Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
UNDEB YSGOLION GOGLEDD CEREDIGION.
UNDEB YSGOLION GOGLEDD CEREDIGION. Cynhaliodd Annibynwyr Gogleddbarth Cer- edigion eu cymanfa gerddorol a phynciol yn Nhalybont dydd Mawrth (Mawrth gwyn), pryd y daeth llu o blant a phobl mewn oed ynghyd i ganu mawl i'w enw Ef, o dan arweiniad y cerddor medrus ac adnabyddus Mr. D. W. Lewis, F T.S.C. Trefnwyd y cyfarfod boreuol ar gyfer y plant, pryd yr oeddynt i gael eu holi yn Hanes lesu Grist a'r Fam a'r Plentyn," a datganu y darnau oeddid wedi fabwysiadu at y Gylchwyl. Dechreuwyd y cyfarfod hwn am haner awr wedi deg, drwy i Mr. J. R. Jones, Salem, ddarllen cyfran o Air Duw ac anerch gorsedd gras. Yn absenoldeb y llywydd apwyntiedig, cymerwyd y gadair gan y Parch. R. E. Jones, gweinidog y lie, yr hwn, wedi anerch y gynulleidfa ar ychydig o eiriau agor- iadol cymwys, a alwodd yr arweinydd at y gwaith a ymddiriedwyd iddo, ac yna cychwyn- wyd yn galonog ar waith y dydd, ac yr oedd yn hawdd gweled fod pawb yn ymaflyd yn eu dyledswyddau a gwneuthur eu rhan mor drwyadl a chanmoladwy ag ydoedd bosibl. Wedi i Mr. Lewis anerch y plant, a dymuno yn dda iddynt, aed ymlaen i ddadganu y darnau canlynolPan gilia'r niwl" (H. Howels), Plant y tonau" (Odlau Mawl), "Fe genir byth am hyn," "Dygir ni gan cngyl." Rhwng y darnau uchod holid y plant yn fedrus gan Mr. D. Williams yn yr hol- wyddoregau a nodasom eisoes, a chafwyd cyf- arfod boddhaus ymhob ystyr, fel na fydd yr un petrusder mwyach yn meddwl y pwyllgor mewn darparu yn helaeth ar gyfer y plant yn y dyfodol. Dechreuwyd.y cyfarfod dau o'r gloch gan y Parch. IVillianis (B.), Talybont, a chymer- wyd y llywyddiaeth gan y Parch. J. Davies, Bethesda, yn lie Mr. Richard Jenkins, Winllan, yr hwn a alwesid gan ei Arglwydd rhyw fis yn ol i gadair uwch yn nghymanfa a chynulleidfa y rhai cyntafanedig." Gwr di- absen, a diwenwyn, oedd efe, ac yn dwyn mawr sel dros weithrediadau yr enwad y perthynai iddo yn y cylch, fel yr oedd yn chwithdod gweled ei le yn wag dydd y gylchwyl yn Nhal- Y bODt; 6to, "yr Arglwydd a ddarpar." Gwnaeth Mr. Davies gyfeiriad tyner ac anwyl iawn at yr ymadawedig, a'r golled yr oeddynt hwy fel eglwys yn Bethesda wedi gael yn ei symudiad, canys un o golofnau yr achos yn y lie oedd y diacon da a ffyddlawn hwn. „ l?^ganwyd y tonau a ganlyn:—" Danville," alfaria, "William Evans," Nicea Beverley," "Troyte," "Haydn," Nant, an, ar anthem "A bydd arwyddion" (T. Wil- n?vSn yr• h/n,- a• ddy.?odd gyfarfod hwyliog y P ydnawn 1 derfyniad hapus. <^DIChreu^d y cyfarfod olaf am s-;o o'r vso-ol Jenk)'n Williams, Coleg y Brif- iaeth'vn iryStwyth' a chymerwyd y llywydd- C S EH>"AR Y TREFNIANT SA" Mr. Edward Jones, o eiHauLddiolCcvn7l ^1^° ychyd-iff 1 ydd at ei waith Yn! ° TV" ,? £ Vem" hoeliad," « BrunsI>tC^dTyt0n^'cS0es" fyrddin," Glanleri Josoph, Caei "1 irvni, r V, IJangoedmor," :^n"'„"Wynnstay," i'r anthem dau frawrt 1 C^r. Parry). Yr oedd aau trawd cymwys, Sef Mri Richard Tones Clarach, a T. R Nuttal r S. aia J°?cs> hannwimtm !!■>,•' Cwmerhn, wedi eu arfodydd na^v anerchiadau Yn Y cyf- Ond vn nJwv,; P{rdna^ a'r Hall yr hwyr. mheli o-V(fa ,]e od >'r amser wedi rhedeg yn dymunasant ''r felly y bu er Wl hesgusodi am y tro, ac fe-Ily y bu, er fod hyny y tlin genym, gan fod y cyfeillion wedi darparu eu hanerchiadau erbyn yr amgylchiad. ,,y Yn ystod y cyfarfodydd gwnaed yn hysbys ganlyniad yr arholiadau yn y gwahanol safon- au gan yr ysgriienydd, a chyflwynwyd tyst- ysgrifau prydferth i'r rhai llwyddianus can- lynol:- DOSBARTH DAN 10 OED-' Y Fam a'r Plentyn.' o ysgol Baker Street.-E. Meredith, E. Thomas, Johnny Jones, T, J. Humphreys, Cledwyn Meredith, Elsie Lloyd, Margaret E. Humphreys, Louisa Williams, Blodwen Humphreys, Ethel Evans, Dellis Evans, Mar- garet J. Jones, Florence A. James, Jenny Thomas, Marian J. Peters, Mary Evans. Pt,i-zliiaes,g-las.-E. G. Jones, J. Owen Roberts, Annie Parry, Polly Jane Jones, Henry, Eleanor Simon, R. Jones, T. H. Pugh, R. Pugh, D. Pugh. Claroclz-J ohn Meredith Edwards, Evan Morgan Jones, Thomas Rees, Anne Maude Edwards, Jane Davies, Catherine Davies, Thomas Jenkin Jones, Lilian Mary Edwards, Ivis Rose Edwards. LÙmbadarn-Ðavid John Pugh, Ernest Davies, Hugh Pugh, W. R. Thomas, D. E. Davies, Willie Evans, John Price, Isaac Jones, Idris Thomas, Humphrey Thomas, Martha Lloyd, Polly Lloyd, M.- R. Williams, Mary Jane Lewis, Hannah Jones, Jenny Roberts, Jane E. Hughes. Comminscoch—Mary Davies Jones, Jane Elizabeth Jenkins, Lizzie Jones, Benjamin Samuel, John Emlyn Jones. Salem-Margaret Anne Morgan, Elizabeth B. Rees, E. Llewelyn Rees, Luther AVilliams, J. Morgan Jones, Jacob Davies, Morgan Lewis Morris, Claudia Morris, Edward Evans, Jane Anne Evans, Jacob Meurig Jones Cwnierfliz. Llewelyn Davies, Richard Hughes, Gwilym Davies, Hugh Davies, Anne James, Margaret James. Bethania.—Sarah Ellen Owen, Kate Anna Lloyd, Bridget Jenkins, John Jenkins, Isaac E. Lloyd, Daniel Jenkins, John R. Davies, David Hugh Owen. -Belliel, Talybont.—Joseph Edwards, James Griffiths, Arthur Nelson, D. T. Morgan, H. J. Davies, D. J. Davies, Idwal Morgan, D. R. Edwards, Ernest Williams, John Evans, Jenkyn Evans, E. J. Edwards, D. A. Williams, Joseph Williams, Ivor Williams, R. M. Richards, D. J. Jones, Ernest Nelson, Goronwy Morgan, Gwilym Evans, E. R. Morgan, Austin Hughes, Howard Hughes, Meredith Humphreys, Gwilym Davies, Daniel Jones, Matthew Richards, Annie Parry, Catherine J. Morgan, Elizabeth A. Edwards, Anne M. Roberts, Elizabeth A. Morgan, Adelaide Jones, Blodwen Jones, Jane A. Griffiths, Elizabeth Anne Jones, Kate E.Jones, Lizzie Williams, K. Williams, M. J. Edwards, Jennie Jones, Emma Jane Beaumont, Cath. Jane Jones, Gladys Griffiths. Bethesda—William Evans, Emma Evans, Methusalem Morgan, Elizabeth Morgan, Richard Jones. DOSBARTH DAN 14 OED—'Hanes Iesu Grist.' Penmaesglas—Mary Elizabeth Simon, Jane Ellen Davies, Mary Parry, James Davies, Esther Mary Davies, Miriam Davies, Mar- garet Ellen Jones. Baker Street-Mary Anne .Davies, Katie Jones, Dora Hughes, Margrctta Lloyd, Hannah Jones, William Thomas, Emrys Evans, David Lloyd, Anne Catherine Meredith. Czpmerfin—John David Davies, Thomas James Davies, Mathew Henry Davies, .Rebeccah James, Sarah Anne Davies, Jacob Hughes, Johnny Williams. Z, S(Ilt,nz-Mary Jane Morgan, Mary Rees, Letitia Jones, Elizabeth Williams, Gwen Myfanwy Lewis, Mary Elizabeth Jones, Jacob Meurig Jones, John David Morgan, John Henry Morris, Edward David Rees, Arthur D. Lloyd. Borth- Jane Hannah Jones, Elizabeth Grace Llewelyn. Bethel, T'alybont—Denis Hughes, Samuel Morgan, Stanley Morgan, Emrys Morgan, Mary Morris. Jennet Griffiths, Mary E. Roberts. Betlltlllltl-- Edward John Owen, Daniel Lloyd, Winifred Humphreys, Margt. Jenkins, Sophia Jane Owen, Margaret Jane Roberts. Bellies(Ai --Mary Jane Evans, Mary Evans. Llanbadarn—John Thomas, John Lloyd, David Jones, Polly Pugh, RLitli Jenkins, Eliz. Hughes, Maggie Price, Margaret Jones, L. Thomas, Anne Jones. Comminscoch—Mary Anne Jenkins. Arholwyr Mri. David Williams, Talybont; H. Meredith, a'r Parchn. J. Llewelyn, Borth, a D. C. Davies, Salem. [Ymddengys y gweddill o'r adroddiad yn ein rhifyn nesaf.-GoL. ]
YR IAITH GYMRAEG.
YR IAITH GYMRAEG. Iaith araul, a'r iaith oreu—iaith gudeg, Iaith gadarn ei geiriau Iaith fy nhud, iaith fy nhadau, Iaith bur oil, iaith i barhau. --Tem(tiz Glan Geirionydd. Tra rhed dwr, tra rhua taran,—tra gwawl, Tra gwelir yr huan A lloer mewn mantell arian, Rhywiog lwydd i'r Gymraeg lan —-Joseph Jones (Caradog). Walia a'i hiaith ber wiwlon-gu ethawl, Er gwaethaf gelynion, Byw fyddant mewn llwyddiant lion, Tra doniau, tir, a dynion. -Dalliel Ddu o Geredigion. Iaith oesol, hen iaith Asia,—iaith enwog, Iaith anwyl gwyr Gwalia Iaith prydyddion, doethion da, Iaith ystwyth gwyr Bethesda. —Clwydf-irdd(y'u Eisteddfod BethesdaJ. Iaith ddoniol, iaith a hanyw-o Eden, Iaith hudol ddiledryw laitn ffraeth, iaith odiaeth ydyw, Iaith a ddeil,—iaith ieithoedd vw. ■—Rhisiart Trefaldzayn. Iaith i'r oes, iaith yr awen,iaith y byd, Iaith i bawb, iaith gymen Iaith ydoedd groew iaith Eden, Iaith oleu'r byd, iaith ddeil yn ben. ■—Mervinian.
[No title]
Yn Nghymanfa Gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd a gynhaliwyd yn Llundain yr wythnos hon, etholwyd y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, yn llywydd am y flwyddyn ddyfodol. Brodor o Aberllefenni ydyw Mr. Ellis, a bydd yn foddhad mawr i'w hen ardal- wyr, ac i gylch eang ei edmygwyr ddeall ei fod wedi derbyn anrhydedd uwchaf ei enwad.
1^.6gotten am (S>ox*vts,
1^.6gotten am (S>ox*vts, GAN Y PARCH. EVAN JONES, CAERNARFON. II. Yn fy yi-ilweliadau blaenorol a Chorris yr oeddwn yn mhell iawn o dybied y posibil- rwydd am i mi byth fyned yno i fyw. Ond yn y flwvddyn 1867, pan ar orphen fy mhedair blynedd fel efrydydd yn y Bala, yr oeddwn yn digwydd pregethu yn Nghorris yn nechreu Meliefin, ac yn Aberllefenni yn niwedd yr un mis. Wrth ddychwelyd o'r lie diweddaf i Fachynlleth nos Sabbath, ychydig yn nes i Gorris na'r Machine, pwy ddaeth i'm cyfarfod ond Thomas Jones, Foelfriog,-coffa da am dano. Wedi ym- ddiddan am y naill beth a'r Hall, y mae yn dweyd wrthyf eu bod hwy fel swyddogion yn N ghorris wedi bod yn son am danaf, gyda golwg ar i mi ddyfod yno yn weinidog. Tarawodd y peth fi fel saeth. Nid oeddwn erioed wedi dychmygu am y fath beth. Rhedodd cant o bethau trwy fy meddwl mewn eiliad. A'r peth cyntaf y meddyliais am dano oedd, a oedd gan Griffith Ellis a John Roberts (Khasia), y rhai oeddynt yn y Bala ar y pryd, law yn hyn ? Yr 1vyf bob amser wedi dirgel gredu fod gan y ddau yn fwyi ateb am dano gyda golwg ar fy nyfod- iad i i Gorris na neb arall. Oeisiwn daflu Thomas Jones i ffwrdd ymhob modd, ond yn ol y deuai o hyd gyda'r cwestiwn a ddeuwn i i Gorris pe rhoddent alwad i mi. Beth bynag yr ymafiai Thomas Jones ynddo, ni wyddai cldim am y ffordd i'w ollwng. O'r diwedd, ar ol iddo holi llawer arnaf, a methu dyfod a mi i'r ddalfa, mi droais innau i'w holi yntau. A'r cwestiwn cyntaf a ofynais iddo oedd, a ydych chwi 0 ddifrif ? Yr oedd y fugeiliaeth y pryd hwnw yn beth newydd. Prin yr oedd pawb yn cydweled a, hi hyd yn nod mewn lie mor flaenllaw ac mor deyrn- deymgarol i Mr. Morgans, o'r Dyffi-yn, ag ydoedd Gorllewin Meirionydd. Nid oeddwn yn sicr ymha wedd y teimlent yn Ngliorris. Nid oedd Mr. Jones ei hun wedi dweyd wrthyf ei fod ef ei hunan drosti hi, na throsof finau, ond mynai gael gwybod genyf fi, yn fy ieuenctyd dibrofiad, pa beth a wnawn i pe digwyddwn gael galwad i Gorris yn weinidog. Dyna barodd i mi ofyn y cwestiwn iddo. A'r funyd y gofynais y cwestiwn, gwelwn ei fod Avedi ei gyraedd hyd adref. Trodd o'r neilldu, chwarddodd. Methai a dwoyd yr un gair. Daeth deigryn i'w lygad. Gwelwn ei fod wedi ei glwyfo. Estynodd ei law i mi, gan ddweyd yn garedig iawn, "Nos dawch, dyna ddigon 'rwan." Pa faint bynag o gyffro a wnaeth fy nghwestiwn i yn meddwl Thomas Jones, yr oedd ei gwestiwn ef wedi peri llawn cymaint yn fy meddwl inau. Ychydig a feddyliais i erioed am geisio myned yn bregethwr, a llawer llai na hyny am fyned yn Aveinidog. Trwy holl holl dynior fy arhosiad yn y Bala yr oeddwn yn cadw ymlaen fy svryddfa fel argraffydd yn Machynlleth o hyd, ac yno, ar ol gorphen fy efrydiau, yr oeddwn yn llaAvn fwriadu dychwelyd. Yr oeddwn ar y ly, pryd yn llawn prysurdeb yn parotoi ar gyfer yr Arholiad Cymdeithasfaol, yr hwn oedd i gymeryd lie yn mhen y ddeufis, fel nad oeddwn yn talu sylw i nemawr ddim arall. Gostegodd y cynhwrf a wnaeth gofyniad Thomas Jones yn fy meddwl. Ychydig a foddyliwn am dano. Pasio yr arholiad oedd y pwnc yn awr. Modd bynag, yn Eistedd- fod y Comminscoch, lie yr oeddwn yn ar- Aveinydd, pwy Avehvn yn dyfod i mewn, ond Mr. David Davies, Shop, Corris. Gwyddwn am dano—am ei bwylJ, ei synwyr, ei gall- ineb, a'i fedrusrwydd diarhebol i drin bobpeth a ddeuai dan ei ddwylaw. Nid oeddwn erioed wedi ei weled mewn eistedd- fod o'r blaen. Nid oedd y Comminscoch yn agos iawn i Gorris. Nid oedd ar y ffordd i unlle arall. Nid oedd yno neb y tybiwn i y gallasai Mr. Davies fod oisiau ei weled. Yr oedd Stephen, Tanymarian, yn yr eisteddfod, a Mynyddog, a llawer o feirdd a lleuorion y cwmpasoedd. Gwvddwn eu neges hwy; ond beth oedd neges David Davies ? Cymerai dipyn o ddyddordeb yn y cyfarfodydd—dim llawer; yr oedd yn amiwg mai nid er nnvyii yr Eisteddfod yr oedd ef wedi dyfod yno. Ni chymerai ddim byd arno ychwaith, ac ni chymerwn inau. 0\' diwedd gwelwn ef yn gwneyd am danaf Yr oeddwn yn ei Avylio yn ddyfal, a hen gwestiwn Thomas Jones yn dechreu bywhau ac adgyfodi yn fy meddwl. Nid oeddwn erioed wedi bod yn siarad gair yn bersonol o'r blaen, hyd yr wyf yn cofio, a Mr. Davies. Ond yn y modd mwyaf llednais a mwyaf boneddigaidd y mae yn estyn ei law, gan ddAveyd os oedd genyf funyd o hamdden, y carai gael gair gyda mi. Dywedais inau y cai, gyda phob pleser. Yna dywedodd fod cyfeillion Corris ac Aberllefenni wedi bod yn meddwl am danaf i ddyfod yno yn weinidog. Nid oedd ef ei hun yn flaenor, ond efe oedd yn blaenori; a hyny gyda chydsyniad, a chefnogaeth, a chYllleradwyaeth yr holl wlad. Dywedai pa beth a fwriadent gynyg g yn gyflog i mi; a pha fodd yr oeddynt yn bwriadu myned o amgylch pethau i sicrhau galwad yr eglwysi, &c. Aeth ymaith, gan adael argraff ar fy meddAvl am diplomatist perffaith. Spwyliodd fy niwrnod. Aethum adref yn fwy prudd nag erioed. Noswaith annifyr a gefais. Yr oeddwn mor druenus ag y gallai dyn fod. Beth oedd o fy mlaen ? Nid oeddwn erioed wedi bod yn orawyddus am fod yn bregethwr—llawer llai bugail. Tra yn y Bala, yr oeddwn yn dirgel obeithio na chawn byth alwad. Rhag-welwn, ymysg pethau pwysicach, os cawn un, mai i le bychan y byddai. Os bychan fyddai y lie, bychan fyddai y gyflog, a byddai yn rhaid i mi abcrthu yn sicr ugeiniau o bunau o'r hyn a allwn wneyd wrth bregethu ac argraffu. Yr oedd genyf hefyd rywrun yn fy llATgad," a b^yddai myned 3m fugail mewn lie bychan ar unwaith yn fy nwyn i anhawsderau. Ond ymgysurwn nad oedd byth de bygolrwydd y cawn alwad ac felly na ddeuai byth yn fater cydwybod a dderbyniwn hi ai peidio. Yn awr dyma alwad wrth y drws-yr alwad hono ar unAvaith yn myned yn erbyn fy hoff ddychynwg o argraffu, llenydda, a phre- gethu, ar yr un pryd yn sicr o fy nhlodi o ugeiniau o bunau yn y flwyddyn. 0 ing! Ychydig iawn a ddychmygai yr eglwysi oeddynt mewn petrusder a roddent alwad i weinidog a'i peidio, y fath helbul yr oeddynt yn taflu pregethwr tlawd iddo trwy roddi yr alwad hono. O'r diwedd, dyma hi wedi dyfod. Y pedair eglwys-Oorris, Aber- Ilefenn4 Bethania, ac Esgairgeiliog-braidd A'u unfrydol yn yr ahva-d; a'r rhai nad oedd3Tnt 3m galwT 3-11 hytracli 3-n erbyn y fugeiliaeth nag yn fy erbyn i. Misoedd o oferedd i mi oedd y misoedd hyny. Prif grists fy oes yn ddiameu. Ni ddywedais ddim-hyd yn nod wrth fy nghyfeillion agosaf. Yr oedd cydwybod a'r byd yn ymladd yn ofnadivy. O'r diwedd, llais cyd- wybod a orfu. Oenais yn iach i holl obeith- ion fy mebyd, ac ar y laf 0 Hydref, 1867, yn isel fy meddwl ac yn drwm iawn fy nghalon, aethum i fyny o Fachynlleth i Gorris i ddcchreu ar fy ngAA einidogaeth.
CYNGOR PL WYF LLANWRIN.
CYNGOR PL WYF LLANWRIN. Cynhaliwyd y Cynghor uchod yn ysgoldy Llanwrin, dydd Gwener, Mehefin 7fed. Pres- enol Mri. J. Morgan (isgadeirydd), E. Hughes, W. Jones, M. Ryder, ac O. Burton, ynghyd a'r ysgrifenydd. Y mater cyntaf ddaeth dan sylw oedd Pont dros y Ddyfi. Y mae y cwestiwn hwn wedi ei drafod mewn amryw o gyfarfodydd blaenorol, ond da genym hysbysu fod gwedd addawol iawn i'r mater hwn erbyn hyn. Y mae y Cyngor Dosbarth wedi ei dderbyn, ac yn addaw symud ymlaen i'w ddwyn i weithrediad. Gwaith y Cynghor Plwyf yn bresenol ydoedd penodi personau i ymweled a'r tirfeddianwyr, er cael gwybodaeth a chydsyniad y cyfryw 0 berthynas i'r tir, ar ba un y byddis yn adeiladu y bont, a chael tir bob tu iddi. Y personau a benodwyd i hyn ydynt, Dr. Edwards, Cemmes Road; Mri. Wm. Owen, Mathafarn, ac Edward Hughes, Aberffrwdlan. Y peth nesaf oedd dan syhv oedd, awgrym oddiwrth Mr. Williams, banc, Machynlleth, ynghylch y drysoryddiaeth. Pasiwyd fod i Mr. Ryder, Llanwrin, i dalu ymweliad a Mr. Wil- liams, PC i ddwyn adroddiad o hyny i'r cyfar- fod nesaf. Cafwyd ychydig ymdriniaeth ar y Rheolau Sefydlog y Cynghor, a phasiwyd hwynt. Yna deuwyd at fater y Ilwybrau a'r pontydd. Y mae y rhai hyn wedi eu tros- glwyddo i sylw y Cynghor Dosbarih er's cryn amser, ond nid oes dim wedi ei weithredu hyd yn hyn. Ond ymddengys fod y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie ynglyn a SAvyddogion y ffyrdd, wedi achosi annibendod ynglyn a hyn. Y mae un bont ag oeddis wedi ei dwyn i sylwy Cynghor yn cael ei thynu ynol, sef Pont Cae Cafne, ar y llwybr sydd yn arwain i Llanwrin, a phasiwyd ynglyn a hono eu bod yn gwneyd cais at Mr. Owen, Mathafarn, a'r cymydogion cylchynol, i ymgymeryd a'i chodi, er mantais i ZIY blant yr ysgol. Y cwestiwn nesaf oedd, Rhan- diroedd (Allotments). Cafwyd ychydig ym- driniaeth o berthynas i'r cynllun ag oeddis wedi ei basio yn flaenorol, ac wedi cael sicr- wydd nad ydoedd y cynllun hwnw yn debyg o lwyddo, ac nad oedd y cynllun yn boddloni yr ymgeiswyr, pasiwyd yn unfrydol fod y Cynghor Plwyf i wncyd y cais hwn eu hunain, fel na byddai i drigolion diwyd a gweithgar gael eu hesgeuluso, a thrwy hyny gael cam oddiar ddwylaw eu cymydogion. Felly penderfynwyd fod Cynghor Plwyf Llanwrin yn gwneyd apel at Syr Watkin dros amryw o denantiaid per- thynol iddo am ychydig dir a darpariaethau eraill, er eu galluogi i gadw buwch, a thrwy hyny eu galluogi i dalu eu ffordd, ac i'w helpu i gynal eu teuluoedd mewn rhanau gwledicr, ac iddo gymeryd ei ffordd ei hun i'w cvfarfod, lieb na gorfodiad na thrais.Ap Wrin.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Dydd Llun diweddaf, cafwyd fod y rhwyd a'r cwch pysgota perthynol i Glwb Cymdeithas y Dyfi wedi eu dryllio. Y mae y personau a wnaethant hyn yn anhysbys hyd yn hyn. YR YSGOL GANOLRAODOL.—Cynhaliwyd cyfarfod arbenig o'r llywodraethwyr i drafod y cwestiwn o adeilad newydd i'r ysgol hon, Mai 3lain. Yr oedd yn bresenol y Parch. Josiah Jones, cadeirydd Dr. Davies, Mri. E. Rees, E. Hughes, R. Owen, J. Rowlands, ysgrifen- ydd, Mr. Hipkiss, Aberdyfi, cynllunydd. Wedi awdurdodi yr ysgrifenydd i gyflenwi yr ysgol a desks, &c., cyflwynodd Mr. Hipkiss gynllun o'r ysgoldy newydd. Amcangyfrify gost oedd 2,300p., cymwys at 72 o ysgolheigion. Mr. Edward Rees a gymeradwyai y cynllun, ond L-1 y dymunai gael adeilad a gostiai tua 500p. yn llai. Dywedodd y cynllunydd y gellid gwneyd ysgoldy cyflawn at bob amcan, oddieithr ystafelloedd at goginio, gweithfa, a cherddor- iaeth, am isoop. Barnai y cadeirydd nad oedd angen yn awr am ddAvy o'r ystafelloedd hyn. Gadawyd y cynllun ar y bwrdd dan ystyriaeth bellach. Pasiwyd i wneyd trefniadau at gael cynygion i barotoi safle i'r adeilad, ar ol derbyn caniatad Syr Watkin i'r amcan. CYMANFA GAN 1.—Cynhaliwyd Cymanfa Gerddorol Wesleyaid y Gylchdaith hon yn Machynlleth, o dan arweinyddiaeth Mr. Wilfrid Jones, R.A.M. Fel arfer, treuliwyd yr oil o'r cyfarfod jo o'r gloch mewn rhanu tyst. ysgrifau i'r sawl oedd wedi bod yn llwyddianus yn y maes llafur hwn perthynol i'r dalaeth dde- heuol. Dagenymddweydfodcymainta 152 wedi bod yn llwyddianus i enill y cyfryw an- rhydedd eleni, yr hyn sydd yn dangos cynydd o 29 ar y flwyddyu ddiweddaf. Ar ol myn'd trwy y gwaith hwn gan yr ysgrifenydd, Mri. J. P. Jones, Glasynys; E. Rees, Owen Roberts, a D. Jones, Tycerrig canodd y plant o dan arweiniad Mr. Jones y tonau canlynolFe genir am hyn,' Canaf i'r Arglwydd,' Plant y Tonau,' a 'PNiy sydd yn -weddiol'-yr oil o waith Mr. D. W. Lewis, F.T.S.C. Mr. John Humphreys, Tycerrig, oedd y LlyAvydd, a gwnaeth ei waith yn deilwng o hono ei hun. Cafodd y plant uchel ganmoliaeth gan yr ar- weinydd. Cyfarfod un o'r glocb.-Y Llywydd ydoedd Mr. Rhys Owen, Bronmeirion, Corris. Canwyd y tonau canlynol Constance,' Rhad Ras,' 'Maentwrog,' 'Gwynach na'r eira,' anthem, < Duw sy'n berffaith ei flfordd (Wilfrid Jones), chant, anthem O Father whose Almighty Power' (yr hen anthem ddirwestol), a St. Andrews.' Cyfarfod pump o'r gloch.- Llywydd, Parch. John Roberts. Ar ol araeth finiog o'i eiddo ar ddyledswyddau arweinwyr y gan, canwyd y ddwy anthem drachefn, ynghyd a'r tonau canlynol Henry-d' 'Ardudwy,' 'Caroline,' 'Glanarfon,' Ymofyniad,' Pen- tecost,' ac Aberystwyth.' Cyfeiliwyd gan Mr Isaac Jones a Miss Evans, Machynlleth. Cymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan y Parch. R. Hughes, Henry Davies, D. Jones, ac R. Williams, Penegoes. Y Gymanfa hon oedd yr oreu ymhob ystyr a gynhaliwyd eto. Mr. J. Pugh Jones, Glasynys, Corris, fydd ysgrifenydd y Gymanfa a'r Pwyllgor Gweithiol (addysg) eto.
TOWYN.
TOWYN. Yn gymaint ag fod y "Negesydd" wedi gwneyd ei ymddangosiad at wasanaeth y cymydogaethau hyn, bwriada Gwyliedydd roddi yn awr ac eilwaith ychydig 0 hanes Towyn iddo i'w gludo fel neges, gan hyderu na fydd yn y cyfryw ddim yn amgen i dda i'w ddweyd am le mor ddymunol a'i fanteision mor amI. Ond cofier y bydd y cwbl yn cael eu rhoddi yn ngofal y Negesydd-da a drwg. Yr hyn sydd wedi cynhyrfu Towyn ddiwedd- af yw y Gwirfoddolwyr ( VolunteersJ. Ymwel- wyd a'r lie gan ryw 600 a buont yn pabellu gerllaAv y mor, ac yr oedd y dref yn cael ei s'glo i'w sylfaeni gan swn eu cyflegrau. Pa bryd y daw yr amser pan na fydd angen gwas- traffu arian y wlad gyda phethau fel hyn ? Gwawried y boreu yn fuan medd Gwyliedydd.' MARWNAD Y DIAVEDDAR BARCH. J. ROI ERTS. Dyma un o destynauCymanfa Annibyn- wyr y cylch a gynhaliwyd yn Towyn y Llungwyn diweddaf. Ymddcngys fod wyth o feirdd wedi cynyg, ac ymddengys eu bod oil yn dda iawr, ond rhagora tair ar y gweddill, ac o'r tair etl:- oledig yr oedd CAAYN hiraeth yn rhagor:, sef, eiddo John Maethlon James, Ysw., U. H., a maer, Towyn, liar ar ei sodlau, well done Maethlon, ac well dOlle liar am fod mor ages i'r maer a bardd mor goeth. Z!1 MARCHNAD-DY NEWYDD.—Dyma sydd yn yr awelon yma ar hyn 0 amser, son am godi Ty Marchnad newydd, ond ofni y mae y treth- dahvyr mai cam heb angen ei wneyd i'w hyn, gan fod eisiau mwy na chael Ty er cael marchnad Iwyddianus yn Towyn. GwrthAvyr- ebol i'r syniad hwn ydyw y rhan fwyaf o'r trethdalwyr, a chan fod ganddynt Gyngh( r Trefol yn yr hwn yr ymddiriedant eu hachosior, hyderant y gweithreda'r Cyngor yn ol eu doethineb arferol eto gyda'r symudiad hwn. YMAVELWYR.—Nid yw nifer yr ytmvelwyr a Towyn yn llaw-er eto, er fod y tywydd yn hvnod ffafriol, ond y mae angen rhywbeth heblaw tywydd hyfryd, er dwyn yrmvelwyr o'r trefydd i lan y mor. Mae'r Visitors fel adar a cliai ddynt eu tymor. Mae'r dref yn sirioli trwyddi wrth Aveled y Saeson yn dod i edrych am dani, mre yma groesaw calon i'r Cymry hefyd e wrth y lleill y disgwylir fwyaf.