Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

Cymdeithas Undebol Merched…

Advertising

[No title]

Lloffion Cymreig

CAROL BLODAU'R GWANWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CAROL BLODAU'R GWANWYN. Mae'r Gwanwyn yn y berllan, Mae'r Gwanwyn ar y ddol; A swn ei delyn arian Yn galw'r blodau'n ol. Y mae'r cymylau trymion Yn dechreu ysgafnhau; Ac mae'r boreuau llwvdion I'w gweled yn iachau. Dan fys y Gwanwyn tirion Fe egyr dorau'r dail; Ac o ffenestri gwyrddion Mae'r blodau'n holi am haul. Ton lifa o wyrddlesni 1, lawr dros lethrau'r fron; A gwyn yw blodau'r syfi Ar frig y werddlas don. t Yn ngolwg pethau tlysion Mae serch yn adfywhau Agorir yn y galon Y drws fu'n hir yfi nghau. Mae yn y nef yn Wanwyn, Mae'n Wanwyn ar y bryn; A chlywir swn ei delyn Yn nghonglau dyfna'r glyn. Dyhidla ei lawenydd Ar fynydd ac ar ddol, A Salmau'r bywyd newydd A genir ar ei ol. Ust! tewi mae y delyn Yn niwl y bryniau pell; A murmur ola'r Gwanwyn Yw,—Adgyfodiad gwell! ELFED.

Cyfrinach Dyn Egniol. ----

Advertising

ALAWON CYMRU. j

[No title]

Advertising

Advertising