Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

õgofion am (fcorrio.I

YR ETHOLIAD.

O'R FFAU,

DOLGELLAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DOLGELLAU. Rhoddodd Mr. Taylor, y Cliffe, yn ol ei haelioni arferol, Sp. at draul Cymdeithas Gorawl Idris. FFAIR.—Cynhaliwyd ffair yma ddydd Iau, y 27ain o Mehefin. Pur ychydig o wartheg. Prisiau yn tueddu i ostwng. Cyflenwad da 0 foch a cheffylau. CYFARFOD CYHOEDDUS.—Nos Lun di- weddaf, yn y neuadd sirol, dan lywyddiaeth J. Meyrick Jones, Ysw., U.H., cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i'r diben o ystyried a oedd eisiau mynwent newydd (cemetery) i'r dref. Siaradodd amryw o blaid ac yn erbyn. Yn wir ni wyddis yn iawn beth oedd Ilawer yn ei ddweyd gan fod y cyfarfod yn dra afreolus. Y diwedd fu i ddau gynygiad gael eu rhoddi gerbron (1) Nad oedd eisiau yr un yn bresen- 01; (2) Fod angen am fynwent newydd. Aed i bleidlais trwy y ballot, ond ni wyddom pa fodd y trodd pethau, gan fod llawer wedi myncd heb bleidlais o gwbl. Cri y cyfarfod oedd, nad oedd y trethdalwyr yn cael eu cynrychioli yn deg. Cynygiwyd ar fod iddynt ddewis yr un cynllun ag a ddewiswyd gyda chwestiwn arall o'r blaen, sef myned o dy i dy, er mwyn i'r trethdalwyr gael Ilais teg. Ceir gwelcd pa gwrs a gymer y cynghor trefol gyda hyn. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw gan y cyngor er gweled llais y trethdalwyr. Amser a ddengys pa beth a wneir. Y SASSIWN.—Bydd yn dda gan lawer glywed feallai, fod Mr. Young, arlunydd o'r dref hon, wedi cymeryd photograph o'r cae a'r stag'e, boreu y dydd olaf o'r Sassiwn. Gwelsom un o hon\-nt, mae yn wir dda, ag ystyried y miloedd oedd yn bresenol. Bydd yn rhywbeth i'w gadw, ac er mwyn i'r oes nesaf ei weled Diau fod ganddo gyflenwad ar law, os bydd galw am gopiau o honynt. Y (jwLAW.—Dyna glywid yn barhaus ar hyd a lied y wlad eisiau gwlaw." Cawsom yma gawodydd maethlon. Mac'r gweithfeydd oddiamgylch yma yn dechreu gweithio eto, ar ol bod yn segur, o eisiau gwlaw.

ABERDYFI.

ABEEGYNOLWYN.I

NODION 0 TOWYN.

CYNGHOR PLWYF CEMMES.