Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD GADEIIIIOL COKRIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD GADEIIIIOL COKRIS. Cynhaliwyd yr Eisteddfod hon ar y 4ydd o Orphenaf. Gyda chryn bryder yr aeth pobl yr ardal i orphwys y noswaith flaenorol gyda golwg ar y tywydd trwy ei bod wedi gwneyd tywydd mor arw y nosweithiau blaenorol. Ond boreu dydd yr wyl diflanodd pob piyder o'u mynwes gan mor deg a chadarn yr ym- ddangosai yr wybren. Tanbeidiai yr haul ei belydrau llachr fel pe yn benderfynol i wneyd ei oreu dros yr Eisteddfod er denu pobl yma. Ond ni ddaeth yn agos yr hyn a ddisgwylid. Ni ellir rhoddi y bai am hyn ar y tywydd; ac ni wyddem wrth ddrws pwy i'w roddi. os nad wrth ddrws rhai o'r aelodau oedd yn hynod 0 anffyddlawn mewn presenoli eu hunain yn ) pwyllgor. Yr oedd y cystadlu yn weddol 'iosog, ond yn rhy leol; ac y mae yn debyg mai y gwaith o ranu gwobrau yr unawdar oedd yn peri am hyn. Edrychem ymlaen] am Eisteddfod mwy cyffredinol ond rhaid i ni ddweyd ein bod wedi ein siomi. Hwyrach ) bydd yr Eisteddfod nesaf yn fwy deniadol, ot cymer y Pwyllgor i fyhy awgrymiadau Z% r Gwynedd, a cheisio bod yn fwy call pan yn trefnu y gwobrwyon. CYFARFOD Y BOREU. Dechreuwyd trwy i Mr. Dyfed Lewis ganu can yr Eisteddfod, Gwlad y Delyn." Yna cafwyd anerchiadau gan y beirdd. Cystadleuaeth unawd alto, Wyres fach Ned Puw." Ymgeisiodd 7. Goreu, Catherine Joel Pierce, Corris; 2il, Susanah Davies, Aber- dyfi. Traethawd, "Ysgolion Nos—eu gwerth a'u dylanwad (i rai dan 25 oed). Ymgeisiodd 4. Goreu, Mr. Joseph Evans, Pantperthog. CyheitPad 0 Gymracg i'r Saesneg. Ym- geisiodd 5. Goreu, Lewis Jones, Dolgellau. Unawd Soprano, Mercli y Morwr." Ym- geisiodd 3. Goreu, Miss Sophie Lewis, Corris 2il, Sally Roberts, Abergynolwyn. Anerchiad gan y Ltywydd, Principal Roberts, Aberystwyth.-Yr oedd wedi arfer dal meddwl uchel o drigolion Corris, ac yn credu fod yr Eisteddfod hon yn brawf fod hwy yn cymeryci rhan yn y pethau pwysicaf sydd yn gwneyd i fyny ein bywyd gwahaniaethol ni fel Cymry. Yna gwnaeth gyfCIflad at y diweddar Mr. H. Ll. Jones, fel un ag oedd wedi bod yn wastad yn rhoddi ei gefnogaeth i'r hyn ag oedd yn dyrchafu dyn. Gobeithiai, hefyd, y rhoddid pob cefnogaeth i'r hwn sydd wedi dyfod i gymeryd ei le, i'w helpu yntau i rodio yn yr un llwybrau. Yna rhoddodd air byraryrYsgolion Nos. Dywedai, hefyd, fod yn ddyledswydd ac yn angenrhaid rhoddi pob cefnogaeth i v/eith- W3rr Cymru i gyraedd at y pethau uwchaf mewn llenyddiaeth,—yn rhyddiaeth a barddoniaeth. Heb iddynt gael pob gwrteithiad nis gallant gymeryd eu lie ar unrhyw fwrdd cyhoeddus. Yna anogai yr ieuenctyd i ddarllen mwy 0 farddoniaeth, a gwnaeth gyfeiriad a defnydd sylweddol o'r darn canlynol gan Elfed :— Dos di i'r chwarel, fy mrawd, Gwna'n fawr 0 dy dymor gweithio: Os yw'th wisg a'th damaid yn dlawd, Drwy hyny cei lai o'th demtio., Dilyn di'r aradr, fy mrawd, A'r gwynrew yn cnoi dy fysedd: Llawer cynhauaf a gawd, A'r hauwr mewn gro yn gorwedd. I enau y ffwrn, fy mrawd, Dos dithau i'th waith cyncfin Gwell i'r gwres gael ysu dy gnawd, Na bod rhwd ar flaen dy ewin. Cana dy gAn, fy mrawd; Cana-a doed a ddelo Bu Milton unwaith yn dlawd, A pharadwys dan ei ddwylo." Beirniadaeth ar gyfansoddi T6n. Ymgeis- iodd 3. Goreu," Presto." Unawd contralto, Bedd y dyn tlawd." Ymgeisiodd 2. Goreu, Mis:; Catherine Joel Pierce 2il, Miss Maggie Burton, Carno Beirniadaeth canii- ± Mynydd," Ymgeis- iodd 6. Goreu, Dewi Mai, Blaenau Ffestiniog, ac Ap Ither yn gyfartal. Cyfieithiad o'r Saesneg i'r Gymraeg. Ym- geisiodd 8. Goreu, Mr. R. Ll. Jones, Pen- rhyndeudraeth. Yna aed at brif Item rhaglen y boreu, sef cadeirio, ac wedi darllen beirniadaeth faith gan Gwynedd (yr hon a ymddengys yn ein rhifyn nesaf), cyhoeddodd Mr. Tom Owen, Hafod Elwy, Dinbych, yn fuddugwr. Anerch- wyd y bardd buddugol gan Mri. Henry Jones, Aberllefenni; Wnion ac Ivor Jones. CYFARFOD Y PRYDNHAWN. Beirniadaeth englyn Amen." Ymgeisiodd 13. Goreu Mr. Peter Evans, Aberllefenni. Can, Gwlad yr Eisteddfodau," gan Miss Georgina Hughes, R.C.M., Leswood. Cystadleuaeth corau plant "YTylwythTeg." Ymgeisiodd 3. Goreu, C6r Ty'nyberth, dan arweiniad Mr. H. S. Roberts; 2il, Dulas Juvenile Choir, dan arweiniad Mr. John Lewis 3ydd, cor Aberdyfi, dan arweiniad Mr. Evan Davies. Araeth gan y cadeirydd, Joseph Evans, Ysw., Fronygog. Unawd tenor, "Hoffwlad fy ngenedigaeth." Ymgeisiodd 8. Goreu, Mr. J. Lumley, Mach- ynlleth; 2il, Mr. Elias Edwards, Corris. Can, "Deeper and deeper still," gan Mr. Dyfed Lewys. Unawd baritone, "Y Banerwr." Goreu, Mr. H. R. Humphreys, Machynlleth 2il, Mr Hugh Jones, Corris. Parti j6, "'Rhwn a bery'n ffycldlawn i Dduw." Goreu, Parti Mr. James Lewis, Corris. Deuawd, "Y Morwyr." Goreu, Mri. J. Lumley ac H. R. Humphreys, Machynlleth. Pedwarawd "Beth sy'n hardd." Goreu parti o Fachynlleth. Can gan Miss G. Hughes. Cystadleuaeth y Seindyrf, Worthy is the Lamb "ac" Amen." Goreu Seindorf Dref- newydd 2il, Seindorf Corris. Ymddengys y feirniadaeth yn gyfiawn yn ein rhifyn nesaf. Drwg genym na ddaeth yr un c6r mawr na ch6r meibion ymlaen. Beth oedd y rheswm ni wyddis os nad y cyfyngiad yn y rhif. Wele fater astudiaeth eto i'r pwyllgor. Y CYNGHERDD YN YR HWYR. Llyw3rddwyd gan David Evans, Ysw., Mach- ynlleth. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn:— Selections gan seindorf Corris. Can, Angus Macdonald," Miss Hughes. The Storm Fiend," Mr. Wilfrid Jones. Deuawd ar y fiitzno, Misses Hughes, Brynawel, a C. J. Williams, Machynlleth. "y Ddinas Sanct- aidd," Mr. Dyfed Lew3rs. "Y Nefol Gan," Miss Georgina Hughes. I f3'ny bo'r n6d," Mr. Wilfrid Jones. Anerchiad gan y Llyw>'dd. Gwnewch ofyn i mi," Mr. Lfyfed Lewys; encoriwyd, "Fy Mam." "Hoff Wlad fy ngenedigaeth," Mr. John Lumley. Going to Kildare," Miss Hughes; encoriwyd, Entreat me not to leave thee." Deuawd, "Flow gently Deva," Mri. Dyfed Lewys a NVilfricl Jones; encoriwyd, "Myfanwy." "Serande," Mr. Dyfed Lewys. Diweddwyd trwy ganu yr anthem genedlaethol. Er fod y rhan fwyaf o'r caneuon yn hen ad- nabyddus i'r cynulliad, eto yr oedd y mwyafrii yn teimlo rhyw newydd-deb ynddynt o dan ddwylaw y cantorion. Ar y cyfan, cafwyd cyngherdd da. Gwasanaethwyd fel beirniaid gan Mri. Gwynedd E. Wnion Evans John Owen David Owen Carno Jones W. J. Davies, a Tom Price, Merthyr. Cyfeiliwyd gan Miss C. J. Williams, Machynlleth, a Miss Ella Hughes, Corris; ac arweiniwyd y tri chyfarfod gan Gwynedd.

--------------I'R FRWYDR.

MESUR CYFRIFOLDEB MEISTRIAID.

",TRO I'R AIPHT.

ABERDYFI.

LLANBRYNMAIR.

ABERLLEFENNI.

MACHYNLLETH.

ESGAIRGEILIOG.

CORRIS.

YBEDUI.

AMEN.

DYFFRYN DYFI.