Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
23 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
"Gormod o ddim nid yw dda," fel y dywed- odd y g&th pan gwympodd i'r pot llaeth. Enwir calico odduwrth Caliotrt, dinas yn India, o'r lie y daeth gyntaf i'r wlad hon, yn y flwyddyn 1631. Dywedir fod 40,000 o bluf ar adenydd y pryf sidan, ac y gall unrhyw berson a amheua hyn eu cyfrif os dewis- NI charwn fyw yn y byd am byth," ebai pre- gethwr. "Ao nis galleoh pe raynech," «tobu un o'r gwitovdawyt^
Ceidwadaeth yn Nyffryn Conwy.
Ceidwadaeth yn Nyffryn Conwy. AREITHIAU GAN MRI SAM. THOMPSON AC ARTHUR HUGHES. Nos Iau, yn Nglan Conwy, cynhaliwyd cyfar- fod cyhoeddus i hyrwyddo ymgeiaaaeth Mr Sam. Thompson, yr ymgeisydd Ceidwadol dros Orllewin Sir Dchnbych- Llywyddid gan Mr C- B. Joaes-Mortimer, a chefnogid yr ymgeisydd gan Mr Arthur Hughes, yr ymgeisydd Undeboi dros Arfon; Mr Philip Conway, Llundain; ac arweinwyr y blaid yn yr ardal- MR THOMPSON AR BYNCIAU'R DYDD. Mr Thompson a syhvodd iddo yn ystod y dydd gyfathrachu n bersonol a'r etholwyr. Cyfeiriodd at j cyffro yn nghyich safle Lly ngee Prydain, a gofynodd beth oedd amcan Gfermani yn adeiladu cynifer o longau rhyfel os nad er mwyn oeifiio gorchfygu Prydain 9-r y mor, a thrwy hyny sicr- hau trefedigaethau i'r boblogaeth gynyddol yn Germani ymfudo iddynt? Gwyddai y wlad hono yn dda gyfoethoced trefedi gaethau oedd gan Brydain, ao yr oedd yn taflu llygaid trachwantr us arnynt. Nid i amddiflfyn ond i ymosod yr aideiladai y Germaniaid eu llongau nerthol; o ba herwydd, rhaid oedd i Brydain feddu cryf- ach llynges na hwy os am gadw ei goruchafiaeth ar y mor. Gan eylwi ar drethiant tid yn cael Re mor amlwg ar raglen y Rhyddfrydwyr, eylwcxld yr ymgeisydd fod dylanwadau ar waith i cael y Llywodraeth i gorphori egwyddor y di- wygiad hwn yn y Gyllideb neaaf- Cynygiodd yr aelod dros Dowyreinharth Sir Ddinbych fod treth o geiniog y bunt yn cael ei goaod ar wrth pob math o dir yn y wlad, amacthyddol a tirrefol. Trethid y ffermwyr yn awr gymaint nes bron ei lethu a lleihu yn hytrach na chynyddu y trethiant a ddylid. Ceid lluaws yn y rhanbarth trwy ddiwydrwydd wedi methu prynu eu tydd- ynod, ac ni byddai trethu y tir yn debyg o'i gwneud yn hawddach yn actios y rhai a ckial- ient dir dan y Cynghor Sir; a byddai i'r trethi godi yn ol fel yr oedd gwerth y tir yn cynyddu. Dyoddefai y cymdeit-hasau cyfeillgar hefyd trwy y trethiant a gynygid, canys yr oedd eu cyfalaf wedi ei fuddeoddi mewn tir. Rhaid fyddai i bob treth ddyfod o gynyrch y tir yn y pen draw. Parthed diwygiad tollawl yr oedd y polisi o wneud i'r tr&morwr dalu am gael defnyddio ein marchnadoedd er budid cyffredinol- Beirniadai y Llywodraoth yn anfon i Norway am ithfaen, tra yr oedd 420 o chwarelau ithfaen wedi eu cau yn y wlad bon, a 6000 o weithwyr wedi eu di- swyddo. Pa un oreu, ai talu tipyn mwy am nwyddau yn y wlfcd hon neu bleidJeaaio mawr i leddfu dyoddefaint y bobl diwaith? Llosgi y ganwytl yn mhob pen oodd y Llywodr- aeth Ryddfrydol (cymeradwyaeth). MR ARTHUR HUGHES AR DDIFFYN- DOLLAETH. Mr Arthur Hughes a syiwodd nas gagi y Llywodraeth ddadrys pwno y diwaith. ac yr oedd hyjiy yn rbeswm dros roddi prawf ar ddiffyn- dollaefch. A welodd rywun y iath drethiant yn- fyd ag a fodolai yn jlwr1 Pa reewm oedd trethu te y gwerthwr yn ol 5c y pwys, tra nad oedd treth ar y aidan a'r satin a'r gemau a ddeu- ent o Dde Affrica nac ar y oedr modur a goet- ient filoekid o bunau yr un a ddeuent o Ffrainc ao Itali i gyfoethogion y wlad hon (cymeradwy- e,oth)? Yr oeddynt eisoas yn amddiffyn rhai di- wydianau tra llewyrchus. Yr oedd cwrw yn cael ei dolii. Ni chawsai cwrw ddod yma o Germani bob daJu toll o chwe' fisilit y baril arno- Am- ddiffynid gwneuthurwyr (JO('Oa befyd. ac nid oedd fawr o gydymgais a thramorwyr yn y nwydd hwnw. Yr oedd treth fechan yn cadw'r tramor- wr yinaifch, ac o fantais i'n diwydianau ein hun- ain. Amddiffynid tvbacco OOfyd, oherwydd yr oedd mwy o dreth Aino wedT 061 YiDeud nag ar y ddeilen. Parthed liechi, nis gallai chwarelwyr Sir Gaernarfon, Ffcestiniog, a Corris roddi eu liechi ar farchnadoedd tramor gan y codid treth o 6s 6c y dunell o leiaf, ac yn Germani yr oedd y dreth ar y liechi or anaawdd goreu yn p 198 lOc. Y flwyddyn ddiweddaf yr oedd yr at- forion o lechi i'r wlad hon yn 9000p mwy na'r allforion i wledydd eraill. Cwestiwn i dlodion, ac nid i gyfoethogion, oedd hwn. Nid oedd am anwybyddu y pwnc dyrys o drethiant yd. Yn ol 2a y chawrter byddai'r gost ychwanegol i deulu yn defnyddio torth bob dydd, a chaxuatau fod y Sria yn oodi yn gj^artal i'r dreth, yn 3s 4 £ o y wy-ddyn, ond os diddymid y doll ar de byddai yr enill i'r teulu yn 10s lljc y flwyddyn. Polisi Mr Chamberlain oedd yn gyntpJ diieu y dreth ar nwyddau nas gallem eu cynyrchu, a threthu nwyddau y gellid eu cynyrchu genym ni ein hun- ain, yr hyn a fforddiai fwy o waith. Trwy hyny cawsai y dosbarth gweithiol fwrdd brecwast rhaA ac nid ffug, fel a rod-did ger eu bron yn awr. Traddddodd Mr Philip Conway araeth gref, a phasiwyd penderfyniad o ymddiriedaeth yn yr ymgeisydd ar gynygiad Mr E. Mellor, yn cael ei eilio gan Mr W. A. Cbstes-
Codiad yn Mhris Blawd.
Codiad yn Mhris Blawd. RHAGOLYGON DIFRIFOL. Y newyddion diweddaraf yn nchyloh y gwen- itih ydyw, y bydd i'r prig uohel aydd arno ar hyn o bryd fyned yn. uwcfh eto. Y mae hyn wedi oael ei ddyweyd gan un o'r awdurdodau. uohaf. bod cyhoeddwn ffigyrau y faircfcnad am ddydd Iau, ao yr oedd y gwenith mewn un ohonynt yn 5Qs y dhworter. Mairdhnad Newbury oedd hon. Y mae'r codiad yn mhris y gwenith yn oaed ei ddilyn gan gbdiad yn mhris y blawd, ac y mae pobwyr y wlacl yn hwylio i goefc pris y bara, a bvddent wedi penderfj-nu arno yn mhen yohydig ddyddiau. Mewn rhoi trefydd y ma-ent wedi gwneud hyny eisoes. Yn Lerpwl, ddydd Iau, yr oeddynt wedi oodi dimai yn y pris. Yn Llundain, &r y laf o Fawrth, yr oedd pris torth bedwaj- p-wys wedi oodi o 5^c i 6c, a phar- haodd yn y pris hwnw hyd yn awr, er fod y blawd wedi oodi 3s 6c y sacb. Yr jthwaneg- iad nesaf, miae'n ddiameu, fydd dimai y dorth. Dydd Iau, dywedodd Mr Mark Mayhew, y prif barti-jer yn (firm y Mri Mark Maydiew, Oyf., y melinyddion adnabyddua o Lundain, fod y seifyllfa yn un ddifrifol iawn. "Yn anffodus," meddai, "ni wn am neb yn y wlad all rwystaro'r gwenith fyned i fyny i 50s y dhwarter, a bydd hyny wedi ei gyrhaedd yr wythnos nesaf. Y mae yn debyg o fyncd yn aweh eto cyn hir. "Bydd rabd i ni gfcel g-wanith o rywle na wyddam am dano ar hyn o bryod os yr ydym am gadw'r pcisiau yn waatad. Mae'r byd yn fawr iawn, a gall cyflenwad fod wedd aros yn rhywle. Y mae yn caal ei ddyweyd yn gyffredin fod y stoo yn isel yn mhob main. Y mae'n wir fod g-wenith yn dyfod ar y mor, tua 8,000,000 o ohwarteri yn dyfod i Ewrop o America., Rwaia, Argentine, ac India; ond gan fod y cyflemvad mor isel, ni fyddLs yn hir yn llyncu'r cyflemwad rhwn. "Bydd y crop o India yn dechreu dyfod yma yn mhen tair wythnos. Ond y mae'r hyn aydd weddill yno yn ychydig; er hyny, rhaid i ni ddygymod a'x yohydig h)n hyd fis Medi, pan y daw y cyflenwad o'r Aanerioa. Bydd ein enwd ni yn barod ganol Awst. Y mae yn ychydig mewn cymhariaeth; eto, y mae yn ein g-wlad ni ein hunain. Y NEWYDD DIWEDDARAF. Nid oee argool o gwbl, yn ol y newyddion di- weddaraf, y oeir cynydd yn y eyflonwad o wenith .a na gostyngiad yn ei bris yn fuau. Yn marchnad Lerpwl, ddydd Sadw-rn, oododd pris yr yd, ac y mae pris blawd a bara wedi myned i fyny eisoes.
Marwolaeth Canwr Cymreig.
Marwolaeth Canwr Cymreig. Yn Scarborough, ddydd Sadwrn, cynhaliwyd cwest ar gorph Mr John Ti-iorman,- 43, West- street, yr hwn a fu farw yn dra aydyn nos Iau. Yr oedd ytr ymadawedig yn dra adnabyddus flynyddau yn ol fel dadganwr. Ei enw oerddorot oodd Alaw vrog. Ganwyd ef yn Maentwrog. Decftireuodd ei yrfa fel asiedydd. Aeth i Gaor, a daeth yno i gyfarfyddiad ag Owain Alaw, yr hwn a gymerodd ddyddordeb mawr ynddo. a bu 3-n ddisgybd iddo, a gweithiodd ei hun i fyny i'r Royal Academy. Treuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa gerddorol yn Llundain fel athraw oerddor- ol, a bu yn aelod. o'r Carl Rosa Opetra Co. Trwy or-wedthio torodd ei iechyd i lawr, a bu yn waej yn ystod y deunaw mlynedd diweddaf. Yr oedd ei dad, Mr Joseph Thorman, yn feddyg andfeiliaid. Yr oedd ymtau yn gerddor da, ao efe oedd yn canu yr offeryn yn ngihapel y Wea- leyaid yn Maentwrog.
[No title]
Hwyiiwn ar for bywyd: caiff un dawelwch, un aTall ystorm; ond y fordaith drosodd, tuarwol- aetii yw ein porthladd tawtl oIL
Tan Mawr yn San Pranclsco.…
Tan Mawr yn San Pranclsco. Torodd tan allan mewn gweetty mawr yn StfL Francisoo ddydd Gwener, a Uosgwyd oddeutu 50 o berscaiau i farwolaeth.
Erchyllderau yn Asia Leiaf.
Erchyllderau yn Asia Leiaf. Mynegir fod erchyllderau arswydus yn myneA yn mlaien yn heolydd Adana yn Asia Leiaf, a bod y dref wedi ei rhoi ar dan er bore ddydd Iao.: Llofruddiwyd lluaws o Gristionogion. gan Faho- metaniaid. Mae llys genhad Prydain wedi myned yno o Messina. Rhoed rhybudd i'r llong- au rhyfel yn Malta fod yn barod, a thybir y bydd iddynt brysuro i dueddau Twroi i geisio ter- fynu yr helyntion.
Cyhuddiad yn erbyn Boneddwr…
Cyhuddiad yn erbyn Boneddwr 70 Nghaer. Gerbron ynadon Caer, ddydd Gwener, dygwyd yn mlaen William Thomas Joliffe, boneddwr 0 f odd ion, Mount Alyn, Rossett, yr hwn a rwym. wyd yn y swm o 10,000p i ymddangos ax jr cyhuddiad o ddynladdiad, gan yr honir Kku acbosi marwolaeth cogyddeu o'r onw Moiy Emily Roberts, trwy ei tharo i lawr gyda moduJ, Gohiriwyd yr achos hyd dranoeth, pan y traddod* wyd yr acnoe i'r frawdlys.
Awstralia a Llynges Prydain.
Awstralia a Llynges Prydain. Derbyniodd Prydain Fawr nifer o gynygioa oddiwrth Werin-lywodraeth Awstralia parthed amddiffyniad ein meddianau. Darperir lr cytundeb presenol barhau mewn grym hyd 191% a pbe digwyddai rhyfel dori allan bydd llynge# Awstralia yn cael eu troaglwyddo drosodd 1 For- lys Prydain. Bydd i Awstralia hefyd ddarpar pen-cadlys llongwrol at wasanaeth llongau y wlad hon. •
Etholiad Dwyrain Edinburgh.
Etholiad Dwyrain Edinburgh. GOSTYNGIAD ARUTHR YN Y MWYAFRU RHYDDFRYDOL- Achlysurwyd etholiad yn Nwyreinbarth Ediv I burgh trwy benodiad y cyn-aewd, Svr George Macrae, i swydd dan y Llywodraeth. Dydd Gwener v Dleidleisiwrd. a dyma'r ffigyrau:— Macrae, i swydd dan y Llywodraeth. Dydd Gwener v Dleidleisiwrd. a dyma'r ffigyrau:— Yr Arglwydd Provost Libsoo. (R.) 4527 Mr P. J. Ford (U-) 4069 Mwyafrif 458 Yn yr etholiad cyffredinol yr oedd y mwyalol Rhyddfrydol yu 4174.
Braw Gwyl y Friallen a'r Canlyniad.--
Braw Gwyl y Friallen a'r Canlyniad. Wedi ei dychryn nes dyoddef An* hwyldeb Gieuot Difrifol, cafodd y ddynes ieuanc hon lwyr wellhad yn Dr. Williams' Pink Pills. I MISS KATE SMART. Ciysylltir dydd Gwyl y Friallen ya nghof Miss Kate Smart, 50, High- street, Great Bed- wyn, am byth a phrofiad brawychus ddaeth i'w rhan ya. 1905. Yr amaer bono, tra yn casglu briallu mewn coed wig, dychrynwyd Miss Smart gan gi cynddeiriog. "Ni wnaf byth anghofio fel yr ara-c harodd arnaf," eg- lurodd wrth oheb- ydd yn ddiweddar. "Ychydig ddyddiau yn ddiweddar ach, daoth effeithiau y cynhyrfiad yn fwy amlwg, gan naa gallwn ddal dim yn fy nwy law. I>ech- reuodd fy mhen, fy nghoesau, a'm breichiau giynu, a chyn hir yr Oeddwn yn analluog i symud fy nwyiaw o gwbl; yna amharwyd fy nghoes a'm nochr dde yn gym- elyb. Oes driniaeth gan feddyg am amser maith, ond yghydig obaith ffynai y gwellhawn. Yna aethum i ^sbytty, lie y cadwodd y meddygon fi dan driniaeth at Ddawns St. Vitus' am dros ddatt fis. "Ymddaiigosai yr oil yn of or, ac mewn amse* gwanychais gymamt ites myned mor ddiallu A baban. Collais lywodraeth ar fy aelodau a'm lief- erydd, hefvd nis gallwn lyncu unrhyw fwyd ayV weddol. Fe ddywed fy mam wrthych fy mod wedi gwisgo nes yr ymddangosai fy esgyrn drwy fy nghroen yn wir, yr oeddwn mor ddifrifol waoi fel yr ofnai ei bod yn myned i'm colli. "Yr oedd fy ngiau wedi eu dryllio yn lhvyr; tynid fy Hygaid a'm genau yn barhaus, a dir- dynid fy aelodau yn mhob cyfeiriad- Felly gor- weddais" yn fy ngwely am chwe' mis. "Ond un diwrnod darllenodd fy mam am achos o Ddawns St. Vitus' wedi ei welia gan Dr. Williams' Pink Pills for Pale People, a chafodd gvflenwad o'r peleni i mi. I ddechreu, toddodd bob dogn mewn dwfr, ond fel y gvvellheais gallwn lyncu'r peleni heb drafferth. Gwnaeth y bwyd gymerwn ddirfawr ddaioni, a chyn hir ileihaodd y dirdyniadau gieuol, ao ni chrynai fy aeJodau gymaint. Parheais i gytneryd Dr. Williams" Pink Pills, ac ar ol ychydig ychwaneg o flycliau, diflanodd hoi) arwyddion Dawns St. Vitus', ao yr oeddwn yn fuan yn gaHu defnyddio fy aelodau gyda'r rhwyddineb mwyaf. Megais gnawd a dechreuais deimlo yn Hon ac yn llawn yni Ni chefais anhawsder o gwbl wrth siarad, a chollaia bob blinder ac ofn. Dr. Williams' Pink Pills yn unig a'm gwellhaodd o Ddawns St. Vitus' FFORDD DR. WILLIAMS LWYDDA. Priodolir y ffaith fod Dr. Wi'liams' Pink Pills yn gwella Dawns St. Vitus' ao Anhwylderau Gieuol oherwydd eu bod yn Adnewyddu ao yn Cyfoethogi y Gwaed, ao felly gryfhau Giau dryll* iedig- Maent hefyd wedi gwella yn barhaus Ddiffyg Gwaed, Diffyg Treuliad, Cur Pen, Poen yn y Cefn, Curiadau'r Galon a Gwendid, Eczema ac Anhwylderau'r Croen, Crydoymalau, effeith- iau Gor-waith a. Phryder, Sciatica, ac anhwylder- au merched. Ar werth gan y mwyafrif o ddel- wyr, ond gochelwch efelychiadau, ac edryohwch am saith gair ar bob pecyn, "Dr. Williams' Pink Pills for Pale People," neu anfonwdJf 2s 9c am un blwoh, neu 13s 9c am chwe* blwch, i Dr. Wil- liams' Medicine Co., 46, Holborn-viaduct, Loa- 4oa.
Advertising
if | o POUSH JTiere is reason in the use of "GLOBE." A 01obeMetaI Poluhi ptste and Hauld. little "GLOBE": a little rub-a big shine. The result is certain—brilliant and lasting. M And SO little labour. That is "GLOBE. &eaUn and Storn evetywfuM* At RAIMES & Co., Ltd.. BtW. LONDON. E. <p 11 pa CHOICE. REALLY REFRESHING HEALTH-GIVING. CUPS OF TEA Can no more be brewed from COMMON Tea selling at 1/4 to 1/6 per lb. than DIAMONDS can be MADE from PASTE, or- a SILK PURSE from a SOW'S EAR. MILLIONS OF POUNDS WEIGHT OF CHOICE TEAS Are sold Wholesale annually at PUBLIC AUCTION in MINCING LANE, CALCUTTA and COLOMBO, at prices ranging up to 4/9 per lb. Duty Paid. The PUBLIC will DRAW its OWN CONCLUSION from these FACTS. BUY GOOD TEAS FROM YOUR OWN FAMILY GROCER, DELICIOUS MAZAWATTEE TEA And the NEW FOOD BEVERAGE DEE 0 ESS COCOA Are the two necessaries of life which CAN be obtained from FAMILY GROCERS, who after all, are part of the said BACKBONE of the COUNTRY, and SUPPORTERS of all LOCAL INTERESTS Thev CANNOT be obtained from multi-shop Companies or Co-operative Stores. r- # > LIFEBUOY Raw | HAP WELCOME. Lifebuoy Soap is a welcome soap. It yields a return to its users in addition to cleanliness. It protects from disease and makes the home the dwelling-place of Health. It Cleans and Disinfects at the same time; does more than other soaps yet costs no more. CLEANS. DISINFECTS. CEVER BROTHERS, LIMITED, PORT SUNLIGHT. J Tb» aame LEVER on soap is a Guarantee of Purity and Exo tllence. v *■ n
CAN A LLEN MEWN BRI.
CAN A LLEN MEWN BRI. CAERNARFON. Cynhaliwyd eisteddfod flynyddol Gwynedd yn y Pafilion, Caernarfon, ddydd Llun y Pasg. Er fod y tywydd yn bur annymunol yn y boreu, dae,h nifer fawr o bobl i'r dref Swyddogion yr eisteddfod oeddynt: Cadeirydd y pwyhgor, Mr Richard Roberts, cyfreithiwr; ysgrifenyddion, Mr John Owen, Graianfryn, a Mr R. VV. Roberts, IJynon. Yr arweinydd oedd Llew Tegid. Mr W. Jones, Crugan. oedd rheolwr y llwyfan; a'r trysorydd oedd Mr E. M. Davies, Palac^street. Y beirniaid oeddynt Mri Harry Evans, F.R.C.O., T. Eastwood, Huddersfield; E. Evans. C.E., Caernarfon; Dr. John Evans, Caernarfon; a R. John Fllis, LlanberiB. Gwa/sanaethwyd fel cyteil- wyr gan Mri .Orwig Williams a R. Eifion Jones, Llandudno. Wele'r dyfarniadau:- Ymgeisiodd tri yn nghystadJeuaeth deuawd yr offerynau prea. Y dernyn a chwareuid oedd "Flow, gentle Deva." Buddugol, Robert Smith, Ffestiniog, a'i gyfaiil.. „ Cystadleuaefch y Seindyrf, "Old Memories" (Rimmer). Gwobr gyntaf, lOp a chwpan ariun- Y mgeisiodd y seindyrf canlynol: Dolgellau, Moeltryfan. Nenfclle Oeulyn, a Phenma^nnA'vr. Dyfarnwyd y wobr gyntaf i Nantlle Deulyn; c, iPenmaentnawr; 5, Moeltryfan.. Yrngeiaiodd y pedwar uchod hefyd yn nghys- tadleua«eth y "Quickstep." Y buddugol oedd Penmaenmawr. Y corau plant. Cymerwyd cryn ddyddordeb yn y gystadleuaeth hon- Y dernyn eyatadleuol oedd "Mis y blodau," gwobr 5p ac umbrella aidan. Yrngeiaiodd y oorau canlynol: Luan- llyfni, Rhyl, Tanrailt, a Bere^ (Bangor). Y buddugol oedd Cor Tanrailt (arweinydd, Mr 1. H. Hughee). Yr oedd cynulleidfa fawr yn bresenol yn nghyfa.rfod y prydnawn. Llywyddwyd gan Mr Edward Roberts, M.A., Maesmcla, Caernarfon. Arweiniwyd gan Uew Tegid. Canwyd can yr Eistcnldfodi gan Mrs Alice Jones, Llanberis. YmgeiBiodd 19 yn nghystadleuaeth yr adroddiad i rai dan 18 oed, "Ti wyddost beth ddywod fy nghalon." Rhanwyd y wobr gyntai rhwng Minnie Gould, Porthdinorwig, a Percy Jones, Rhyl; yr ail, Annio Williams, Rhostryfan; 3, Eunioe Williams Llanberis.. Paentio (i blant). Dyfarnwyd y wobr 1 Griffith Morris, New-street, Porthmadog. Woodwork: 1 Bertram Poynton, Caernarfon; 2, Tudor Brad- wen Jones. Chwfureu y piano: 1, Mary Lizzie Williams. Caernarfon. Unawd contralto neu baritone: Mrs Alice Jones. Cystadleuaeth yr ambulance. Cymerodd pedwar o gwmniau ran yn y gystadleujieth ddyddorol hon. Y goreu oedd: 1, Bangor Loco Team; 2, Cynfi Team Unawd tenor: John Corns Jones, Dolgellau- Datganu "Wyres Fach Ned Puw (i rai dan 18 oed): Thomas Henry Jones, Rhyl. Brush drawing: 1, Griffith Morris, Porthmadog. Freehand: 1, Moses Williams, Llys Meirion Lodge, Caernarfon. Prif gystadleuaeth oorau cymysg. Gwna n llawen wr ieuanc" (J. T. Reee)- Gwobr, 15p a chwpan ari*p i'r arweinydd: 1, Barmouth United; 2, Ffynonf*R>ew. T Llywyddwyd yn yr hwyr gan Mr C. A. Jones, Caernarfon. I ddechneu canwyd "Gwlad y Delyn gan Mrs Foulkes Roberts, Br^Ti'refail. „ Canu gyda'r piano: Master Willie Bradweii Jones, Caernarfon- Unawd bass: Mr R. Rad- ford Jones, Caernarfon. Prif adroddiad, "Rhagorfraint y Gweithiwr" (Elfed); Mr J. Pie roe Jones, Ebeaezer. Llaw-fer Elfenol: 1, W. G. Hughes, Castle-street, Ebenezer; 2, Wm. J. Roberts, Cynfi House, ctor, 3, Moses Ingham, etc J ji L Mr Arthur Jónee. TyV Yegotr J!"ens. J Unawd ar y crwth: Master Seth Owen, Talysarn I (gyda chanmoliaeth neillduol). Ail gystadleuaeth gorawl: Cor Disgwylta (dan arweiniad Mr R. 0. Roberts). Gosodwyd Cor Abermaw yn ail. Deuawd: Miss Bessie Jones, Abermaw, a Mr Corns Jones, Dolgellau. Unawd soprano: Miss Bessie Jones, Abermaw. 1. Ymgeieiodd y corau meibion canlynol: Aber- maw, Penmaenmawr, Cilgwyn, Llanberis a Ffynongroew. Dyfarnwyd Cor Cilgwyn yn oreu a Phemnaenmawr yn ail-
CRICCIETH.
CRICCIETH. Cynhaliwyd Eisteddfod yma ddydd Llun. Llywyddid cyfarfod y prydnawn gan Mr John Ainsworth, Criccieth; a'r hwyr gan Mr D. Fowvien Jones. Yr arweinyddion oedd y Parch Coilwyn Morgan, Mri R. H. Jones (Genin) a 0 T; Williams, bargyfreithiwr. Mr G. E. Old- field, Criocieth, yn cyfeilio; a Mr Jacob Gabriel, Argoed, Deheudir Cvrnru, yn clorianu'r cantor- ion. WeIe'I' prif ddyfarniadau: Unawd ar y berdoneg: Laura Roberts, Pwllheli. Unawd tenor: David Jones, Llanllyfni, a W. Thorpe, Porthmadog. Barddoniaeth: 1. Tryfanwy, Porthmadog; 2, Evan Williams, Ffestiniog, a Llew Madog. Cyfansoddiad (dan 21): W. Wil- liams, Talysarn. Corau plant: Cor PwllheJi (Mr J. Rowlands). Englyn, "Y Goleudy: Dwyryd, Minffordd. Unawd contralto: Ann E. Evans. Penrhvndeudraeth- Unawd soprano: Al a rvIPi-eroe, Penmorfa. Traethawd i ferched: Lizzie Williams, Dwyran, Mon. Ail gystadleu- aeth gorawl: Penmorfa a Capel Helyg yn gyfar- tal. Prif adroddiad: David Owen, Carmel, Caernarfon. Penillion ooffadwriaethol: T. Lloyd Jones, Pwllheli- Canu penillion: Ehedydd Eifion. Prif dmethawd: T. Pieroe, Llanddulas. Her- unawd: Ted Jones, Ffestiniog- Yr Ysgrifenydd oedd Mr R. P. Jonee, Criocieth-
EISTEDDFOD LLANERCHYMEDD.
EISTEDDFOD LLANERCHYMEDD. CYSTADLU BRWD. Gwedi hiii wanwynol y pythefnoa ddiweddaf anffodus oedd dyfod gwlaw Llun y Pasts; mwy felly tranoeth—aydd arbenig y plant a dydd yr Orsedd farddol "yn ngwyneb haul, llygad goleani." Ni fu pwyllgor erioed a weithiodd yn ddyfalaoh, ac yr oedd yr hysbysrwydd helaeth a roed i'r wyl a'r ymbarotoi ffyddlon y caed prawf o yn yr amryw gystadleuon yn eicrhau llwydd, hindda neu beidio. Dechreuwyd NOS LUN, pryd y llwyddai Dr. Thomas Jones, Amlwch, ao yr arwedniai Mr J. G. Hughes, Trigfa. Tarawyd cyweirnod da i'r wyl gan Mr H. J. Thomas, A.L.C.M., gydag unawd ar y berdoneg. Yna dyfarnwyd gwobrau-ain aralleirio darn o hen gywydd: 1, Miss Katie Parry, Llanerchymedd. Cyfieithu or Saesnog i'r Gymraeg: 1, Katie Parry; 2, 0. Charles Edwards, Llangefni. O'r Gymraeg i'r Saesoneg: 1, 0. Charles Edwards; 2, Katie Parry. Traethawd, dan 13 oed, "Nodweddion cymeriad Bob, brawd Rhys Lewis:" 1, Katie Williams, Cloraeli- Canu gyda'r delyn, pob oed: 1, Mr Robert Owen, Llanerchymedd. Yma caed anerohiad gan y Llywydd, yn wlad- gar ae addyagiadol. Am wneud brat i blentyn gwobrwywyd Polly Jones, Peniel, a Lizzie Lewis, Tanyfelin (cyd- radd). Pri| adroddiad: Mr Hugh Pritohard, Bangor. Prif unawd: 1, Mrs Josephine Lewis, Capel Curig; 2, Miss Parry, Llanrhyddlad. Gystadleuaeth canu "Nant y Mynydd:" 1, Parti R. Jonee, Penygraig. Yn dilyn oafwyd canu campus gyda'r tanau v gan Ap Ehedydd, R, Owen, as Eos Alaw—hen gamp y Llan yn ei Uawn fri gan y tri cantor modru3. Caed can, "Gwraig y Morwr," gan Mrs Josephine Lewis; ac wedi pasio diolchiadau, ar gvnyg yr Henadur Thomas Williams, i'r llywydd 4 r arweinydd a phawb oil, yn swyddogion a chynulleidfa, gyda Mr R. Williams, Tanyrhall, yn eilio, oaed oan, Gyda'r Wawr," gan Miss Parry, Llanrhyddlad, nes enill enoore. Deirniariaeth freehand drawing o fuwoh: 1, Master 0. Williams, Mynydd Mwyn; 2, D. T. Garland, Llangefni Eto o dy to gwellt: 1, D. Ti Garland- • Diw&ddwyd drwy ganu "Hen wlad fy nhadau," Mr John Williams, London House, yn arwain. YR ORSEDD. Am 10.30 boreu Mawrth cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd ar betryal y dref, "yn ol braint a defawd beirdd Ynys Prydain," o dan arweiniad yr "Arch- dderwydd" GwyUt Fardd, yn cael ei gynorthwyo gan Alwyn EWJon (Ceidwad y Cledd), Gwilym Gwalcia (Corn GwLad), Rhisiard Ap Shon (Cofiadur), Gwilym Mona (Rhingyll), Owain o Fon, "Awelfryn," Gwitym Ceinion, Huwoo'r Llan, loan y Llan, a Iorwerth Einion. Cafodd y rhai canlynol hefyd y fraint o ddod i'r cylch: R. Mon, Caerwyn, E.O.J., Eos Alaw, Myfyr Mon, Gwilym Stanley, Crei<jfryn, loan Argraff- ydd, eto. Yr oedd yr oil o^ gwir feirdd ju 0U hurdd wisgoedd pn.-uol yn ol safte eu swydd, a gorymdeithiwyd o'r ystafell perthynol i gapel yr Annibynwyr i betryal y farchnad, yn cael eu harwain gan seindorf. i j Wedi cael sicrwydJ o heddwch cyhoeddwyd yr Orsedd yn agored gan yr Archdderwydd. Ar ol galw y beirdd i'w lleoedd priodol, offrymwyd Gweddi yr Orsedd gyda defosiwn dyladwy gan loan Argraphydd, chafwyd anerchiadau gan Caerwyn, Eos Ah", Myfyr Mon, ar.rhelyw o'r beirdd. Dadganwyd gyda'r tannau gan R. Mon, Ap Ehedydd, a Louie Parry, a'r Telynor Cymreig yn chwareu. Ciuv^yd can wladgarol hefyd gan Mr John Williams, London House; a chauwyd yr Orsedd drwy ganu yr Anthem GenediaethoL. *Er i'r gwlaw ddod i lawr yn helaeth drwy y boreu daeth canondd yn nghyd i dalu teyrnged i hen sefydliad ardt«rchog ba.rddas, a theimlid fod yebrydoedd hen eisteddfodwyr y Lian yn llanw'r awyrgylch- CYFARFOD Y PRYDNAWN. Y llvwvdd oe. y Parch W. A- Edwards, rheithor AberfT. a'r arweinydd, Mr R. Mon Williams, efe'n fv-Ror a'i galon yn curo'n gynea at y Llan a'i tlit-lji Am ganu Toi y Melinydd" (dan wyth oed): 1, Amelia E. Evans, Mar^t-squaro; 2, Edith Mary Jones, High street; 3, Lilian Jones, High- street, Llanerchymedd. Adrodd Ora Pro Nobis "(dan ddeg oed): 1, John Price, Llanerchymedd; 2, William Lewis, eto; 3, Maggie Williams, eto. Detboliad ar y uelyn gan ielynor uymreig. Deuawd, "Cyiegnvn ein horiau" (dan 14eg): 1, Louie a Elsi Parry; 2, Mary Jones a Kitty Jones. Rhoddai Pedr Alaw ganmoliaeth mawr i Mr H. J. Thomas, awdwr y ddeuawd. Penillion: "Mab o Fon." Englyn: 1, Tommy John Jones, LIeTierchymedd. Unawd ar y berdoneg "Menai Waltz" (dan 14eg): 1, Louie ;Hrry; 2, Beatie Williams, Llan- gefni; 3, Maggi. Lewis, RhosyboL Adrodd "Mr Nobody" (dan saith oed): 1, Nellie Phillips, Llanerchymedd; 2, Amelia Evans, eto; 3, Gracie Jones, eto. Yma caed aneiehiad tra rhagorol gan y Cadeir- ydd. Cystadleuaeth eanu "Dydd Gwyl Dewi" (dan ddeg): 1, Richie Jones Parry; 2, Bessie Williams, Bodffordd; 3, Batsy Owen, Llanerchymedd- Brush drawing any bird: 1 a 2, D. T. Garland. Blodeuyn eto: 1 a 2, Arnold Garland. Action song (dan ddeg oed): 1, Llanerchymedd Infants' School. Miss Hughes, Bryneuhe.lyn, yn arwain, a Miss Blodwen Hughes yn cyfeilio. Adroddwyd englynion gan Eos Alaw, Myfyr n- a Llew Dwvdiarth. Dadganu gyda'r tanau (dan 12 oed) 1, Louie Parry Adrodd Dos i fyny" (dan saith oed): 1, Owen Hughes, Carme!; 2, Amelia Evans, Llanerchy- medd 3, Lizzie E. Pritchard, eto. Cvstadleuaeth "Boys' flag drill" (dan wyth oed): 1, Llanerchymedd Infants' School, yn cael eu harwain gan Miss M. Phillips. Yn y cystadlciiaeth gorawl, "Y Tylwyth Teg," yr oedd pedwar cor yn cystadlu, ao aeth y wobr i b'ant Llangefni, dan arweiniad Mr Robert Wil- liams. Canu, "Yr gryr," i rai dan 21ain oed: NOS FAWRTH- Yr oedd y neuedd yn orlawn, ac ugeiniau yn methu cael lie. Yn absenoldeb Mr R. E. Jones, Y.H., y gadair gan yr Uchgad- ben Lawrence Williams, a chaea araeth bert ganddo. Yr arweinydd oedd Caerwyn, Bangor. Wele'r dyfarni.Au:- Canu "Merc1 Megan:" 1, Thomas G. Davies, Caergybi; 2, Annie Ellis, Llanerchymedd. Ebysgrifiaeth: t'-ntio Parry. Twil botwm: Katie D=-{?- Hemio: 1, Elku Jones; 2, yj; nghystadleBafcti* yr unrhyw "action song," a ohynygid 30s i'r goreu ac ink-stand o garn march wedi ei haddurno ag arian i'r ail. Y bodd- no-ol oedd Dftrti o Ysgol Llangefni, dan arwein- no-ol oedd oorti o Ysgol Llangefni, dan arwein- iad Mr Jones. Adrodd "Ein Cyfle:" 1* Annie Jonee, Belan; 2, R. J. Roberts, Dwyran Farm, a R. W. Hugbee, Llanerchymedd. Dumbell drill: Parti Yegol y Cynghor, Llangefni. Cyn- Uun o dysfcysgrif: 1, John James Garland, Llangefni. Canu "Wrth edrych yn ol1, Jane Hughee; 2, Elsi Parry; 3, Mary Jones. Deuawd, "Meddyliau'r nefoedd:" 1, Annie E. Ellis a Katie Williams. Cynygid cadair dderw hardd am y bryddest oreu ar "Golyddan." Ym- geisiodd chewoh-pump yn dra theilwng. Y buddugol oedd Mr Richie Jones, High-street, Llanerchymedd, a chadeiriwyd ef gyda rhwysg gan ei gyfoedion, y rhai a'i hanerchent yn hwyliog. Canwyd can y cjideirio gan Mr John Williams. Unawd ar y berdoneg: 1, Katie Parry. Adrodd, "Bedd y dyn tylawd: 1, Annie Jones, Belan; 2, Richie Pnoo, Llan, ac, Annie Hugl", Carmel- Hand-screen drill: 1, Yacol y Cynghor Llanerchymedd, dan arweiniad Mr A. P. Williams. Canu, "Dros y Garreg:" 1, Maggie Pritohard, Wellington-street; 2, Louie Parry. Caed ameth eiriaa o wladgarwch gan Meilir Mon-hybproh batriarch beirdd Cymru. Ar ol talu y diolchiadau gan Creigfryn Parry a Mr John A. Parry, dygwyd i derfyn wyl nodedig o lwyddianus a phoblogaldd, am yr hon y bydd llawer rhagor i'w draethu yr wythnos nesaf.
- LLANRWST.-
LLANRWST.- Cafodd cyfetllion Capel and gyfarfod cys. tadleuol eithriadol o lwyddianus ddydd Llun, a gwnaed elw clir o 15p. Llywyddwyd y pryd- nawn gan Mr Norman Rogers Jones, Gorphwya- fa, a'r nos gan Mr Caradog Mills, Plashelyg. Arweiniwyd gan Mri R. E. Thomas, Trefnw, a Deiniol Pyclian. Cyfeiliwyd gan Mies Lily Owen, A.R.C-M., America, a Mr W. E. Davies, Llanrt. Clorianwyd y dad gan y Mn H- Griffiths, Pwllheli, a T. R. Williams, Trefnw. Gweithiodd Mr Ivor Pughe Roberts, yr ysgrifen- ydd ymroddol, yn ddiwyd iawn gyda r parotoad- au, ac y mae i'w longyfarch ar lwyddiant amlwg y cyfarfod. Dyfarnwyd y gwobrwyon fed y canlyn:-Prif gystadleuaeth gorawl: Rhiwlas Choral Society, yn unig ddaeih yn mlaen. Cor plant: Cor Tref- riw (Gwilym Harry) a Chor Talybont (W. Owen) yn gydradd. Wythawd: Mr Ellis a'i Gwmni. Pedwarawd Cwmni y Rhiwlas. Deuawd: Mri D. R. Jonee & Griffith Owen, Lerpwl- Prif un- awd: Mr D. R. Joneo. Soprano: Miss Myfanwy Thomas, George-street- Tenor: Mr Griffith Owen, Bootle- Baritone: Mr W. H. Jonea, Taly- bont. Unrhyw lais heb enill 58 yn flaeaiorol: Mr Owen Jones, Deganwv. Unawd dan 16 oed: 1, Katie Roberta, River Dale, Trefriw; 2, Annie Hughes, Denbigh-street. Eto, denawd: 1, Katie Roberts a LIUle Pieroe, Trefriw; 2, A. C. Roberts a Gertie Da vies, Tretriw. Unawd dan 12 oed: 1. Hilda Thomas, Coedlydan; 2, Jennie Evans, Trefrrw. Unawd dros 40 oed: 1, John Jones; 2, D. Williams; 3, MAu Robert. Un- awd ar grwth: Gwilym R. Roberts, 4, Bridge- street- Unawd ar y berdoneg: Miss Nesta Wil- liams, Regent House. Englyn (oydmdd): Perth- og, Penmachno, a Mr T. Herbert Hughes, Wat- c hng-street- Englyn i'r suffragettes: Mr R. Evans, Glasgow House. Pemllion coffa David Glyn; Mr Robert D. Jones, 13, Town Hill, Dinbych. ChW phemll Cy-mraeg oymwya i'w dodi ar gerdyn Nadolig: Mr R. Evans, Glasgow House, a Gwilym Llafar, Gedan, Betheeda. Prif draethawd: Mr H. H. Jones, Pentredu, Bettwsy- coed, a Mian Maggie Roberts, Garregwen, Ihvy- ran, Mon. Traethawd, "Buddioldeb, duwiol- deb:" Mias WiHiame, Dwyran, Mon. Traethawd i ferched: Mias Williams, Dwyran, Mon- Ad- roddiad o dan 12 oed: Miss Williams, Trefriw. Eto dan 18: Mias C. A. Williams, Felin, Mpkman. Prif adroddied: Mr Roberts, Badifor. Ysbytty. Unrhyw ddadl: 1, Edward Williams, Gwytherin, a Robert Morris; 2, Nancy Williams ac E. Wil- liams, Trefriw. Pencil sketch: "Cymro." Crys gw!a.nen: Mrs Daviea, Turnpike Úchaf.
Advertising
Ychwanegwch Eich Pwysau ac adnewyddwch eich nerth Ty&tiolaeth Ryfeddol i DR. CASSELL'S TABLETS. Mr W. C.'Shadwell, "Nirvana," Mandeville- road, Canterbury, a ysgrifena:—"Mae y budd rhyfeddol dderbyniais i'm ieciiyd cyffnedinol dair blynedd yn ol drwy ddefnyddw Dr. C&ssell's Tablets, yr wyf yn falch o ddweyd, wedi profi yn barhaol. Yr ainser bono chwi gbfiwch yr oeddwn yn dra theneu oherwydd gwendid treuliol, rhwymedd ac anhwykierau'r cylla, ond wedi cwrs o Dr- Caasell's Tablets enilkus 16 pwys yn fy mhwysau, a deuais yn gryf pc iach." Mae Dr. CassalPs Tablets yn wellhad dyogel a, sicr at bob ffurf o weadid gieuoi a chorphorol; pall cnawd, lludded, gwendid y galon, diffyg gw. gwendi4, gwendid plant, diffyg treuliad, ac anhwykle.raa r cylla- Pris, lokc, la iffi, a 2s 9c gan bob fferyilydd.
Clwb Celdwadol Llandudno.
Clwb Celdwadol Llandudno. NODACHFA LWYDDIANUS. Mae'r clwb newydd fFurfiwyd i Geidwadwyr ac Undebwyr Llandudno tua 12 mis yn ol wedi profi yn fwy llwyddianus nag y gobeithiwyd erioed. Y mae yn awr 350 o aelodau ar lyfrau'r clwb. ao ychwanegir at y rhestr bob wythnos. Cynhal- iwyd nodachfa ddyddiau lau a Gwener tuag at y goat o ddodrefnu adeiladau'r elwb, a chaed elw da. Cynhaliwyd y nodachfa yn y Neu add Dref- 01. Rhifai'r "stalls" ddeuddeg, a gwisgwyd hwy yn chwaethus mewn ooch, gwyn a glas. Yn flfodus bu'r tywydd yn ffafriol ddydd Iau ar gyfer yr agoriad, ao aed drwyddo gan Arglwyddes Mostyn, yn ngwydd cynulliad mawr. Llywyddid gan Mr R. S. Chamberlain, llywydd y clwb. Ar derfyn ei haraeth cyflwynwyd i Arglwyddes Mos- tyn flodeughvm prydferth gan Miss Ramsden. Yn ystod y prydnawn caed 4dethcdion cerddorol gan gerddorfa. Claxton-Jonea, a chynerwyd rhan drwy ganu, etc., gan Masters Rhodri, Fred, a Darrell Hugbes; Miss Henderson, Mr J. E. Hornsby, Mr E. Jones, Master Felix. Yn yr hwyr caed difyrweh gan ddigrifwyr ieuainc dan oW y Misses Roberts, Hnyton- Dydd Gwener agorwyd y nodachfa gan Mrs Alfred Hughes, gweddw Proffeswr Hughes, arol- ygydd meddygol yr yebytty Cymreig yn Ne Affrig. Hysbysodd y Llywydd (Milwriad H. Lloyd Mostyn) fod y swm o 113p wedi ei sicrhau ddvdd lau. ac fellv vr oedd pob gobaith y ceid y 200p oedd yn eisieu er clirio y ddyled cyn terfyn yr wyl. Cyflwynwyd blodeughvm i Mrs Hughes gan blant Mi's Ramsden. Wele swyddogion y nodachfa: Llywydd a ohadairydd y pwyllgor, Mr R. S. Chamberlain; trysorydd, Mr W. Ellis Jones; yr ysgrifenydd mygedol, Mr George Stones. Pwyllgor Ceixld- orol: Cadeirydd, Mr J. E. Homsby is-gadeir- ydd, Mr F. J. Sarson; a'r ysgrifenydd, Mr But. cliffe. Gofalwyr: Mri W. Albon, P. C. Ll. Bone, C. B. Bowdage, G. F. Brown, W. Butler, S. F. Cooper, H. Cotton, T. Flood, Dr. T. K. Davies, Mri W. Greenfield, J. T. Hill, W. Hooper, J. E. Hornsby, J. B. Jones, W. E. Jones, W. Powell, H. Roberts, H. Roberts, jeU., T. Roberts, Shad Roberts, ieu-, F. J. Sarson, C. Searell, J. Smith, G. H. Strowger, H. Sutclifle, J. Swinnerton, L. Underwood, a Dr. Wood house. Y DERBYNIADAU- Fel canlyniad y nodachfa, caed 230p, ao ar ol talu y costau bydd 200p mewn Daw, sef y swm oedd yn nod i gyrhaedd ato, ac y mae y clwb felly yn hollol ddiddyled.
Y Diweddar Mr. John Edwards…
Y Diweddar Mr. John Edwards Y.H. Bu farw Mr John Edwards, Y.H., prydnawn y Sabboth yn ei drigfod, Gwynfa, Cadnant Park, Conwy, wedi gwaeledd inaith. Yr oedd yr yma- daweaig'yn 53 mlwydd oed, yn dra adnabyddua ac yn uohel ei barch yn yr ardal. Brodor o Gol- wyn Bay ydoedd, a mab i'r diweddar Mr John Edwards, Roe Wen. Dechreuodd ei yrfa yn Betheeda tua 30ain mlynedd yn ol fel masnaohwr. Ar ei vmddiswyddiad, dair blynedd yn ol, aoeth i drigo i Gonwy. Tra yn Methesda bu Mr Ed- wards yn un o ddiaooniaid amlyoaf Capel Gerlan (M.C-), ac yn weithiwr egniol dros yr Cynrychiolodd F ethesda. am flynyddau ar y Cynghor Sir a Bwrdd Gwarcheidwaid Bangor, a phan yr ymneillduodd rai blynyddau yn 01. oher- wydd afiechyd, teimlid yn gylfredinol ein bod wedi colli gwasanaeth gwr cyhoeddus cydwybodol a ffyddlawn. Wyth mlynedd yn ol penodwyd a ffyddlawn. Wyth mlynedd yn ol penodwyd ef yn ynad hodd. Yn nghwmni ei frawd, Mr Wil- St'.Tfird; yr), talodd ynTweliar! a'r Amerig 12 mlynedd yn ol. Yn ystod ei arosiad yn Nghonwy bu'r ymadawedig yn aelod o Gapel Carmel (M.C.), ac yn yr Ysgol Sabbothol bu ei wasanaeth yn werthJEawr. Rhyddfrydwr ydoedd, ac yn wleidyddwr pybyr.. Gedy r ymadawedig j weddw, dau fab, ac un ferch i alarn ar ei ol. Claddwyd ef ddydd Iau yn Nglanogwen, Beth- esda. Gwasanaethai'r Parchn. T. Gwvnedd RobertB a William Jones (Ardwyn) yn y ty.
Coleg Newydd y Gogledd.
Coleg Newydd y Gogledd. Eir yn mlaen yn gyflym gyditg adeiladau new- yddion y Coleg uchod, ac ymddengys fod y gwaith o adeiladu yn rhoi bywyd newydd yn y eymudiad i godi cronfa i dalu am dano. Ar wahan i werth y tir a roddwyd gan ddinafi Bangor (gwerth 15,000p) y mae'r gronfa wedi cyrliaedd y swm o 76,194p, drwy gyfrif rhodd y Trysorlys o 20,000p- O'r arwm enfawr hwn y mae 59,229p wedi eu derbyn eisoes i'r gronfa. Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, er gwthaf y dirwasgiad masnjichol, oododd y gronfa 5230p, a d-erbyniwyd mewn arian, yn cyn wye rhodd y Llywodraeth, 25,781. Yn mhlith cyfranwyr di- weddar oeir y rliai canlyriol:-Syr J. Herbert Roberts, A.S., Abergele, lOOOp; Dr. W. Owen Jonas, Bowdon, 525p: Mr H. R. Davies, Tre- borth (ychwanegol), 200p; Ymddiriedolwyr y di- weddar Mr Henry Richard, lOOp; Mr Thomas Davies, Bootle; Mr William Jones, Quarry Bank, Lerpwl, 50p; Syr Owen Roberts (at gyfraniadau blaenorol i r Coleg), 25p; Mr R. E. Jones, Ler- pwl, 25p; Milwriad G. F. Scott, Y.H., DolgeJl- au, 21p; Mr WiUoughby Gardner, Deganwy (ychwanegol), 20p; Mr Thomas Hughes. Allerton, Lerpwl, 15p 15s; Mr Owen Owen, Abertawe, lOp 10s; Mr Robert Roberts, Llan- dudno, lOp 10s; Parch Canon J. Rowlands, Aberdyfi, lOp; Miss O. E. E. Pinkerton, Great Ma.lvem, lOp.
ICynghor Dinesig Porthmadog.
Cynghor Dinesig Porth- madog. Nos Fawrth cynhaliwyd y Cynghor hwn, Mr J. R. Owen yn y gadair. Cydymoeimlwyd a Mri Thomas Robert a C. E. Breese, cyfreithwyr, yn eu gwaeledd. Casglwyd yn ystod y mis 134p. Pan ddaeth y Cynghor i fodolaeth gyntaf, yr oedd y ddyled dros 19,000p- Safai yn awr yn 3691p. Derbyniwyd 45p oddiwrth Ystad Madog am adgyweirio High-street. Gwneid y gwelliantau a'r adgyweiriadau yn nglyn a'r gwaith nwy gan y Cynghor, dan arol- ygiaeth Clerc y gwaith, a chyfarwyddid y Peir- ianydd. Cyflogid gweithwyr ileol hyd y gellid. Ail-etholwyd Mr M. Thomas yn arolygydd iech- ydol, etc. Nid oedd dim afiechyd heintus yn y dos- barth. Yr oedd gostyngiad yn y derbyniadau oddiwrth coke, tar, y Farchnadfa, a'r Neuadd. Cafwyd rhesymau digonol dros hyny LLYWODRAETHWTYR YSGOLION- Etholwyd y rhai canlynol yn llywodraethwyr yr ysgolion yn y plwyf :-Mr D. R. Evans a Mrs Evans, Borth-y-Gest; Mrs A. G. Edwards a Mr J. Humphreys, Llanerch, Morfa Bychan; MTi W. M. Jones a Garth Jones, Chapel-street; Mrs J. Davies a Mr J. R. Owen, Snowdon-street; a Mri J. Bryant a Hugheston Roberts, Tremadog. CYFLENWAD DWFR. Gofynai trigolion Glanymorfa am well evflen- wad dwfr. Yr oedd cyflawnder o ddwfr yn ymyl, ond fod eisieu moddion i'w gludo i'r bobl. Ys- tyriai y Cadeirydd y cais yn un rhesymol. Cyf- lwynwyd y mater i'r pwyllgor. CYFLENWAD LLAETH. Yr oedd y Pwyllgor Iechydol yn benderfjmol o gario allan yn effeithiol y Deddfau Lleol yn nglyn a chyflonwad llaeth, cadwraeth llaethdai, etc. CERIG TRWSIO'R FFYRDD. Caed cerig gan Mr Casson, o Foel-y-Gest, at drwsio y ffyrdd, am 2c y llath. GOLEUO LAMPAU. Cwynid fod bechgyn yn goleuo lampau, ac fod y "burners" yn cael eu difetha. Ni chai neb y gwaith yn y dyfodol a fyddai wedi rhoddi bech- gyn i'w gyflawni. TAI GWEIGION. Oherwydd tai gweigion oollwyd 62p yn y trethi.
Priodas Cyn-Faer Caernarfon.
Priodas Cyn-Faer Caernarfon. Dydd Mercher, unwyd mewn glan briodas, Mt R. Gwyneddon Davies, cyfreithiwr, Caernarfon, a chyn-faer y dref, a Miss Grace Roberts, meroh hynaf Mr Lewis Roberto, Larkfield, AnfieLd- road, Lerpwl. Cymerodd yr amgylohiad le ytt Nghapel M.C. Charing Cross-road, Llundain, a g wasanaeth id gan y Pardi S- R. Jenkins, M.A^ Craves end. Rhoed y briodferch ymaith gan ei thad, ao yr oedd Mrs Roberts hefyd yn breeenoL Yr oedd gyda'r priodfab, Mr J. H. ion" Caernarfon, a Mr J. Evan Roberts, Bangor. Ar ol yr uniad ymadawodd Mr a Mrs Gwyneddott Davies am Southampton ar eu ffordd am Bli- Malo, lie y treulir y mia mel. Chwyfiwyd ban. au yn Nghaernarfon ar yr amgylchiad.
Y Cythrwfl yn Twrci.
Y Cythrwfl yn Twrci. Bygythir rhyfel gwladgarot yn TWTOL. ? mae'r byddinoedd, meddir, yn pleidio yr adraa a elwir yn Dwroiaid IeuainQ, a cheir 16 o gatrod- au yn ymdaith tua Constantinople. Mact Gweinidog y Morlys a Llywydd Cynghor y Wlad- wriaeth wedi ymddiawyddo, a phen-llyngesydd wedi ei lofruddio. Yn ol yr adroddiadau diweddaraf oeir 20,000 a filwyr o Salonika yn ymdpith tua Constantin- ople. Ceir- 1600 o wyr meirch wedi cyrhaedd Tohataja, 48 milldir o'r Brifddinas, ac y maent yn hawlio dienyddiad y rhai a flaenosent yn yr helyntion diweddar. Anfonodd y Llywodraeth ddirprwyaeth atynt i geisio sicrhau heddwch, ond nid yw yn debyg y cydsynir. Ffyna y cyffro mwyaf yn Constantinople.