Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

LLINELLAU OLAF TUDNO.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

LLINELLAU OLAF TUDNO. I Treiddiodd dwysder trwy filoedd o galonau pan glywyd y newydd am farwolaeth gynar y bardd enwog uchod. Yr oedd o ran ei feddyliau yn goeth, ei awen yn ddisglaer, ac y mae Cymru dan rwymau iddo am yr hyn a wnaeth i gyf- oethogi ei llenyddiaeth. Gweithiodd yn galed, fel y rhoddodd ei natur i ffordd, ac oherwydd afiechyd ymneillduodd o guradiaeth Llanrwst ddwy flynedd yn ol. Bythefnos cyn marw cyf- ansoddodd y penillion teimladwy a ganlyn :— Mae arnaf eisiau marw, Er mwyn i mi gael byw Y bywyd purach hwnw, A guddiwyd yn fy Nuw, Mae arnaf chwant ymddatod, Er mwyn bod gyda Christ, Lie nad oes neb mewn trallod, Lie nad oes neb yn drist. Mae arnaf eisieu marw, Ond 0 mae arnaf ofn, Yr ymchwydd rhyfedd hwnw, Wrth groesi'r afon ddofn, H Mae'm dwylaw'n estynedig H I geisio teimlo llaw H Fy Ngheidwad Bendigedig H A'm dwg i'r ochr draw. H Mae arnaf eisiau marw, H I ddiafol, cnawd a'r byd, H Fel byddo marw'n elw, H Y Nefoedd ar ei hyd. H Mae arnaf eisiau marw, H Er mwyn i mi gael byw H Y bywyd purach hwnw, H A guddiwyd yn fy Nuw. H

ESGAIRGEILIOG.I

CRAIG Y 'DERYN.

FY NEGES.

ANERCII.

CYNRYCHIOLAETH BWRDEISDREFI…

¡Jldgofion am Morris,

[No title]

ABERMAW.I

MACHYNLLETH.