Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

18 erthygl ar y dudalen hon

Y GYNHADLEDD WESLEYAIDD.

TRO I'R AIPHT.

ABERYSTWYTH.

MACHYNLLETH.

ABERMAW.

PENNAL.

DOLGELLAU.

CARNO.

J\bnl1Jgiab !l Wtazg.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

J\bnl1Jgiab !l Wtazg. -:0:- Y LLENOR.—Hughes a'i Fab, Gwrecsam. WALES.-—Hughes a'i Fab, Gwrecsam. CYMRU.—Caernarfon, Swyddfa'r Genedl. CYMRU Y PLANT.-Hughes a'i Fab. Mae y pedwar cyhoeddiad uchod yn cael eu dwyn allan dan olygiaeth y Meirionwr hynaws a diflin Mr O. M. Edwards, M.A., Rhydychain. Mae y rhifynau am y mis hwn yn ddyddorol iawn o ran eu cynwys, ac y mae eu diwyg, ynghyda'r darluniau geir ynddynt, yn bobpeth y gellid eu dymuno. Mewn ysgrif feistrolgar ar it Gaethwasiaeth," yn y Lienor, danghosir geudeb athroniaeth Aristotle ar y pwnc, sef fod fod rhai dynion wedi eu geni i lywodraethu, ac eraill i ufuddhau," a bod y ddynoliacth yn manteisio ar y gyd-berthynas hon rhwng meistr a chaethwas. Yn yr ail ganrif ar bymtheg, dechreuodd Hobbes dirio o dan sylfaeni caeth- wasiaeth, drwy ddysgu "fod rhyddid a chyd- raddoldeb yn enedigaeth-fraint pob bod dynol.'V A dilynir cwymp graddol yr ormes hon ar hyd yr oesoedd. I'r meddwl ymchwilgar, mae .yr erthygl ar Bywyd y Ser yn amheuthyn/ac anogem ein cyfeillion ieuainc yn arbenig i droi eu sylw i'r cyfeiriad hwn. Ac onid yw ein cymoedd yn fanteisiol i hyn, fel y gwelsom yn "Adgofion" dyddorol yr hen Fugail o'r Cwm Ad I yn y Nid llai dyddorol Pregethwyr y Diwygiad" a'u darluniau, ynghyda "Thomas Cromwell." Yn JFales ceir ysgrif ar Beryglon y Bachgeii Diog," yn yr hon y ceir ymdriniaeth ar y dull y cyfrenir addysg yn ein hysgolion elfenol, ac y pwyir dysg i ledben" pob plentyn yn ddi- wahaniaeth. Y mae i'r gyfundraeth, hefyd, ei pheryglon, a da genym weled fod y rhai sydd wedi bod wrth y llyw yn Swyddfa Addysg yn ystod y tair blynedd diweddaf, yn ymdeimlo a'r peryglon hyn, ac yn ceisio eu hosgoi. Y mae y Codes diweddaf yn dystion o hyn. Ystori bruddglwyfus yw y traddodiad am "Feddy Llcidr." Ar ddameg, treithir yn fyw iawn sefyllfa merthyron cwmni rheilffordd y L. & N. W. R. Yn y rhifyn hwn o'r Cymru, y ddwy ysgrif sydd yn ddyddorol iawn i breswyhvyr y cyrau hyn o Fcirion a Maldwyn, ydynt eiddo yr 11 ybarch Thomas Hughes, Machynlleth (gynt\ ar "Hen Bregethwyr Sir Drefaldwyn, a'r eiddo y Parch. R. Owen, M.A., Penal, ar Dafydd Richards," y Forge Hen gymeriad- au adwaenid ac a cdmygid yn gytfredinol. -1 y Yr ydym wedi ysgrifenu y nodiadau uchod er mwyn ceisio codi awydd yn ein pobl ieuainc i fecldu, darllen, a mwynhau y llyfrau gwerthfawr hyn. Mae Cymru y Pia 11 t yn llawn o addysgiadau difyrus, clylai fod yn hoif g'an blant ac eraill o'i ddarllenwyr. SYLLWR.

GWYL YN GLANSEVERN.

-:0:-

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

Advertising

AROLYFRWYDR.

YR EISTEDDFOD GEiiEDLAETHOL.

DYDD MEROHER.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.