Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

25 erthygl ar y dudalen hon

Coffhau Dyngarwr.

------------Pwy Fydd Arlywydd…

*----_._---__------Eisteddfod…

---1.--Etholiad Chertsey.

Gweddio yn erbyn Mesur y Trwyddedau.

Cymro Addawol a Galluog.

-."------------ -Tarw Cynddeiriog…

rAdolygiad y Wasg.

Gorsafoedd y Gweinidogion…

. Nodion Personol.

Marwolaeth Mr J. H. Bodvel…

Darfodedigaeth yn NgogleddI…

NodR,, i Eglwysig.

----------Lloffion Dyddorol.

LONDON AND NORTH WESTERN RLY.…

NEWYDDION DIWEDDARAF.

Y Rhyfel.

Llyfrgell ac Argraph-Wasg,…

. Cynghor Trefol Caernarfon.

3rd Vol. Battalion R.W Fusiliers.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

3rd Vol. Battalion R.W Fusiliers. AGOR "RANGE" NEWYDD YN I LLANBERIS. [Oddivattili ein G«heibyd<L] I Y mae y 'range'' hon a gyfodwyd o dan arol- ygiaeth y Meddyg-Gadben R. H. Mills Roberts, I Ysbytty Chwarelau Dinorwig ac y mae efe wedi cymeryd dyddordeb mawr ynddi, ac wedi llafurio yn galed bob cyfle a gai i'w chael i ber- ff cithrwydd-yn cael ei hagor prydnawn heddyw II (Sadwrn) gan y foneddiges dirion o Bare y Faenol—Mrs Assheton Smith, yn cael eu dilyn gan urddasolion teyrnga-rol eraill. Tra yn ysgrifenu hyn 0 ohebiaeth yn gynar y ( prydnawn deallaf fod y cwmni yn ciniawa yn Refreshment Rooms, Tramffordd y Wyddfa, yn Nant Padarn, ac yn y cyfamser y mae preswyl- wyr Nant Peris yn brysur roddi llumanau trwy eu ffenestri i'w croesawu erbyn y deuant i fyny bedwar o'r gloch, a'r fattaliwn yn eu blaenori, yn nghyda'i seindorf. I Bydd i'ch gohebydd yn y cyfwng yma ddy- wedyd gair o'i brofiad. Tra y mae ei Fawrhydi, em Brenin urddasol-Duw a'i cadwo—yn ym- drechu ei oreu, gartref ac oddicartref, i sicrhau neddweh rhwng y deyrnas hon a theyrnasoedd eraill, nis gallwn edrych ar y parotoadau a'r ys- bryd rhyfelgar yn- y gwledydd ag sydd mewn ymrafael a u gilydd, ond fel cydgasgliad o ddef- nyddiau hylosg; gall gwreichionen fechan osod y cyfan yn goelcerth fawr. Hyd nes y daw adeg heddvchol y Mil Blynyddau, pan y bydd i Dywysog brenhinoedd y ddaear gadarnhau I heddweh a chyfelllgarwch rhwng llywiawdwyr, a pheri i ryfeloedd beidio, credaf y deil llanciau dewr yr Eryri i blanu baner y Ddraig, nid yn unig ar ben Bryn Castell Padarn, ond hefyd ar ben y Wyddfa fawr, ac y byddant yn ymffurfio yn gorph-luoedd o dani i amddiffyn ein hen wlad anwyl rhag pob gelyn. Yn sicr, y mae ysbryd- ion Hu Gadarn, Caradog, y ddau Llewelyn, ac Arthur Fawr, ar ben yr hen gastell llwyd hedd- JW, ac yn dyrchio eu Ilef "At eirf I at eirf! ddewr wyr! O'r wain a'r dial gledd! Ymlaen! ymlaen! pob calon am Orfodaeth llawn neu fedd!" Ond dyma y seindorf yn cyhoeddi fod yr urddasolion yn dyfod, ac yn ein blaenori i un o gaeau Glan yr Afon, lie yr oedd y saethu at y targed i fod, yn y pellder o 600 o latheni. Yn y cynulliad gwelsom y Colonel Darbishire, y Quarter-Master Armstrong, Mrs Assheton Smith, y Cad ben Mills Roberts a'i chwaer, Mrs Malek, y Cadben N. P. Stewart, a Mrs Stewart. Cymerodd y Colonel Darbishire lywyddiaeth y gweithrediadau dyddorol, ac wedi galw ar Mrs Assheton Smith i saethu yr ergyd gyntaf, rhodd- odd ganmoliaeth neillduol i'r Cadben Mills Ro- berts am ei weithgarwch gyda'r cwmpeini hwn o wirfoddolwyr, ac hefyd, fel y sylwasom eisoes. y dyddordeb mawr a gymerai gyda'r "range.' Awgrymai ei fod ef yn haeddianol 0 gael ei ddyrchafu yn uwch yn y swyddogaeth filwrol. Hefyd derbyniodd y caplan, y Parch E. B. Thomas, y ganmoliaeth ddyladwy am ei ffydd- londeb yntau. Dylaswn hysbysu fod Mr D. P. Williams yno hefyd; Mrs Aitchison, a Mrs O. D. Jones, Llwyncelyn; yn nghyda'i merched, Rowena a Blodwen. Cafwyd anerchiad gan Mrs Assheton Smith, yr hon a ddatganodd ofid Mr Smith na allasai fod yn bresenol, a rhoddodd gynghorion gwerth- fawr i'r milwyr, Wrth dalu diolch iddi dywedai Colonel Darbishire ei bod hi wedi siarad i bwrpas. Galwyd Ellis Griffith a Rebert J. Thomas yn mlaen i dderbyn diolch am y gwaith da a wnaothant ar adeilad y "Range." Wedi i'r gwirfoddolwyr roddi y "feu-de-joy" gyda'u drylliau, chwareuodd y seindorf yr Anthem I Genedlaethol, ond wedi gadael y maes clywsom dwrf saethu yno wed'yn, ac hyd yn nod yn av. r, yn amser y post, el y milwyr gyda'r seindorf yn j chwareu o'u blaen i olwg maes yr ymarfer.

Pla y Crwydriaid.

Cynghor Sirol Arfon.

Advertising

Mesur Addysg Esgob Llanelwy

Cynghrair y Friallen yn Arfon.