priodoldeb mewn dew is emyn yn Wers wedi adrodd am daith Nehemiah i Jerusalem. Cyfansoddwyd y Salmau mewn gwahanol gyfnodau, a diau i lawer Salm gael ei chyfansoddi a'i chanu yn ystod cyfnod y dychweliad i Jerusalem. Nid ydym. wrth ddweyd hynny yn golygu nvii dyna'r adeg y cyfansodd- wyd Salm ein Gwers. Ceir y nodiad, Salm Dafydd/ uwchben hon fel uwchben llawer o'r Salmau, ond dylid cofio nad yw'r geiriau hynny yn perthyn. i'r Salm ei hun, ac nad oes sicrwydd gyda golwg ar ystyr y geiriau. Dichon eu bod yn golygu mai Dafydd ydoedd yr awdur, ond nodiad diweddar ydyw'r teitl. Ac nid oes sic- wydd gyda golwg ar ei ystyr, a gall olygu rhyw- beth arall heblaw awduraeth. Galwad i foliannu'r Arglwydd am Ei ddaioni a'i dosturi ydyw'r Salm, a gellid meddwl oddi- wrth ei chynnwys mai ar ol rhyw waredigaeth fawr y 'i cyfansoddwyd. Gallai yn ddigon priodol fod yn Salm o ddiolch am waredigaeth o gaeth- iwed Babilon, ond nid oes gennym fodd i ben- derfynu. Gogoniant pob llyfr emynau ydvw cvfaddaster at wahanol gyfnodau. Yr ydym yn dathlu deucanrnlwyddiant Williams, Pautycelyn, eleni, ac yn cann llawer o'i emynau fel mynegiad o'n profiad personol ninnau mewn oes ddiwedd- arach. Gwelir yn y Salm hon draw-snewid o'r unigol i'r lluosog: yn y pum adnod flaenaf ymddiddana'r Salmydd a'i enaid, yna cysyllta ei hun a'i gyd-genedl. Yn wir, tueddir llawer i gredu mai parhad o'r Salm hon ydyw'r un sydd yn ei dilyn, a gellir meddwl am y Salmydd yno yn troi oddiwrth ci gyd-genedl at bawb dynion i'w hannog i foliannu'r Arglwydd. Gyda'i gilydd ffurfia'r ddwy Salm emyn i Ragluniaeth. Gellir edrych ar y Salm sydd dan ein sylw yn dair than. Adn. I-s.-Galwad personol i fendithio yr Arglwydd. A'r Salmydd dros y trugareddau a fwynheir 1 ganddo fel anogaeth i'w enaid foliannu'r Ar- glwydd. Ymarfer ardderchog i grefydd bersonol ydyw cyfrif bendithion bywyd. Count your blessings name them one by one.' Nac anghofia Ei holl gymwynasau Ef.' Mor anodd ydyw ymddeffro yn gyfangwbl, o ran meddwl a theimlad ac ewyllys a chydwybod, i fendithio yr Arglwydd Geilw'r Salmydd ar y cwbl jydd ynddo at y gwaith. Ac enwa'r doniau a fwyn- heir ganddo oddiar law yr Arglwydd. Y mae pump o gymwynasau yn berffaith glir ynghof a phrofiad y Salmydd. Yr Hwn sydd yn madden dy holl anwireddau. Annheilyngdod ydyw'r argyhoeddiad ddaw o feddwl am dano:m ein hunain yn ymyl Duvv. A'i barodrwydd Bt i faddeu ydyw te?tyn pennaf I diolch. Yr Hwn sydd yn tsc?aM dy holl lesgedd, neu dy holl glefydau,' neu wendidau.' Yr Hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddistryw, neu o'r pwll.' Yr Hwn sydd yn dy goroni a thrugaredd ac a thosturi. Nid yn unig iacheir yr enaid o'i afiechyd ac yr adferir y corff o glefydau ac yr achubir y dyn rhag y pwll, eithr coronir ef megis brenin a thyner drugareddau. Yr Hwn sydd yn diwallu dy enaid a daioni. Cawsai'r Salmydd ryw waredigaeth fawr. Pan ddechreua'r corff fwrw'i afiechyd, daw arch- waeth at fwyd yn ol. Diet yr enaid ydyw daioni yr Arglwydd. Effaith cymwynasau'r Arglwydd ydyw adnewyddu ieuenctydffel yr eryr.1. Yn lie disgyn i'r pwll,' ehedeg fel eryr wedifadnew- yddu ei blu. Adn. 6-18.-Daioni yr Arglwydd yn gyfJ- rcdinol. Yma eto maddeugarwch yr Arglwydd ydvw'r prif destyn. Hynny ddaeth i'r golwg yn hanes y genedl. Hanes gwaredigaethau rhyfedd jydyw hanes Israel. Hysbysodd ei ffydd i Moses Ei weithredoedd i feibion Israel.' Y mae ffurf y gair hysbysodd yn golygu hysbysai yn barhaus.' Gofynnodd Moses am gael gweled gogoniant yr Arglwydd, a chafodd yr ateb— Gwnaf i'm holl ddaioni fyned heibio o flaeli dy wyneb,' &c. (Exod. xxxiii. 19, xxxiv. 6, 7). Uwchlaw dychymyg na mesur dyn ydyw tru- garedd yr Arglwydd. Tosturia wrth y rhai a'i hofnant fel y tosturia tad wrth ei blentyn. Tery y Salmydd ar wythien gyfoethog gwnaed cyn- nwys y wythien honno'n amlvvg gan Ie.m Grist. Eiddil yw dyn fel blodeuyn y maes, ond y mae trugaredd Duw yn lletach na'r ffurfafen-' 0 dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.' Er i un genhedlaeth roddi ffordd i arall, erys trugaredd yr Arglwydd yn obaith v naill genhedlaeth ar 01 y llall. Adn. 19-22.—Galwad■ ar bawb a phopeth i fen- d-ithio'r A rglwydd. Ynileda'r cylchoedd fwy-fwy. Yn awr gelwir ar holl luoedd y nef i foliannu'r Arglwydd. Cadarn yw Li orsedd Ef. Efe a selydlodd Ei orsedd yn y nefoedd,' ac ar bopeth y llywodr- aetha. Am hynny gelwir ar yr angylion i'w glodfori, a holl egnïon natur. Ond ynghanol yr anthem fawr myn y Salmydd i'w enaid ei hun fendithio'r Arglwydd. Gall yr anthem fod yn brin gerbron yr Arglwydd oni ddaw yr enaid unigol a'i offrwm mawl.

___m_J Brynberian. ]

I0 Fethel, Arfon, i Fethel,…

Advertising