Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
18 erthygl ar y dudalen hon
Y GYNHADLEDD WESLEYAIDD.
Y GYNHADLEDD WESLEYAIDD. Dechreuodd y Gjuhadledd flvnyddol hon dydd Mawrth, Gorphenaf 23, yn Plymouth pan oedd tua chwe' chant o weinidogion yn In bresenol. Dewiswyd Dr. David Waller yn llywvdd am y flwyddyn drwy fwyafrif mawr. Mae Dr. Waller yn enedigol 0 Nunthorpe, ger Middlesborough. Mae yn YV'i r gynyrcli -trefnyddiaetli bentrefol. Nid osdd gapel yn y pentref pan y ganwyd ef, ond cynolid asan;u>tli crefvddol yn nhy ei dad, ac y mae yn teimlo yn wresog bob amser .dros eg w 3 si gweiniaid. Gwnaeth wasanaeth mawr 1 r Cyfundeb fel ysgrifenydrl y Pwyll- gor Addysg, Eta y mae yn gryf 0 blaid rhoddi rheolaeth i'r trethdalwyr ar yr ysgolion enwadol. Cynhelir y cyfarfodydd yn ddyddiol, ac y mae yr adroddiadan yn dangos fod yr enwad yn enyddu mewn bywyd a gweithgarwcli yn gartrefol a thramor.
TRO I'R AIPHT.
TRO I'R AIPHT. GAN GOROXWY JONES. YIII. Mynych y sonir yn y Beibl am y praidd, "gwylio y praidd," porthi y praidd," dyfrhau y praidd," "arwllin y praidd," &c. Hawdd iawn deall ystyr ymaclroddion fel hyn yn yr Aifft, He nad oes na chlawdd na gwyrch o ben-bwy-gilydd i'r wlad. Y mae yn rhaid wrth rywun o hyd i wylio y praidd. Fe welir y bugeiliaid yma a. thraw yn eistedd yn ,hamddenol ar y llawr, yr allifeiliaicl-yn gamelod, ychain, defaid, a geifr, yn pori yn heddychol gyda'u gilydd, a hyny 0 fewn cylch penodedig. Os digwydd i un o honynt grwydro ambell dro dros y terfyn, buan y daw yn ol i'w le ei hun ar alwad y hugail-" y maent yn adnabod oi lais." Ar fachlud haul, gwelir ef "a'i wialen a'i flon" yn ei law, yn cyfeirio ei gamrau tuag adref, a'r praidd yn nfudd ddilyn ar ei ol. Nid oes angen arno ef am y ci fel yn ein gwlad ni i gyfathru, i ruthro, a gwylltio yr anifeiliaid. Nid yw y cwn mewn bri yno, crwydro y ddi-gartref y maent yn heolydd y ddinas, yn eiddo pawb ac yn eiddo neb. Y own i fesur mawr ydyw scavengers y plwyfi. a'r dinasoedd. "Oddiallan y mae y cwn yn wancus am unrhyw ysglyfaeth deflir iddynt. Nid oes dynged rnor ofnadwy, i'r syniad dwyrciniol, iia'r farii oddiweddodd, J&sebel ac er<Jil, spf fod y cwn yn bwyta eu cnawd ac yn llyfu eu gwaotl wrth fur y ddinas." Nid oes dim a ddigia AifftiN)-r yn fwy na dweyd wrtho inai. ei ydyw. Hawdd deall gwawd iaith dirmygus Goliath wrth y llanc Dafydd a'i ci ycl wyf li? Cawsorn ein siomi yn fa,wr yno yn y rneirch. Nid ydynt i'w canfod o gwblyn gweithio ar y tir, ond defnyddir hwy yn y trefydd mewn cerbydau gan mwyaf, anifeiliaid bychain gwn-dn lied wahanol i'r syniad oedd genym ni aiii yr horses." Fe ddygwyd yno geffyl yn ddiweddar o'r wlad hon- ceffyl gwedd eyffredill-y mae i'w weled bob dydd yn cario nwyddau 0 ddinas Cairo i'r gwesty sydd gerllaw y Pyramid mawr. Bob tro y digwyddodd imi ei weled—byddai y cabman, neu y donkey boy. ddigwyddai fod gyda mi yn sicr o alw. fy sylw ato gan ddweyd, dacw y ceffyl mwyaf yn yr Aifft, ac anhawdd iawn oedd cael ganddynt gredu fod digonedd o rai mwy a cliryfach yn y wlad hon. Ond fe geir yma asynod ardderchog, yn esmwyth fel y cryd i'w march- ogaeth ac yn gyflym fel yr aw el. Yr oeddwn yn metliu peidio gofyn i mi fy hun yn ami paham y mac y creadur yma gymaint rha- gorach yn yr Aifft nag yn y wlad hon, a'r unig esboniad welaf ydyw, fod y perchenog yn llawer mwy trugarog wrth ei anifail yno nag yma. Ni chlywais fod yno unrhyw R. S. P. C. A., ac hyd y gwelais i, nid oes angen am yr un, fel rheol y maent yn ofalus iawn am, ac yn dyner tuag at anifeiliaid direswm, a'r anifail yntau yn liawdd ei drin, ac yn ufudd i'r neb sy'n gofalu am dano. Diau mae un o'r creaduriaid mwyaf gwasanaeth- gar yno ydyw y fiiwch. Y mae yno ddau fath—y "fuwch fawr" a'r "fnwch fach" gelwir y naill "y blfffrtlo" a'r llall "y fmyeh" (cow). Creadur mawr afrosgo yw y buffalo. >Y sgwydd uehe], eyrn hirion, yn troi i lawr. Y mae y fuwch fach yn debyg i'r Jerseys" welir yn ein gwlad ni. Creadur llunaidd prydferth iawn. Oherwydd hacrwch y naill, a phrydforthweh y llall, y mae hen ddiareb ymysg y bobl- "Duw a wnaeth y fmveh, ond y diafol wnaeth y buffalo. Pe welir y ddau fath 0 dan yr iau, yn y wlad ac yn y ddinas. Y mac y water-carts yn ninas Cairo yn cael eu llusgo gan deirw ardderchog, yn cyflawni eu gorchwyl yn ufudd ac amyneddgar drwy ganol tvrfaoed(I diri 0 bobl a cherbvdau. Y mae v v llaetli y buffalo yn gryfach 0 lawer na llaoth y I fuwch, y mae y brodorion yn hoff iawn o hono. Nid felly yr Ewropeaid, gwell ganddynt laetli y fmveh, ac er bod yn sicr eu bod yn ei gael, rhaid i'r llaethwr arsvain y fuwch o ddrws i dilrw?, foreu a naíDl, a godro yr hyn fydd ci gwsmer angen am dano o llaon ci lygaid. Y faw h ei huti yw y milk-cart yn ninasoedd Aifft.
ABERYSTWYTH.
ABERYSTWYTH. Mae Mr. Jones, y postfeistr, yn dechreu ar ci dyledswyddau yn Bangor, Awst laf. Bydd Mr. Hughes, y prif glerc, yn gweith- redu yn ei le hyd nes y penodir y post-1 feistr. Er pan y mae Mr. Jones yn Aber- ystwyth, dygodd oddiamgylch amryw wolliantau yn tueddu at fwy o effeithiol- rwydd yn y gwasanaeth. Yn ystod y tymor hwn, ychwranegwyd dau o lythyr-gludwyr i gyfarfod a'r cwynion yn y blynyddau a basiodd, oherwydd y diweddarwch yn rhaniad y llythyrau mown gwahanol fanau yn y dref. OOLEG Y BRIEYSGOL.—Ymhlith yr ym- geiswyr llwyddianus yn arholiad y matri- culation Prifysgol Llundain, a gynhaliwyd ddiwedd mis Mehefin, ymddengys enwau yr efrydwyr canlynol o'r coleg uchod.— Dosbarth anrliydeddus.—Miss N. H. Bodkin (saif yn unfed ar ddeg yn y dosbarth hwn). Dosbarth cyntaf,—Miss C. Black, Miss A. M. Bodkin, Thos. Davies, Miss G. M. Dodson, Miss A. S. Fayr, Miss A. Fulford, Miss M. E. Irdale, David Jones, John Jones, Miss L. E. Lloyd, John Morris, Miss M. S. Rar, Miss E. A. Tarrant, James Thomas, Thos. Thomas, M. T. Williams, a H. D. Williams, Dosbarth ail,-Daniel Davies, D. T. Divies, Miss Eliz. Davies, Miss M. E. Davies, James Harding, Miss M. F. Jones, W. C. Lewis, a Miss M. E. H. Morris.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. DIHANGEA GYFYNG.—Dydd M'ercher, bu bachgen Mr. E. Meredith Jones agos a chael ei foddi yn afon Ddyfi. Ymddengys ei fod ef a bechgyn eraill yn chwareu yn agos i Craig- Ily ybwch, a syrthiodd oddiar bren i'r afon. Gwaeddodd ei gymdeithion, ac yn ffodus yr oedd yno foneddwr gerllaw. a thra yr oedd y bachgen yn cael ei gario gan y lli cryf, darfu i'r boneddwr (Cadben Prestage, sydd yn aros yn Maldwyn House), heb dynu ei ddillad neid- iodd i'r afon at ei wddf, a llwyddodd i gael g'afael ar y bachgen, a dygodd ef i'r lah. Yr oedd yno foneddwr arall 0 feddyg yn pysgota heb fod yn mhell, a gwnaeth yntau yr oil a allai i adfer y bachgen. Wed'yn cariodd Captain Prestage y bachgen i'r orsaf, ac oddi- yno cymerwyd ef adref mewn cerbyd. PYSGOTA.-Ar ol y gwlaw diweddar, y mae gwelliant mawr wedi cymerwyd lie yn y pysgota Mae y gleisiaid a'r gwyniaid yn awr mewn cyflawnder. Ond cyfyngir yr hawl i'w dal i ryw ychydig 0 favourites ymhlith y boneddig- ion. A oes rhywun all ddweyd pa fodd i wneyd i ffwrdd a rheolau caethion y Gymdeith- as Enweiriol fel y gall y cyffredin fyned at yr afon i fwynhau eu breintiau cyntefig.
ABERMAW.
ABERMAW. CYNGHOR DOSBARTH TREFOL.-Cynhal- iwyd hwn y 23ain cynfisol, y Parch. J. Gwynoro Davies yn y gadair. Hysbyswycl fod :1 rhybudd wedi dyfod oddiwrth Mr. Robert Jones, ysgrifenydd y sir yn dweyd y cynhelid ymchwiliad i'r cwestiwn o ranu y Dosbarth yn wardiau ymhen ychydig amser. Galwodd Cadben Richard Thomas, arolygydd y cychod, ,,y yn ei adroddiad sylw at y ffaith fod cychwyr yn nacau rhoddi rhifnodau ar eu cychod, a dweyd arnynt y nifer allant gario. Yr esgus- awd a roddai y cychwyr oedd fod nifer o gychwyr eraill yn gweithio heb drwydded. ,,y Ofnai amryw o'r aelodau na byddai o un diben dyfod a'r achosion hyn o flaen y fainc yn yr Abermaw. Rhoddwyd gorchymyn, pa fodd bynag, i gario allan y bye-laws, ac os bydd achos, drwy erlyn y personau yn Abermaw, Dolgellau, neu Towyn, yn ol fel y bydd vr achos yn galw.-Daeth mater cyHenwad dwfr eto dan sylw a'r gwir angen sydd am orphen y gwaith dwfr os gellir cyn y gauaf. Pender- fynwyd myned i mewn i'r mater hwn yn drwyadl y Cynghor nesaf.
PENNAL.
PENNAL. YR ETHOLIAD-- Y chydig fynydau wedi tri o'r gloch prydnhawn (dranoeth y pol), daeth y new)'dd a gynyrchodd lawenydd annisgrifiol, a tharanau brwdfrydigogymeradwyaeth,amfudd- ugoliaeth ardderchog ac anrhydeddusMr. T. E. Ellis, A.S. Aeth y newydd fel tan ysol trwy y pentref a'r ardal, a chlywid y fanllef "Ellis fo am byth yn diaspedain y bryniau. Dis- gynodd adsain hir-seiniol y fuddugoliaeth megvs pelen flrwydrol i ganol gwersyll y gwrth- wynebwyr, gan beri diirod siomedig. Gyda chysgoi yr hwyr, daeth torf, }ni gynwysedig o'r Cymry Sydd ac o'r Cymry Fydd, tnvy y pentref dan ganu. Gwelid y Toriaid yn gwelwi dan heulwen danbaicl y cyfTro a'r boddineb. Pardcluid eu gw}'ncbau gan gywilydd, a chilient i'w tai fel llwynogod i'w ffauau. Drwg genym weled ambell un o'r dosbarth gweithiol yn eu mysg, pa rai sydd yn aros yn y tywyll- wch o bertnynas i egwyddor gwir ryddid. Gwerthant ac aberthant egwyddor gwir ryddid. Gwerthant ac aberthant egwyddor ar allor gwlanen a glo." Gwell ganddynt rodio corsydd sigledig Toriaeth, a thynu gwyneb a het o ilaen yr yswain balch a'r tirfeddianwr, na dyfod i garu ac i gofleidio yr hyn sydd yn werth ynddo ei hun. Da genym fod Meirion wedi cadw ei henw yn loew ac amlwg yn nghanol diluw cynhyrfus yr etholiad presenol, Z, pan y mae siroedd yn Nghymru wedi myned yn ferthyron i genllif difaol y cwrw ac yn en- wedig yn Lloegr, lie y cauwyd rhai o brif seneddwyr y dcyrnas allan. Ond fel y dywedai uii: Os ydyw gwirionedd wedi myned i lawr yn bresenol, y mae wedi myned i llwr i ddyfod i fyny gyda mwy 0 nerth nag erioed. Nis gall egwydJorion mawrion ac eang gwir- ionedd fod ar lawr yn hir, y maent yn sicr o ddyfod i fyny yn ogoneddus yn y man. Prysured y dydd.
DOLGELLAU.
DOLGELLAU. LLWYDDI A XT,—Da genym ddeall fod Mr. W. C. Wordsworth, I7eg- Ot,1 vr hwn sydd dan addysg gyda Mr. M m- L1 i, M. A., prif- athraw yr Ysgol Ganol i- 1, -1 o; 0)'1' dref hon, wedi enill ysgoloriacth ynglyn a Caolegy Preceptors, yr hon sydd yn werth 3op. y flwyddyn am ddwy flynedd. Mae lhvyddiant y bachgen ieuanc hwn a'r lliaws sydd bob blwyddyn yn pasio yn y gwahanol arholiadau, ynadlewyrchu clod nid bychan I Mr. Marshall a'r ysgol. PLESERDAITH.—Dydd Llun, Gorphenaf 29, bu aelodau yr ysgol Sul perthynol i Eglwys St. Mair o'r dref hon ar ymweliad ag Aberystwyth. Cawsant dywydd teg, a dywedir i bawb fwyn- hau eu hunain. Aeth oddiyma oddeutu 300. COR MEIBION.—Dywedir fod y c6r hwn yn bwriadu myned i gystadlu i eisteddfod Aber- ystwyth, ddydd Mawrth nesaf. Yn awr fechgyn am y dorch. Y mae corau campus, fe ddywedir, yn d'od i'r frwydr. Llwyddiant i chwi. YR YMWELWYR.—Mae y rhai hyn yn dechreu d'od i'n tref er mwynhau awelon iachus gwlad Meirion a gweled y golygfeydd goruchel sydd ynddi. Gwelir llawer yn dringo i ben y Gader y dyddiau yma, ac fel y dywedai y diweddar Idris Fychan yn ei lyfr ar Hanes Dolgellau Daw dynion mawrion bob mis I edrych Cadair Idris."
CARNO.
CARNO. Da genym weled enw Mr. William Daniel Williams, 0 Goleg Aberystwyth; brawd Mr. Williams, y Bwrdd Ysgol, ymhlith yr efrydwyr llwyddianus yn arholiad diweddar matri- culation Prifysgol Llundain, ac yn y dosbarth blaenaf.
J\bnl1Jgiab !l Wtazg.
J\bnl1Jgiab !l Wtazg. -:0:- Y LLENOR.—Hughes a'i Fab, Gwrecsam. WALES.-—Hughes a'i Fab, Gwrecsam. CYMRU.—Caernarfon, Swyddfa'r Genedl. CYMRU Y PLANT.-Hughes a'i Fab. Mae y pedwar cyhoeddiad uchod yn cael eu dwyn allan dan olygiaeth y Meirionwr hynaws a diflin Mr O. M. Edwards, M.A., Rhydychain. Mae y rhifynau am y mis hwn yn ddyddorol iawn o ran eu cynwys, ac y mae eu diwyg, ynghyda'r darluniau geir ynddynt, yn bobpeth y gellid eu dymuno. Mewn ysgrif feistrolgar ar it Gaethwasiaeth," yn y Lienor, danghosir geudeb athroniaeth Aristotle ar y pwnc, sef fod fod rhai dynion wedi eu geni i lywodraethu, ac eraill i ufuddhau," a bod y ddynoliacth yn manteisio ar y gyd-berthynas hon rhwng meistr a chaethwas. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Hobbes dirio o dan sylfaeni caeth- wasiaeth, drwy ddysgu "fod rhyddid a chyd- raddoldeb yn enedigaeth-fraint pob bod dynol.'V A dilynir cwymp graddol yr ormes hon ar hyd yr oesoedd. I'r meddwl ymchwilgar, mae .yr erthygl ar Bywyd y Ser yn amheuthyn/ac anogem ein cyfeillion ieuainc yn arbenig i droi eu sylw i'r cyfeiriad hwn. Ac onid yw ein cymoedd yn fanteisiol i hyn, fel y gwelsom yn "Adgofion" dyddorol yr hen Fugail o'r Cwm Ad I yn y Nid llai dyddorol Pregethwyr y Diwygiad" a'u darluniau, ynghyda "Thomas Cromwell." Yn JFales ceir ysgrif ar Beryglon y Bachgeii Diog," yn yr hon y ceir ymdriniaeth ar y dull y cyfrenir addysg yn ein hysgolion elfenol, ac y pwyir dysg i ledben" pob plentyn yn ddi- wahaniaeth. Y mae i'r gyfundraeth, hefyd, ei pheryglon, a da genym weled fod y rhai sydd wedi bod wrth y llyw yn Swyddfa Addysg yn ystod y tair blynedd diweddaf, yn ymdeimlo a'r peryglon hyn, ac yn ceisio eu hosgoi. Y mae y Codes diweddaf yn dystion o hyn. Ystori bruddglwyfus yw y traddodiad am "Feddy Llcidr." Ar ddameg, treithir yn fyw iawn sefyllfa merthyron cwmni rheilffordd y L. & N. W. R. Yn y rhifyn hwn o'r Cymru, y ddwy ysgrif sydd yn ddyddorol iawn i breswyhvyr y cyrau hyn o Fcirion a Maldwyn, ydynt eiddo yr 11 ybarch Thomas Hughes, Machynlleth (gynt\ ar "Hen Bregethwyr Sir Drefaldwyn, a'r eiddo y Parch. R. Owen, M.A., Penal, ar Dafydd Richards," y Forge Hen gymeriad- au adwaenid ac a cdmygid yn gytfredinol. -1 y Yr ydym wedi ysgrifenu y nodiadau uchod er mwyn ceisio codi awydd yn ein pobl ieuainc i fecldu, darllen, a mwynhau y llyfrau gwerthfawr hyn. Mae Cymru y Pia 11 t yn llawn o addysgiadau difyrus, clylai fod yn hoif g'an blant ac eraill o'i ddarllenwyr. SYLLWR.
GWYL YN GLANSEVERN.
GWYL YN GLANSEVERN. Dydd Iau, ar wahoddiad blynyddol Mr. a Mrs. Humphr \vs-Owen daeth vsgoliou Sul Berriew o'r gwahanol enwadau i dreulio diwrnod yn Glansevern. Daetli naw ynghyd, perthynol i Eglwys Loegr, Anni- bynwyr, Methodistiaid Calfinaidd, a'r Wes- leyaid, yn rhifo tua 650. Rhoddwyd iddynt bob darpariaeth mewn bwydydd yn y Babell a g-odwyd- at yr achlysur. Treuiiwyd yr amser wedy'n mown rhodiaua a chwareu ar hyd y pare, er fod y tywydd yn dra chawodog. Rhoddwyd gwobrwvon gan Mrs. Owen am bouquets o flodau gwylltion i'r plant, a gwas- anaethwyd gan seindorf Arian Drefnewydd Dibenwyd yr wyl, yr hon a fwynhawytl yn fawr gan anerchiadau diolchus, gan y Parch. J. Davies, Mri. Hicks, Lewis (Brithdir), a AV, Davies. Cydnabyddodd Mr., Mrs., a Miss Humphreys-Owen eu diolch hwythau am y teimladau da a arddangosid atynt.
-:0:-
-:0:- YR AMAETHWYR A'R GWEITHWYR. Syr,—Darllenais ysgrif Gwas Ffarm yn eich rhifyn diweddaf. Gallwn feddwl ei fod am i ni gredu mai un o'r gweithwyr ydyw ef. Ysgrifena yn erbyn ybyd amaethyddol. Creda fod y dosbarth hwn yn ddosbarth hynod y dyddiau hyn. Credaf finau nad ydyw yn fwy hynod na'r dosbarth gweithiol. Danoda i'r amaethwr ei fod yn cwyno o foreu dydd Llun hyd nos Sadwrn. Da iawn os ydyw yn gallu peidio cwyno ar y Sabbath. Ond sut y mae y dosbarth gweithiol gyda golwg ar y cwyno yma tybed ? Cwyno yn wir! Y mae y dos- barth gweithiol yn gwneyd gwaeth peth ganwaith na chwyno. Ymunant A'u gilydd i rcbelio mewn strikes. Yr oedd yn ddigon a chodi gwallt dyn yn y gwrthwyneb i glywed eu hanes yn y Deheudir ar amser y strike ddi- weddar, yn myned yn finteioedd ysbeilgar a gwaedlyd. Chwareu teg i'r ffermwyr, druain, am wneyd dim ond cwyno. Sonia'r Gwas am fferm ar osod, a rhyw dri neu bedwar o gymydogion yn cynyg am dani ar draws eu gilydd. Ond pwy feddyliech chwi ydyw y cymydogion hyny ? Wei, y mae dau neu dri o honynt yn ami o'r dosbarth gweithiol. Os gellwch gael hyd i weithiwr wedi cynilo tipyn bach o bres, gallwch ben- derfynu y bydd ei lygad ar gael ffarm. Creda fod newid ar y ffermydd a chynygia fwy o refit na neb arall; tybia ond iddo gael y ffatm y gall yntau ledu tipyn ar ei draed. Ond pa fath ffermwyr ydyw y gweithwyr y rhan amlaf ? Y mae pedwar neu bump o honynt o flaen fy meddwl y funyd yma. Eithr gwell ymatal na rhoddi desgrifiad o honynt yn ffarmio. Danoda y Gwas drachefn i'r amaetlrnT ei fod yn hir iawn yn talu ei ddyledion. Rhaid addef ei fod dipyn yn slow gyda'i daliadau ond y mae mor wir a hyny ei fod yn dra sicr o dalu. Beth pe caem ni edrych dros lyfrau y masnachwyr ? Gwyddom fod mwy o'r bad debts yn perthyn i'r gweithwyr na neb arall. Er eu bod yn derbyn eu cyflogau mawr yn rheolaidd drwy y blynyddoedd, gadawant eu dyledion heb eu talu o gwbl. Credaf fod yr amaethwr yn gyfartal beth bynag i'r gweithiwr mewn gonestrwydd a thegwch. Hyna y tro hwn ar frys. MAB FFARM.
Family Notices
GANWYD. ROBERTS.—Ar yr 21 ain cynfisol, priod Mr. George Bedford Roberts, Tonypandy (gynt o Gorris), ar fab. PRIODWYD. WILLIAMS—GRIFFITHS.—Ar y 24ain, cynfisol, yn nghapel Wesleyaidd Towyn, Meirionydd, gan y Parchn. Cadvan Davies, a J. J. Evans (M.C.), Aberllefenni, Mr. E. T. Williams. Ysgol y Bwrdd, Tynyberth, Corris, a Miss S. Lloyd Griffiths, Glan'rafon, Dolgellau. I'r cyfamod hynod hen—a'i wawr glir 0 wir glod i Eden Ein hathraw aeth a'i feinwen, I donau byd, Duw yn ben. Do, brwyclrodd, curodd cariad—y gallu I- I golli diwygiad; Aeth vn wyl o dwr disgwyliad, Gwelodd fun, ac hwyliodd ei fad. I Williams a'i fun ddymunot boed hwyl Byd hculog gwastadol; A gwenau Ner fcl ser siriol, Ariana'u nhen heb 'r un yn ol. Abcrllefeni. HENRY JONftS,
LLYFRAU am Bris Gostyngol.…
LLYFRAU am Bris Gostyngol. -:0:- Am Bedwar Swllt a Chwe' Cheiniog. Geiriadur Saesneg a Chymraog, R. J. Prys. 7s. Mvnegair Ysgrytliyrol, Parch. Peter "VN'il- liams. 6s. Oe. Banau Duwinyddiaeth Hodgo. 6s. Gemau Duwinyddol, Parch. n. Jones, Llan- llyfni. 68. Am Haner Coron. Y Weinidogaetli, Dr. J. Hughes. 4s. Duwinyddiaeth Naturiol, Dr. Paley. 3s. 6c. Edwards ar Ryddid yr Ewyllys. 3s. 6c. Ell wards ar y Pechod Gwreiddiol. 3s. 6c. Y Pregethwr a'r Gwrandawr, Parch. R. Wil- liams. 3s. 6c. Rhvfeddodau Natur a Chelfvddvd, Hughes, ;). Gc. Cydymaith yr Ysgrytbyr, Parch. J. Hughes. 3s. fie. Yr Eglwys o Ddifrif, Pareli. J. A. James. 3s. 6c. Gemau Duwinyddol Amerieanaidd, T. Gee. 3s. 6c. Cofiant a Gweitliiau Ieuan G wynedd. 3s. 6c. Cyfatebiaeth Butler. 3s. 6c. Grammadeg Cymracg, J. Mendus Jones 3s. 6c. Dr. Owen ar yr Ysbryd Glau. 3s. 6, Oriau gyda'r Iesu, Parch. O. Evans. 3s. Got Arweinydd y Gwr Ieuanc, Parch. J. A. James. 3s. 6.\ Tragwyddol Orphwysfa'r Saint, Baxter. 3s. 6c Traethawd ar Babyddiacth, Parch. Robert Jones. 3s. Ge. Cvsondeb y Pedair Efenarvl, Dr. Robinson. 1 3s. Elfenau Daearvddiaeth, Parch. D. IIugL05 B.A. 3s. Gc. Corph Duvrinyddiaoth Paterson. 3s. 6c,
Advertising
ATHROFA PRIFYSGOL CYMRU, ABERYSTWYTH. PRIFATHRAW :— T. F. ROBERTS, M.A. CYNIiWYSA y cwrs o Addysg y parotoad angenrheidiol am Raddau yn Mhrifysgol Cymru a Phrifysg-ol Llundain am Ysgoloriaeth- au yn Rhydychain a Caergrawnt, ac am as- tudiaeth feddygol yn y Prifysgolion hyn ac yn yr Ysgotland. "I I Gall meibion a merched a dderbynir i'r ADRAN NORMALAIDD fyned trwy y cwrs gofynol at fod yn Athrawon ac Athrewesau Trwyddedig, ac ar un pryd barotoi am y gradd o B.A. neu B.Sc. Y mae y swm a dderbyniant fel Ysgolorion y Frenhines yn ddigon i'w cynal yn Aberystwyth am dymor eu hefrydiaeth. Yn yr ADRAN AMAETHYDDOL cyfrenir yr addysg mewn Amaethyddiaeth a phynciau perthynasol sydd yn gymwys i Amaethwyr, Goruchwylwyr Tir, Athrawon mewn Amaeth- yddiaeth, &c., a rhoddir parotoad ar gyfer Arholiad Cymdeithas Amaethyddiaeth Frenhinol Lloegr. Lletya y myfyrwyr mewn tai yn y dref, a'r merched dan arolygiaeth Miss E. A. CARPENTER, mewn neuadd eang wedi ei darparu ar eu cyfer. Cynhelir Arholiad yn mis MEDI, pryd y cynygir nifer helaeth o Ysgoloriaethau, rhai yn agored, ac eraill yn gyfynedig i Gymru. Am bob maiiylion, ymofyner i T. MORTIMER GREEN, Cofrestrydd.
AROLYFRWYDR.
AROLYFRWYDR. Wele y Senedd newydd bellach wedi ei hethol, a'r glymblaid Doriaidd wedi cael goruchafiaeth na chawsant ei chyffelyb y ganrif hon. Dychwelwyd 3390 Doriaid, yr hyn sydd yn fwy na haner niter y Ty. Felly, y mae ganddynt fwyafrif ar yr holl bleidiau ynghyd, heb eithrio y rhai a gamenwir yn Rhyddfrydwyr Undebol. Mae hyn yn fantais ac yn anfantais i'r Rhydd- frydwyr. Gallant ddadwneyd llawer o waith y Rhyddfrydwyr, fel y mae Mr. Walter Long, aelod o'r Weinyddiaeth yn bygwth. Ond o'r ochr arall mae elfenau malurio mewn mwyafrif mawr fel y gwelwyd gyda'r Whigiaid yn 1832. Cawsant hwy y pryd hynyfwy- afrif o 300, ond ni orphenasant eu tymor. Nid oes llawer o gariad cyd rhwng y ddwy blaid Undebol. Prof- wyd eu bod yn dra eiddigeddus o'u gilydd yn rhaniad y swyddi. Meddwl blaenaf Mr. Chamberlain, pa un bynag a'i gyda'r Rhyddfrydwyr neu y Toriaid, yw bod yn ben, ac ni ryfeddwn weled ystrywiau maleisus Mr. Chamberlain yn dyfod i wrthdarawiad ag ysbryd uchelfalch a chyntefig y Prifweinidog, ac i hyny achosi dymchweliad y Llyw- odraeth. Mae llawer o ddyfaliadau am yr achosion o aflwyddiant y Rhyddfryd- wyr yn yr etholiad. Priodolir ef i'r golled a gafodd y blaid yn ymneill- duad Mr. Gladstone, am yr edmygid ei alluoedd cawraidd a'i gydwybodol- rwydd hyd at haner addoliad, ac at yr hwn yr edrychai y Rhyddfrydwyr bob amser am arweiniad; i'r anfantais oedd gan Arglwydd Rosebery fel aelod o Dy'r Arglwyddi i brofi ei werth fel ei olynydd i'r ymraniad yn mhlith yr aelodau Gwyddelig, yr hyn sydd wedi oeri llawer tuag at eu hachos; i sel angerddol yr Eglwys am fod y Llyw- odraeth ddiweddar yn cyffwrdd a'i gwaddoliadau i'r cam-ddarluniadau a wnaed o Fesur Dewisiad Lleol a gallu arianol cryf y darllawyr yn erbyn y Mesur i sefyllfa isel masnach mewn amrywiol ganghenau pwysig]a'r awydd sydd mewn lliaws am gyfnewidiad i weled a wnaiff masnach wella; i waith y Llywodraeth yn gwthio gormod o fesurau mawr i sylw, yn lie dewis rhyw un prif fesur a wnaí gyffroi y wlad yn gyffredinol drosto i or-hyder a threfn- iadau diffygiol yn y cynrychiolaethau. Mae yn ddiameu fod rhai o'r pethau hyn ac eraill yn dylanwadu yn mhob etholaeth, er nad yr oil o honynt. Mae yn eithaf sicr fod diffyg trefniadau lleol y blaid yn gyfrifol am ran helaeth o'r anffawd, a'i dyledswydd yw cywiro y gwaith hwn heb oedi, trwy sefydlu cymdeithasau byw yn mhob tref a phentref, y rhai fydd a'u llygaid ar yr holl etholwyr ac a ymegniant i oleuo lleoedd tywyllion trwy egwyddorion Rhyddfrydiaeth, pa rai sydd wedi dyr- chafu y deyrnas hon mor uchel mewn rhyddid, ffyniant, a dedwyddwch cym- deithasol.
YR EISTEDDFOD GEiiEDLAETHOL.
YR EISTEDDFOD GEiiEDLAETHOL. Agorwyd yr Eisteddfod yn Llanelli, dydd Mawrth diweddaf mewn QLilad a gynwysai 10,000 0 bersonau. Bernir fod 12,000 wedi myned i mewn yn ystod y dydd. Y llywydd oedd Syr Arthur Stepney. Gwobrwywyd am yr unawd baritone. Goreu, allan o 76 o ymgeiswyr, Mr. Ifor Foster, Peny- graig, Cwm Rhondda. String Quartette. Goreu, parti II. C. Mellon, Pontypridd. Unawd Soprano. Goreu, Miss Edwards, Caerdydd, a Miss Evans, Pontypool, yn gydradd. Ar destyn y Goron, "loan y Disgybl anwvl." Goreu, Llew Llwyfo. Ail Gystadlouaeth Gorawl. Goreu, Cor Llanfairmuallt.
DYDD MEROHER.
DYDD MEROHER. Prif Gystadleuaeth Gorawl; gwobr200p.; Corau Rhymni a Merthyr yn gyfartal.
BWRDD YSGOL TALYLLYN.
BWRDD YSGOL TALYLLYN. Corris, Gor. 23ain. Presenol,—Mr. Roberts, cadeirydd; Mr. W. R. Williams, is-gadeirydd; Mri. Rhys Owen a D. Ifor Jones, clerc. Dar- llenwyd reports ysgolion dydd a nos Aber- llefeni a Tynyberth, a chafwyd fod y pedair wedi pasio yn y radd flaenaf, ac wedi cael y swm uwchaf oil 0 grant. Gosodir y ddwy ysgol yn awr ar dir na bydd eisiau cynal ar- holiad arnynt y flwyddyn nesaf. Pasiwyd penderfyniad yn llongyfarch yr ysgolfeistri a'r staff yn y ddwy ysgol ar eu lhvyddiant. Oedwyd penodi athrawes gynorthwyol i ysgol Corris hyd y cyfarfod nesaf. Yn ol arch yr inspector, trefnwyd i osod ffenestr newydd yn class-room. ysgol Corris.