Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ANWIREDDAU TORIAID.

ADDYSG GANOLRADDOL . MALDWYN.

PROFF. RHYS AR FYFYRWYR CYMREIG.

DINAS MAWDDWY.

MACHYNLLETH.

LLANBRYNMAIR.

GLASBWLL.

ABERYSTWYTH.

CORRIS.

NODION GWEITHFAOL.

Family Notices

LLYFRAU am Bris Gostyngol.…

BWRDD PYSGOTA MEIRION.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BWRDD PYSGOTA MEIRION. Cynhaliwyd cyfarfod gohiriedig o'r Bwrdd hwn Corphenaf 31. Cynygiwyd yn gadeirydd am y flwyddyn Mr. Osmond Williams, ond gwrthododd gymeryd ei ethol. Cynygiwyd a chefnogwyd Mr. W R. M. Wynne yn gadeir- ydd, a Dr. Robert Roberts yn is-gadeirydd, y rhai gawsant eu hethol.—Ystyriwyd adroddiad y prif geidwad. Gyda golwg ar wneyd lie dan bont Llanelltyd i'r pysgod esgyn, barnwyd na byddai hyny o nemawr fudd oherwydd yr ysbwriel a gludir ar hyd yr afon o'r gwaith aur. Bu gwneuthur gwelliant cyffelyb ar yr afon ger pont Abergwidol dan sylw droion o'r blaen, a chrybwyllwyd ef eto; ond yn ngwyneb sefyllfa arianol isel y Bwrdd, pasiwyd i'r mater gael ei roddi heibio. Yn ol yr amcangyfrif yr oedd y cyllid yn dangos diffyg o 34p. 7s. i ic. Am yr un rheswm pasiwyd i roddi rhybudd i derfynu gwasanaeth y ceidwad L. Thomas. Pasiwyd i'r prif geidwad fesur eilwaith y rhwydi yn y Ddyfi gafwyd yn afreolaidd. Daeth pysgota brithylliaid heb drwydded dan sylw fel parhad o'r cyfarfod diweddaf. PIeidiai Mr. Wynne, Mr. Bonsall, a'r ceidwad o blaid rhwystro pysgota brithylliaid ar ol y iaf o Mehefin heb drwydded gleisiaid. Ond o'r ochr arallgwrth- dystiai Mr. Osmond Williams yn erbyn y fath gynygiad fel un 0 nodwedd gaethiwus, ac na weithiai yn ymarferol. Gofynai pa beth a wnai y dosbarth gweithiol druain pe pasia y Bwrdd y fath gynygiad gwrthweithiol ? Ar hyn gadawyd y mater yn Honydd, ac yn fuan ter- fynwyd y cyfarfod.

BERRIEW.