Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNHADLEDD WESLEYAIDD.

TRO I'R AIPHT.

ABERYSTWYTH.

MACHYNLLETH.

ABERMAW.

PENNAL.

DOLGELLAU.

CARNO.

J\bnl1Jgiab !l Wtazg.

GWYL YN GLANSEVERN.

-:0:-

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

Advertising

AROLYFRWYDR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

AROLYFRWYDR. Wele y Senedd newydd bellach wedi ei hethol, a'r glymblaid Doriaidd wedi cael goruchafiaeth na chawsant ei chyffelyb y ganrif hon. Dychwelwyd 3390 Doriaid, yr hyn sydd yn fwy na haner niter y Ty. Felly, y mae ganddynt fwyafrif ar yr holl bleidiau ynghyd, heb eithrio y rhai a gamenwir yn Rhyddfrydwyr Undebol. Mae hyn yn fantais ac yn anfantais i'r Rhydd- frydwyr. Gallant ddadwneyd llawer o waith y Rhyddfrydwyr, fel y mae Mr. Walter Long, aelod o'r Weinyddiaeth yn bygwth. Ond o'r ochr arall mae elfenau malurio mewn mwyafrif mawr fel y gwelwyd gyda'r Whigiaid yn 1832. Cawsant hwy y pryd hynyfwy- afrif o 300, ond ni orphenasant eu tymor. Nid oes llawer o gariad cyd rhwng y ddwy blaid Undebol. Prof- wyd eu bod yn dra eiddigeddus o'u gilydd yn rhaniad y swyddi. Meddwl blaenaf Mr. Chamberlain, pa un bynag a'i gyda'r Rhyddfrydwyr neu y Toriaid, yw bod yn ben, ac ni ryfeddwn weled ystrywiau maleisus Mr. Chamberlain yn dyfod i wrthdarawiad ag ysbryd uchelfalch a chyntefig y Prifweinidog, ac i hyny achosi dymchweliad y Llyw- odraeth. Mae llawer o ddyfaliadau am yr achosion o aflwyddiant y Rhyddfryd- wyr yn yr etholiad. Priodolir ef i'r golled a gafodd y blaid yn ymneill- duad Mr. Gladstone, am yr edmygid ei alluoedd cawraidd a'i gydwybodol- rwydd hyd at haner addoliad, ac at yr hwn yr edrychai y Rhyddfrydwyr bob amser am arweiniad; i'r anfantais oedd gan Arglwydd Rosebery fel aelod o Dy'r Arglwyddi i brofi ei werth fel ei olynydd i'r ymraniad yn mhlith yr aelodau Gwyddelig, yr hyn sydd wedi oeri llawer tuag at eu hachos; i sel angerddol yr Eglwys am fod y Llyw- odraeth ddiweddar yn cyffwrdd a'i gwaddoliadau i'r cam-ddarluniadau a wnaed o Fesur Dewisiad Lleol a gallu arianol cryf y darllawyr yn erbyn y Mesur i sefyllfa isel masnach mewn amrywiol ganghenau pwysig]a'r awydd sydd mewn lliaws am gyfnewidiad i weled a wnaiff masnach wella; i waith y Llywodraeth yn gwthio gormod o fesurau mawr i sylw, yn lie dewis rhyw un prif fesur a wnaí gyffroi y wlad yn gyffredinol drosto i or-hyder a threfn- iadau diffygiol yn y cynrychiolaethau. Mae yn ddiameu fod rhai o'r pethau hyn ac eraill yn dylanwadu yn mhob etholaeth, er nad yr oil o honynt. Mae yn eithaf sicr fod diffyg trefniadau lleol y blaid yn gyfrifol am ran helaeth o'r anffawd, a'i dyledswydd yw cywiro y gwaith hwn heb oedi, trwy sefydlu cymdeithasau byw yn mhob tref a phentref, y rhai fydd a'u llygaid ar yr holl etholwyr ac a ymegniant i oleuo lleoedd tywyllion trwy egwyddorion Rhyddfrydiaeth, pa rai sydd wedi dyr- chafu y deyrnas hon mor uchel mewn rhyddid, ffyniant, a dedwyddwch cym- deithasol.

YR EISTEDDFOD GEiiEDLAETHOL.

DYDD MEROHER.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.