Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
DOSBARTH DOLGELLAU.
DOSBARTH DOLGELLAU. Cynhaliodd y Methodistiaid eu cymanfa flynyddol yn cynwys 18 o Ysgolion Sul yn Nol- gellau, dydd Gwencr, Mai 31 an. Yr oedd y cynulliadau yn dda a llwyddianus. Holwyd y plant gan y Parch. J. Williams. Mr. E. J. Edwards, yn arwain y canu. Rhanwyd Gwobr- wyon a Thystysgrifau. Holwyd y dosbarth canol gan y Parchn. M. Roberts, Llanelltyd ac R. Rowlands, Corris. Treuliwyd cyfarfod y nos fel arfer mewn canu tonau cynulleidfaol dan arweiniad Mr. Robert Davies, ac yr oedd y canu yn bur effeithiol. Rhoddwyd anerchiad- au gan y Parch. Hugh Roberts, a Mr. Edward Griffiths, a Dr. Edward Jones.
TALYEONT.
TALYEONT. Aeth nifer luosog o Gymdeithas pobl ieuainc perthynol i gapel yr Annibynwyr ar bleserdaith i Gorris mewn nifer 0 gerbydau, dydd Mer- cher, Mai 2gain. Cawsant hin hyfryda mwyn- hasant y golygfeydd gan ddringo, lawer o honynt lethrau iachus y lie.
O'R F F A U,
O'R F F A U, GAN LLEW. Na ddychryned neb oddiwrth y penawd uch- od oblegid nid yw y Llew pan yn rhodio oddi- amgylch yn bwriadu dwyn neb i'w ffau i'w ladd na'i larpio. Ond os digwydd i rywrai gael eu cymeryd i fewn yn eu tro, nid ydym yn addaw y bydd iddynt gael myned allan yn groeniach, gan ta beth, ceisia y Llew gyda chymorth y Llewes a'i cenawon wrth grwyd-hela ddwyn i mewn yr ysglyfaethau goreu, fel gallont ddar- paru y dysgleidiau mwyaf blasus ag sydd bos- ibl ar gyfer darllenwyr y Negesydd o wythnos i wythnos. Y mae Balfour arweinydd yr Wrthblaid yn yn y Ty, yn proffwydo fod Etholiad Cyffredin- ol wrth y drws. Mawr ydyw y llawenydd sydd yn awr yn ffynu yn nghymydogaeth Aberdar y dydd- iau hyn wrth feddwl fod y glowyr o'r diwedd wedi taraw ar gyflawnder o'r glo mwyaf gwerthfawr. Y mae y cwmni wrthi yn ddyfal er's saith mlynedd yn suddo mewnymchwil am y trysor du, ac wele hwy wedi llwyddo, ar ol cloddio i lawr dros saith gant o latheni. Dim ond rhagolygon disglaer o flaen y lie hwn yn awr. Y mae mab i Ameer Affganistan yn awr ar ymweliad ar wlad hon, a mawr yw yr helynt sydd yn cael ei wneyd tuag at roddi derbyniad urddasol iddo. Parhau yn fud y mae Mr. Gladstone o berth- ynas i gwestiwn y dydd, beth i wneyd o Dy yr Arglwyddi. Ei adael yn hollol a wna yn ngofal y Llywodraeth, gyda chydnabod yn unig ei bwysigrwydd. Gwr ieuanc ag sydd wedi llwyddo i wneyd enw iddo ei hun yn ddiweddar ydyw Mr. D. D. Williams, Pencefn, Tregaron, Efrydydd o Athrofa Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Enill- odd y Safon uchaf (Senior Examination) yn yr Arholiad a gynhaliwyd yn ddiweddar gan y Gymdeithas Amaethyddol Freninol, safai yr wythfed yn y dosbarth blaenaf, ac yr oedd hyn yn adlewyrchu yn dra ffifriol arno pan yr ys- ryrir ei oedran. Dydd Gwener Mai 24ain, yr oedd ein Gras- usaf Frenhines Victoria yn cyrhaedd ei 75 mlwydd oed. Manteisiwyd ar y dydd mewn gwahanol ffyrdd, anrhydeddwyd amryw ar yr achlysur, ond mor bell ag y deallwn un Cymro yn unig a ffafrwyd y waith hon, a hyny yn mherson Mr. Lewis Morris, yr hwn a gafodd ei wneyd yn Syr Lewis Morris, ac yn gymaint a'i fod yn un o'r Cymru mwyaf adnabyddus fel bardd a lienor o'r fath oreu, bydd yn dda gan Gymru benbaladr ddeall fod gwr mor deil- wng wedi ei ddyrchafu. Er fod y dyrchafiad hwn yn golygu rhywbeth, eto, credu yr ydym mai gwell fuasai ganddo gael ei ddyrchafu i fod yn fardd Llawryfol, gan mai un o wyr yr awen yw efe, ac hyd oni ddisgyno yr anrhyd- edd hwnw i'w ran, caniateir i ni ryddid i gyd- lawenhau ag ef yn y dyrchafiad hwn. Eglwys sydd yn enwog am ei chasgliadau at wahanol achosion daionus yw Eglwys y Taber- nacl Aberystwyth, lie ag y bugeilia y Parch. Thomas Levi gyda deheurwydd mawr. Beth amser yn ol, ymgymerwyd a chasglu at wneyd anrheg i Mr. Thomas Owen, o'r Ysgol Ram- adegol, blaenor o'r Eglwys, a nos Iau o'r blaen cyflwynwyd y swm o 50 punt iddo gydag aneychiad hardd, fel cydnabyddiaeth y frawd- oliaeth o'i ymdrech a'i weithgarwch gyda'r achos yn y lie. Beth bynag ydyw cymhwysderau person Ll- fel cenad hedd, does neb a amheua ei gymhwys- der fel heddgeidwad. Yn y rhifyn diweddaf o'r cyhoeddiad a elwir "Wales." rhoddir hanes dyddorol iawn am y Chartiaid yn y Drefnewydd. Amseroedd en- byd oedd y rhai hyny pan yr anfonwyd Jones, Williams, a Frost dros y mor am y rhan a gymerasant yn yr helynt, Dywed un hen Veteran sydd yn colio yr helynt yn dda, fod gweithwyr Cymru yn frenhinoedd yn awr o'u cymharu a'r hyn"oeddynt yn y cyfnod hwnw. Y mae y Borth yn un o'r trochleoedd mwyaf dymunol ar y Cardigan Bay, oblegyd nid oes traeth rhagorach nag a geir yno, o Gaergybi i Gaerdydd. Ond er fod natur wedi breintio y lie felly yn helaeth, eto, y mae gan y preswyl- wyr eu rhan i wneyd, er cael y lie yn fwy atyn- iadol i ymwelwyr yn ystod tymor yr haf, megis darparu eisteddleoedd cyfleus yma ac acw ar hyd y rhodfeydd, ac hefyd edrych ar fod gwell tramwyfa trwy y pentref. Mae y ffordd sydd yn rhedeg trwy ganol y lie ar hyn o bryd yn warth gwlad, ac yn ddychryn i'w cherdded. Oni wneler rhywbeth yn fuan, y mae yn sicr o effeithio er drwg ar y Borth, tuag at gael ymwelwyr yr haf hwn. Gwyddom am rai sydd eisioes wedi ymadael a'r He am nad allent droedio yr heol megis y dymunent. Y mae peth fel hyn yn gywilyddus. A oes gan y Cyngor Plwyfol a'r Cyngor Sirol ddim i wneyd yn y mater o waredu y Borth o'r aflwydd hwn? Gallwn feddwl fod, ac y mae'n bryd iddynt ddyfod allan i'r waredigaeth. Y Gweinidog Undodaidd hynaf yn Nghymru ydyw y Parch. Thomas Thomas, Pantydefaid, Llandyssul, yr hwn a wnaed yn ynad heddwch yn Nheredigron. Y mae y Parch. A. S. Thomas, Curad Llan- wono, wedi cyfansoddi emyn newydd mam fel dull gweddi dros y glowyr, ac nid oes neb llai na Dr. Parry wedi syrthio mewn cariad a'r penill, er cyfansoddi Cerddoriaeth arno. Wele ffrwyth awen Anellyr. "Di, dyner Dad: boed engyl fyrdd; Yn gwylio'r tanddaearol ffyrdd 0 cadw'r "Cwymp" a'r difrod draw, A bair wylofain fel y gwlaw; O! dyro'th nawdd Greawdydd cu I lowyr dewr y dyfnder du." Yn y Cynghor Dosbarth diweddaf a gynhal- iwyd yn Aberystwyth, ail etholwyd Mr. James Jones, Tyllwyd yn gadeirydd am y flwyddyn, Z, a Mr. J. M. WiMiarns, Brynbwl yn is-gadeir- ydd, un o arwyr 1868 ydyw Mr. James yr hwn y pryd hwnw a safodd yn ddewr dros ei eg- wyddorion heb dynu gwg ei feistr yn yr etholiad bythgofiadwy hwnw, ac y mae yn parhau yn Rhycldfrydwr i'r earn, a selog dros yr hyn sydd deg a chyftawn. Sedd sydd wedi myned yn wag yn ddiwedd- ar ydyw Chorley yn swydd Caerhirfryn, drwy farwolaeth y Cadfridog Fielden, ac hyd y nid oes fawr o obaith ond Tori, fel yntau gael ei ethol i lenwi y sedd wag. Yn mysg yr enwau o'r ymgeiswyr llwydd- ianus yn yr Arholiad terfynol am y gradd o M. B., yn Mluif-Ysgol Llundain, ymddengys enw Mr. R. Llewelyn Jones, sef ail fab i'r diweddar Dr. Morris Jones o Aberystwyth.
TY'R ARGLWYDDI.
TY'R ARGLWYDDI. Nid ydym yn galw sylw at y Ty hwn oherwydd dim yn neillduol sydd gonym i'w gofnodi o'i weithrediadau yn ddiweddar. Pe darperid colom ar gyfer on gweitlirediadau, byddai raid i hono yn gyffredin fod yn wag; yr hyn, gyda Haw, a arddangosai yr hyn ddylai, ac hefyd gymer le trwy ou difodiad fel gallu seneddol. Nid oedd yr un mesur o bwysigrwydd cyffredinol wedi ei aiifon i'r Arglwyddi gan Dy'r Cyffredin, ac felly nid oedd ganddynt un incsur i'w gyfnewid, ei lurganio, na'i daflu allan. Pan y mae mesurau o'r fath gerbron, dyma'r adegau y gwelir mwyaf yn bresenol, y byddant yn fwyaf elfro a deheuig, ae y gweinir mwyaf o foddhad iddynt drwy dorfynygu y cyfryw fesurau.l Y mae yn drais ar synwyr cyffredin fod cangen o'r ddeddfwrfa yn rliifo dros 500 o nifer, nad ydynt yn cyniychioli neb end hwy ou liunain yn cael eu rhoddi mewn mantais i anafu a cLinystrio mewn ychydig oriau y mesurau y cymer Ty y Bobl wythnos au a misoedd i'w trafod a'u pasio. Ni bydd y wlad lion yn wlad rydd a hunan-lywodraethol nes y diddymir yr arf dinystriol hwn. Amddiffynir yr Arglwyddi, weithiau, oherwydd eu gwasanaetli yn gorfodi y Drenin loan i ganiatau y Freinlen Fawr. Ond, fel y dywedodd Chamberlain, yr ydys felly yn myned ymhell iawn yn ol, dros 600 o ilynyddau i goisio testimonial iddynt. Yn y ganrif hon gwrthwynebasant ddilcad Caethwasiaeth, Bhyddfreiniad y Pabyddion, Estyniad yr Etholfraint yn 1832, pryd y dygwyd y wlad drwyddynt o fewn podair awr ar hugain i ehwyldroad. Gwrthwyneb- asant ddiddymiad Treth y Papyr, agor y Prifysgolion a'r Mynwentydd i'r Ynmeilldu- wyr; ac yn ddiweddar Ymreolaeth i'r ■ Iwerddon, Mesur Cyfrifoldeb Meistriaid i'w Gweithwyr, a lliaws o'r mcsurau goreu, yn l'hy liosog i'w henwi, ag y mae y wlad wedi dyheu am danynt, yr hyn a brawf eu bod yn parhau yn hollol anfeddyginiaothol. Yn mhellach, y mae y Ty hwn yn myned yn fwy Toriaidd bob blwyddyn, ac yn hollol anghyfaddas i ysbryd ac angen yr oes, a dylid gwneyd mewn dull eyfansooldiadol yr hyn a wnaeth Cromwell pan drodd allan y Senedd Hir. Y mae eisieu i'r wlad godi i fynu fel un gwr i droi allan yr Arglwyddi hyn o'u ty ysblenydd ond yr hwn y maont wedi anurddo cymaint arno.
TRO I'R AIPHT.
TRO I'R AIPHT. GAS MR. Gonoxwy JONES. Mr. Golygydd.—Feallai mai nid anner- byniol fyddai ychydig' nodiadau am "Hen Wlad y Caethiwed," yn onwedig mewn ardal boblog fel yr oicldoch chwi-ardal ag y mac yr Ysgol Sabbothol mewn cymaint bri, ac ardal yn yr hon, yn ddiau, y mae y Beibl yn IJyfr y llyfrau yn ngwir ystyr y gair. Y mae pawb sydd yn arfer darllen y Beibl yn sicr o fod wedi teimlo awydd rywbryd neu gilydd am gael gweled rhai o'r gwledydd y sonir am danynt ynddo. Dyna fy mlirofiad i beth bynag. Llawer gwaith y bu fy enaid yn dyheu am gipolwg, yn enwedig ar Hen Wlad yr Aipht. Diau mai yr Aipht ar lawor ystyr yw y wlad hynotaf yn y byd. Y mae ei hanes a'i hynafiaethau yn tafItL mwy o oleuni ar gynwys y Beibl nag eiddo unrhyw wlad arall dan haul. Pan nad oedd pobl etholedig yr Arglwydd ond teulu bychan o fugeiliaid crwyclrol an- llythyrenog, vr oedd yr Aiphtiaid yn genedl gref ddiwylliedig. Ie, cyn bod Abraham yr oedd y wlad hon wedi cyrhaedd safle mewn dysg a chelfyddvd na chyrhaeddwyd mo hono mewn rhai canghenau yn unrhyw wlad arall hyd y dydd hwn. I'r wlad ryfodd hon yr arweiniodd y Brenin Mawr Jacob a'i deulu i'w gwareiddio, i'w disgyblu, i'w parotoi yn raddol i' fod yn gymwys ddinasyddion o Wlad yr Addewid, ac yma y buont ysbaid 400 mlynedd yn gymydogion ac yn gaethion i'r Aiphtiaid. Nid rhyiedd iddynt ym- debygu iddynt, y mae y gwas am fod fel ei arglwydd, ac y mae dylanwad eu preswyliad yn yr Aipht i'w ganfod ar arferion a dull yr Israeliaid o fyw a chelfyddvd na chyrhaeddwyd mo hono mewn rhai canghenau yn unrhyw wlad arall hyd y dydd hwn. I'r wlad ryfodd hon yr arweiniodd y Brenin Mawr Jacob a'i deulu i'w gwareiddio, i'w disgyblu, i'w parotoi yn raddol i' fod yn gymwys ddinasyddion o Wlad yr Addewid, ac yma y buont ysbaid 400 mlynedd yn gymydogion ac yn gaethion i'r Aiphtiaid. Nid rhyiedd iddynt ym- debygu iddynt, y mae y gwas am fod fel ei arglwydd, ac y mae dylanwad eu preswyliad yn yr Aipht i'w ganfod ar arferion a dull yr Israeliaid o fyw 0 hyny hyd heddyw, ac y mae prcswylwyr Aipht yn ffyddlawn iawn i hen draddod- iadau ac arferion. Nid oes ond ychydig wahaniaeth yn null pobl y wlad o fyw heddyw ragor ydoedd yn nyddiau Abraham. Y maent yn gwisgo o'r bron yr un fath, nid yw y ffasiwn yn newid yno yinysg merched na meibion. Yr un yw eu dull o barotoi ym borth; yr un dull o drin tir, ac o ofaiu am anifeiliaid. Nid oes ond ychydig o wahaniaeth yn eu harferion ar enedigaeth, ar briodas, ar gladdedigaeth, ragor ydoedd u au y patriarchiaicl. -^drychwn ol a blaen, ar dde ac ar aswy, gwcUvii rywbeth bob munyd awr megis yn. ,Peiy(iryn o oleuni ar ryw gyfran neu t,1 ydd o'r Gyfrol Sanctaidd. A dyna geisial ei wneyd, a hyny mewn modd syml el y gall plant yr Ysgol Sul fy neall, sef rhoadi tipyn 0 hanes fy ymdaith yn Nhir yr Aipht yn y fath fodd as?' i wneyd anihell hen adnod yn fwy dealladwy ac yn fwy blasus nag o'r blaen. nag o'r blaen. Y cwestiwn cyntaf i'w benderfynu i un a'i xryd ar ymwelcd a'r Aipht yw pa fodd i gjraedd y peildor dros 8,000 o filldiroedd. Y mae mwy nag un Nordd. Gellir croesi o i Ffrainc, a chymeryd llong o Marseilles, a cliyraedd pen y daith mewn wyth neu naw diwrnod; neu fe ellir croesi y Cyfandir i ddeheubarth Itali, ac ymuno ag un o longau mawr Llundain sydd yn galw yn Brindisi, a chyraedd tir yr Aipht mewn o chwech i saith niwrnod. Ond y ffordd rataf a'r fwyaf llesol i rai yn ymofyn am adnewyddiad corff ae ysbryd yw "ffordd y mor;" a dyma y ffordd ddewiswyd gan fy mhriod a minau, a cliyclrwynasom. fis Rhagfyr o Lerpwl gydag un o longau y Papayanni Co. A gweddus yw i mi ddwyn tystiolaeth i ofal y Cadben a'r dwylaw am gysur a mwynhad y teithwyr ymhob modd. Yr unig anfantais i fyned y ffordd hon ydyw y cymer gryn lawer fwy o amser. sef pythefnos o Lerpwl i borthladd Alexandria. Cawsom ddiwrnod llaith, an- nifyr i gychwyn. Erbyn cyrhaedd glanau Mon, arwyddion drycliin mawr, a bu raid gochel dan gysgod Moelfra am bymtheg awr ond er mawr syndod i ni eawsom fynediad tawel, heddychlawn, drwy y Bay of Biscay. Ond wedi dyfod o honom i For y Canoldir, un diwrnod daeth cyf- newidiad disymwth. Cyfododd gwynt tymhestlog a elwir Euroclydon,"—y gwynt hwnw y sonir am dano yn Llyfr yr Actau. Ymgynhyrfodd y mor, a blin iawn fu arnom gan y dymhestl; ond diau mai da iawn oedd arnom ni o'i gymharu a chyflwr yr Apostol Paul a'i gymdeithion. Y mae gwyddor a chelf wedi gwneyd llawer er ei ddyddiau ef, i liniaru cynddaredd y storm, ac i sicrhau diogelwch bywydau. Pan o fewn ychydig filldiroedd i Ynys Melita, a'r storm yn parhau yn ei grym, gofynai y Cadben i mi, Tybiweh ein bod yn colli pob llywodraeth ar y llestr, i ba le yr ai hi ? Atobais heb betruso dim, Byddai y gwynt cryf yma yn sicr o'n chwythu acw," gan gyfeirio at gilfach oedd i'w chanfod ar lan yr ynys. "Yn hollol felly," medd yntau, "ac fe elwir y gilfach hyd heddyw yn 'St. Paul's Bay,' ac yr ydym ninau woithiau yn galw y gwynt cryf gogledd-ddwyreiniol yma yn 'St. Paul's Gale.' Fodd bynag yn nghanol y storm i gyd, yr oeddym yn ei theimlo yn fraint gael ein hebrwng i Ynys Melita gan yr un gwynt fu yn achlysur llongddrylliad i'r Apostol Paul. Gallwn ddweyd hefyd yn ei eiriau ef a'r barbariaid a ddangosasant i ni fwyn- eidd-dra nid bychan," gyda hyn o wahan- iaeth, eu bod yn disgwyl tal am dano genym ni. Tyrfa fawr o bobl a phlant siriol a llawcn, pob un yn gwenu am y gorou. Fe ddywod esbonwyr wrthym mai nid am fod trigolion yr ynys hon, y pryd hyny yn anwariaid, y gelwid hwy yn far- bariaid gan awdwr Llyfr yr Actau, eitlir am nad oeddynt Eoegiaid na Phufeiniaid—am na fedrent siarad Groeg na Lladin; felly ystyrid hwy gan Eoegiaid a Pliufeinwyr yn dramorwyr fforeigners), ac mai hyn yw ystyr y guir barbariaid ond yn sicr y mae yr ohvg ar lawer o honynt yn y bedwar- edd ganrif ar bymtheg yn gyfryw ag i beri dieithr-ddyn deimlo fod cryn lawer o waith gwareiddio arnynt eto. Y rhan fwyaf o'r werin bobl yn droodnoeth a charpiog,-Ilu o gardotwyr ar bob llaw. Nid yw ond ynys fechan ryw ugain milldir o hyd wrth ddeu- ddeg o led; ond y mae ei plioblogaeth yn 160,000, yr hyn i raddau rydd gyfrif am yr arwyddion o dlodi a welir ymhob cyfeiriaid Pabyddiaeth sydd mown bri yma. Nis gellir cerdded hancr cam heb gyfarfod offeiriad Pabaidd, ac fel pob man arall, lie y ffYlla y Babaeth teyrnasa tywyllwch ac ofergoelodd, gwaseidd-dra a chulni. Credant mai Pahydd oedd Paul. Dywedai y guide wrthyf ar y ffordd i St. Paul's Bay, mai yr Apostol Paul fu yn olferyn i enill trigolion Melita i fod yn Babyddion. Rhaid fod rhyw un yn honi gwybod mwy na'r guide tlawd yn credu yr tin poth, o ran gwelais mown llyfr gyhoeddir yn yr ynys, sylw fel y caulyn The Maltese were first converted to the Roman Catholic Religion by St. Paul, who was shipwrecked on the shores of Malta in the year 58." Wedi cyrhaedd y lie y dywed traddodiad i Paul lanio ar ol y llongddrylliad, a cherdd- ed ysbaid ol a blaen ar hyd y traeth, dyma y guide yn ddisymwth yn tynu ei hot, ac yn myned ar ei liniau, ac yn dweyd yn y modd mwyaf difrifol, "10, syr, ie, syr, dyma y lie glaniodd y bendigedig apostol; ie, syr, a dacw ol ei draed, syr," gan bwyntio at ryw- beth tebyg i ol troed dyn mown darn o graig yn y tywod. Os byw ac iach, awn i Alex- andria yr wythnos nosaf.
CORRIS.
CORRIS. Y CHWARELAU.—Y mae y chwarelau yn y dosbarth hwn yn myned yn dda yn awr, a phawb mewn llawn gwaith, y gofyn am y ceryg yn fwy na'r cyflenwad. Y mae y tai yn llawnach nag y gwelwyd hwy er's amser. CAPEL SALEM.—Y mae capel yr Annibyn- wyr yn y lie hwn yn myned dan adgyweiriad. Codir oriel newydd yndd, a gwneir gwelliantau eraill. Y cynllunydd yw Mr. Morgan, Bryn- crug; a'r cymerwr, Mr. W. J. Hughes, Aber- dyfi. Y mae yr enwad yn cynal eu cyfarfodydd yn ystod yr amser yn Ysgoldy y Bwrdd. YR EISTEDDFOD GADIRIOL.—Fel y gwelir ymhlith yr hysbysiadau, cynhelir yr Eisteddfod hon dydd Iau, Gorphenaf 4ydd. Hon yw y drydedd Eisteddfod flynyddol ar raddfa eang a gynhelir yn yr ardal. Y mae gan y pwyllgor babell eang o'r eiddynt eu hunain, trwy yr hyn y llwyddir, nid yn unig i fod yn ddigolled, ond i wneyd peth elw hefyd. Gwnaed elw o 2op. y llynedd. Y mae y pwyllgor wedi ychwanegu tua 1 op. yn y gwobrwyon cerddorol rhagor y flwyddyn flaenorol, a dymynwn alw sylw y cerddorion yn gyffredinol at y rhaglen. Dis- gwylir cystadleuaeth galed ar y Gadair. Y mae y pwyllgor yn ddoethyn cyfyngu y gystadl- euaeth i'r rhai na chawsant y Gadair o" r blaen'. Ceir rhai beirdd cadeiriol yn gwneyd masnach o eisteddfodau cyffredin yn lie ymgeisio a'u dosbarth eu hun. Mae eisiau codi t6 newydd o feirdd, a thrwy y cynllun hwn y llwyddir i symbylu y cyfryw. Bydd trains rhad ar Reil- ffyrdd Corris, Mawddwy, a'r Cambrian. Y GYMANFA YSGOLION.-Cynhaliodd y Methodistiaid eu Cymanfa Flynyddol yn Rehoboth, dydd Sadwrn, Mai i8fed. Dyma'r gymanfa gyntaf a gynhaliwyd ar ol yr ym- -wahaniad a gymerodd le yn Nosbarth y Ddwy Afon. 0 angenrheidrwydd yr oedd y cynulliad yn llai mewn nifer ac mewn dyddordeb na phan yr oedd yr holl ranbarth yn un. Ond, er hyny, cafwyd cymanfa lewyrchus, a disgwylir i'r rhai dilynol ragori arni eto. Llywyddwyd cyfarfod y prydnawn gan Mr. Hugh Evans. Holwyd y plant yn yr Holiedydd Bach gan y Parch. R. Rowlands, Bethania a'r dosbarth canol yn yr Actau gan y Parch. J. J. Evans, Aberllyfenni. Gwobrwywyd yr ymgeiswyr buddugol yn yr w arholiadau. Llywyddwyd cyfarfod y nos gan y Parch. J. J. Evans. Gwasanaethodd y cor unedig yn ystod y cyfarfod drwy ganu amryw donau cynulleidfaol ac anthem, dan arweiniad Mr. H. S. Roberts. Rhoddodd Mr. Richard Owen anerchiad ar fywyd a gwaith llafurus y diweddar Mr. H. Lloyd Jones ynglyn a cherdd- oriaeth y cyssegr yn benaf. Holwyd y dos- barth hynaf oddiar Hyfforddwr, pen. iii., gan Mr. D. Ifor Jones. Gwobrwywyd yr ymgeis- wyr buddugol ar y traethodau, &c., a therfyn- wyd drwy ganu Diadem yn dra effeithiol. YR WYL DDIRWESTOL,—Cynhaliwyd yr wyl hon dydd Iau y Dyrchafael. Y mae hon yn wyl sefydlog bellach er's 59am mlynedd. A oes tref neu ardal arall yn Nghymru ag y cyn- haliwyd gwyl flynypdol ddi-dor er's cymaint o amser ? Traddodwyd pregethau y noson flaen- oral ac areithiwyd dydd Iau gan y Parchn. William Roberts, Maentwrog; David Rees, Capel Mawr, a Morris Morgan, Abertawe. Cafwyd gorymdaith liosog yn y prydnawn, cynwysedig o'r gweinidogion, blaenoriaid, aelodau byrddau cyhoeddus, y plant yn cario baneri, a chanoedd o ddirwestwyr eraill. Yr oedd yr olygfa yn hardd, ond gresyn fod llawer o ddirwestwyr yn sefyll fel edrychwyr yn lie ymuno a'r dorf. Buasai yn fwy gweddus iddynt wneyd. Trwy yr wyl cafwyd hin hyfryd, cynulleidfaoedd lliosog, a chyfran o'r areith- iau yn wresog ac argyhoeddiadol: ond yr oedd diffyg parotoad i'w weled mewn amryw o'r areithiau. Y CYNGHOR PLWYF. Cynhaliwyd y Cynghor dydd Llnn, Mai 27. Presenol, Mr. Humphrey Davies (cadeirydd), Parch. R. J. Edwards (is-gadeirydd), Mri. Rhys Owen, J. R. Dix, Henry Jones, Richard Owen, Edward Jones, David Jones, Hugh Evans, William Edwards, John Lewis, Evan Pierce, a J. Pugh Jones, gyda Mr. David Owen, ysgrifenydd. Darllenwyd a chadarnhawyd cofnodau y cyf- arfod diweddaf. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Cynghor Dos- barth yn addaw ymgymeryd a gofal liwybr y 41 Braich. Daeth llythyr hcfyd o'r Cynghor Dosbarth yn gofyn am fanylion ynghylch yr hawliau sydd i lwybr Llainygroes i fod yn ffordd cyhoeddus. Pasiwyd fod Mri. J. P. Jones, Rhys Owen, a Richard Owen, i gynorthwyo yr ysgrienyckl i gael y wybodaeth angenrheidiol. Pasiwyd i anfon at yr awdurdod iechydol i bwyso am atebiad pellach ynglyn a chyflwr afiachus amgylchoedd Dolybont, ac yn galw I arnynt i roddi atebiad mwy pendant nag a gafwyd gan yr arolygydd. I Dygwyd i sylw benderfyniad y cyfarfod '21 y plwyfol ynglyn a goleuo, a gofynwyd a oedd y pwyllgor a benodwyd ar hyn wedi gwneyd eu hadroddiad o'r amcangyfrif. Gohiriwyd y z,y mater gan ddisgwyl i'r adroddiad gael ei gyf- lwyno i'r cyfarfod nesaf. Mewn perthynas i'r ymchwiliad i sefyllfa tai afiach yn y plwyf, ni chafwyd ond un adrodd- iad yn yr hwn y cwynid am un ty yn y Cwrt. Cafwyd adroddiad maith gan Mr. J. Pugh Jones o'i ymweliad a gwahanol ranau y plwyf ynghylch y dwfr. Dywedai yr adroddiad fod gwir angenrheidrwydd am gyilenwad o ddwfr yn Corris ac Aberllefenni, ac y dylid symud yn mlaen gydag ef heb oedi. Achosodd yr adroddiad lawer o siarad o bob tu i'r cwestiwn. Pasiwyd, ar gynygiad Mr. Richard Owen, a chefnogiacl y Parch. R. J. Edwards, Fod yr adroddiad yn cael ci ddcrbyn, an bod yn edrych i'r gost a'r g-welliantau angenrheidiol yn y plwyf, ac yn Aberllefenni yn arbenig, a bod y dwfr yno i'w anfon i'w ddadansoddi er cael sicrwydd ei fod yn iach a cliymwys." Pasiwyd fod Mr. W. Edwards i wneyd ym- chwiliad i'r gost o adgyweirio ffynon y Cwrt, ac i ddwyn ei adroddiad i'r Cynghor nesaf. Fod Mr. J. Pugh Jones i fod yn gynullydd Pwyllgor y Dwfr, ac yna ymwahanwyd. BWRDD YSGGL. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig, Mai 9fed. Yn bresenol, Mri M. Roberts (cadeirydd), W. R. Williams (is-gadeirydd), Rhys Owen, J. Wil- liams, a J. P. Jones. Ar ol darlien a chadarnhau cofnodion y cyf- arfod diweddaf, pasiwyd pleidlais unfrydol yn datgan y golled a gymerodd le dnvy farwol- aeth sydvn Mr. H. Lloyd Jones, yr hwn a fu l yn ysgolfeistr yn yr ardal am dros 30 mlynedd. a chydymdeimlad y bwrdd a'i frawd ac Miss M. Williams. Pasiwyd i gynyg y swydd o Brifathraw Corris i Mr. H. S. Roberts ar yr un telerau a'r diweddar Mr. Jones, a'r eiddo Ty'nyberth i Mr. Williams, Aberllefenni. Cynhaliwyd cyfarfod Mai 14eg. Yn bresenol, Mri. W. R. Williams (is-gadeirydd), Rhys Owen, R. Williams, J. P. Jones, a J. Williams Wedi cadarnhau y cofnodion, darllenwyd llythyrau oddiwrth Mri. H. S. Roberts ac E. J" Williams yn derbyn cynygiad y bwrdd iddynt ymgymeryd a bod yn brifathrawon Corris a Ty'nyberth. Cadarnhaodd y bwrdd y dewis iad. Penderfynwyd rhoddi hysbysiadau allan am brifathraw i Aberllefenni am gyflog o 8op. a'r ty. Pasiwyd talu 35p. 6s., sef llog a rhan o'r hawl ar Ysgoldy Aberllefenni. Cynhaliwyd cyfarfod arbenig Mai 28ain, yr holl aelodau yn bresenol. Pasiwyd sicrhau gwasanaeth William Hughes i ysgol Corris hyd ddiwedd Medi nesaf yn ol 10s. y wythnos. Mewn canlyniad i rybudd a roddwyd yn y cyf- arfod blaenorol, ystyriwyd penodiad fiuftil teachers i Corris ac Aberllefenni. Penodwyd Alice Hughes, Garneddwen, i ysgol Corris, a William Thomas i ysgol Aberllefenni. Os cymer gwagle eto yn Aberllefenni, Alice Hnghes i fyned i ysgol Aberllefenni, a Cerid- wen Jones i ysgol Corris.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Y FFAIR FISOL. Ychydig oedd y stoc o wartheg a ddaeth yn nghyd. Yr oedd y pris- iau yn weddol dda, lloi yn uwch. Ychydig o ofyn oedd am geffylau am fod y prynwyr yn Nghaerfyrddin, lie y cynhelid prif ffair y flwyddyn.
BWRDEISDREFI MALDWYN.
BWRDEISDREFI MALDWYN. Hysbysir y bydd Syr Pryce Pryce-Jones yn jmneillduo o'r Senedd, ac mai ei fab, Major Pryce-Jones, fydd yr ymgeisydd Toriaidd.
Y NEGESYDD.
Y NEGESYDD. Cyfaill lion Cymru lonydd-papyr llawn, Papyr lienor celfydd; N ewyddion yn rlioddion rhydd I ni gais Y NEGESYDD. AbcrUcfenm. HEXKV Jo-NEs.
DYFFRYN DYFI.
DYFFRYN DYFI. Heddychol ddyffryn tlws dy ruddiau lion Fu'n mynycli lawenhau y fynwes hon: Am orig fach dy holl ororau glan. A gant yn awr roi bywyd i fy nghan. Naturiaeth, ar ei thaith i harddu'r wlad, A wenodd arnat ti mewn lion foddhad O'i gwych drysorau i addurno'th ael Cyfranu wnaeth ei cheinion heirdd yn hael. Am un tal fynydd o dy gylch a gwyd, Nac am eangder mawr fel goror Clwyd, Cyfaddef raid nas meddi gjrfiawn hawl I I ddisgwyl cael gan neb ryw hynod fawl: Ond er nad yw dy faint ond megis glyn," Ac er nad oes un mynydd lllawr na bryn 0 fri anfarwol ar dy fron ddifraw Yn taflu i lawr eu tremion beilch o draw: Ymorwedd mae rhyw gryf ddeniadol swyn Oddeutu'th hoff amgylchoedd sydd yn dwyn Pob un a'th genfydd yn dy liefin wisg I'th garu'n wir, a theimlo, tra 511 mysg Dy brydferth olygfcydd, ryw fwyniant pur A ddaliant hwy mewn melus gof yn liir Am flwng ryfeloedd certh, fel llawer man, Ni ddaeth riiyw faith hynodrwydd i dy ran ITn lliermopyla? o dy gylch nid oes, Nac un Marathon ercli, yn gof o farwol loes I alon beilch dy fynwes werdd ni wnaed Fel Cannae gynt yn goch gan ddynol waed. Er hyn, y glew Eufeinwr unwaitii fu Y11 siglo'i waewSon ar liyd-ddot ti: Ac wedi traill canrifoedd, Llew Glyndwr A wehvyd yn dy fro yn uwehaf gwr, Yn arwain ei arfogion dewr i'r gad I roi ar Ífo elynion blin fy ngwlad. Ac cr nad wyt yn rhyw Arcadia fwyn, A'th wigoedd cain yn ddigon cryf eu swyn I ddenu per Farddoncg hardd ei phryd I wneyd ei tlirigfan ynot ar bob pryd; Trwy'r oesoedd oil ni bu dy ardal werdd Mown amddifadrwydd llwyr o gerdd: Fwy a angliofia'th hybareh Lywarch lien, Y grymus fardd a wiggni siriol wen Pan glywai'r gog yn Abercuawg gynt Yn anfon ei plieroriaeth gWYllt, N eu a dy wall tai alarnadawl gri Am gwymp Cjuddylan ddewr i'r dyfnfedd du r Tra seif J.fachynileth ar dy dawel fron, J3,rdd enw Llawdden ddocth ynglyn wrth hon A'th afon clIos, t-ra"il treiglo bydd ei lli, Caiff leuan Dyti fod mewn. eofiant cu. A nihmau'ii llanc cystudcliol, gwael ei wedd, Sy'n ceisio plethu BLODAL-'U arlant hedd I'w gadael ar fy ol, yn deyrnged fach 0 barch i ti, pan wedi canVu iaeh Y byddai 11 i'r awen lioff a'r gerdd, I Illuolil hun yn nghol dy ddaear werdd. Mor inch a'r glain, mor chwim a'r iwrch fy liynt, Ar lawer bore teg y dringais gynt, v Yn lion fy niryd, i ben y mynydd draw, I hoif fwynliau'r olygfa faith islaw. o mor ddymunol fyddai gwel'd yr haul I'w yrfa'n cychwyn gyda rhwysg diail, A'r dySryn dan ei wrce yu offrwm fry Ei fwgdarth per am wawl y boreu cu Ond yma weithian fore, nawn, a hwyr, Yr ydwyf fl, mewn absenoldeb llwyr Oddiwrth adfywiant a mwynderau cliweg Dy dirion olygfeydd, 0 ddyffryii teg Ond cr rhoi terfyn ar fy llwybrol hynt, Yn fy mae dy hen brydweddau gynt Y11 ysgafnhau fy mron, pan yn fy mryd Yr aflrvgj-nyrehii- hwut yn llawn i gyd. Gwyryfon glan a fagwyd ar dy fron, A llawer torf o'th wrol fechgyn lion, Sydd vredi rhoi ffarwel i'th oror gu, A 'i swynion llawn, a llwybro dros y lli I fFrwm wastadion a choedwigoedd pell Gorllewin fyd, a llawer cwm a chell 0'1' ddaear faith, gan ddiegwyl mwyniant gwell. Ceir am bell lioedyn balch yn diystyru'r dydd Y llonid ef a'th iach awelon rhydd Oncl ereill, er i ddoeth ragluniaetli Duw Eu liar Train draw i arall fro i fyw, Y11 fynych iawn yn ddigon trist eu bron, A dgofio maent yr lien aniserau Hon Pan fyddent hwy yn 11awen iawn eu hynt Yn trcedio'th lenyreii heirdd y dyddiau gynt. Meillionen wyllt oddiar dy ddolydd eu Dderbyniai ganddynt ryw rtllwylaeh bri Na pher bwysian o rosynau prid A harddaf fiodau gerddi pena'r byd. 1S52, LEWIS MEiuouiH (Ltwk Glyn DvJi),