Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

16 erthygl ar y dudalen hon

CORRIS.

ABERDYFI.

DOLGELLAU.

EISTEDDFOD GADEIRIOL CORRIS.

Y DIWEDDAR AEDRONICUS. |

PIGION.

Y GAKDDWIl.

ENGLYNION ANERCHIADOL

ETHOLIAD ME IRION.

Advertising

y j > ETHOLIAD CYFFKEDINOL.

GWAITH Y RHYDDFRYDWYR.

ETHOLIAD MEIRION

ETHOLIAD MALDWYN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ETHOLIAD MALDWYN. Mr. Golygydd,-Etholiad Maldwyn sydd yn pwyso ar fy meddwl, a dymunwn i chwi,^ Negesydd, gario y nodyn hwn at yr amaethwyr a'r llafurwyr amaethyddol er ei rhoddi ar eu gwyliadwraeth rhag y chwedleuon dengar sydd yn cael eu taenu gan y blaid Doriaidd er ei denu i bleidleisio dros Mr. Wynn a'r Major Jones. Mae un o honynt yn cynrychioli y tirfeistri a'r Hall y fyddin, ac yn rhesymol gellir disgwyl iddynt, er eu holl eiriau teg i'r gwrthwyneb gadw i fynu y ddau allu mawr a distrywgar yna yn ein gwlad. Wel i ba beth, atolwg ? I'ch cadw chwi amaethwyr yn gaethion i borthi blys y ddau ddosbarth hwn, trwy weithio hwyr a boreu i wneyd rhent a threth iddynt. Yn wir, edrychant arnoch fel rhyw beiriant i fwyta glo ag yfel dwfr, a'ch unig neges yn y byd yw hel cyfoeth iddynt hwy i ymbesgi arno. Tybed, gyfeillion, y gwerthwch eich rhyddid trwy ,,y bleidleisio dros y ddau ymgeisydd yna sydd yn cynrychioli y ddwy elfen sydd yn benaf yn difetha ein gwlad. Hyderaf na wnewch, ond y dangoswch eich bod yn parchu eich hunain trwy bleidleisio i Mr. Humphreys- Owen, a'r blaid Ryddfrydig, y rhai sydd wedi dangos yn y Senedd-dymor diweddaf fod ganddynt gydymdeimlad byw a'ch cyflwr truenus, ac wedi gwneyd cymaiht a allent i wneyd llwybr agored i chwi fwynhau rhyddid a chysuron bywyd, trwy ddwyn i chwi yr hyn y mae gwir angen am dano, sef, sicrwydd tir- ddaliadaeth, yn lie bod fel yr ydych yn awr yn agored i gaelllotice to quit ar unrhyw adeg, ac heb achos rhesymol. Feallai nad ydych yn seboni digon ar ryw gorgi gwynebgoch 0 stezvart, na dal eich het yn ddigon hir yn eich llaw wrth siarad ag ef, yr hwn sydd yn barod am saig o fwycl i werthu eich genedigaeth-fraint o dir eich tadau, a'i osod i ryw gynffonwr sydd yn talu mwy 0 warogaeth iddo. I brofi i chwi nad yw ond ofer i ddisgwyl iachawdwriaeth oddiwrth y blaid Doriaidd, edrychwch ar y driniaeth a gafodd Mesur Mr. Lambert ganddynt o fewn y mis diweddaf. Ceisiai hwn, ymysg pethau eraill, i sicrhau tir-ddaliaeth i chwi, a rhyddid i werthu eich cropiau fel y gwelwch yn oreu, yr hyn nid oes genych yn awr, ac hefyd i gael tal am bob gwelliant a wnewch i'r tir, ond gomeddodd y Toriaid eu cynorthwyo i'w basio. Felly beth ellwch ddisgwyl ganddynt yn y dyfodol, ond ail- argraffiad o'u creulondeb tuag atoch yn y gorphenol; ynghydag ychwanegiadau obwysau ar eich gwarau, y rhai sydd wedi crymu yn barod gan bwysau y gorthrymderau yr ydych yn eu tawel oddef bob dydd. Wel, yn yr etholiad sydd gerllaw, mae genych fantais trwy ddiogelwch y ballot i roddi terfyn ar y trais a'r gorthrymder yr ydych o dano trwy bleidleisio dros Mr. Humphreys- Owen ac Owen Glyndwr Phillips. Mae y blaenaf wedi dangos ei gydymdeiml?d byw a'i denantiaid er's blynyddau trwy roddi tri swllt y bunt yn ol; ac felly eleni, ac yn barod i roddi mwy o ddiogelwch i chwi yn eich hen gartrefi sydd mor anwyl genych. Felly, pleid- leisiwch drostynt, ac felly rhoddi hoel ychwan- egol yn arch y Meistri Tir hyny sydd yn gorthrymu cymaint arnoch. Ystyriwch yn ddi- frifol, gyfeillion, a pheidiwch cymeryd eich hudo gan addewidion teg, na bygythion gwag. Ystyriaf bob amaethwr a llafurwryn Judas i'w frodyr os rhoddant eu pleidlais i Wynn neu Jones. Ewch yn ddistaw i'r poll, rhoddwch X ar X" ar gyfer enw y Rhyddfrydwyr ymhob ardal y cewch gyfle. Dyna ydyw dymuniad eich cyfaill— AMAETHWR.

GAIR AT FY CHWIORYDD. ,

LLANBRYNMAIR.