Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

UNDEB YSGOLION GOGLEDD CEREDIGION.

YR IAITH GYMRAEG.

[No title]

1^.6gotten am (S>ox*vts,

CYNGOR PL WYF LLANWRIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYNGOR PL WYF LLANWRIN. Cynhaliwyd y Cynghor uchod yn ysgoldy Llanwrin, dydd Gwener, Mehefin 7fed. Pres- enol Mri. J. Morgan (isgadeirydd), E. Hughes, W. Jones, M. Ryder, ac O. Burton, ynghyd a'r ysgrifenydd. Y mater cyntaf ddaeth dan sylw oedd Pont dros y Ddyfi. Y mae y cwestiwn hwn wedi ei drafod mewn amryw o gyfarfodydd blaenorol, ond da genym hysbysu fod gwedd addawol iawn i'r mater hwn erbyn hyn. Y mae y Cyngor Dosbarth wedi ei dderbyn, ac yn addaw symud ymlaen i'w ddwyn i weithrediad. Gwaith y Cynghor Plwyf yn bresenol ydoedd penodi personau i ymweled a'r tirfeddianwyr, er cael gwybodaeth a chydsyniad y cyfryw 0 berthynas i'r tir, ar ba un y byddis yn adeiladu y bont, a chael tir bob tu iddi. Y personau a benodwyd i hyn ydynt, Dr. Edwards, Cemmes Road; Mri. Wm. Owen, Mathafarn, ac Edward Hughes, Aberffrwdlan. Y peth nesaf oedd dan syhv oedd, awgrym oddiwrth Mr. Williams, banc, Machynlleth, ynghylch y drysoryddiaeth. Pasiwyd fod i Mr. Ryder, Llanwrin, i dalu ymweliad a Mr. Wil- liams, PC i ddwyn adroddiad o hyny i'r cyfar- fod nesaf. Cafwyd ychydig ymdriniaeth ar y Rheolau Sefydlog y Cynghor, a phasiwyd hwynt. Yna deuwyd at fater y Ilwybrau a'r pontydd. Y mae y rhai hyn wedi eu tros- glwyddo i sylw y Cynghor Dosbarih er's cryn amser, ond nid oes dim wedi ei weithredu hyd yn hyn. Ond ymddengys fod y cyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie ynglyn a SAvyddogion y ffyrdd, wedi achosi annibendod ynglyn a hyn. Y mae un bont ag oeddis wedi ei dwyn i sylwy Cynghor yn cael ei thynu ynol, sef Pont Cae Cafne, ar y llwybr sydd yn arwain i Llanwrin, a phasiwyd ynglyn a hono eu bod yn gwneyd cais at Mr. Owen, Mathafarn, a'r cymydogion cylchynol, i ymgymeryd a'i chodi, er mantais i ZIY blant yr ysgol. Y cwestiwn nesaf oedd, Rhan- diroedd (Allotments). Cafwyd ychydig ym- driniaeth o berthynas i'r cynllun ag oeddis wedi ei basio yn flaenorol, ac wedi cael sicr- wydd nad ydoedd y cynllun hwnw yn debyg o lwyddo, ac nad oedd y cynllun yn boddloni yr ymgeiswyr, pasiwyd yn unfrydol fod y Cynghor Plwyf i wncyd y cais hwn eu hunain, fel na byddai i drigolion diwyd a gweithgar gael eu hesgeuluso, a thrwy hyny gael cam oddiar ddwylaw eu cymydogion. Felly penderfynwyd fod Cynghor Plwyf Llanwrin yn gwneyd apel at Syr Watkin dros amryw o denantiaid per- thynol iddo am ychydig dir a darpariaethau eraill, er eu galluogi i gadw buwch, a thrwy hyny eu galluogi i dalu eu ffordd, ac i'w helpu i gynal eu teuluoedd mewn rhanau gwledicr, ac iddo gymeryd ei ffordd ei hun i'w cvfarfod, lieb na gorfodiad na thrais.Ap Wrin.

MACHYNLLETH.

TOWYN.