Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

15 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Y SENEDD NEWYDD.

.TRO I'R AIPHT.

PIGION.

ABERYSTWYTH.

DINAS MAWDDWY.

ABERANGELL.

I MACHYNLLETH.

BWRDD YSGOL TALYLLYN.

CORRIS.

ATMLNGMTI 14 Wtazg. -:0:---

BWRDD YSGOL TALYLLYN.

Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y DIWEDDAR H. LL. JONES, CORRIS. Syr,—Credaf na byddai yn ormod gan y Negesydd gario cenadwri fechan o berthynas i'r cyfaill anwyl uchod at drigolion Corris a'r amgylchoedd, ac yn enwedig at y lliaws mawr a fu 0 dan ei addysg yn ystod y 33 mlynedd y bu yn gwasanaethu yr ardal fel eu hysgolfeistr. A dyna y genadwri. Y mae y parch mawr a deimlir i goffadwriaeth y brawd hwn, ynghyda'r chwithdod o'i golli mor sydyn, wedi enyn awydd, mewn lliaws o'i hen ysgolheigion, i wneuthur rhvwbeth er cadw yn fyw ei goffad- wriaeth, a hyny yn y fath fodd, ac a fyddo ar yr un pryd yn fantais i'r ardal yn gyffredinol. A dyma yn fyr yr hyn a fwriedir ymgais ato, gan y rhai sydd wrth wraidd y symudiad, sef casglu swm o arian gyda'r amcan o sefydlu ysgoloriaeth yn un o'r ysgolion canolraddol (cyfleus) ar gyfer plant perthynol i'r ardaloedd hyn, a'i galw yn ysgoloriaeth Jones. Y mae amryw o'i hen ddisgyblion wedi datgan eisoes eu bod yn barod i danysgrifio 5p. a 2p. at yr amcan hwn ac yn dymuno gwneyd apel at hen ddisgyblion a chyfeillion y diweddar Mr. Jones i gynorthwyo yn hyn o beth. Credaf nad all yr amcan mewn golwg lai na derbyn cymer- adwyaeth gyffredinol yn yr ardaloedd hyn, am y byddis wrth dalu parch i ddyn ag oedd yn anwyl iawn yn ngolwg yr ardal ar gyfrif ei gymeriad a'i wasanaeth, ar yr un pryd yn sefydlu moddion nas gall lai na bod yn galon- did ac yn symbyliad i ddadblygu talentau ieuenctyd yn yr oesoedd sydd i dd'od. Gan fod y Negesydd mor gyfleus, ac yn arfer galw yn wythnosol yn ein tai, oni fyddai yn fuddiol i liaws roddi eu syniadau ynddo yr wythnosau nesaf. Y mae yn debygol y bydd un sydd yn selog iawn o blaid yr amcan, yn yr ardal, o hyn i ben mis, ac y mae wedi amlygu dymuniad i alw cyfarfod cyhoeddus mewn trefn i ystyried pa beth a ellir ei wnèyd, ac ar gais y cyfaill hwnw yn benaf, yr wyf yn rhoddi y peth i sylw, yn y ffordd yma i gychwyn, gan gredu ar yr un pryd y bydd llawer yn gafael yn y symudiad mewn ymddiddanion personol a chymdeithasol, yn ogystal a thrwy y Negesyild fel yr awgrymwyd o'r blaen. CYFAILL.

YR AMAETHWYR A'R GWEITHWYR.

PRIODAS EURAIDD NHAD A MAM.