Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ANWIREDDAU TORIAID.

Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu

ANWIREDDAU TORIAID. Ami iawn y clywid ymgeiswyr Tor- iaidd yn yr etholiad diweddaf yn cyhoeddi oddiar lwyfanau mai y Wein- yddiaeth o'r blaen oedd yn gyfrifol am iselder masnach, ac os am adfywiad masnachol y dylid pleidleisio i'r Tori- aid. Yn mysg eraill cyhoeddodd Chamberlain hyn fwy nag unwaith. 'Does neb a wyr yn well nag ef nad oedd rhith o wirionedd yn y peth. Ond a chymeryd y Toriaid ar eu tir eu hunain, dengys y daflen ganlynol am haner can' mlynedd, mai pan fyddai y Rhyddfrydwyr mewn swydd yr oedd masnach yn fwyaf blodeuog Poblogaeth Y Blaid Bl. Milliynau. A^leidyddol. 1854 27'7 9 14 ° Rhyddfrydol 5 27-8 9 7 0 R 6 28-0 11 2 7 R 7 28-2 11 17 0 R 8 28-4 10 14 5 Toriaidd 9 28-6 11 14 2 R 1860 28-8 13 o 7 R 1 29*0 13 o 5 R 2 29-2 13 8 5 R 3 29-5 15 3 5 R 4 297 16 9 10 R 5 29'9 16 9 2 R 6 30*1 17 16 10 T 7 30-4 16 12 3 T 8 30-7 17 4 4 T 9 31*0 17 4 6 R 1870 3i'3 17 10 10 R 1 31*6 19 10 i. R 2 31*9 21 o 6 R 3 32'2 21 4 9 R 4 32*5 20 11 10 T 5 32-8 20 o 4 T 6 33*2 19 1 11 T 7 33 6 19 6 9 T 8 33-9 18 3 ? 9 34'3 l7 10 8 I 1880 346 20 3 o R 1 35'0 19 l7 5 R 2 35'3 20 18 10 R 3 35'6 20 13 2 R 4 36*0 19 4 6 R 5 36-3 17 16 9 R 6 36-3 17 0 10 R & T 7 36-5 178 T 8 36-8 18 12 2 T 9 37'2 19 19 10 T 1890 37'4 19 19 7 T 1 37'7 19 14 o T 2 38-1 18 15 6 T Ond sylwi yn fanwl, a chydmaru blyn- yddau y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr, fe welir fod adeg gweinyddiad Gladstone, '69-'73, yn werth 2p. 8s. ioc. ypenyn fwy na gweinyddiaeth y Toriaid yn '67—'68. Gwelir hefyd ei fod yn fwy na'r weinyddiaeth '74—'80 o 2s. 4tc" ac yn fwy o 4s. y pen na g'weinydd- iaeth Doriaidd '87—'92. Ein dadl ni yw nas gall yr un Wein- yddiaeth reoli masnach ddim mwy na rheoli llanw y nior, er fod egwyddor- ion Rhyddfrydig yn tueddu i hyny, ac y mae yn bryd i'r wlad gael gwybod mai ar honiadau anwireddus o'r fath uchod y marchogodd y Toriaid i awdurdod. Os yw y Rhyddfrydwyr yn bwriadu enill rywbryd eto, goreu po gyntaf i osod yr uchod a'i gyffelyb gerbron yr etholwyr. Dychwelwn at hyny ryw dro eto. GWLEIDYDDWR.

ADDYSG GANOLRADDOL . MALDWYN.

PROFF. RHYS AR FYFYRWYR CYMREIG.

DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

LLANBRYNMAIR.

GLASBWLL.

ABERYSTWYTH.

CORRIS.

NODION GWEITHFAOL.

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

BERRIEW.