Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

YR ETHOLIADATT.

---._.----SIR FEIRIONYDD.

[No title]

PIGION.

TALYBONT.

.DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MACHYNLLETH. MARWOLAETH SYDYN.—PrydnaAvn ddydd Llun, darfu i Mr. J. Rowlands, y Crwner, wneyd ymholiad ynglyn a marwolaeth Owen Arthur, yr hwn a gaed yn farw yn ei wely oddeutu 7 boreu Sul. Y tyst gyntaf a alwyd oedd ei ferch, yr hon a ddywedodd ei bod yn edrych ar ol ty ei thad.—Yn ol y dystiolaeth y mae yn ymddangos ei fod yn achwyn o boen yn ei ochr-ond ni fynai alw meddyg i'w iA, ei'd. Oddeutu 7 o'r gloch nos Wener, fe ddywedwyd wrth y ferch fod rhyw anghydwelediad rhwng ei thad a rhyw berson ar y Grutliyn fe aeth y ferch allan, ac fe gafodd ei thad ar yr heol. Fe aeth ag ef adref, a rhoddodd ef yn y, gwely. Fe fu mewn poenau drwy y nos, ac ni chafodd y ferch na'i brawd fyn'd i'wgwelyau hyd nes yr oedd tua 3 yn y boreu. Mae yn ymddangos iddynt gysgu hyd 7 boreu Sul, pryd y canfydd- odd y ferch ei thad yn gorwedd a'i ben dros ymyl y gwely. Fe alwodd ar ei brawd, ac fe aeth yntau at y meddyg. Yr oedd wedi bod yn .ddirwestwr er's oddeutu dwy flynedd hyd ddydd Gwener, pryd y mae yn ymddangos iddo yfed gwirodydd poethion.—Yn nesaf i roddi tystioliaeth oedd y mab, yr hwn a dystiodd iddo gysgu nos Wener yn nhy cymydog, gan ei fod wedi blino, a'i dad yn anesmwyth ac yn cwyno. Yr oedd yn cadarnhau tystiolaeth ei chwaer- ynglyn a'r hyn gymerodd le nos Wener a boreu Sul. Dr. Alfred Owen Davies a dystiodd fod y tyst diweddaf wedi dyfod ato boreu Sul, a phan aeth i'r ty, fe gafodd y trancedig yn gorwedd ar ei ochr, a'i ben yn pwyso dros ochr y gwely. Fe wiiaed ymholiad manwl, ond ni chafodd unrhyw ysigiad, na bod esgyrn wedi eu tori. Yr oedd y trancedig wedi bod yn achwyn rai misoedd yn ol, ac yr oedd effaith y saldra arno.—Yn ol y dystiolaeth a roddodd y ferch fod ei thad heb gymeryd lluniaeth drwy ddydd Sadwrn, a'i fod wedi cymeryd gwiriodydd ac ar ol gwneyd ymchwiliad manwl ar y corff, yr oedd y meddyg o'r farn mae difiyg ar y galon oedd achos o'i farwolaeth a phe bai wedi cael ei daro neu ei gamdrin, y byddai hyny yn ddigon i'w ladd yn y man. Mri. Edw. Breeze, Jeremiah Williams, Evan Holt, a Mrs. Margaret Edwards, a roddodd dystiolaeth ynglyn ar hyn gymerodd le nos Woner, pryd yr ymddengys fod y trancedig yn eistedd wrth y Gruthyn, ac yn galw enwau ar ol rhai oedd yn digwydd myn'd heibio, a'i fod wedi taraw Rowland Edwards a'i fam a'i ffon, a'i fod yntau wrth achub ei hun a'i fam, wedi gwthio neu daraw y trancedig—ond nid yn .n"V edi clywed y tystiolaethau, fe ddarfu i'r rheithwvr ddyfod i'r farn fod y trancedig wedi marw o farwolaeth naturiol yn codi oddiwrth ddiffyg ar y galon. BODI-)IAD.-Dydd Mawrth, gwnaed ymholiad i farwolaeth geneth fechan un ar ddeg oed, merch i Griffith Griffiths, Garshiwn, corff pa un a gafwyd yn afon Dyfi. Fe ddywedodd ei mham fod yferchfachwedi myned allan oddeutu haner awr wedi un ar ddeg boreu Llun, gvda dwy o enethod eraill i hel mushroom, ac mae dyna yr amser olaf iddi ei gweled yn fyw. Rhoddodd y ddwy ferch dystiolaeth eu bod yn ymyl yr afon wrth Penddol, ochr Sir Feirionydd, a'u'bod wedi gorphen hel, pryd y dywedodd eu cydymaith ei bod am groesi yr afon i fyn'd adref. Ceisiwyd ganddi beidio myn'd, ond fe ddywedodd ei bod wedi croesi o'r blaen. Eisteddbdd y ddwy i lawr ar goeden ychydig oddiwrthi, a'u gwynebau oddiwrth yr afon, a chlywsant hi yn gwaeddi, a darfu iddynt edrych a'i gweled yn sefyll yn yr afon, ac yn cymeryd cam ymlaen. ac wed' yn yn cael ei chario i laAvr gyda'r afon. GAvnaeth Jane Jones (merch D. Jones, Poplar Rd.), ymgais i fyned ar ei hoi, ond yr oedd yr afon yn rhy gryf, ar ferch ar?ll yn galw arni dd'od yn ol. Darfu iddynt alw ar ryw foneddwr oedd yn pysgota gerllaAV, a rhedodd yntau i fyny. Fred Griffin a dystiodd ei fod allan yn pysgota gyda boneddwr, a'i fod wedi gweled y tair ar yr ochr arall i'r afon. Gofynodd Ellen Jane Mantle iddo eu cario dros yr afon, ond atebodd ei bod yn rhy ddwfn. Ymhen ychydig ar ol hyn, gwelodcl Casgie Griffiths yn sefyll yn yr afon, ac yn cael ei chario i'r llyn tro, Gwaeddodd ar y boneddwr, ac erbyn iddo gyraedd yr oedd wedi suddo. Parch. Cave Humfrey a ddywedodd ei fod yn pysgota, achadarnhaodd yr hyn ddywedodd Fred Griffin. John Pugh, Ogofawr, a dystiodd iddo gael hyd i'r corff yn agos i'r Nawlyn. Y rheithfarn ydoedd—" Marwolaeth ddamweiniol wrth geisio groesi yr afon Dyfi."

ARHOLIAD GORSE DD Y BEIRDD…

URDDATT CERDDOROX,:—

■— :o:-TEULU'R FARIL YN DIAL.

-"Y GWIR YN ERBYN Y BYD."

: o:——■ Y GLORIAN.

! Y SER.

Y DIWRNOD CNEIFIO.