Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

"GORETJ .l./.RF-GWROLDEB'

Y Brawdlysoedd Chwarterol.

Advertising

......_----------Gosod y Byrddau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gosod y Byrddau. Mown rhai cylchoedd Rhyddfrydol tybir nad yw yn rhy fuan i "osod y byrddau" ar gyfer y Weinyddiaeth nesaf, a cheir "Radical" yn y "Fortnightly Review" yn prophwydo sut y bydd pethau pan ddelo'r Wrthblaid i awdurdod. Mae'r brophwydoliaeth yn ddyddorol. Dyry'r ysgrifenydd y swydd o Brif Weinidog i Arglwydd Spencer, tra mai Syr Campbell-Bannerman sydd i arwain v blaid yn Nhy'r Cyffredin. Trwy hyny fa ddarogenir y sicrheir cefnogaeth y blaid hono nad yw yn oi-hoff o Ymherodraeth mewn unrhyw ffurf. Mr Morley sydd i lanw'r swydd o Ysgrifenydd y Trefedigaethau; Mr Bryce i fod yn benaeth Swyddfa Addysg, Mr John Burns yn "Weinidog Llafur," Syr Robert Reid yn Arglwydd-Ganghellydd, a Mr Lloyd George i ofalu am Dduciaeth Lancaster. Yn ol arfaeth y "Radical," Syr Edward Grey sydd i lywyddu y Swyddfa Dramor; Mr Asquith i ofalu am y Ti-ysorlys; Syr Hnnry Fowler i oruweh-reoli yr India; Arglwydd Crewe i ddal awenau y Llynges; Mr Haldane i edrych ar ol y Swyddfa Gartrefol; a Mr Robson i lywodraethu Bwrdd Llywodraeth Leol. Anhawdd iawn yw synied sut y gall y Cynghrair Rhyddfrydol gymera- dwyo Gweinyddiaeth yn yr hon nad oes lie i Arglwydd Rosebery na Mr Perks. Ond hwyr- ach na ddylid gosod gormod o bwys ar freudd- wydion o'r fath, oherwydd hen gynghor gwych yw hwnw, "Na phrophwyder os na byddweh yn gwybod."

Plant y Tlottai.

. Cwynion Cigyddion.

Ystrywiau yr Wrthblaid.

Arafwch y Senedd.