Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ANWIREDDAU TORIAID.

ADDYSG GANOLRADDOL . MALDWYN.

PROFF. RHYS AR FYFYRWYR CYMREIG.

DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MACHYNLLETH. CYMANFA DDIRWESTOL MALDWYN.—Bwr- iedir cynal y Gymanfa eleni yn y dref hon, Mercher a lau olaf yn Medi. Er's mis bellach, cynhelir cyfarfod dirwestol bob nos Sabbath yn un o'r capelau, ar ol yr odfaon fel rhagbarotoad iddi. Ceir cynulliadau da, a chyfarfodydd llewyrchus. Nos Sabbath, Gorphenaf 28, cafwyd anerchiadau gan Mr. Owen, Bethel, Mon, Mr. W. Davies, Maglona Terrace, a'r Parch. Josiah Jones. Nos Sabbath, Awst 4, bu cyfarfod yn yr awyr agored 0 flaen y Twr, y siaradwyr oeddynt, y Parch. Hugh Roberts, Rhydymain, a Mr. George, Criccieth, brawd Mr. Lloyd George, A.S. Arweinydd y gwahanol gyfarfodydd ydyw, Mr. D. Edward Davies, Albert House. Yn anerchiad amserol Mr. George, rhoddid pwys neillduol ar fod mwy o waith dirwestol yn cael ei gyflawni drwy ein gwlad. Yr oedd cyfeillion yr achos wedi eu troi o'r senedd dy i wneyd lie i blaid y cwrw, dylasai hyny beri ychwaneg o ddiwydrwydd gan gyfeillion sobrwydd a rhinwedd ymhob man. YR YSGOL GANOLRADDOL.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r llywodraethwyr Ileol dydd Mercher. Y Parch Josiah Jones yn y gadair. Yr oedd yn bresenol Dr. A. 0. Davies, Mri. Richard Rees, C.C., H. L. Smith, C.C., Edw. Rees, U.H., John Thomas, Edward Hughes, a W. M. Jones, gyda Mr. John Rowlands, clerc. Hysbyswyd fod y swm 0 75p. 13s. yn ddyledus i'r trysorydd am y flwyddyn 1893-4 0'1 ochr arall, yr oedd Hog yr ariandy ar 76op. (Cronfa Adeiladu) i'w defnyddio at gostau yr adeilad presenol. Dywedodd Mr. Edward Rees fod un o'r Dirprwywyr wedi ym- weled a'r dref, a chanmolai safle yr ysgol newydd yn fawr, a bod y llanerch chwareu yn bur fanteisiol. Yr unig ddiffyg yn ei farn ef oedd prinder dwfr. Darllenodd Mr. Meyler yr ysgolfeistr, ei adroddiad am y tymor yn diweddu Awst 1 leg. Nifer yr ysgolheigion yn Mai oedd 20, y maent yn awr yn 43. Gorphenaf iofed, archwiliwyd yr ysgol gan Mr. Lefroy, un o'r Dirprwywyr Elusenol, a chredent ei fod wedl ei foddloni yn ansawdd a threfniadau yr ysgol. Arholwyd yr ysgol gan y Prifathraw Roberts, U.C.W., Aberystwyth, o'r 21ain i'r 24aino Orphenaf, ac yn ddilynol gan Proff. Anwyl. Ymddengys yr adroddiad eto. Dy- z:,Y wedodd Mr. Meyler fod angen mawr am ddarn o dir i'r plant chwareu ynddo, ac hefyd, anogai ar i'r Llywodraethwyr wneyd rhyw ddar- pariaeth at hyn erbyn y tymor nesaf, yr hwn agorir Medi 22ain. Penderfynwyd cynyg naw ysgoloriaeth o 5p. yr un, a bod burseries i'w rhoddi i ysgolheigion i dalu costau trafaelio a lletya. BWRDD GWARCHEIDWAID.— Cynhaliwyd cyfarfod o'r Bwrdd dydd Mercher, Mr. John Rees yn y gadair. Adroddiad Meistr y Tlotty a ddywedai fod Mr. Bircham, yr arolygydd, wedi ymweled ar ty, Gorphenaf 24ain, a dy- munai ar i'r plant gael jam yn lie ymenyn. Hy sbysodd y Meistr fod cryn gynydd yn nifer tramps yn ystod y pythefnos diweddaf. Go- hiriwyd ystyriaeth o'r mater hyd y cyfarfod nesaf. Mr. Bircham yn ei adroddiad a awgrym- ai fod rhestr o fwydydd y Ty i gael eu hargraffu a'u gosod i fyny ar y mur. Yr oedd yr ad- gyweiriadau yn ystafelloedd y cleifion yn welliant mawr, a dymunol oedd gwneyd ychwaneg o'r fath. Archwiliwyd biliau am 42op. 9s. 6c. gan y Pwyllgor Arianol, a chy- meradwywyd eu talu. Cyflvvynwyd i sylw benderfyniad a basiwyd gan FwrddGwarcheid- waid Caersws, yr hwn a gynwysai ddatganiad fod pedwar tlotty yn y sir yn afrad ac afraid, ac yn anog y Byrddau i ddeisebu Bwrdd Llywodr- aethiad Lleol am iddynt wneyd ymchwiliad i'r mater Gohirwyd ystyriaeth o'r cais hyd gyfarfod dilynol. CYNGOR DOSRARTH GWLEDIG.—Cadeirydd, Mr. Edward Hughes, U.H. Daeth cwestiwn y Bont dros y Ddyfi ger Llanwrin, i sylw, a phenderfynwyd anfon at y Cyngor Sirol i ymofyn am led y ifordd, &c. Darllenwyd a chymeradwywyd adroddiad yr arolygwr. Am- cangyfrif costau y ffyrdd plwyfol am y mis yn diweddu Awst 24am, oedd 46p. 2s. 6c.,—i'w rhanu fel y canlyn, Penegoes, 5p. 5s.; Llan- wrin, 4p. 14s Cemmes, 6p. 10s. 6c; Llan- brynmair, il;p. gs.; Darowen, 6p. 12s; Pennal, 2p. 5s.; a Sgubor-y-coed, 2p. 2s.

LLANBRYNMAIR.

GLASBWLL.

ABERYSTWYTH.

CORRIS.

NODION GWEITHFAOL.

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

BERRIEW.